Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Attendance Notice. Bydd Mr. Ranleigh Jones, L.D.S., R.C.S. (Edi.), SURGEON DENTIST, yn ymweled a Pwllheli bob DYDD MERCHER, yn aros gyda Mr. BOWEN, Grocer, High Street, oily boreu dan 4 y prydnawn.
PWLLHELI.| i
PWLLHELI. OJ' OYHOEDDIADAU SABBOTHOL.—Ion. 25. 1-Venlan (A.), am 10 a 6, Parch. J. Rhydderch, .veinidog XV Capel Seisnig (A.), Cardiff Road, am 11 a 6-30 arch. D. W. Roberts, Oweinidog. Penmount (M.C.), am 10 a ti. Parch. Griffith Hughes, B.A., Blaenau Ffet-Uniog. Salem (M.C.), am 10 a 6, Parch. D. O'Brien Owen, Caernarfon. Capel Seisnig (M.C.) Ala ?>• -ad, am 10 a 6, Parch. G. H Evans, B.A., Nie, iLi Bridge Tabernael (B.), am 10 a 0, Parch. K. Parri Roberta, Fforddlas. Seion (W.), am 10, Mr. John Williams, Rhiw am 6, Cyfarfod Gweddi. Hen Gapel y Bedyddwyr North Street,am 2, Y sgol. Yagot Genhadol (M.C.), Sand Street, am 10 a 6, Cyfartod Gweddi. Y&gol Genhadol North Street (A.), am 10 a 6, Cyfarfod Gweddi am 2. Ysgol. South Beach (M.C.), am 2, Parch. John Hughes, B A., B D., Tarsia (M.C.), am 10, Parch. John Hughes, R. A., B D., Salem am 6, Parch. J. G. Jones, Tydweiliog. St. Pedr. 9-30 a 6 (Cymraeg), II a 6 (Seisnig) Parch J. Edwards, B.A., Ficer, a'r Parch T. Woodings, B.A., Curad. Cenhadaeth Lydewig North Street, R. G., am 10-30, Offeren Sanctaidd, am 2, Ysgol am 6 30 Pregeth Gymraeg gan y Parch P. LNicro-ur benedicsiwn. LLAWER 0 BENWAIG.—Yn ystod yr wythnos hon a'r wythnos ddiweddaf! daliwyd miloedd lawer o benwaig yn y bau. Y COR MEIBION.-Deallwn fod y côr meibion yn ail ymaflyd ynddi o ddifrif, ac y byddant yn cyfarfod ynghyd yn ysgoldy North Street brydnawn Sul nesaf, am haner awr wedi pedwar YR YSGOL Nos,-Hyderir y bydd ieuenctyd y dret yn manteisio ar yr uchod. Bydd dosbarth y pwyntel-ddar- lunio, paentio, cerfio, &c., yn cychwyn nos Iau nesat, dan athraw profiadol. DAWNS.—Neithiwr (nos Lun), yn y Neuadd Drefol, cynhaliodd Mr. Fred E. Young ei ddawns flynyddol gyntaf. Am 6 o'r gloch cynhaliwyd ug i'r plant, ac am 9 i'r rhai mewn oed. Daeth cynulliad lluosog ynghyd, a throdd y cyfan allan yn llwyddiant yn mhob ystyr. PRISWYR Y FARCHNAD.—Y mae y gwerthwyr a phrynwyr yn y farchnad wedi penodi y rhai a ganlyn i brisio ymenyn ac wyau yn y farchnad. Wy- au Miss Taylor, Mrs Edwards, Mr Robt. Griffith a Mr Hugh Roberts Ymenyn Mri J. Jones, Daniel Evans, John Williams, a Griffith Griffiths. CYMDEITHAS LENYDDOL SEION (W). —Cynhaliwyd yr uchod nos Lun, o dan lywyddiaeth Mr David Griffith, Hir- waen House, yn absenoldeb y Parch. E. Mostyn Jones, pryd y cafwyd papur ar Gristionogaeth a Phaganiaeth," gan y Parch D. W. Roberts, Cardiff Road. Cafwyd gair ar y diwedd gan Mr Richard Roberts, New Row, a Mrs J E. Mostyn Jones, Llys Myfyr,-Ysg. CYNGHORWR SIR ARALL,- Y mae Bwrdd y Llywodrneth Leol wedi rhoi caniatad i'r dref i gaei aelod ychwan- egol ar y Cyngor Sir, ac i ranu'r dref yn ddwy ward i'r amcan hwnw. Bydd i'r Ward Ogleddol gael ei chynrychioli gan Dr. O. Wynne Griffith, yr aelod presenol, ac y mae'r pleidiau politicaidd yn tretnu i dd'od ag ymgeiswyr allan i setyll am y ward arall. Y. M.A.-Neithiwr, nos Lun, dan lywyddiaeth Mr J. O. Jones (Arifog), caed dadl ar gwestiwn Ymreolaeth i'r Iwerddon. Agorwyd o blaid Ymreol- aeth gan Mr T. J. Houghton Davies, yn cael ei eilio gan Mr John Rowlands, Maes Apiaries ac yn erbyn gan Mr 0. H. Roberts, Shop yr Eifl, yn cael ei eilio gan Mr D. John Jones, 74, Heol Fawr. Cymerwyd rhan ymhellach yn y drafodaeth gan amryw o'r aelodau Pan roed y cwestiwn i bleidlais caed mwyafrif o blaid Ymreolaeth. 1 ARWERTHIANT.-Ddydd Mercher di- weddaf, yn y Crown Hotel, bu y I ri. W. Dew a'i Fab yn cynyg ar werth ddau eiddo rhydd-ddaliadol yn y dret, sef 22 a 24, Penlan Street, y rhai ddelid gan Mr. John Williams, Groser, a Mr. W. Pickering Hughes. Gwerthwyd y ddau am i,6oop. i Mr. John Williams (tenant) a Mr. Owen Williams, Saddler. Yr oedd fferm fechan rydd-ddaliadol- Glanyraton, Tydweiliog,-hefyd yn cael ei chynyg ar werth, ond 140P. oedd y cynyg uchaf gafwyd, a thynwyd hi'n ol. CENHADAETH DDIRVVESTOL Nos- weithiau Llun, Mawrth, Mercher, a Iau diweddaf, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd dirwestol yn Ysgoldy Penlan Nos Fawrth llywyddid gan Dr. R. Jones Evans, y Maer, a chaed anerchiad gan Plenydd, ac adroddiad gan Mr. John Robinson, South Beach. Nos Fercher Ilywyddid gan Mrs. R. O. Jones, ac anerchwyd gan Ceridwen Peris a Phlenydd. Datganwyd hefyd yn ystod y cyfarfod gan Mri. W. J. Hughes a John Hughes, Efailnewydd. Nos Iau llywyddid gan y Parch. J. Rhydderch, a chaed anerchiad gan y Parch. J. Glyn Davies, Rhyl, a dat- ganwyd hefyd gan y Mri. W. J. a J. Hughes, Efailnewydd. BILLIARDS.—Yn Nghlwb Rhyddfrydol Caernarfon, ddydd Iau diweddaf, bu ymrysonfa rinvng nifer o'r clwb uchod a rhai o Glwb Rhyddfrydol y dret hon. Caernar fon a orlu. Wele y pwyntiau Pwllheli. Caernarfon, i Alf. Lewis 150 G. D. Roberts 87 H. Williams 122 John Roberts 150 T. Roberts 119 W. D. Williams 150 R. Lloyd Ellis 113 C. Jones j 5° W. Jones 94 J. Brymer 150 Tom Owen 77 H. R. Phillips 150 I T. J. Williall's 77 O.Thomas. 150 [T.Meredith. 58 D. O. Edwards 150 —Wythnos i'r lau nesaf daw chwareu- wyr Caernarfon i'r Pwll i chwareu yr ail ymrysonta. Y CLWB RHYDDFRYDOL.—Nos Lun cynhaliwyd C) farfod blynyddol y Clwb uchod, o clan lywyddiaeth Mr. D. Caradog Evans, yr is-lywydd am y flwyddyn flaenorol. Cafwyd adroddiad y trysorydd, Mr. G. Cornelius Roberts, yr hwn ddangosai fod y sefyllfa arianol mewn ystad hynod foddhaol, gan fod can' punt y. y Ariandy ar derfyn y flwyddyn. Dewiswyd y Gwir Anrhyd- eddus D. Lloyd George, A. S, yn Llywydd Anrhydeddus am y flwyddyn, a phenodwyd y brodyr fu yn gyfrifol dros y Clwb yn yr Ariandy yn y blyn- yddoedd a fu yn Is-lywyddion Anrhyd- eddus. Penodwyd y rhai canlynol yn swyddogion am y flwyddyn,-Cadeir- ydd, D. Caradog Evans Is-gadeirwyr, Mri. David Jones a John Kenny Trysorydd, Mr. G. Cornelius Roberts Ysgrifenydd, Mr. W. Jones. MAKW A CHLADDU.—Gyda gofid y cofnodwn hanes marw a chladdu y ferch ifangc rinweddol Miss Laura Evans (merch ieuengaf y ddiweddar Mrs Ellin Evans), i, Penmount Square, yr hyn a gymerodd le foreu Iau diweddat ar 01 cystudd maith a blin Yr oedd yn meddu ar gymeriad llednais a thawel, a'i hymarweddiad bob amser yn wedd- aidd. Bu'n aelod ffyddlon am 21 mlyn- edd o Gymdeithas Gyteillgar y Merch- ed, ac am 23 mlynedd yn uasanaeth- yddes dda i Mrs Jones, Lleyn Street (yr hon a fu'n garedig wrthi hyd y diwedd) Dydd Sadwrn diweddaf oladd- wyd yr hyn oedd farwol o honi yn mynwent Abererch (angladd anghy- hoedd). Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A., Pen- mount, ac yn yr Eglwys a'r fynwent gan y Parch. D. Jones (Efrog), y Ficer. Rhoes Mrs Nun Davies, Lampeter, flodeu-glwm hardd. Y r undertaker yd- oedd Mr Morris Williams, Emporium. Cydymdeimlwn a'r teulu a'r perthynas- iu yn nghanol eu poen a'u tristwch. BYDDIN Y BLODYN EIRA A CHYM- DEITHAS Y MERCHED IEUAINC. — Nos Fercher, yn Festri Capel Ala Road, bu aelcdau yr uchod yn mwynhau gwledd ardderchog, wedi ei pharotoi gan y swyddogion, yn cael eu cynorthwyo gan Mrs. Roberts, New Street, a Miss Dilys Davies, Glyn. Yr oedd hefyd yn bresenol Mrs. D. Lloyd Humphreys, Cardiff Road, Mrs. J. G. Jones, Salem Crescent, Mrs. Evans, The Bungalo w, Miss Jones, Miss Hughes, Miss Jones, Moel y Don, a Miss Davies, Glyn. I ddechreu canwyd ton o dan arwein- iad Mrs. H. Pritchard. Yna awd yn mlaen gyda'r wledd, ac yr oedd pawb yn eu hwyliau goreu. Wedi i bawb gael eu digoni treuliwyd rhyw dri chwarter awr mewn ffordd amryw- iaethol. Cafwyd anerchiadau gan y Llywyddesau, Mrs. W. Thomas a Mrs. O. Williams, ac hefyd Mrs. Roberts a Mrs. Morgan Evans. Yn y gystadleu- aeth ar dyfu Blodyn Eira yr oreu oedd Miss M. G. Jones, Attro. Rhoddwyd y wobr, sef Brooch Arian, gan Miss Jones, Moe! y Don. Cafwyd adrodd- iad gan Miss A. W. Jones, a chan gan Miss J. Robeits. Cyfeiliwyd gan Miss Dilys Davies. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r rhai fu yn cynorthwyo ac i bawb am eu rhoddion gan Mrs. W. Jones, Claremont, ac eiliad Miss Evans, West End. GWLEDD A DAWNs.- Treuliwyd noson lawen gan yr Undebwyr yn neuadd y dref nos Iau diweddaf. Llywyddid y gwekhrediadau gan Mrs R. M. Greaves, a Mr G. E. C. Clayton oedd y cadeirydd. Miss Evans, Bryn berllan, oedd yr ysgrifenyddes anrhrdeddus. Y r oedd cynulliad lluosog yn bresenol. Ar ol gwledd caed cyngerdd, ac aed drwy y rhaglen a ganlyn :-Detholiad gan y gerddorfa can, Land of Hope and Glory," gan Miss Violet Arnold can, The Warrior's Return," gan Mr. H. P. Williams unaUd ar y grythen, Hungarian Dance," gan Miss Agnes Jones can, "Deep in my Heart" a Flaurette," gan Miss Robinson can, My little house in the West," gan Miss Violet Arnold unawd ar y gryth- en, Mazurka," gan Miss Agnes Jones. Wedi hyny caed chwareuad fechan, Cousins Once Removed," a chymerid rhan ynddo gan Mr. Freeman, Mrs. Clayton, a Miss Evans. Wedi hyny drachefn caed areithiau gan Mrs. Pier- son, Llundain, a Mr. Purnell, Porth- madog. Yna cafwyd "National Tab- leaux," a chynrychiolid y gwahanol, gymeriadau gan y rhai a ganlyn :— Mrs. Lloyd Evans, Mrs. J. G. Jones, Miss Pryce Picton, Miss Perkins, Miss Lloyd Evans, Mrs. Yale, Miss M. Mather, Master A. Freeman, Master V. Ellis, Master H. Freeman, Master R. Freeman, Master W. Evans, Mr. N. Ellis, Mr. Yale, Mr. R. Lloyd Evans, a Master S. L. Jones, adatgan- wyd "One Flag, One Crown" gan Mr. H. P. Williams. Wedi hyny bu- wyd yn dawnsio hyd oriau mdn y boreu.
I-. ABERDARON.
I ABERDARON. MARWOLAETH.— Ddydd Mercher di- weddaf, ar ol cystudd byr ond blin, bu farw Miss Margaret Thomas, Bunga- low, Uwchymynydd, yn 61 mlwydd oed. Tarawyd hi yn wael y Sul blaen- orol ar ei ffordd i'r capel, ond yr oedd yn ei chynefin icchyd pan yn cychwyn. Claddwyd ei gweddillion yn hen fyn- went Abcrdaron ddydd Sadwrn. --0-
I FOURCKOSSES.
I FOURCKOSSES. LLLNYDDOL.- -Nos Fawrth, Ionawr I3eg, dan lywyddiaeth Mr David Jones, bu cyfarfod y Gymdeithas Lenyddol. Cafwyd darllen y cynyrchion ar ol y cyfartod cystadleuol. Tystiolaeth pawb oedd fod saton a gwaith y cyfeillion ieuainc yn uwch nag y buont eto. Hefyd datganwyd deuawd gan L. May Roberts ac A. Olwen Owen, ac unawd- au gan Miss Kate Davies, Mr Hywel Williams, a Mr W. H. Williams. DIRWEST.-Nos Wener cynhaliodd Cymdeithas Ddirwestol y Merched eu cjtarfod dan lywyddiaeth Ceridwen Peris. Dechreuwyd gan Miss Griffith, Gwar-y-Rhos. Catwyd dadl gan L. M. Roberts, a Rachel Owen; can gan L. M. Roberts, a gair gan amryw.
LLA.N A ELH AIAHN,
LLA.N A ELH AIAHN, CYFARFOD POBLOGAIDD.- Yo ddiwedd- ar cynhaliwyd cyfarfod dirwestol cy- hoeddus yn Festri eang y Babell, o dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd. Llywydd y cyfarfod oedd y Parch. J. Phillips (B J, Saron, gan yr hwn y cafwyd anerchiad Aed trwy y rhaglen ganlynol Ton gynulleidfaol can gan Mr G. Meirion Roberts ad- roddiad gan Miss Mary Phillips deu- awd gan Mr G. M. Roberts a Miss E. Hughes, Caeglas anerchiad gin Mr VVilliam liu,Iies. Ux-.clilaw'rffviion adroddiad gan Miss Jane Jones Ped- warawd gan barti o'r Babell perfform- iad o ddrama gan amryw o bobl ifanc yn rhagorol anerchiad gan Mr Robert Davies, Elernion adroddiad gan Miss Laura Jones, Pentre bach can gan Miss Jane Jones. Cymerwyd rhan yn y diolchiadau gan y Parch. W. L. Jones, bugail y praidd Methodistaidd, a Mr. Richard Owen, Rhydyberw. Cafwyd cyfarfod neillduol o boblogaidd a da. CYRDDAU GWEODl. -Cynhal cyrddau gweddi tu y ddwy eglwys Ymneillduol y lie yn ei wneud yr wythnos ddiwedd- af, a dvwedir tod y cynulliadau yn lluosog, y canu yn effeithiol, a'rgwedd- iau yn gynes a thaer am lwyddiant y deyrnas nad yw o'r byd hwn. MEWN GWAELFDD-Dr"-g ia"-ti gen- ym am waeledd Mr Wiliiam Owen, Merbwll uchaf, neu fel yr adnabyddir ef gan ba\\ b, William Bryngadfan. Dymunwn iddo adferiiid buan a ilwyr -Liaweii genym ddeall tod Mrs Mar- garet Roberts, Ty'nyffridd, yn gweila yn dda ar ol bod mewn gwendid mawr. Un o ferched Galltraeth, Lleyn, yw Mrs Roberts. CYNGHERDD MAWREDDOG.— Cynhelir cyngherdd mawreddog yn Ysgol y Cyngor, Llanaelhaiarn, nos Wener, Ionawr 23ain. Gwasanaethir gan dal- I entau lleol a Seindort Bres yr Eifl Dy,.Nedir tod prif gantorion ac adïodd-" wyr Llithf;Aen, Liatitelhaiarn, Trefor, a Gyrn Goch, wedi addaw rhoddi eu gwasanaeth yn rhad. Ardderchog yn wir. Mae yr elw yn myned i gynorth- wyo y cyfaill distaw Edward Lloyd, Erw Sant Row, Llanaelhaiarn, yr hwn sydd wedi colli ei olygon bron yn llwyr. Deallwn fod y tocynau yn myn'd tel bara brwd. RHODD SYLWEDDOL.—Mae yr eglwys yn Saron (B.), wedi derby u rhodd sylweddol mewn aur oddiwrth y chuaer haeiionus Mrs Laura Rowlands, Am- erica, ddechreu y flwyddyn hon. Merch ydyw hi i Mr Jacob Williams, yr Ynys, Llanaelhaiarn. Pasiodd yr eglwys bleidlais o ddio!chgarwch cynes iddi am ei rhodd yn nghyd a dymuno pob llwyddiant iddi hi a Mr Rowlands. CYFARFOD GWLEIDYDDOL.—Bu ein Haelod Seneddol yma nos Fawrth diweddaf yn anerch y Gymdeithas Rydd- trydig ac eraill. Cafwyd cyfarfod da. MAB LLANHAIARN. __n
-i LLANGIAN. j
LLANGIAN. j CYNGERDD. Cyiihali wyd cyngerdd llwyddianus yn y Neuadd Eglwysig nos Iau diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. C. H. Lloyd-Edwards, U. H, Nan- horon, ac arweiniad y Parch. Wheldon Griffith. Y berniaid cerddorol ydoedd Mr. W. Pentir Roberts, Llanbedrog, a Mr. W. Williams, Pandy, Mynytho, ar yr adran amrywiaethol. Dechreuwyd trwy ganu yr anthem Genedlaethol. Yna cafwyd can gan Miss Jones, Glas- tryn, Llanbedrog; "Ymgorn tri hen gymeriad," gan y Mri. Charles Roberts. Thomas Roberts, ac Ivor Jones, Myn- ytho can gan Mr. J. A. Roberts, Caernarfon adroddiad gan Miss K. E. Morris, Mynytho. Y goreu am chwibanu ton ydoedd Mr. R. J. Wil- liams, Pandy; can gan Miss Jennie Roberts, Plas, Llangwnadl detholiad gan Gor Meibion Llangian, o dan ar- weiniad Mr. A. Jones; deuawd gan Misses Olwen Williams ae E. Hughes, Mynytho. Enillwyd y wobr am chwareu ar unrhyw offeryn ag eithrio y piano a'r harmonium gan y Parch. J. Wheldon Griffith deuawd gan Miss Mary Jones! a Mr. Arthur Jones; canwyd gan y Parch. J. Wheldon Griffith, y Mri. A. Jones ac Edwin Jones. Her-unawd cydradd oreu. Miss Jones, Wellington, I a-Mr. Humphrey Cater, Llanbedrog.
I ,HHIW.
HHIW. Traddododd Mr. Ellis Davies, A.S anerchiad cynwysfawr i lon'd Ysgol v Cyngor, nos Lun. Yr oedd y gynull- eidfa yn frwdfrydig a gwrandawgar. Llywyddid i'r dim gan y Parch. John Williams, Pisgah. P-siwyd pleidlais unol 0 ymddiriedadh n Mr. Davies, a diolchwyd iddo yn galonog ar gyn- ygiad Mr. Thomas Rowlands, Rhiwlas, ac eiliad Mr. Evan Williams, Ty'n-y- gamfa. Yn ddilynol, aeth Mr. Ellis Davies i'r Sarn i anerch ei etholwyr ynD.
! Rli * DYCLAFDY. I
Rli DYCLAFDY. I Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Nos Iau, bu yr enwog Ap Harri, y tafleisydd, a'r dynwaredydd yn dyddori y gymdeithas Cymerwyd rhan hetyd yn y cyfarfod gan Mr. Richard Roberts,, Bodgadle Mr. Owen Jones, Talafon Mr. David Rowlands, Cefniwrch. a Mr. Griffith Jones, Penrhos. Mr. Griffith Jones, Post Office, oedd yr arweinydd. Ter- fynwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau, dan arweiniad Mr. John Roberts, Pencefn.
TYDWEILIOG. I
TYDWEILIOG. I CYMDEITHAS LENYDDOL. -Nos Wener diweddaf, cynhaliwyd y Gymdeithas Lenyddol, o dan lywyddiaeth Mr. J. T. Williams, Brynffynon, pryd yr aed drwy y rhaglen ganlynol :-Dadl, gan Miss S. A. Roberts, Tanyffordd, a Miss H. M. Griffith, Ty Gwyn. Dar- lien papur ar ddigwyddiadau y flwydd- yn ddiweddaf, gap. Mr. T. P. Williams, Aelfryn. Adrodd y Ddau ddarn chwech," gan Mrs. T. H. Jones, Pen- ygraig. Y goreu am ffurfio brawddeg yn fyrfyr, a phob gair yn dechreu gyda llythyren a roddwyd ar y pryd, ydoedd Mr. R. J Roberts, Monachdy. Beirn- iadaeth y limerick, gan Capt. Owen, F.R.G.S., Minaton y goreu ydoedd Mr. Owen Williams, Gwyndy. Can Y Bwthyn yng nghanol y Wlad," gan Miss Mary Jones, 'Refail. --o
Llys Ynadol Pwllheli. I
Llys Ynadol Pwllheli. I Cynhaliwyd ddydd Mercher diweddaf, gerbron yr Henadur Maurice Jones (cadeirydd); yr Henaduriaid G. Hughes Roberts a \V. Atithony Dr. R. Jones- Evans, 1. G. Jones, Ysw., C. Lloyd- Edwards, Ysw., W; W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw. Y DtlÙ)ll.Am fod yn feddw ac afreolus cafodd John Hughes. Bryn- hyfryd, Pentreuchaf, Evan Williams, Shop, Pentreuchaf. a Morris Roberts, Bakehouse Yard, Pwllheli, eu dirwyo i 5s yr un ac 8s 6c. o gostau. jE$yeulus(jr Ysgol Cafodd Jane Davies, Garn Fadryn, yr hon a wysid am esgeuluso anfon ei phlentyn i'r ysgol, ei gorchymyn i dalu 6s. o gostau. lihicjjdr ar yr Heol —Cyhuddwyd W. Frochas Jones, gwerthydd hadau, o fod wedi peri rhwvstr ac anluvylusdod ar y droedffordd yn Heol Fawr, Pwll- heli. drwy osod bwrdd ar y lie i arddangos cropiau.—Dywedodd y diff- ynydd na chafodd erioed ei rybuddio o'r blaen.- Taftwyd yr achos allan ar daliad y costau. Yr Oder Chicith.Am gario goleu ar yr ochr chwith i'w Rerhyd cafodd Robert Humphreys, Glastryn Bach, Llangybi, ei ddirwyu i swllt, ac 8s. 6c. o gostau. Goryrru. Dirwywyd John Jones, cariwr o Langiar., i swllt, gydag qs. 6c. o gostau, am oryrru. Cyhuddo 0 Yniosod ar HeJdvjos. Cy- huddid Frederick Parsons, Ysgubor Wen, Al-ersoch, gan yr Heddwas Owen, Abersoch, o fod wedi ymosod arno pan ar ei ddyledswydd yn Aber- soch. Dywedai y cyhuddedig, yr hwn a amddiffynid gan Mr. J. R. Anthony, ma'r heddwas oedd wedi aflonyddu arno ef i ddechreu. Dirwywyd y diff- ynydd i 5s. gyda 18s. o gostau.
Y Saeson a'r Sabboth ynI Nghymru.
Y Saeson a'r Sabboth yn I Nghymru. Pan yn pregethu yn y Bermo, y Sul I diweddaf, dywedodd y Parch. H. Bar- row WiHiams. Lhmdudno, fod eu cym- dogion, yr ymwet?yr Seisnig, wedi dod a syniadau ac arferion newydd o barth- ed i'r Sabboth i Gymru, yn enwedig i drefi ar lanau'r moroedd, megis Liail- dudno a'r Bermo. Yr oedd yn llawer mwy anodd cadw'r Sabboth fel dydd o orffwys yn awr, nag yr oedd haner can' mlynedd yn ol, gan fod y Saeson a fynychent yr vmdrochleoedd yn c) meryd y dydd i blesera. Ond yr oedd yn ddrwg ganddo ddweyd fod rhai pobl grefyddol hefyd i'w beio a:n hyny.
1 Helynt Trist yn Maesyfed.;…
Helynt Trist yn Maesyfed. Daw hanes trist o Lanyre, sir Faes- yfed. Caed corff dyn ar Fynydd Dol- fan ddydd Sadwrn, ac yr oedd yn hawdd • gweled mai wedi gwneyd diwedd ar ei einioes ei hun yr oedd. Canfuwyd mai un o'r enw William Lewis ydoedd, gwr priod deg ar hugain oed, yr hwn oedd ar ymweliad a theulu ei wraig yn Llan- yre. Bu yn wael ei iechyd ac yr oedd wedi mynd yn isel iawn ei ysbryd. Gadawodd ei waith yn Crumlin er mwyn 1 dod i'r fferm i geisio adferiad iechyd. Yr oedd yn frodor o'r sir ac yn fawr ei barch ymysg ei gydnabod. Gedy wraig a phedwar o blant bychain ar ei ol, yr hynal heb fod yn llaw u chwe'i mIwydd oed.
Cyfarfod Mr Lloyd George Iyn…
Cyfarfod Mr Lloyd George I yn Huddersfield. Ddydd Sadwrn cynhaliwyd cyfarfod i drefnu gogyfer ag ymweliad Mr Lloyd George A Huddersfield ar Mawrth 7fed. Trefnwyd fod y cyfarfodydd i'w cynal yn neuadd y dref y prydnawn a'r oos. Cynhelir cyfartod y prydnawn yn fwyaf arbenig i gynrychiolwyr o Gyngrair Ryddfrydol Swydd York, i'r hon y perthyn wyth a deugain o gymdeithas- au, ac amcangyfrifir y bydd mfer y cynrvchiolwyr yn ddwy fil a phedwar cant. Bydd yno le i oddeutu chwe' chant o bobl heblaw'r cynrychiolwyr. Gwneir trefniadau helaethach ar gyfer i'r cyhoedd fynd i gyfarfod yr hwyr, ond otnir na bydd agos ddigon o le i'r oil sydd eisieu clywed y Canghellor. --o
Yr Iddewon a'r Gymraeg.
Yr Iddewon a'r Gymraeg. Yroedd Mrs Lloyd George yn rhnnu'r gwobrwyon i blant Ysgol Sir y Bermo ddydd Llun, ac wrth anerch y plant dywedodd mai hwn oedd y tro cyntaf erioed iddi fod yn rhanu gwobrwyon mewn ysgol sir yn Nghymru, er y bu yn gwneud hyny amryw weithiau yn Lloegr. Sylwodd fod yn dda ganddi ddeall fod yr i-ith Gymiaeg yn cael lie mor flaenllaw yn yr ysgol. Gobeithiai na byddai i'r plant angbofio en hen iaith odidog. Pan yn Nghaerdydd yn ddiweddar yn i hanu gwobrwyon diolch- odd y plant iddi oil yn Gymraeg, ac yr oedd un Negro bach du yn eu canol yn siarad Cymraeg croew. Yr oedd wedi clywed fod yr Iddewon yn dysgu Cym- raeg, a rhaid oedd i fechgyn Cymru edrych ati rhag ofn i'r Iddewon fynd ar y blaen iddynt.
Manion.
Manion. Hysbysir farw o'r Cadfridog Piquart, yr hwn oedd yn amlwg iawn ynglyn ag achos Dreyfus yn Ffrainc flynyddau yn ol. Y mae'r eira mor drwchus yn Neheu- dir Ffrainc fel y mae'r trenau wedi stopio ihedeg yno. Y mae llawer o'r pentrefi o dan ddeg troedfedd o eira. Yn hwyr nos Sadwrn diweddaf caf- wyd corff dynes ar y rheilffordd ihwng Ardwick ac Ashburys. Nis gwyddis pwy ydoedd. Y mae Mr Jesse Coilings, A.S., wedi penderfynu ymneillduo o fywyd politic- aidd ar ddiwedd tymhor y Llywodraeth bresenol. Pan oedd bachgen yn chwareu heto'i gyd-ysgolheigion yn Weston, y dydd < o'r blaen, a gwiallen bren yn ei enau, syrthiodd i lawr, ac aeth y wiallen i mewn i'w uddf gan ei ladd. Yn sydyn iawp bu farw Mrs Ush- j worth, priod yr Henadur Ushworth 0 Lerpwl, yn Abergele neithiwr, nos Lun. Yr oedd wedi bod allan yn siopio, a phan yn cychwyn am y ty Ile'r oedd yn aros, syrthiodd i lawr yn farw. Y mae'r Parch. D. L. Williams, ficer Llanwnda, yr hwn sy'n un-ar-ddeg a phedwar ugain oed, yn ymddiswyddo o'r fywoliaeth ar ol ei dal am haner can' mlynedd.
Advertising
Wanted. WORKING GARDENER, steady work all the year to a good use- ful man. Apply by letter to W," U dgorn Office. GENERAL SERVANT. Age 20 to 24 Good wayes to a suitable person. Apply LIVERPOOL HOUSE, Pwllheli. \V ANTED well-educated youth as Chemist's Apprentice. Apply, with full particulars to W. E. Roberts. Chemist, Iletilii Street, Pwilheli. A PPRENTICES for the Drapery and ,-1. Millinery. Apply Morris Wil- liams, Emporium, Penlan Street, Pwll- heli. Gas Works Pwllheli GOSTYNGlAD YM MHRIS COKE. Er mwyn gwneud lie ar g; fer cyfnewid- iadau helaeth yn y gwaith uchod, Y MAE'R STO(1 0 COKE SYDD AU LAW I'W ULIKIO A[ Y PKIS GOSTVXGOL 0 15s. Y BTTITBLL YN Y WASG. BBirdd Gwerin Eifionrdá I o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg hyd yn bresenol, A'u Gwaith Anghyhoeddedig: YNGHYDA DARLUNIAU. GAN CYBI. Pris Llytr mewn Amlen Bapyr, Llian, 1/6 Sales gan Mri. Robt. Parry a'i Fab DYDD IAU, IONAWR 22ain, 1914. GEFAILGALEDRYDD, MADRYN, G PWLLHELI. Amryw iaeth mawr o Arfau gefail DYDD SADWRN, IONAWR 24ain, 1914. pERNIOG GANOL, MYNYDD NEFYN. Gosodiad Tir blynyddol. I ddechreu am 2 o'r gloch. 5, Salem Terrace, Pwllheli. HENO NOS FAWRTH, YX y INEUADD DREFOL, PWLLHELI. YMWELIAD BEYS LEWIS. CWMNI ADNABYDDUS BARLWYD. Ymgeiswyr am y Llaw ryt yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1914. Mynediad i mewn 1 Ail Seddau, 6ch.; Plant, haner pris, gyda thocynau arbenig. Drysau yn agored am 7, dechreuir am 7.30 o'r gloch. i | LIBERAL CLUB, PWLLHELI. J A GRAND WHIST DRIVE will be held at the above Club on Thursday, January 22nd, 1914. Admission (including Refreshments) 1/. M.C.—R. Griffith, Esq. llun. Sec.—W. Windsor Jones. CONSERVATIVE CLUB, PWLLH E LI. A GRAND WHIST DRIVE will be held at the above club On Friday Evening, January '30th, Commencing at 7.30 p m. Admission Rdreshments included) 1/- E. Watkins, Sectetary. Owyl Dewi. 1914. D P, A iNI A YN LLE EISTEDDFOD. SERCH HUDOL Perfformir y Ddrama uchod yn Y NEUADD DREFOL, PWLLHELI, Nob Iau, Mawrth 5ed, 1914, GAN GWMNI ENWOG BEDI) GELERT Hon yw y Ddrama y cystedlir arni yn Eisteddfod Bangor. Drysau yo agored 7 o'r gloch, dechreuir am 7.30. Tocynau 1/6 a 1/ Yr Elw at Eglwys South Beach. J. EVANS, Slate Works, MAES, PWLLHELI Llechi at bob gwasanaeth am Brisiau Rhesymol. Dig onedd o 1C.Liev%-is 0 Artificial Wreaths. fiHSBSHH DALIER SYLW. Cynhelir Cyfarfod Llenyddol Y TABERNACL NOS IAU, CHWEFROR 26ain. TESTUN YCHWANEGOL. Am y dernyn goreu, cyfaddas i'w adrodcl, heb fod dim llai na 30 o linell- au. Agored. Gwobr, 2s. 6c. Beirniad Ap GWALLTER, Bodfean. W. GRIFFITH, Lleyn Street, Ysg.