Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Aufoner erbyn BOREU AVW R y fan bellaf Pob archebion a thalia^n au; UÐGOBN i'w hatifon i'r Gobxjchwtliwr, Pob gobebiaeth i'w cyfeirio— Y8 Udgorh Office, Pwllhki.i. Bydd yn dda genym ddcr^yn tohf*. j iaetban oddiwrth ohebwyr *r fit*- too llem o ddyddordeb cyhoeddus
.NODION A HANESION.
NODION A HANESION. Bwrw Chwecheiniogau. Pan oedd dyn yn sefyll ei brawf yo Cletkenwell disgynodd un-ar-ddeg o ddarnau chwecheiniog o'i enau, ac yn un o'i esgidiau caed tri-ar-bugain o ddarnau eraill. < it Disgynydd o Hywel Dda. Yn Johnstown, Caerfyrddin, y dydd o'r blaen, bu farw Mr. Howell Howell, Punt Garreg. Yr oedd yn dod o hen deulu henafol iawn, a allai olrhain ei linach hyd Hywel Dda. Marw'n Sydyn. Cymerwyd Mr. David F. Roberts, perchenog Gwaith Peirianau'r Gwalia, Llanelli, yn wael ar ei ffordd gartref y nos o'r blaen. Trees i feddygfa'r Dr. S. Williams, a bu farw gynted ag y cyrhaeddodd y lie. Cyfrwysdra'r Llwynog. Cododd cvvn Iwynog wrth hela yn Machen y dydd o'r blaen. a rhedodd mad) D o'u blaenau at ddibyn craig ac yna troes yn sydyu yn ei ol. Methodd y cwn a stopio ar y dibyn a syrthiasant trosodd. » Taitb Heddwas o Gyraru. Y mae'r Heddwas Thomas, Aber- ystwyth, wedi cychwyn o'r dref hono i New Zealand, i gyrchu adref Mr. Charles Massey, y cWrifydd a gyhuddir o dwyll a lladrad. Rhaid i'r heddwas hwylio'n ymarferol oamgylch y byd, ac ni ddisgwylir ef yn ol hyd fis Mehefin neu Gorffenaf. Tri ChorlT ar y Traeth. Yn Goole y dydd o'r blaen caed dynes a'i dau blentyn yn gorwedd yn farw ar y traeth. Yr oedd y fam a'r bachgen hynaf "edi eu rhwymo ynghyd mewn b!anced, ac yr oedd y baban yn goiwedd ar fynwes ei fam a chortyn am ei wddt. Nid oes wybod beth tu'r achos o'r trychineb. Cyflog Gweinidog. Y mae Dr Jowett, gweinidog Eglwys Bresbyteraidd Fifth-avenue, New York, wedi gwrthod yr alwad dderbyniodd i fod yn weinidog ar Gapel yr Undeb, Islington. Dywedir mai Dr jowett sydd yn derbyn y cjtlog uwchaf o unrhyw weinidcg yn y byd, y mae ei gytlog yn 3,6oop. y flwyddyn. Pwy fydd Olynydd Syr Edward Anxvyl ? Y mae cryn iawer o ddyfalu o barthed i pwy a leinw Gadair Coleg y Brifysgol Aberystwyth yn olvnydd 1 Syr Edward Anwyl Credir y bydd y tri daifithydd yn ngholegau Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd, sef Mri. Timothy Lewis. Ivor Williams, a W. J Gruffydd, yn ymgeisio. Mae'n debyg y bydd y bardd ieuanc galluog, Dr. T. H. Parry Wiliiams, hefyd ar y maes. Marw mewn Eisteddfod. Bu farw bachgen deunaw oed o'r enw Kbenezer Wii.iams meun cy far fod cystadleuol yo nghapel Bethesdn, Ton Pentre, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y capel yn orlawn, a phan ddarlienai y beirniad ddylyniadau o'r traethawd buddugol profodd y tebyg- olrwydd ei fod yn mynd i gael y wobr yn ormod i'r dyn ieuanc allu ei ddal. Llewygodd, a chariwyd ef ailan, a phao ddaeth meddyg ato canfuwyd ei fod wedi marw. Yr oedd yn dioddef oddiwrth afiechyd ar y galon. Y Ddirprwyaeth Gymreig a'r Prif Weinidog. Bu Pirprwyaeth o Ymneilituwyr C.nue.^ o Lanelwy gyda 'r Prif Weinidog yr vvythncs ddiweddaf yn p otestio yo erbyn Mesur Dadgysj lltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. Dywed- odd Mr. Asquith wrthynt nad oeddynt wedi gweithredu yn y ffordd briodol. Yr ai fer iad cyfansoddiadol, meddai, cedd deisebu 'r Ty 'r Cjffredin, a dylasent hwythau fod wedi gwneud hyny. Sylwai tod un peth braidd yn hynod ynglyn a'u protest. Dywedent f d naw ar hugain o weinidogion a tiros gain a haner o ddiaconiaid inneilituol wedi ei harwyddo, ac eto nid oedd yr un o honynt wedi dod gyda hwy. Nis gallai ddvveyd eu bod wedi hyrwyddo dim ar eu hachos wrth ddod yno. Llosgi Gwartheg i Farwolaeth. I Yn gynar f,"Ire Sul, yn Aughton, digwyddodd la., ofnadwy, a llosgwyd pump o. warthcg i farwolaeth. Marw ar Gae 'r Bel Droed. I Pan yn edrych ar ymrysonfa chware pel droed yn Pontv pwl, ddydd Sadwrn, syithiodd dyn o'r enw Thomas Evans i lawr yn farw ar y cae. t- Goleu Sigaret a'r Canlyniad. Yn un o fwngloddiau Jelenowsky agorodd rawnwr ei lamp i gael tan ar ei sigaret. Me vn canlyniad cymer- odd ffrwydriad le a lladdwyd pedwar ar hugain or mwnwvr. Dau yn unig gawsant eu byw yd. Damwain raewn Llong. Ffrwydrodd nwy glo yn yr agerlony Westdale yn nociau Burry Port, ger Llaneili, y dydd o'r blaen, a chatodd y mate, Mr. Robert Roberts, Ty'r Gongl, o Fori, ei losgi 'n ddifrifol. a chymerwyd el i'r ysbyty. Ni chafodd neb arall o'r criw unhryw niwed. Swyddog Prydeinig wedi ei Ladd. Hysbysir fod y brodorion wedi tori allan mewn gw thryfel yn y Soudan ac Abyssinia. Derbyniwyd brysneges yn Llundain ddiwedd yr wythnos fod Prydeiniwr o'r enw Major Conry wedi ei ladd mewn brwydr gyda'r gwrth- ryfelwyr. Ystadegaeth ar Faen Bedd. Ar faen bedd Dr. Rees, Bronant, sir Geredigion, ceir yr ystadegau a ganlyn :—Bedyddiodd 1,496 o blant c'addodd 1,792 o bersonau traddod- odd 8,000 o bregethau siaradodd ?7 o weithiau ar ddirwest talodd gan- oedd o bunau o ddyledion cape Ii trwy ddarlithio. Damwain Angeuol yn Mhen- maenmawr. Cyfaifu dyn ieuanc a damwain angeuol yn Chwarel Penmaenmawr y dydd o'r blaen. Gofalai am y peiriant a dynai y gwageni hyd yr 44 inclen," a neidiodd i lawr i roi y rheiliau yn eu lie. Rywfodd aeth o dan yr olwynk n, ac ni bu fyw ond haner awr ar ol ei gae! yn rhydd ? I Gael ei Ddienyddio Yn Nghaerdydd yr wythnos ddi- weddaf pasiwyd dedfryd marwolaeth ar Edgar Lewis Bindon am lofruddio Maud Milholland. Yr oedd wedi bed yn cyfathrachu gyda'r eneth ond v\edi ei urthod ganddi wedi hyny. Tyst- iwyd fod y bachgen wedi addef iddo saethu'r eneth. Cymeradwywyd iddo gael trugaredd ar bwys ei ieuenctyd. | Arglwydd Kitchener a Cherdd- oriaeth Gymieig. Wrth lywyddu mewn tyngerdd Cym- reig yn Llundain y nos o'r blaen dywedai Mr W. Jones, AS., fod j perygl i ddisgybliaelh ladd y gwres a'r! enaid oedd-mot nodweddiadol o gerdd- oriaeth y Cymru. Pan yn y Durbar yn India unwaith, meddai, eisteddai I Arglwydd Kitchener yn agos ato, yr hwn a synai at y milw) r Cymreig yn gorymdeithio heibio, a dywedai nad oedd ryfedd y gallent orymdeithio cystal pan yr oedd ganddynt y fath j ryfelgan a Rhyfelgyich Gwyr Har- lech + Marwolaelli Gweddw Unig. Cynhiliwyd tren hùliad yn Mangor ar gorff gvveddvv o'r enw Laura Eliza- beth Owen, yr hon a gaed yn min marw yn ei thy nos Fercher. Nid oedd neb yn byw gyda hi yn y ty, ac am na welsent hi y diwrnod hwnw aeth y cymdogion yn bryderus yn ei chylch. Dringodd dyn i fyny at (Tenestr y ildfl: gydag ysgol a gwelai y wraig yn y gwely. Gofynodd iddi a allai ddod i mewn, ond dywedodd witho am beidio tori i'r ty, ac aeth yntau i lawr ) II of. i Aeth yno drachefn ^yd.t'r nos a hedd- geidwad gydag ef, yr hwn a t rchmyn- odd iddo dori i mewn. Yr oedd y I. ,J h i wraig y pryd hwnw } n min marw, a chyrchwyd meddyg ati, ond yr oedd ) 11 hollol larw pan i. yrtiaeddodd y meddyg yno. ) Teulu yn Gael eu Gwenwyno Catwyd teulu o dri wedi marw yn y gwely yn mhentret Convvil, Caerfyr- ddin, y dydd o'r blaen. Yr oedd John Evans, y gwr, yn 64 mlwydJ oed 1 Mary Evans, y wraig. yn 67, a'r ferch, Elizabeth, yn 24. Credir mai yfed diod ddail, oedd wedi ei w neyd ganddynt, wnaethant. Gwelodd gwraig y tfeam nesaf I}"J oedd gwartheg ei chvmydogion wedi eu hanfon i'r cae fcl arfer, ac an for odd ei bachgen yno i edrych beth ^edd y mater. Gan nas -velodd y baihyen neb yno, aeth yl wraig ) no dra- he n, ac aeth i mewn i. < Ly ac mewn un ystafell yn y llofftj gwelodd y gwr a'r wraig yn farw yn y wely, ac mewn gwely mewn ysi tell arall ^wela1 y ferch yn farw. G a Iwyd mtddyg yno, ond nis gallai dd^eyd beth redd nchos eu marwot- aeth Credir iodd bvnag mai j fed diod ddail wnaethant, ac tod gwen- wyn ynddi heb yn wybod iddynt. Caed ycbydig O'J meu-n pot el yn Caed ychydig o'i mett-n r?-te, 3,n'
Bwrdd GwarcheidwaidI Pwllheli.
Bwrdd Gwarcheidwaid I Pwllheli. Dydd Mercher, Mawrth 4ydd.—Mr j. T. Jones, yn y gadair, a Mr J. II ughes Parry yo yr is-gadair. Cytlytn(leimlad.-Ar gynygiad y Cad- eirydd, yn cael ei eilio gan Mr Griffith Rcberts, pasiwyd pleidlais o gydym- deimlad a Mr Hugh Pritchard, y Clerc, ar farwolaeth ei dad. Ciirio Sul y Tfodion. — Dywedodd Mt J. Hug hes Parry fod si anffafriol yn cael ei lledaenu o batthed i'r cinio roid i'r tlodion yn y Ty ar y Sul, ac yr hoffai gael eglurhad ar y mater. Mewn atebiad dywedodd Meistr y Tloty y caent ddau fath o bwdin, sef pwdin siwet a phwdin reis, ac fod y ,Illik) yn cael ei wneyd yn ol t bl y bN%-N-d. DN' "-e,iodd Mr J. Hughes Parry fod yn dda ganddo am yr eglur- had yn wyneb y son oedd yn cael ei d.ienLi.S),Iwodd y Parch J. Edwards nad oedd neb yn awgrymu fod bai ar y meistr. Cychwynwyd y son, meddai, yn ystod Etholiad y Cyngor Sir yn y dref yn ddiweddar. Yr oedd rhywun wedi cyng hori un i beidio pleidleisio tios Mr H. Pritchard gan awgrymu ( mai Ms Pritchard oedd yn gyfrifol am na chai tiodion y wyrcws ddim ond pwJin siwet ar y Sul.-Syl"-odd y Cadeirydd yr hyderai y gwnai y newyddiaduron sylw o'r eglurhad, ac nad oedd lie o fath Pwllheli am ledaenu chwedlau anwireddus I A mean yyft if.—Cyflwynodd y Clerc ei amcangyfrif ar gyfer yr haner blwyddyn. Yr oedd angen treth o 6k at amcanion yr Undeb, yr un tath a'r cyfnod cyfer- byniol y flwyddyn o'r blaen. Yn 1906 yr oedd y dreth yn 8lc, a gwelia oddi- wrth hyny fod lleihad o'i gymharu ag wyth mlynedd yn ol.
IMarw Meddyg: Enwog o Lerpwl.
Marw Meddyg: Enwog o Lerpwl. DIGWYDDIAD TRIST. Yr wythnos ddiweddat bu farw Dr Jerome Eugene O'Sullivan, un o fedd- ygon mwyaf adnabyddus Lerpwl, o dan amgylchiadau trist iawn. Yr oedd Dr Sullivan yn 58 mlwydd oed, ac wedi mvvynhau iechyd rhagorol hyd o fewn ychydig flynyddau yn ddiweddar, pryd y dioddefai oddiwrth afiechyd ar y galon. Yr oeddis yn pryderu'n ddirtawr ynghylch ei gyflwr a gweinid arno gan Dr Francis Ibifey a Syr James Barr. Yn y trc-nghoiiad hysbyswyd y cym- e ai g-yffyr a> i"enig at yr afiechyd oedd ganddo, a tus iau aeth i'w surgery i gymeryd y do^n arferol. Pan aeth i'w ytaldl wedi hyny dywedodd ei wraig wrtho yr aioglai opiwm, a dywedodd .yntau, 41 Tybed y cymerais opiwm mewn camgymeriad." Cyrchwyd y meddygon ato ar unwaith, ond bu farw fore dranoeth. Tystiai Dr Bailey [nai effaith yr I..} f h opiwm ar ei galon wan fu achos ei farwolaeth. Yr oedd yn hawdd iddo gamgymeryd y ddwy botel, meddai, gan eu bod yn ymyl eu gi!ydd, a'r naill yn debyg iawn i'r Hall.
Gwrendy Pwllheli.
Gwrendy Pwllheli. Gwrsndy Pwllheli pan fo cymydog yn siarad, oherwydd nis gall fod tystiol- aeth nii%,y didderbyn-yneb a gonest na air un sy'n byw yn eir. plith. Un o Bwilheli sy'n siarad yma. I Dy wed Mr G. Jones, "Arley House," West End Parade, Pwilheii: Tua divvedd y flwyddyn ddiweddaf cefais boen yn fy nghefn yr hyn w aethygodd yn raddol nes yr aethun: bron yn fy nyblau Roedd 1 aid i mi gael fFon i symud o gwmpas, a dywedai fy nghyteiliion fy mod yn mynd i ediych tel hen ddyn. 1711 s icr yr oedd y boen yn anio defol, a cheisiais wellhad trwy bob moddion, ond yn ofer. O'r diwedd, wrth glywed gymaint canmol ar Doau' s Pills yn y rhanbarth, anogvvyd fi i foddi prawf arnynt. Cyn fy mod wedi llwyr orffen un blychiad teimlwn fy hun yn gwelia, ac o'r her- wydd parheais gyda hwynt. Yn radd- ol cefais ymu ared o'r poenau, ac yn awr ni,! e,n dd « genyf ddweyd fy mod cyn iached a- erioed. Gallaf gerdded yn syth a mynd nilaen gyda'm gwaith heh b en nac anhavvsder. Bydj yn dda genvt bub ;in'.ser gvmeradwyo Doaii Pills" I Arwyddw yu) G. Jones. Y m.-c poc • i \n y cetn, grafel, chwyddiadau diiipsi, diffyg ar y dwr, crydcymalau, cur yn y pen, a phrydiau o benysgatnder, ) n ddigon o achos i ameu drwg ar y elwlod. Y mae Doan's Backache Kidney PilJs yn hoilol at yr elwlod a'r yswigeii, a rhoddant iechyd a nerth i filoedd. Pris 2s. 9c. bocs, chwe' bocs am 13s. gc. gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eylar am Doan's Backache Kid- ney Piils, yr un math ag a gafodd Mr Jones.
- -"-, - i UeidrCy wys. !
i UeidrCy wys. Yn Birmingham y dydd o'r bJaen cyhuddid dyn o'r enw Edwin Tomkins o dori i dy M j s Beatrice Williams, Moseley. Cafodd Mrs Williams, deli- gram, meddid, yn ei hysbysu fod ei mam yn wael iawn mewn ty beithynai iddi yn nghwr arall y dret. Pan aeth yno cantu nad oedd dim o gwbl ar ei mam, a phan aeth gartref canfu fod rhywun wedi tori i'w thy a lladrata I oddiyno werth can' punt o dlysau ac arian. Ymysg yr arian yr oedd darn pumpunt, ac wrth geisio g" neyd i ffwrdd a hwnw y cymerwyd Tomkins i'r ddalfa.
Cyngor Trefol Pwllheli. I
Cyngor Trefol Pwllheli. I Cynhaliwyd nos Fawrth, Mawrth 3ydd. — Presenol Dr. R. Jones-Evans (y Maer) )ii gadair; yr Henaduriaid Dr. O. Wynne Griffith, W. Anthony, W. Eifl Jones, R. Ivor Parry y Cyng- horwyr E. Jones Griffith, Lewis Jones, Richard Jones, Hugh Pritchard, Owen Ellis Jones, John Summers, W. Wynne Owen, W. M. Toleman, T. W. Thomas a'r swyddogion. Bonn Gjimreig S,, iwodd Mr E. Jones Griffith nad oedd taner Gymreig yn perthyn i'r Gorfforaeth. i'w chwifio ar achlysuron cenedlaethol megis Dygwyl Dewi. Ar gynygiad yr Henadur Wynne Griffith, yn cael ei eilio gan Mr W. M. Toleman, pasiwyd i bwrcasu un. Ynghylch Bhanu'r Gorfforaeth.— Yroedd Pwyllgor y Gweithfeydd yn argymell rhanu'r Gorfforaeth yn wardiau ar gyfer etholiadau'r Cyngor Trefol. fel ag yr oeddis wedi gwneud gyda'r Cyngor Sir, ac yn cymeradwyo gwneud cais i'r perwyl hwnw. Hefyd i wneud cais am archeb oddiar y Cyngor Sir am i fwy o warcheidwaid dros Blwyf Denio gael eu hethol ar Fwrdd Undeb Pwllheli, ac i ranu'r Plwyf i ddwy ward gogyfer a hyny.—Cynygiwyd gan yr Henadur Anthony, yn cael ei eilio gan yr Hen- adur Ivor Parry, fod y Cyngor yn mab- wysiadu argymhelliad y Pwyllgor.— Cynygiwyd gan Mr E. Jones Griffith, ac eiliwyd gan Mr W. Wynne Owen, eu bod yn gohirio'r mater am fis.- Sylwodd Mr Hugh Pritchard nad oedd ef yn meddwl fod neb yn erbyn gwarch- eidwaid ychwanegol, ond ar y cwestiwn o ranu'r plwyf yn wardiau teimlid y dylid cael mwy o eglurhad. Byddai dwy ward yn golygu mwy o swyddog- ion ar adeg etholiad, ac o ganlvniad mwy o gostau.—Yn y diwedd pasiwyd gohirio'r mater o ranu'r plwyf am fis, ond mabwysiadwyd yr argymhelliad o barthed gwneud cais am warcheidwaid ychwanegol. Cais am Gyd-iceiihrcdiad. Pasiwyd gofyn i'r Cyngor Dosbarth gyda'r Cyngor Trefol i drafod y Deddfau Lleol bwriadedig ynglyn a thrafnidiaeth cer- bydau ar y ffyrdd. Yr Ilarbwr.—Yr oedd pwyllgor wedi ymweled a'r Tocyn Brwyn a'r Gantry i archwilio'r lie, ac yn eu hadroddiad dywedent nad oeddynt yn credu y bydd- ai o fantais symud y gored fel yr awgrymid. Yr oeddynt o'r farn fod eisieu carthu'r bane tywod a'r ochr ogleddol i'r llifddor ac ar enau'r porth- ladd. — Mabwysiadwyd yr adroddiad, ac ar gynygiad Mr W. M. Toleman pas- iwyd cynal cyfarfod arbenig o'r Cyngor yn fuan i drafod cwestiwn yr harbwryn ei holl agweddau. Cyflwr Tai yn y Dref.—Yn y Pwyllgor Iechydol cyflwynwyd adroddiad maith oddiwrth y Swyddog Meddygol ar gyf- lwr tai yn y dref. Sylwai fod saith o dai yn Penrhydlyniog ac y dylid eu cau, ac fod saith ag angen gwneud gwell- iantau arnynt. Dywedai hefyd fod plant wedi eu hanfon o un ty i sefydliad ar gyfer rhai yn dioddef oddiwrth y darfodedigaeth, ac nad oedd y ty yn gymwys iddynt fynd iddo ar eu dych- weliad o'r sefydliad. Hysbysai y Pwyll- gor eu bod yn teimlo tod angen difrifol ) am y gwelJiantau gyfeirid dtynt yn yr adroddiad. ond nad oeddynt mewn sefyllfa ag y gellid rhoi gurchymyn am i'r tai gael eu cau. Hyderent, Codd hynag, y gellid symud ymlaen pan j gyflwynid cynllun Cymdeithas y Tai Annedd. Pasiwyd anfon copi o'r ad- roddiad i berchenogion y tai y cwynid o'u herwydd. Y hiri Ddijfbddwyr—Yn Mhwyllgor y Ian Ddiffoddwyr penodwyd y rhai a ganlyn yn aelodau o'r frigad :—Mri J. R. Toleman, J. RivF-nliill, j H. Morgan, Tom Morris, T. J. Williams, Richard Lloyd, R. Walter Roberts, W. Jones, A. A. Ashworth, T. J. Owen, a Sergt. Rose.-C y flwynodd yr arolygydd blan o orsaf ar gyfer y frigad i'w gosod i fynu ar y tir adferedig ger gorsat yr rheilffordd. Pasiwyd y rhai a ganlyn yn bwyllgor i ystyried y plan gyda'r arol)gydd,-Mri Lewis Jones, E. Jones Griffith T. W. Thomas, G. C. Roberts, S. Lloyd, a'r Henadur W. Eifl Jones. Pasiwyù n4d oedd y gost i fod yn fwy na 7Sp., ond os y teimlai'r pwyllgor fod y swm hwnw'n anigonol, pasiwyd tod y mater i'w ystyried mewn cytarfod arbenig o'r Cyngor. Tir Adloniant.—Cynygiwyd gan Mr W. Wynne Owen fod Pwyllgor y Gweithfeydd i ystyried y priodoldeb o wneud y tir adteredig o flaen yr Em- bankment Road, yn lie i chwareu arno ac yn adlonfa. Eiliwyd ef gan Mr W. M. Toleman, a phasiwyd. Pasiwyd hefyd ar gynygiad Mr Wynne Owen fod yr un pwyllgor yn ystyried y priod- oldeb o godi toll am fyn'd i Benygarn. -0-
Helynt mewn Cyfarfod o'rI…
Helynt mewn Cyfarfod o'r I Blaid Lafur. DYNION A MERCHED YN I YMLADD. Bu helynt garw mewn cyfarfod gynhelid gan y Blaid Lafur yn Llundain y dydd o'r blaen. Gynted ag y dechreuodd Mr McDonald anerch y cynhulliad dechreuodd suffragettes gynhyrfu ac aeth helynt gwyllt yno. Ymladdai y dynion heto'r merched yn y modd mwyaf ffyrnig. Ymosodai y merched gyda chadeiriau ar y rhai a geisient eu cymeryd o'r neuadd. Buont yno yn ymladd am tuag awr gan rwygo dillad y naill a'r lIall ac ysgriffio gwynebau nes oedd y gwacd yn llifo.
Bryd leuenciyd Pwllheli.
Bryd leuenciyd Pwllheli. DAWNSIO A CHWARE I CARDIAU. Mewn cyfarfod o Gyngor Eglwysi Rhyddion Pwllheli ddydd lali diweddaf dywedodd Mr. Samuel Williams, y cadeirydd, y dymunai alw sylw at yr ysbryd chware oedd yn y dref y dy,ldiau hyn. Yr oedd bryd yr ieuenc- tyd yn IIwyr. meddai, ar ddawnsio a chware cardiau, ac yn ddiweddar yr oedd y GorfforaeLh welli- ymgymeryd a darpar arddangosfa o ddarluniau symudol yn y neuadd Credat ef tod y pethau hyn a'u tuedd at wrthryfela yn erbyn pob dyhead am ddadblygiad ysprydol a meddyliol. r oedd tuedd ynddynt helyd i ddinystrio'r cymeriad Cymreig, eu cenedlaetholdeb a'u hiaith. Sylwodd y Parch. John Hughes, y credai et nad oedd o nemor ddiben ymladd yn erbyn y pethau hyn gan eu bod yo cael cetnogaeth ar bob llaw, ond y dylai pob Cristion wneud yr oil a allo i'w cadw mewn terfynau piiodol, ac mai wrth gymeryd rhan gymedrol ac mewn yspryd rhesymol ynddynt y gellid gwneud hyny. Dywedodd Mr. J. G. Jones na fyddai waeth iddynt mo' r llawer broffesu eu hunain yn swyddogion o lywodraeth Satan, os yr oeddynt am gefnogi y pethau enwyd.
ILlys y Man-Ddyledion Pwllheli.
I Llys y Man-Ddyledion Pwllheli. Dydd Mawrth, Mawrth 33,dd.-Ger- bron y Barnwr William Evans Yuglyn ag Eicyllys.Apeliai Mr Cradoc Davies am archeb i ganiatau taliad o loop., sef rhan o ewyllys adawyd gan Mrs Hughes, Brvnarlais, Llanaelhaiarn, i Richard Caradog Jones a May Jones. Yr oedd y ddau o dan oed a gofynid am y joop. i alluogi y bachgen i gael ei brentisio fel peirian- ydd yn Llanelli. Yr oedd yr ewyllys o soap. yn cael ei rhanu yn gyfartal rhwng y bachgen a'r eneth, ac ym- ddangi sai Mr Hugh Pritchard tros May Jones a hysbysai fod yr eneth yn fodd- Ion sefyll wrth yr archeb pe y'i gwneid, er pe y digwydda i'r bachgen farw cyn dod i'w oed, yr ai y gweddill o'i gyfran ef i dad yr eneth yn lie iddi hi, os y gwneid yr archeb.—Ymddangosai Mr Ellis W. Roberts (yn cael ei gyfar- wyddo gan Mri Ellis Davies a Jones) ar ran Mr J. R. Hughes, yr ysgutor, a dywedai nad oedd Hughes yn gwrth- wynebu i'r archeb gael ei gwneyd, ond ei bod yn ddyledswydd arno osod y ffeithiau gerbron y llys. ac i weled fod yr ysgu:or yn cael ei ddiogelu'n briodol pe gwneid yr archeb.—Gwnaeth y Barnwr yr archeb yr apelid am dani, ac fod costau'r partion o barthed i'r apel yn dod o gytran y bachgen. Mr Cradoc Davies am i drefniant gael ei awdurdodi, o dan yr hwn yr oedd Mr Robert Edwards, Rhos bach, Pwllheli, i dalu 135;- c. yr wythnos o lawn-dal i Mr Thomas Jones, Gors, Llanbedrog, yr hwn gyfarfu a damwain pan yn gweithio ar shiafft yn Abersoch, yn mis Medi diwer'daf, y 13s. 3c., set haner ei gyflog, i'w talu o'r dydd y cymerodd y ddamwain le.-Caniatawyd yr apel gyda'r costau. j)
I Claddu y Gwr a'r Wraig yr…
I Claddu y Gwr a'r Wraig yr un Dydd. Yn Glan Conwy, ddydd Sadwru, cafodd Mr. Robt. Williams, Meddiant, a'i briod, dau o drigolion hynaf y lie, eu claddu ynghyd. Yr oedd Mr. Robert Williams yn un o ffermwyr mwyat adnabyddus y fro. Bu yn wael am rai wythnosau ac yn ystod ei waeledd gweinid arno gan ei wraig. Buont briod am dair blynedd a deugain, a phan fu farw'r hen wr aeth y wraig yn wael a gwrthodai gymeryd meddyginiaeth. Dywedodd wrth ei mab, "'Rwyf yn mynd at Robert yfory," a rhoes gyfarwyddiadau gog-yfer a'r angladd. Y dydd dilynol, bu farw tua'r un amser ag y bu farw ei phriod. I o
IMarw wrth gael tynu ei IDdant.
Marw wrth gael tynu ei Ddant. Bu dyn ieuanc dwy ar hugain oed farw yn Llundain ddydd Iau pan yn cael tynu ei ddanedd Yr oedd meddyg wedi rhoi cyffyr iddo i ladd y boen, ac ar ol i'r deintydd dynu un o'i ddanedd gwelai fod y dyn ieuanc yn methu anadlu, a bu farw ymhen ychydig funudau. Dywedwyd yn y trengholiad fod afiechyd rhyfedd ar y trancedig ac fod asgwrn yn ei wddt wedi tori wrth gael tynu ei ddant. Yr oedd yi asgwrn wedi breuo gan yr afiechyd oedd arno, a buasai yn tori ar yr ysgytiad lleiaf. Nid oedd a wnelo'r cyffyr roed iddo ddim a'i farwolaeth, meddid. --0--
Tro Hynod mewn Mynwent. I
Tro Hynod mewn Mynwent. I Yr wythnos ddiweddat aeth nifer o Gymry gwladgar, yn cael eu harwain gan Dr. L'ojd Owen, ar beretindod i Ynyscynhaiarn, gyda'r bwriad o roddi llawryf ar fedd Dafydd y Garreg Wen, y telynor Cymreig. Pan gyrhaeddas- ant at y fynwent hysbyswyd hwy gan y rheithor nas gallent gynal cyfarfod yn y fynwent gan nad oeddynt wedi gofyn am ganiatad ymlaen llaw, ond dywed- odd wrthynt y gallent oscd y lIawryf ar y bedd mewn tawelwch. Gwnaed hyny, ac wedyn cynhaliwyd cyfarfod tuallan i'r fvnwent ac ymunodd y rheithor a hwy gan arwain Hen wlad fy nhadau ar y diwedd.
MESUR YMREOLAETH I'R IWERDDON.
MESUR YMREOLAETH I'R IWERDDON. CYNYGION H EDDWCH Y rRIF W EIN I DOG. CYFADDAWD I ULSTER. Brydnawn Llun cyflwynodd Mr As- quith gynlhm y Llyvvodraeth gerbron Ty'r Cyffredin o harthed i safle Ulster ynglyn a Mesur Ymreolaeth i'r Iwerdd- on. Yr oedd y Ty yn orlawn, a gwr- andewid gyda'r astudrwydd mwyaf ar y Prif Weinidog yn cyflwyno'r cynllun gerbron, ac ar arwe:nwyr y gwahanol bleidiau yn eu sylwadau ar y cynygion. Y mae agweddau pwysicaf y cynllun g) flwynwyd fel a ganlyn Bydd unrhyw Sir o Ulster yn C, ;i chau allan o'r Mesur am gyfnod, t ceid fod mwyafrif bychan dros hy^ v.t ol cymeryd llais yr etholwyr fel ag y gwneir mewn etholiad Seneddol. Bydd- ai y cyfnod yn parhau am chwe' blyn- edd ar ot ymgynhulliad cyntafy Senedd Wyddelig. Ar derfyn y cyfnod o chwe' blynedd byddai y siroedd gauwyd allan yn dod o dan y Mesur os na phenderfynid yn wahanol gan y Senedd Ymerodrol. I Yn y cytamser byddai dau etholiad cyffrediool yn y Deyrnas Gyfunol, fel y gallai etholwyr Prydain Fawr a'r Iwer- ddon gael cyfle i ddadgan eu golyg- iadau. Beirniadwyd y cynygion gan Mr Bonar Law, yr hwn a sylwodd, os y byddai i'r Llywodraeth lynu wrth y cyfnod o chwe' blynedd, nas gwelai ef sut y gellid derbyn y cynllun. Os nad oedd yn iawn dwyn Ulster i mewn hedayw, ni byddai hyny'n iawn ymhen chwe' blynedd chwaith. Dywedodd Syr Edward Carson, pe bae i'r Llywodraeth wneud i ffwrdd a'r cyfnod o amser gynygid yn y cynllun, y teimlai'n ddyledswydd arno fynd i Ulster i ffurfio cynhadledd i ystyried y cynygion. Dywedodd Mr John Redmond fod yn rhaid i'r Toriaid gydnabod fod y cyn- ygion wedi mynd i'r terfyn eithaf, ac na dderbynid mo honynt ond fel pris heddwch. Os na dderbynid hwy yn gyfangwbl ni wnai y Cenedlaetholwyr ddim a'r un o honynt.
-0-Cyfarfod y Toriaid yn jMhwllheli.
-0- Cyfarfod y Toriaid yn Mhwllheli. Nos Wener diweddaf cynhaliwyd cyf- arfod pwysig gan y Toriaid yn Neuadd Drefol Pwllheli, o dan lywyddiueth Cyrnol Lloyd Evans, U. H., Broom Hall. Ni chai neb fynediad i'r Neuadd ond trwy docynau, ac yr oedd cynhuMiad lied gryno yn bresenol. Anerchwyd y cyfarfod gan Syr A. Griffith Boscawen, AS., Mr. David Rhys, yr ymgeisydd Toriaidd b'.vriad- | edig tros Ganolbarth Derby Mr. Austin Lloyd Jones, yr ymgeisydd Toriaidd bwriadedig tros Fwrdeisdrefi Arfon. Siaradodd Mr. Austin Jones ar y Ddeddf Yswiriant yn fwyai neillduol. Dadgysylltiad yr Eglwys a Mesur y T cli Annedd oedd testun araith Syr A, Griffith Boscawen, a chaed araith Gymraeg gan Mr. David Rhys ar Y mreolact h i'r Iwerddon. Cai yr oil o'r siam-wyr wrandawiad astud, a rhoddid iddynt gymeradwyaeth frwd o dro i dro. Cynygiwyd diolchgarwch i'r siarad- wyr a'r cadeirydd gan Mr. Claude Edwards, Nanhoron, ac eiliwyd ef gan Mr. Priestley, Criccieth. Yr oedd y trefniadau o dan ofal Mr. E. Watkins, Arfor, ysgrifenydd y Clwb Ceidwadol, a haedda y clod mwyat am y modd trefnus y cariodd y trefniadau allan.
Clwy y Traed va'r Genau yn…
Clwy y Traed v a'r Genau yn Nghymru. Yr wythnos ddiweddaf canfuwyd fod clwy y traed a'r genau ar fochyn i Mr Albert Wood, Bodlondeb, Conwy. Daeth swyddogion Bwrdd Amaethydd- iaeth yno a gorchymynwyd i'r anifail gael ei ladd ar unwaith. Yr oedd y mochyn yn meddiant Mr Wood er's misoedd, ac nis gellir dirnad sut y cafodd y clwy. Yn ffortunus nid oedd wedi bod mewn cysylltiad ag aniteiliaid eraill. Y mae rhybuddion wedi eu rhoi allan yno nad oes yr un anifail i gael ei symud o fewn cylch o bymtheg milltir, ac nad oes ffeiriau i'w cynal yn y lie.
-0-I Helynt gyda'r Bel Droed.
0 Helynt gyda'r Bel Droed. Bu digwyddiad cylfrous ar ol ym- rysonfa'r bel droed yn Rhostyllen ger Gwrecsam, nos Lun. Ymddengys fod chwareuwyr o Gwer- syllt wedi trecbu'r chwareuwyr lleol, a phan oeddynt yn mynd o'r cae aeth torf fawr o'r gwyddfodolion ar eu hoi drwy'r pentret gan eu bygwth. Honir i un dyn ieuanc dynu llawddryll o'i boced a'i danio. Daeth cwnstabl yno a chymerodd y llawddryll oddiarno, ac yr oedd amryw ergydion ynddo. Cym- erwyd y dyn ieuanc, Emlyn Roberts o Gwersyllt, i'r ddalfa, a dygir ef i sefyll ei brawf, ar y cyhuddiad o saethu at nifer o hersonau gyda'r bwriad o'u harcholli. -0--
[No title]
Cyihaeddodd Mrs Lloyd George a Miss Agnes Slack, yr rhai sydd ar daith trwy Ogledd Cymru i anerch cyfarfodydd ar ran Cyngrair Ryddfryd- ol y Merched, i Griccieth brydnawn Sadwrn o Fangor, ar ol bod yn cynaf cyfarfod yno. Cynhelir cyfarfodydd ganddynt yr wythnos hon yn Mhorth- madog, Conwy, a Phenmaen Mawr.