Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Gair at Ysgolion Sul yr Ail…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gair at Ysgolion Sul yr Ail Balaeth. Mri. Gol.—A fyddwch garediced a chan- iatau ychydig o'ch gofod i alw sylw Arol- ygwyr, ac ysgrifenwyr yr ysgolion Sul at y pwysigrwydd o arfer y gofal mwyaf yn bosibl ynglyn a llenwi y tafleni blynyddol ? Yr oedd cyfrif y Dalaeth y llvnedd yn dangos lleihad lied bwysig yn y gwahanol adranau a chredwn fod cyfrif helaeth o'r lleihad hwnw i'w briodoli i ddiofalwch yr ysgrifenwyr ac eraill yn llenwi y tafleni. Profai ambell i daflen ei hangywirdeb ei .1 hun. Ofnaf fod y gwaith o gadw cyfrifon yr ysgol Sul, a llenwi y Schedules blynydd- ol, mewn llawer lie yn cael ei adael yn llaw rhai cwbl anghyfaddas a di-brofiad. Dylid arfer gofal yn newisiad ysgrifenwyr yr ysgolion—eu bod yn meddu medr dig- onol i gadw y Registers yn berffaith gywir, fel na fyddo anhawsder i wneyd i fynu gyfrif pen blwyddyn. Os yn werth cadw cyfrif o gwbl, dylid ei gadw yn eglur a chywir. Goddefer ini adgofio Ysgrifenwyr ac Ar- olygwyr yr Ysgolion fod y cyfrifon blyn- yddol i gael eu hystyried gyda manylder gan Gyfarfod Athrawon pob ysgol cyn eu hanfon i'r Ysgrifenydd Cylchdeithiol. Pe cedwid at y rheol hon, ac i r holl athrawon roddi yr ystyriaeth ddyladwy i'r cyfrifon, credwn y byddent yn llawer cywirach nag y maent wedi arfer a bod y blynyddau di- weddaf. Gair arall. Cofier fod amser Arholiad y Maes Llafur yn agoshau. Yn anffodus dy- wedir a'r glawr y Maes Llafur mai nos Wener, Mawrth 25ain, fydd adeg yr Arhol- iad, ond gan fod y dyddiad hwn yn disgyn ar y Groglith, rhaid fydd newid yr adeg. Anfonodd yr Ysgrifenydd Cyffredinol air i'ch colofnau i ddyweyd mai nos Fercher- Mawrth 23ain, y bydd yr Arholiad, ac nid nos Wener, Mawrth 25ain. Gwneler y cyf- newidiad hwn yn hysbys yn yr holl ysgol ion. Penderfyner chwyddo rhif yr vm- geiswyr eleni. Yr oedd ychydig o gynydd yn rhif yr ymgeiswyr yn yr Arholiad y llynedd, rhagor y flwvddyn cynt, ond nid oedd y rhif y llynedd. hyd yn nod, yn des- tyn ymffrost o gwbl. Oni ellid,, gy-Ia thipyn o ymdrech, gael llawer yn rhagor i sefyll yr Arholiadau ? Disgwylhvn gael gwybodaeth o'r holl Gylchcleithiau cyn y Cyfarfod Talaethol, o nifer yr ymgeiswyr yn yr holl o'r Dos- barthiadau, heb eithrio y Dosbarth L Cofied y rhai y perthyn iddynt y byddisyn disgwyl y wybodaeth hon. Yr Eiddoch yn bur, T. CHARLES ROBERTS, Llys My fyr, Llanrwst.

Advertising