Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
I Y BOBL IEUAINC. I
I Y BOBL IEUAINC. [Can y Parch. O. MADOC ROBERTS.] Gobeithio nad yw darllenwyr y golofn hon wedi heneiddio llawer er pan ysgrifenais o'r blaen. I am determined," ebai un gwron yn Wolverhampton yn 75 oed to die young." Eithaf peth fyddai i bawb °.honom benderfynu marw'n ieu- anc a byw yn hir. Damwain yn Perthyn i'r rhan ddaearol o honom yw birthdays. Nid oes dydd gen- ecligaeth na dydd marwolaeth ym Ivn wyddiadur Ysbryd. Gwendid rrlew, n gwr 1 euanc yw gwneyd ei hun yn hen, ond nerth hen wr yw aros Yn ieuanc. Mae ambell blentyn yn myn'd yn cldyn yn rhy fuan, ac anibell ddyn yn aros yn blentyn yn rhy hir. sj: h Er i mi oedi ysgrifenu i'r golofn ^Pn mae'n dda genyf weled fod er ,1,11 yn ysgrifenu yn rheolaidd— Pûbl werthfawr yw rhain. Wydd- och chwi beth bobl ieuainc, nid VW neb o honom mor bwysig ag y tybia. Meddyliwch mor raenus ac rddasol yrymddangosodd y Gwyl IedYdd hebof V er dechreu Ion- ^r- Mewn difrif olygwyr hoff pa ? ? y gallasoch lwyddo heb fy Swasanaeth i a fy ngholofn. Mae rnaf ofn yr a y byd yn ei flaen yn ?lon Yr un fath heb lawer ohon- Ganwyd fi yn y mis bach yma, 111. Ganwyd fi yn V mis bach yma, a braidd nad oeddwn yn tybio un- '?vaith fod Rhagluniaeth ar fai yn "WYn dyn mor fawr i'r byd a hyny V!l Y mis lleiaf o'r deuddeg. Fe'm ???wyd suIt bynag pan ddeallais fl)d Chas. Dickens, a Newman, ? ?shington a Salisbury, Lincoln a ??ry frying, a Edison wedi eu 'v"Y', i'r byd y? un mis, ond fy syn- fy d Pennaf yw, nid fy mod wedi ? 11 -i yn y mis bach, ond fod y fy y^iedydd yn ddarllenadwy heb fy ysg i au i-mor ehud yr aethum. 061 icuainc yr wyf wedi dysgu un We? i yn y byd hwn ar gyfer y byd  yr af ??' a dyma hi,-nad oes ? F ohonom yn ddigon pwysig i n,° rhawd y byd. Mynn rhai D()bl? d?ial ar achosion da trwy dvrm eu .9ffnogaeth oddiwrthynt. ill  digia ambell un wrth y bia °r '?? gweinidog a pheid- ^cvfro ond er ei svn? ?? ?einidog?eth, ond er ??b??? ????? pregethwr dwebuWlpUd fel o'r blaen. Fe gei- d"v ')"Nv ? P^dpud mewn bri tra bydd ei angen. Conermaiarwydd o ddiffyg dynoliaeth yw dial ar ach- osion a chyfryngau daionus os na chawn ni ein ffordd ein hunain. Mae oes dyn yn rhy fer i atal ei gefnogaeth oddiwrth sefydliadau dyngarol am enyd. Peth arall mae Duw tu ol i'r da fel mai ofer ynom ni yw ceisio atal ei lwydd. Ceisiais berswadio fy hunan fy mod yn rhy brysur i anfon gair i'r Gwyliedydd yr wythnosau diwedd- af yma. Erbyn sylwi dynion prysur sydd yn gwneyd leiaf, mae gan weithwyr mawr amser i gymeryd hamdden, y dyn ffwdanus sydd yn beio'r clock. Mae'n debyg yr add- efir fod gan Dduw fwy i'w wneyd na neb arall ond nid yw byth yn ymddangos ar frys. Gwelais ddyn yn cadw siop bach yn rhy brysur i ddod i r seiat, ond gwelaf fod gan Brif Weinidog y deyrnas amser i adloniant. Un rheswm paham y mae dynion bach yn brysur yw nad oes ganddynt method wrth weithio. Clywais hen gyfaill yn Sir Drefal- dwyn yn gwneyd sylw am weithiwr iddo: Pan fydd G-yn lladd gwair mae yn lladd mwy arno'i hun. Laddodd gwaith neb erioed, diffyg deheurwydd wrth ei gyflawni sydd yn dihoeni dynion. Mae ambell un yn dechreu llawer o bethau ond byth yn gorphen dim—dyna'r dyn- ion prysur sydd yn cadw eraill allan o waith. Bu un yn ein byd orffen- odd ei waith yn ieuanc, ac nid oedd diben iddo aros yma yn hwy. Cof- iwn mai un peth fedrwn ninnau wneyd yn iawn. Chwiliwn am hwnw a glynwn wrtho. Peidiwn cymeryd gormod o goflaid mewn unrhyw gylch. Gwn am ambell fachgen sydd wedi oeri yn ei sel hefo'r capel am nad yw'n cael dig- on o waith, ond gwyddom am er- aill ddifethwyd oblegid fod y swyddogion wedi ysigo eu cefnau trwy bentyru gormod o swyddau arnynt. Peidiwn cynnyg gormod, gwyliwn geisio rhy fach, digon wna'r tro. Hyd-y gwelaf mae pawb sydd yn hoffi gwai th yn cael digon o hono heb gael digon arno. Cyfar- fyddwn yn awr ac yn y man a dynion ieuainc gawsant ddigon ar eu gwaith. Hwyrach mai gwylio drws y Capel oedd eu gorchwyl ac mai tri mis oedd hyd eu gwasan- aeth ond rhoddant y gwaith i fyny wedi cael digon arno. Beth sydd wrth wraidcl hyn? Nid gwaith oeddynt yn eu geisio ond anrhyd- edd. Maent wedi tybio eu bod cystal a rhywun arall oedd yn dal swydd mwy cyfrifol yn eu bryd hwy neu eu rhieni. Gwyddom am rai oeddynt yn ormod o lanciau i wylio drws ty Dduw sydd heddyw yn curo wrth ddrysau ein tai i gar- dota bara. Nid oes dim yn rhy isel i ymostwng ato ond pechod. Pa- ham y rhaid creu gwahaniaethau mewn swyddogaethau eglwysig. Llanw ein cylch dyna ein dyled- swydd a'n braint. Yr ym oil yn aelodau o'r un corff Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na'r pen chwaith wrth y traed, nid rhaid i mi wrthych. Bydded ynoch y meddwl yma, meddwl fyddo'n ymhyfrydu mewn gwasanaeth ac hunan-aberth pa mor syml bynnag fyddo'r cylch y llafuriwn ynddo. Rhoddwn ein goreu yn ein gwaith ac yna cawn bleser wrth ei gyflawni.
Advertising
EISTEDDFOD GERDDOROL WESLEYAID CERRIGYDRU I DION, Lhw y Pasg, Mawrth 28, i-gic. Beirniad Cerddorol: TOM PRICE, Ysw., Merthyr. Cystadleuaeth Corau Meibion (heb fod dan 25 mewn nifer), a ddadgano oreu, Comrades Song of Hope, gwobr £ 7 7s., a Chwpan Arian i'r Arweinydd buddugol, gwerth £ 2 2s. Her-Unawd (Challenge Solo) Send me your Aid" (Irene by Charles Gounod), £ 2 2s. Rhestr o'r TestynaJllc. Ysgrifenyddion :—R. E. Jones, Hafod- unos; a W. Smith, Manchester House, Cerrig y Druidion, nr. Corwen. EVERY BOX OF ENGLAND'S GLORY MATCHES USED Means MORE WORK for British Workpeople. Moreland, Gloucester. Archebwch Esboniadau y Maes Llafur ar loan a Mathew a'r Gofynisdau yn ddiosd. MR. EDGAR JONES, A.S. jVlab i Weinidog y Bedyctdwyr yn Wallston, Hhondda Fach, yw Mr. Edgar Jones, yr Aelod Seneddol dros Ferthyr Tydvil. Athraw mewn Ysgol Ganol- raddol fu hyd y dechreuodd ar ei waith fel Darlithydd Rhyddfrydol dros Gymru ychydig amser yn ol. Y mae wedi graddio yn athraw yn y Celfyddydau yn Mhrif Ysgol Cymru. Mae'n yn ysgolor gwych, yn siaradwr hyawdl, yn Yin- neillduwr egwyddorol ac yn ddyn ieu- angc o argyhoeddiadau gwleidyddol cryfion. Proplrwydir fod iddo ddyfodol disglaer. Dilyna gewri enwog fel un o gynrychiolwyr rhanbarth Merthyr.
I LLYTHYR LLUNUAIN.
I LLYTHYR LLUNUAIN. I [Gan ein Gohebydd Arbenig], Feallai y bydd yn dda gan ambell un wy- bod sut y mae'r gwynt yn chwythu a'r gwlaw yn disgyn, a'r haul yn gwenu (pe gwnelai, a'r bobl yn meddwl ac yn gweith- redu yn y Brif-ddinas. Nid am y gallasem erioed, nac am y gallwn eto gredu fod Llundain mor bwysig i'r byd oddiallan ag y myn ambell un ei bod. Dywed rhai mai Llundain sydd yn rhoddi cyweirnod i fyw- yd y byd ac mai i'r graddau y daw y can- olbwynt hwn i'w le y daw yr holl fyd felly. Gan rai yn byw yma y dywedir hyny fel rheol. Meiddiwn dybio mai y llall ydyw y gwir, mae lie ydyw y Brif-ddinas i'w osod yn iawn gan y byd oddiallan. Pan ddaw'r ffrydiau yn lan ydynt yn llifo ymft wrth y miloedd fe ddaw llyn yn lan hefyd. Ond mater ydyw hwn sydd o'r tu allan i bwynt yr ychydig sylwadau y ceisiwn eu gwneyd. I Yr Aelodau dros Gymru. I Llawenydd oedd gweled amryw wedi siarad ar araeth y Brenin ac wedi gwneyd o'r goreu. Y fwyaf tarawiadol a hyny o lawer iawn oedd yr eiddo Mond, yr aelod dros Abeitawe. Mae pob gwrthwynebiad i hwnw gael eistedd fel aelod dros Aber- tawe wedi mynd, wedi darllen yr araeth feistrolgar hon. Cydiodd yn ei bwngc a chadwodd ato. Difyr oedd darllen araeth y Canghellydd, yn mha un yr heriai ei wrthwynebwyr i'w ateb. Ni wn^iethant. Dywedir y cuddiai Mr. Austen Chamber- lain ei wyneb a'i het. Yr oedd y defnydd goreu y gallai ei wneyd o'r dodrefnyn hwnw ar y pryd yn ddiddadl. Myn y pap- urau Toriaidd fod y. Canghellydcl o'i go. Nid yclym o gwbl yn tybio hyny. Yr oedd ei haeriadau yn ddi-droi-yn-ol. Hyd y 'gwelsom ni wnaeth sylw o F. E. Smith a gwnaeth yn rhagorol beidio. Mwyafrif o 31. I Rhaid boddloni ar drugareddau bychain. Mae mwyafrif o 200 neu 300 wedi ein drwg- ddysgu. Pan ddaw'r Gwyddel i fewn i'r rheng fe wellha. pethau i raddau mawr, ac nid ydym o gwbl yn anobeithiol am' dano. I Y Sefylifa. Rhy anhawdd ei deffinio. Ond meth- wn yn lan a chydymdeimlo a'r rhai ydynt yn gwangaloni a diffygio. Mae Plaid Llaf- ur yn ffyddlon, a'r Rhyddfrydwyr mwyaf penboeth wedi cael boddhad yn addewid- ion y Prif-weinidog. Diau y gwyr efe feddwl y brenin, er y dywed nad oes gan- ddo wystlon oddiwrtho am gynorthwy i gario allan ei ragien. Credwn pan ddat- guddir y penderfyniadau y ceir boddlon- rwydd yn mhob adran ohoni—yn Wyddel- od, Llafur a Rhyddfrydwyr. Nis gallwn ddychmygu am wr o fath Asquith yn dweyd hyd yn ord a ddywedodd, heb fod ganddo hyder o allu i gario allan farn i fuddugoliaeth.
I AR FY NHAITH. I
I AR FY NHAITH. I Nid anyddorol hollol hwyrach fydd hanes fy nhaith. Gadawodd fy nhren am Lundain i'r funud. Treuliais y ddwy .awr a haner cyntaf yn ysgrifenu ac nid oedd amser i sylwi ar neb na dim. Os bydd genyf rhywbeth i'w ddweud gallaf ysgrifenu yn rhwyddach ac yn well yn y tren nac yn odid unman. Pa gyfrif ellir ei roddi am hyn tybed. A yw hyn yn brofiacl i eraill ° ddarllenwyr y GWYLIEDYDD NEWYDD ys gwn i. Yr oedd tri o honom yn yr un compart- ment ac yn gwbl ddieithr i'n gilydd. Wedi i ni ddod i Junction ar y ffordd ac wrth chwilio ein tocynau, gofynodd y swyddog i'r hwn eisteddai gyferbyn a mi, nifer o gwestiynau ddangosai fod llygaid rhai o hyd ar y teithwyr. Onid cedd efe wedi teithio o'r cyfeiriad a'r cyfeiriad oni theithiodd yn y first class y rhan o'r ffordd -pa le yr oedd ei docyn am y rhan hono ? Gwir y cyfan ond ni wyddai pa le yr oedd y tocyn na beth wnaeth ag ef. Dyma fy enw a'm cyfeiriad meddai maent yn fy adnabod yn dda yn y fan a'r fan -ymhol- wch Hyny fÜ. Edrychai fel boneddwr. Yr oedd yr 'astrachan collar' ar ei gob uwchaf yn werth pris llawer tocyn. Ond parodd cwestiynau y Collector dipyn o an- esmwythid iddo, ac edrychai fel cymeriad amheus er gwaethaf y wisg am y gweddill o'r daith. A oedd yn euog o geisio twyllo y cwmni trwy deithio am ran o'r ffordd heb docyn nis gwn, and rywfodd tybiwn fod lliw cywilydd ar ei 'rudd pan yn ym- wahanu a'r derfyn y daith. Yn Crewe cofiodd y gwr eisteddai yn fy ymyl--gwr o safle a diwylliant fel y deall- ais yn y man—ei fod wedi anghofio address pwysig,—yn wir cyfeiriad y lie arbenig y cyrchai iddo yn Ealing. Beth i wneud er ei gael mewn pryd i'w gyfar- wyddo pan gyrhaeddai Lundain ? Cyng- horwyd ef i bellebru adref, a chyfeirio yr atteb i ofal Gorsaf-Feistr Euston--v caffai y pellebyr felly ar ei laniad yn y ddinas. Felly y gwnaeth ac yr oedd yr address yno o'i flaen. Ni chynghorwn neb i ang- hofio i ba le mae'n cyrchu—ond pe dig- wyddai y fath beth gall gofio hanes y modd y daeth fy nglwd-deithiwr o'i drybini fod yn help mawr mewn cyf- yngder. Buom yn hir heb siarad a'n gilydd er yn taro ein gilydd bron. Torwyd y rhew trwy i'r cyfaill anfonodd y telegram gynyg ei bapur i mi. Wedi hyny daethom yn llqd rwydd ein hymddiddan. Amser a gofod a ballai i mi adrodd ein hymddidd- anion ar y nifer mawr o fechgyn Cymru— yn enwedig o Sir Feirionydd raddiasent yn Rhydychen pan nad oedd y nesaf peth i ddim o fanteision addysg yng Nghymru, mwy o lawer na heddyw yn ol yr herwydd. Llyfr rhyfedd Arolygwr y Deep Sea Mission ar ororau Labrador—a'r cyfuniad godidog o'r gweithredoedd nerthol yn ■ gorphorol ac ysbrydol geir yn yr hanes. Cyfrol Lady Priestly—yn egluio a dadleu dros astudiaeth afiechydon gwledydd eraill—ac fel y mae astudiaeth o'r topical diseases,' yn neillduol wedi gweddnewid ac eangu efrydiaeth feddygol. Bywgraffiad dyddorol yr athrylithgar Arglwydd Kelvin. A chycIa llaw, wrth i ni adrodd peth o'r hanes hwn (nid oedd fy nghyd- deithiwr wedi gweld yr hanes) dywedodd iddo fod dan addysg y dyn mawr hwnw— ei fod yn ddyn syml fel plentyn, a chwbl ddirodres,—fel pob dyn gwir fawr onide ? Adwaenid ef gan ei Students wrth yr enw Willie! le, gallwch wenu, ond yr oedd edmygedd diderfyn a pharch dwfn ymhob gair o adgofion fy nghyd-deithwyr am ei hen Athraw. Cyffyrddasom fywyd mewnol--yr oedd Apologia Newman yn y portmanteau— teimlai fy nghyd-dethiwr ryw svvyn ryfedd- ol (fel llaweroedd) yn ei iaith, pe dim arall. Aeth hyn a ni i diriogaeth nad allaf draethu arno yn ddigonol i egluro ein hymddiddan -ac felly rhaid ei adael. Eglwyswr vd- oedd a minnau yn ymneillduwr. Onid oes modd ac oni ddylid ceisio unoli bywyd Cenedl y Cymru—dyma ein hymddiddan olaf. Yr oeddym yn nes i'n gilydd nag y gallesid tybio ar yr olwg gyntaf. Difyr a chredaf buddiol iini ein dau fu yr ymgom. Nis gwn eto pwy ydoedd. Nis-gwyr yntau pwy wyf finnau. Ehedodd yr amser yn gyflym a dyma ni yn Euston naw o'r gloch y nos. Yr oedd gwr y gob 'astrachan collar yn darllen ei novel ar hyd y ffordd •—ar olwg olaf gefais arno pan yn ein gad- ael oedd-" ci wedi tori ei gynffon Wedi cwblhau fy neges a chennyf rai or- iau cyn gorfod dychwelyd penderfynais geisio mynd i'r Ty. Ffwrdd a mi. Yn yr un Tube a mi ac yn fy ymyl yr oedd gwr mewn lifra a Bag yn ei law. Sylwais fod cadwen wrth y bag a'r gadwen hono yn nglwm wrth ddolen gref am ei arddwn. Yr oedd trysor gwerth fawr yn y bag hwnw yn ddios. Pe ceisiau un ei ladrata buasai raid iddo lusgo y gvvr talgryf ymaith ar yr un pryd. Awgyrmodd wers bwysig i mi ond gadawaf i chwi ei dyfalu. Beth sydd genych eisiau ggfynodd yr Heddgeidwad pan aethum trwy'r porth i'r Ty. Gweled Mr meddwn gan enwi yr aelod dros fy Sir. Ewch i mewn' meddai. AVedi aros eiliad neu ddau a chael tocyn i'r Oriel dyma fi yn y Ty, heb goll amser fel y gwelais cyn hyn. Yr oedd yr Oriel yn llawn a'r Ty yn lied llawn. Nid oedd ond un ar y Treasury Bench ar y pryd. Daeth Sir. S. T. Evans yno yn union wedi hyny. Pwnc y Brag oedd gerbron. Ceisiai y Toriaid—yn ffyddlon i'w pleid- wyr mwyaf selog—sicrhau dogn i'r Brag- wyiv Y peth cyntaf wnaethant, fel y syl- wodd un a'i gwrthwynebai, oedd ym- dreclw ad-dalu'r Bragwyr. Ymdrech cleg oedd hon o'i heiddo i ddwyn Diffyndoll- aeth i rym. Ond yr oedd pleidvryr Masnach Rydd yn rhy effro a chryf iddynt. Traddododd yr aelod dros Newcastle ar- aeth, falodd yn deilchion eu holl ddadleu- on. Daeth yr amser i ranu y Ty. Dydd- orol oedd gwylio yr aelodau a cheisio eu gwneud allan fel yr dent i'r dde a'r aswv. Gallwn envýi rhif-res adwaenwn y maent wedi dycl-i-,Aelyd-ac yn awr y mae'r ty yn llmvn--yTYGasury Bench yn llawn ar ei hyd. Dacw Asquith, ac o bobtu iddo, Lloyd George a Churchill (fel ydylaifod onide)—Birrell, Haldane, Burns, &c., &c., Cyhoeddwyd y bleldlais-o blaid 185 yn erbyn 230 A dyna fanllef o fuddugoliaeth Masnach Rydd a siom i Ddiffyndollwvr a Bragwyr ariangar. Ceisiodcfryw aelod godi pwynt o drefn ond rhoddodd y Llefarydd daw diatreg arno. Cyhoeddodd y Llefarydd nifer o drefniadau pwysig ar gyfer y dyddiau nesaf. Pasiwyd diolch i'r Brenin am ei araeth yn ddiwrthwynebiad. Drachefn ceisiodd yr un aelod godi y pwynt o drefn. Oh," meddai y Llefarydd, acyn swn Oh' sychlyd y Llefaiydd a chwerthin aflywod- raethus y Ty, gohiriwyd yr eisteddiad. Wedi pryd o fwyd ac ychydig orffwys, rhaid cychwyn yn ol. Ar fy ffordd i Euston, tra yn cerdded i lawr Gower St. gwelwn enw ynngoleuni'r lamp ar un o'r tai. Arosais eiliad i'w ddarllen. Enw Charles Darwin ydoecld-gyda'r flwyddyn y ganed ef ar ftwydclyn y bu farw, ac oddi- tanodd y geiriau hyn "yr hwn a fu fyw yn y ty hwn o 1839 hyd 18,42." Da oedd genyf fod llewyrch lamp i'w ddangos. Gwelais ei gerflun gwych yn nhref Am- wythig droion. Os na cheir llawer o ger- fluniau yng Nghymru tybed nad ellir cym- eryd y ddalen hon o lylr Llundain a gosod tablet i dclynodi cartrefi ac anedd-dai eu henwogion ? Ychydig fyddai'r draul. Dyma rywbeth o fewn cyrhaedd Cymru dylawd. Teithio'r nos yr wyf YI1 ol. Ar fy nhaith, fy hunan bach yr wyf, ac yn cadw yn effro wrth ysgrifenu hyn o hanes. Cyrhaeddais ben fy nhaith a'r gweith- wyr yn cychwyn i'w gorchwyl am y dydd a chaf anfon hwn cyn toriad y dydd, gan I obeithio na bycld yn gwbl annyddorol i ddarllenwyr v "Gwyliedydd Newvdd." R. I
IYN Y SENEDD.
IYN Y SENEDD. DYDD LLUN. Erbyn prydnawn heddyw yr oedd Tv'r Cyffredin wedi myned drwy'r gwaith ffurfiol o dyngu yr aelodau i mewn. Cafwyd peth difyrweh yn awr ac y man ynglyna'r ddefod. ond ar y cyfan, seremoni sych a blinderus ydyw. Y digwyddiad mwyaf tarawiadol ynglyn a'r busnes ydoedd ymweliad Mr Joseph Chamberlain a'r Ty. Nis gwelwyd ef yno er yr adeg y parlyswyd ef gan y ddyrnod drom a ddisgynodd arno, ac y mae gormod o le i ofni na welir ef byth yno drachefn yn gadarn a thalgryf megis cynt. Y tro hwn nis gallai ymlwybro heb gynorthwy, ac yr oedd rhaid i arall ysgrifenu ei enw. Prin yr adwaen- ai y Swyddogion, ac ni ddelai geiriau dealladwy o'i enau pan geisiai ateb llongyfarchiadau y Llefarydd. Heddyw y daeth y Brenin a'i Briod i Dy'r Arglwyddi i ddarllen yr Araeth Frenhinol a baratoisid iddo gan ei Gynghorwyr. Daeth miloedd ar filoedd o Lundeinwyr i'w gweled hwy a'r cream pomes yn croesi'r ffordd o Balas Bucking- ham i Westminster. Gwychder yn hytrach na brwdfrydedd oedd nodwedd arbenicaf v derbyniad yn Nhy'r Arglwyddi. Ychydig iawn o funudau agymeroddei Fawrhydi i ddarllen ei Araeth. Y mae yn ddarllenwr rhagorol. ac yn bwys- leisiwr da, ond yn ei arawd eleni nid oedd lie iddo ymddisgleirio. Clustfeiniai pawb i glywed beth oedd y bwriadau ynglyn a'r Gyll- ideb a Thy'r Arglwyddi; ond am- wysedd yw nod pob King's Speech, ac nid oedd hon yn un eithriad. Arrangements must be made at the earliest possible moment," i ddelio a'r safle arianol. a propos- als will be laid before you with all convenient speed i ddeffinio perth- ynasau y ddau Dy-a dyna y cyfan hyd nes y daw esboniad ac ymhel- aethiad y Prif Weinidog ar yr adnodau. Mewn ychydig amser yr oedd y Brenin a'r Frenhines ar eu ffordd yn ol i Buckingham, ac aeth y cyffredin wyr yn ol i St. Stephan. Y peth cyntaf yn Nhy y Bobl wedi i bawb gael lie oedd byrdraf- odaeth ar y Standing Order sy'n gwarafun arglwyddi gymeryd rhan mewn etholiadau. Rheol ffol hon, oblegid gallai'r Arglwyddi er ei gwaethaf wneud fel y mynnont, nid oedd modd eu galw i gyfrif. Y di wedd fu, ei gadael allan o'r Order, ac nid yw hyny nac yma nac acw. Ar gynygiad Mr. Asquith, ail ben- odwyd Mr. Alfred Emmott yn gad- eirydd, ac yna daeth 3NIr. llling- worth, o Swydd Efrog, a Mr. C. E. Price o Edinburgh i gynyg ac i eilio yr Anerchiad i'r Goron. Y cwbl sydd i'w dchvevc1 afCl gynygydd ac eilydd yr "humùle address" yw'r hyn a ddywedodd gweinidog sych-gras am ddau bregethwr a weinyddent yn nghyf. arfod blvnvdclol ei eglwys, iddynt wneud eu gwaith yn ddigon didramgwydd." Gwran- dawyd arnynt yn astud a diswn. a buont hwythau yn gall i fod yn fv". Mor fuan ag yr eisteddodd Mr. .1 c. L"D .i ..l: \lL.L. Price i lawr, cododd Mr. Balfour i osod llathen ei feirniadaeth ar gynnwys yr Araeth o'r Orsedd. Rhoddodd dderbyniad croesawus i'r datganiad fod angen am ragoro arian i'r Llynges, ac yr oedd yn barod i addef fod V wlad wedi rhoddi barn ffafriol ar y Gyllideb ac oblegid hynny y dylai, os ceid mwyafrif eto o'i phlaid yn Xhy'r Cyffredin, basio yn ddeddf; ond baich ei araeth oedd proft nas gall Ty'r Cyffredin fod byth mwy yn gynrychioliad o farn y wlad ar un- rhyw un pwnc, yn gymaint a bod pleidiau yn cael eu rhwymo gan syniadau ac amcanion mor wahan, ol. Addefodd fod mwyafrif dros y Gyllideb, ond ni buasai felly oni- bae i Redmond orchymyn i Wydd- elod Prydain bleidleisio dros Rydd- frydwyr am fod y Prif Weinidog yn yr Albert Hall wedi gosod Ym- reolaeth ar ei Raglen. Gyda'r gwelediad na fyn weled yn anymunol, methai a gweled fod yr ethohvyr wedi datgan barn di- amwys ar Veto yr Arglwyddi. Dyl- ai unrhyw gyfnewidiad yny Cyfan- soddiad—a siervd Mr. Balfour. bob amser am y Cyfansoddiad fel rhyw- beth gor-sanctaidd—gael ei drin gan rywbeth amgenach na chance majority. I'r Tori, chance lnajoyity ydyw pob mwyafrif SY'11 ei gadw ef allan o awdurdod. Toe wedi i Mr. Balfour eistedd cododd Mr. Asquith i'w ateb ef; chwalodd osodiad Mr. Balfour Parhad yn tudalen 8.
BYDDGWYL DEWI SANT.
BYDDGWYL DEWI SANT. Gan CYNFOR. Boed i law Gwladgarwch daro swynol dant Telyn anwyl Cymru, Ddyddgwyl Dewi' Sant; Boed i'r AA-ven ganu clodydd Gwlad y Gan— Llawn teleidion fyddo'i cherddi glwvsion glan: Parchwn iaith ein tadau, a siaradwn hi,— Dyna'r ffordd i'w chadw mewn anfarwol fri. Yspryd y gorffenol Ddyddgwyl Dewi Sant, Sydd yn ysprydoli Cymru, fryn a phant: Olywaf heddyw leisiau—lleisiau Cymru Fu- Dros feddrodau'r tadau yn cyhoeddi'n gry- t>vdded eich gwladgarwch yn bybyrwch byw Caru'ch gwlad yw'r nesaf peth at garu Duw." Difyr gwledda heddyw, Ddyddgwyl Dewi fad Cofiwn weithio fory dros ein hanwyl wlad (jymru bwrw ymaith feichiau gormes hir— Myn y fuddugoliaeth—o dy blaid mae'r gwir; Cadw dan Diwvgiad yn dy galon lan, Nld oes dim all ddifa drwg ond Dwyfol dan.
Dydd Gwyl Dewi. I
Parhad o tudalen 1. a'n pobl ieuanc mewn lleoedd gwledig, mewn unrhyw gangen o'n llenyddiaeth. A chant dal gan y llywodraeth am eu gwaith. Cant bob gNATirbodaeth am y modd o gario y gwaith yn miaen ond go- hebu a'r Swyddfa. A rhaid gwneyd hyny yn gyna'r yn y flwyddyn, Awst neu Medi. Dyma Ddydd yr Wyl wedi gwawrio, cydunwn i ganu ar Hen Alaw—' Pen Rhaw,' benillion campus Eifion Wyn :— Os wyt Gymro hoff o'th wlad, A hoff o'th dadau dewrion, Cadyv wyl er mwyn dy had— Ni waeth beth ddywed estron- Gwisg geninen yn dy gap, A gwisg hi yn dy galon. Os wyt Gymro hoff o'th iaith, A hoff o'i bardd a'i phroffwyd Heddyw trwv y iflfed waith, I'w chadw Íe ei casglwyd, Boed yn amlaf ar dy fin, Boed olaf ar dy aelwyd. Os wyt Gymro hoff o'th sant, A hoff o'r cysegredig Cadw wyl er mwyn dy blant I Ddewi, wyr curedig,— Cas yw'r gwr na char ei wlad, Boed dlotyn neu bendefig.