Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADRODDIAD taraw- Genhadeth iadol a chalonogol Gorllewin ydoedd adroddiad Mynwy. Arolygwr y West Monmouth Mission, gerbron Comisiwn y De y dydd o'r blaen. Er nad yw y Genhadaeth hon wedi ei chychwyn ond er's chwe mis eisoes y mae gwaith mawr wedi i wneud. Er gwaethaf rhai anhawsderau lied fawr eir ymlaen. Helaethu terfynau hen achosion, cynllunio i agor lleoedd newydd, darparu ar gyfer Forward Move- ment eang dyna oedd yn adrodd- y Cenhadwr. Cafwyd [100 o rodd gan foneddiges wrth agor Capel Newydd y dydd o'r blaen y— £ 100 cyntaf roddwyd ganddi. Yn ymyl hyny cafwyd [5 gan y wraig oedd yn glanhau y capel- -gwraig dylawd oedd yn gorfod ymladd yn galed i enill ei thamaid. Dyma y rodd fwyaf ebai'r Cenhadwr a phob llyg- ad yn llyn wrth wrando arno. Rhoddodd Sir Ivor Guest ddarn o dir at adeiladu Capel Newydd i'r Genhadaeth. Pabydd yw, ond pab- ydd digyffelyb. Haedda fawr glod am ei haelioni a'i barodrwydd i hyrwyddo pob symudiad er dyrch- afu dynion. Bwriedir codi Trysor- fa o [20,000 er hyrwyddo y Mudiad Cenhadol yn y De dan arolygiaeth Pwyllgor y Genhadaeth Gartrefoll Gyffredinol a'r South Wales Com- mision. Rhwydd hynt i'r mudiad canmoladwy hwn i gyrhaedd ac achub y miloedd yn nghymoedd poblog y De. Ni raid aros yn hir i Yr wybod sut y try Argyfwng pethau. Dirif yw y Gwleidyddol. dyfaliadau. Gallwn ymddiried yn y Prif weinidoga'i Weinyddiaeth i wneyd y peth doethaf dan yr amgylch- iadau er sicrhau program Brwydr Fawr y Bobl. Rhaid llorio'r Ar- glwyddi; rhaid pasio'r Gyllideb. Pa un yn gyntaf ? A gerir hwy drwodd yn gyd-amserol ? Dywed- odd Mr Asquith na byddai iddo ef a'i Weinyddiaeth ymgymeryd a swydd heb sicrwydd y gwneid i ffwrdd a Veto yr Arglwyddi. Y mae wedi ymgymeryd a ffurfio Gweinyddiaeth. Onid yw hyn yn brawf ei fod wedi clerbyn sicrwydd digonol yn ei gyfrif ef ? Pa beth enilla Plaid Llafur a'r Blaid Wydd- elig trwy ddymchwel y Llywodr- aeth ? Dim, ond yn hytrach llawer i'w golli pe defnyddient eu gallu i ddwynhynyoddiamgvlch. Gwydd- ant hyn yn eithaf da. Nid oes ar neb eisieu etholiad cyffreclinol arall yn fuan. Y mae'r Weinyddiaeth wedi penderfynu ei chwrs. Ceir gweled yn Araeth y Brenin beth ydyw. Credwn y cydweithreda adranau Cynydd a Rhyddid i gyd symud er diogelu dymchweliad gormes a sicrhau y Gyllideb oreu gyflwynwyd erioed yn ffafr y Bobl. Mewn undeb a'u gilydd meddant nerth digonol i gychwyn cyfnod euraidd yn ein gwlad. Credwn y Uwydda Mr Asquith a Mr Lloyd George i arwain byddin unol a chref i fuddugoliaeth.

Gair at Ysgolion Sul yr Ail…

Advertising