Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

DYSGEIDIAETH FOESOL LLYFRAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYSGEIDIAETH FOESOL LLYFRAU YR APOCRYPHA. Cawsom flas mawr yn darllen y llyfr a ddyg y penawd uchod a chynghorem pawb i'w feddu. Buom er's tro yn disgwyl am dano. Gwyddem ei fod yn yr arfaeth, a chawsom weled peth o'i anelwig ddefnydd ef, a chododd hyny ein disgwyliadau yn bur uchel y byddai y llyfr pan y gorffenid ef yn arlwy fras a danteithiol; ac yn awr y mae fy nisgwyliadau, a dyweyd y lleiaf, wedi eu llenwi yn llawn. Mae'r llyfr heb os nac onibae yn llyfr gwir ddyddorol a gwir alluog. Yr awdwr ydyw Dr. Maldwyn Hughes, mab yr hyfedr a'r hoffusol Glanystwyth. Cynhwysa y gyfrol 340 o dudalenau, a gellir ei phwr- casu am burn' swllt. 0 ran ei diwyg allanol y mae yn attdyniad- ol ac ogystled a dim a ddaeth allan o'r swyddfa gyfundebol yn Llunden. Thesis ydyw y gwaith, a dder- byniwyd gan Brif Ysgol Llunden pan yr ymgeisiai Mr. Hughes, am y radd o Doethawr mewn Diwin- yddiaeth. Diolchwn i'r Dr. am ddewis pwnc mor newydd, pwnc nad oes bron dim wedi ei ysgrif- ennu arno, o leiaf yn Gymraeg a Saesoneg. Yr oedd hyn, bid siwr, yn gwneyd y gorchwyl a osododd y Dr. iddo ei hun yn un anhawdd eto, mae hyn wedi i'r llyfr gael ei orffen yn ei wneyd yn llawer mwy gwerthfawr, ac yn gymhorth i sicr- hau lie parhaus iddo yn llenydd- iaeth, moes, crefydd, a diwinydd- iaeth. Fel y dywed Dr. Hughes ei hun, cydrhwng yr olaf o lyfrau yr Hen Destament a'r cyntaf o lyf- rau y Testament Newydd, y mae agendor o tua dau cant o flynydd- oedd ac i ddeall tymher yr am- seroedd, ynghyda naws yspryd ysgrifenwyr y Testament Newydd, y traddodiadau a'r deheuadau ar ba rai y magwyd hwynt, a'r cyffel- yb, rhaid talu sylw i'r cyfnod hwn. Mae astudio oes Iesu Grist a'r Apostolion, ynghyd a'u gwaith, yn anibynol ar y cyfnod yma, fel pe yr astudiem hanes Prydain yn yr ug- einfed ganrif yn anibynol ar y ddeunawfed ar unfed ganrif-ar- bymtheg. Heblaw y cymhorth a gawn fel hyn o'r Apocrypha i ddeall yr helyntion, a'r ysbryd, ym mron neu yng arffed y rhai y meithrin- wyd Cristionogaeth, mae'r llyfrau eu hunain o ran euswy'n a'n teilyng dod llenyddol yn anghyffredin o ddyddorol. Tuedd y mwyafrif o Gristionogion cyffredin- -y rank and fize-ys dywedir, ydyw edrych ar yr Apocrypha oil fel ryw bentwr o ystraeon anghall a difudd— gwrachiaidd chwedlau, Cyffesaf fy mod fy hun i ryw fesur o dan y fath argraff. Beth bynag, mae llyfr Dr. Hughes wedi agor byd newydd i mi synnaf at geinder llenycldol llawer rhan o'r Apo- crypha synnaf at ei ddysg foesol uchel ef; ac yn fwy na'r cwbl rhyfeddaf debyced i'n rhai ni oedd llawer o'u problemau cymdeithas- ol hwy. Pan y seiryd am feistr a gwas, gwaith a chyflog, bywyd ac eiddo, cyfiawnder a thosturi o'r bron na thyngwn mae ynghanol miri a bywyd Prydain yn yr ugein fed ganrif yr iv, vf. Yn siwr mae yna ryw flasiad di vveddar od ar yr hen lyfrau hyn. Dyn yw dyn ar bum' cyfandir Dyn yw dyn o oes i oes Gorchwyl cyntaf Dr. Hughes ydyw dosranu,-gosod y llyfrau gyda'u gilydd yn ol eu cenedl, Rhamant, Athroniaeth Foesol, y Ffug Llyfrau a'r cyffelyb. Ymes- tyna yr ymchwiliad o dri chan' mlynedd o'r flwyddyn dau cant cyn Crist, hyd ddiwedd y can' mlwydd cyntaf ar ei ol ef. 0 saf- bwynt moesegol yr efryda Mr. Hughes yr hen lyfrau yma. Eglura eu dysgeidiaeth am ddyn, am gym- deithas, am dda, ac am ddrwg. Yn vr holl lyfr, un o'r adranau mwyaf dyddorol yw yr un, yn yr hon yr ymdrinia yr awdwr a Thes- tamentau y Deuddeg Patriarch. Mae'r llyfr hwnw o darddiad Phar- iseaidd, ac wedi ei ysgrifenu tua can'mlwydd ond odid, cyn geni Crist. Nid oes amheuaeth, ebai Dr. Hughes, fod Iesu ei hun yn gyf- arwydd iawn yn y llyfr hwn, a bod yn hawdd olrhain ei dclylanwad yn yr efengylau. Dyry Mr. Hughes gyfres darawgar o ddifyniadau, ddanghosant i ba fesur yr oedd yr Iesu wedi derbyn, ac wedi per- ffeithio a chodi yn uwch uwch y ddelfryd foesol oedd yn y llyfr. Dyvvedaf mai y gyfrol hon yw un o'r rhai mw3Taf dyddorol a ddar llenais er's cryn amser. Cadwyd fi oddiwrthi yn hir gan gymhelri a swn yr etholiad, ond ar ol gafael lynddl profodd yn drech na mi, ni allwn er ceisio, ei gosod heibio nes ei gorffen. Yr oedd gennyf feddwl uchel o Dr. Hughes o'r blaen, ond y mae genyf os oes modd, uwch meddwl o hono heddyw. Mae y gyfrol yn dangos dysg mawr, 3-mchwiliad dyfal, barn sicr, a chwaeth dda. G.

NODION LLENYDDOL. I

Advertising

DECHREU Y DIWYGIAD YN HOLBECK.