Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

- - - -ODDIAR Y MUR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ODDIAR Y MUR. Gwehvn fod eraill wedi hysbysu penderfyniad y pwyllgor fu yn ystyried A ddylid rhoi lie i Ffeithiau a Phrob- lemau Cymdeithasol yng nghwrs addysg ein Hefrydwyr ? Y cyfan wnaed oedd ei gyflwyno- i Bwyllgor Efrydiau y Sefydliadau Duwinyddol. Wedi ystyr- ied y mater ymhellach daw yn ol i Bwyllgor Cyffredinol y Sefydliadau. Pasiodd y Gynadledd ddiweddaf ymhlaid trefnu hyn fel rhan o'r addysg i'w chyf- ranu. Fel y nodasom, credwn yn gryf y dylid rhoi Ffeithiau Cymdeithasol ger bron,ein hefrydwyr. Bydd eu parotoad ar gyfer gwaith mawr eu bywyd yn anghyflawn heb hyn. Ceir y Ffeithiau wedi eu casglu a,'u trefnu gan wyr am- lileidiol, h.y. heb fod yn bledwyr arbenig dros unrhyw gymdeithas neu gynllun i feddyginiaetbau y sefyllfa. Y peth lleiaf ellid ei ddisgwyl fyddai parod- rwydd i oleuo a chyfarwyddo gweinidog- ion y dyfodol yng ngwir Sefyllfa ac amgylchiadau y bobl. Pregethwyr yr Efengyl ydynt i fod, meddi'r ie, ond a'i tybed fod yr Efengyl yn ddiystyr o gyflwr tymhorol y Bobl ? Onid trwy y corff y cyrhaeddai'r Iesu yr enaid ran amlaf yn nyddiau ei gnawd ? yn gyntaf yr an- ianol ac wedi hyny yr ysbrydol yw trefn pob gwir adgyfodiad. Fel y bydd Problem fawr, dyrys a phwysig Bywyd Cymdeithasol yn cael ei deall a'i meistroli goreu po fwyaf 6 hyfforddiant ellir roddi i'n Hefryd- wyr ynglyn a'r Broblem. Perthynas pethau a Bywyd sydd i benderfynu pobpeth maes o law a chadarnheir ni gredwn benderfyniad doeth (os byr- bwyll yn ol rhai) y Gynadledd ddi- weddaf. Beth sydd yn cyfansoddi Aelodaeth Eglwysig yn Eglwys y Wesleyaid? Beth eilir ac a ddylid ei wneud gyda golwg ar y rhai na fynant gyfarfod yn y rhestr ? Dyma ddau o gwestiynau mawr ein Heglwys heddyw. Er's pedair blynedd y mae'r materion hyn wedi cael sylw ac ystyriaeth pwyllgorau, Cyfar- fodydd Talaethol a Chynadleddau. Cyf- lwynwyd hwynt i Bwyllgor Aelodaeth Eglwysig gan y Gynadledd ddiweddaf. Y maent dan ystyriaeth ar hyn o bryd a dygir ffrwyth yr ymgynghoriad i'r gynadledd nesaf. Ar fater o'r fath ni ellir disgwyl unfrydedd bron. Credwn na ellir gosod cyfarfod yn y Restr yn amod aelodaeth. Rhaid wrth awdurdod uwch nac eiddo Wesley (pe ceid hono) i osod amod aelodaeth yn Eglwys Crist. Nid Cymdeithas yw Wesleyaeth ond Eglwys Gristionogol rhan o'r Eglwys Fawr Gyffredinol. Ar yr un pryd y mae Rhestr yn un o brif nodweddion ein Cyfundeb o'r cychwyn ac ni ddylid gwneud dim i'w amharu. Yn wir dylid gwneud popeth 'posibl i gryfhau y Rhestr. Nid oes ran o'r Eglwys Gristionogol yn gosod mwy o bwys ar Gymundeb y Saint, ac yn darparu er meithrin a diogelu y cymundeb hwn yn hafal i'r Cyfundeb Wesleyaidd. Tybed nad hyn ynghyda'r pwyslais roddir ar Gariad Duw at bob dyn, profiad achubol o ras Duw a pherffeithrwydd Cristion- ogol sy'n cyfrif mai hi yw yr eglwys ddefnyddiwyd helaethaf gan Dduw yn ystod y cant a haner blynyddoedd di- weddaf i ledaenu yr efengyl ac achub dynion ? Wrth gyffwrdd y ffurf, rhaid gofalu peidio amharu yr yspryd. Eto, y mae llu yn y Cyfundeb na fynant gyf- arfod yn y Rhestr-na chredent ynddo, ac a ymneillduant o'n Heglwys yn hyt- rach na chydsynio i ddod iddo. Ni am- heuir ei cymeriad. Ni fuasid yn meddwl am ei ddiarddel. Yn wir, ceir rhai o honynt ymysg ein gweithwyr ffyddlon- af a'n cefnogwyr mwyaf haelionus. Cyf- unodd y Pwyllgor mor bell a hyn; y rhaid ystyried achos y cyfryw a darparu os gellir i gyfarfod eu hachos. Er fod cefnogwyr mwyaf aiddgar y Rhestr yn bresenol, cytunwyd gwynebu y sefyllfa hon a cheisio ffordd allan o honi, tra ar yr un pryd yn diogelu y Rhestr-gyfarfod, ac yn gofalu fod Cymundeb y Saint mewn rhyw ffurf wirioneddol yn cael ei gydnabod yn ymarferol gan bawb geis- ient le yn ein mysg fel rhan o Eglwys yr Arglwydd lesu Grist. Cyferfydd Is- bwyllgor i ystyried y mater, ac i roi ffurf i'r mater i'w gyflwyno ymhellach i'r Pwyllgor. Yr oedd gan amryw eu meddwl a'u ffordd. Rhoddir sylw i'r cyfan gan yr Is-bwyllgor. Disgwylir fod y ffordd yn glir i ryw gyd-ddeall a chyd-weithrediad bellach ar y pwngc pwysig hwn. Y mae yr ohebiaeth yn y GWYLIEDYDD NEWYDD yn ddyddorol a buddiol iawn ni gredwn ar y mater. I GWR Y BOWYDD. I

TIPYN 0 BOPETH MEWN BYD AC…

Advertising

Advertising