Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

HYNODION A HELYNTION I . ABERNODWYDD.

I COLOFN Y MERCHED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I COLOFN Y MERCHED. Y mae llwydcl (neu les) corphorol wrth wraidd pob llwydd moesol a chref- yddol. A ydym yn credu hyn ?— that physical well-being is at the root of all moral and religious well being ?' Yn y bennod olaf yn Efengyl loan cawn hanes ein Gwaredwr yn ymddangos i'w ddisgyblion y drydedd waith wedi iddo gyfodi o feirw. Y mae, a'i ddwylaw pur Ei Hun, wedi parotoi boreufwyd i'w rai anwyl newynog a blinderus; oeddynt wedi bod yn pysgota trwy gydol y nos. Yna, gwedi iddynt giniawa,' ac nid cynt, y mae yr Athraw Mawr yn llef- aru wrthynt. Onid yw Ef yn hyn fel yn mhob peth arall, wedi gadael ini es- iampl fel y dilynem ei 01 Ef ? Gan fod plant ein hysgolion elfenol yn derbyn maeth meddyliol yn rhad, ai onid oes gan y rhai bychain newyn- og yn eu plith hawl gyfartal i gael maeth corphorol yn rhad hefyd ? Da fyddai i bwyllgorau addysg ein gwlad ystyried y mater hwn yn ddifrifol. Mens sana in corpore sana. Bwyd Rhad a Maethlon. Tybiwn mai dyddorol ac addysgiadol ydyw cyfeirio yma at rai o'r pethau sydd yn erthygl Dr. Josiah Oldfield yn y Methodist Times," ar y penawd uchod y mis diweddaf. Y mae pob un sydd yn cael ei faethu yn dda a bwyd priodol, yn fwy tebyg o weithio yn dda, o belydru dedwyddwch o'i amgylch ac o fod yn ddylanwad nerthol dros y da a'r rhinweddol yn hytrach na phe bu- asai wedi d'od yn llesg, ancumic, a gi- eulyd (neurotic), trwy fod ei gorph wedi ei haner newynu ar un Haw neu ei or- lwytho (ei over stimulatio) ar y llaw arall. Gall y cyfoethog gael digon o amryw- iaeth bwyd trwy'r flwyddyn ond pan mae gwaith yn brin, yr hin yn oer, ac o ganlyniad mwy o arian yn gorfod cael eu gwario ar lo a dillad, y mae arian ami un i brynu bwyd yn ddigon prin. Archwaeth lach. Mewn pentrefi bychain, cyfagos i ffermydd, lie y ceir digon o laeth. cig moch, bara gwenith, a thatws a bresych o'r ardd, nid oes unrhyw anhawsder i bwrcasu lluniaeth dda. Mewn trefi a phentrefi mawrion, y mae hyn yn fwy caled oherwydd (l) Fod bwydydd nat- uriol a dilygriad yn fwy anhawdd eu pwrcasu, ac'yn (2). Am fod archwaeth naturiol at fwydydd syml wedi ei di- raddio trwy ddefnyddiad parhaus nwyddau annaturiol, uchel archwaethus y tinned foods. Angenrhaid yw, felly, i'r rhai sydd a'u bryd ar gynorthwyo eu cenedl, bregethu a dysgu yr efengyl o symlrwydd mewn ymborth, yn ogystal a meithriniad archwaeth naturiol. Canmoliaeth Uwd. Rhaid peidio gwangaloni gyda'r ateb- iad—' Nid wyf yn hoffi uwd,' mwy nag y peidir dal ati i hyrwyddo ymarferiad- au corphorol gyda'r atebiad, Nid -wyf yn hoff o gerdded. Y ewestiwn pwysig ydyw, nid beth y mae'r archwaeth ddiraddiol yn hoffi; ond beth y rhaid i'r bobl a'r plant syn- hwyrol ddysgu hoffi. Y bwyd mwyaf nerthol yn hinsawdd y wlad hon ydyw gwenith,—uwd gwen- ith (drwyddo), teisenau gwenith a bara gwenith. Dyma yn wir yw ffon cyn- haliaeth. Nid ydyw blawd gwyn yn faethlon, ac ni chynyrcha gyhyrau (muscles), ar gyfer diwrnod caled o waith, na halenau gieuol (nerve salts), ar gyfer treialon (worry) y dydd. nac ychwaith ddefnyddiau i ffurfio asgwrn mewn plant ar eu prifiant. Recipe.—Chwarto ddwfr berwedig, pwys o flawd drwyddo (wholemeal). Berwer yn araf, gan ei droi a llwy bren, am ugain munyd. I'w fwyta gyda llaeth, syrup neu siwgr brown. Teisenau Gwenith.—Dau bwys o wenith, chwarter pwys o lard neu ddripin, a digon o ddwfr neu laeth i'w gwneud yn does stiff. Rholiwch yn deisenau fflat a ffriwch ar y badell, neu craswch fel scones yn y ffwrn. Nid yw'r gost ond ceiniog, am bryd o fwyd cryf a digonol. Gellir defnyddio blawdiau eraill er mwyn amrywiaeth-Maize (cryf iawn) fel cynyrchydd gwres ac yn rhad. Blawd Ceirch.—(maethlon a rhad). Yn nesaf daw y proteids, ac nid oes guro ar gaws cartref, h.y. caws y wlad hon. Gellir ei fwyta yn blaen neu wedi ei rathellu i wahanol bethau megis rice &c. Y mae pip a bara yn fwy maethlon na bara a chig. Bwyd perffaith o'r bron. I O'r ffrwythau y mae rhesins yn fwyd gwerthfawr a bron yn berffaith. Wedi eu dodi i fwydo am ddeuddeng awr mewn dwfr, chwyddent a dyna i chwi rawnwin (grapes) ardderchog am 4c. y pwys. Gwnai y prophwydi yr Hen Destament waith an- hygoel o galed ar deisenau rhesins a theis- enau ffigys a dyrneidiau o rawn crasedig. Dylai y rhai hyn o!l fod yn rhan helaeth o fwyd pob dydd. Y mae pwdin suet gyda currants a rhesins, afalau neu rhyw ffrwyth arall yn hvfryd, yn faethlon, yn gynil a digonol. Da fyddai defnyddio olew cnau ac olew olewydden (olive oil) yn helaeth- ach yn ein coginiaeth. Y crochan potes.-O'r llysiau er mai tat- ws ydyw y favourites. Y mae moron coch- ion neu foron gwynion yn fwy maethlon ac y mae pip a phys melyn (lentils) yn hyn- od faethlon. Berwer dau chwart o ddwr, yna rhodder ychydig foron, celery, ac ychydig winwyn wedi eu naddu ynddo.yn ddiweddarach rho- dder ychydig ffa neu bys, dyrned o rice neu flawd haidd, crystyn o fara ac ychydig o doddion ynddo. Berwer yn dda ac yna fe fydd pryd da a maethlon o fwyd yn barod i ddyn wedi bod yn gweithio yn galed neu i blant newynog. Pe cedwid y crochan potes ar y pentan drwy'r dydd, talai yn dda am ei le, ac fe welid llai o wynebau llwydion, ac afiach. N id ydyw y clefnyclchau ychwaith allan o gyrhaedd gwraig y llafur- wr mwyaf cyffredin. Eithafbwynt araD.-Y mae Mr. Menager, yr hwn a dderbynia ddeng mil o bunnau yn flynyddol fel pencogydd y Brenin, yn treulio tua dwy awr bob dydd i drefnu ac i dynu allan y bwydres (menu) ar gyfer y diwrnod canlynol. Y mae rhai o'r seigiau wedi cymeryd misoedd i'w paratoi ac i'w perffeithio cyn ei gosod ar y bwydres.

YN Y TY.I

LLITH HEN WR CWMNIWLIOG.

Cymro o'r Wlad a'r Ymweliad…