Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

I DEFOSIWH CREFYDDOL.j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I DEFOSIWH CREFYDDOL. N id oes neb ag svdd wedi talu ychydig o sylw i wasanaeth gref- yddol yr Enwadau Anghydffurfiol, na chydnabyddant nad ydynt mor berffaith ag y carem iddynt fod. Tra yn cydnabod fod ffurf ein -Liod o symi, a di- gwasanaeth yn hynod o syml, a di- rodres, ac ni gredwn ni (oblegid hyny) yn dod yn nes i'r cynllun ysgrythyrol, perthyn i ni gyfaddef o'r ochr arall fod ein gwasanaeth yn colli, ac yn ddiffygiol iawn mewn urddas a mawredd. Nid oes ond ychydig yn ein trefniadau ni ag sydd yn gynorthwyol i ar- graffu arnom y syniad o'r urddas a'r mawredd sydd yn perthyn i'r Efengyl. Tra mae ein gwasanaeth yn fwy syml na gwasanaeth Eglwysi Lloegr a Rhufain, y mae yn colli mewn urddas. Nid oes gyda ni fel Enwadau Ymneillduol y parch dy- ladwy i'r adeilad ei hun. Tra yn cydnabod fod yna ystyr yn bod ag y gellir dweyd fod un lie mor gys- egredig a'r Ilall mae ar yr ochr arall leoedd yn fwy sanctaidd na'u gilydd, am eu bod wedi eu cysegru a gweddiau y tadau, a bod Duw wedi ymddangos yno, ac yn lie preswylfa ei ogoniant. Fe ddylai fod genym rywfaint o barch i'n capeli, lie mae ein tadau wedi bod yn addoli am lawer oes, a llawer un wedi derbyn gweledigaethau ynddynt. Cyfyd yr amharchus- rwydd hwn a'r diffyg defosiwn yma yn ein capeli, o bosibi o'r adeilad ei hun tra mai adeiladaeth Eg- lwysi Rhufain a Lloegr, gyda'u ffenestri ystaen yn fantais i gyn- yrchu braw, urddas, a pharchedig- aeth, mae tai cyrddau yr Anghyd- ffurfwyr wedi bod yn foel, syml, a diaddurn, ac yn anfanteisiol i af. graffu arnom yr urddas sydd yn perthyn i Dy Dduw. Diolch am argoelion gwella i'r cyfeiriad hwn; mae rhai o'r capeli diweddaf yn fwy tebyg o apelio at y prydferth sydd mewn dyn, a gwyddom nad oes ond cam bychan oddiwrth y prydferth i'r Dwyfol. Fe gydnebydd y rhan fwyaf o honom, nad yr un yw ein teimlad- au pan yn myn'd i mewn i gapel, a phan y byddom yn myn'd i eg- lwys. Cyfyd dros ddyn ryw iasau o fraw a pharchedigaeth pan yn myn'd i mewn i un o eglwysi Lloegr, ond ni theimlwn yn debyg mewn capel. Boed hyn yn gyn- nyrch meddwl ofergoelus, neu beth a fyno, mae y ffaith yn aros mai felly y mae. Yn yr eglwys mae yno yspryd o ddefosiwn yn y lie, ag sydd yn ei gwneud yn hawdd i ni addoli, tra na cheir hyn yn y capeli. Peth arall eto sydd yn ein ham- ddifadu o yspryd defosiynol yw y duedd sydd ynom i ddefnyddio y capel i bob math o wasanaeth. Caniatteir yn ein capeli i ddarlith- oedd ysgafn gymeryd lie ynddynt, ac i eisteddfoclau, cyfarfodydd ad- loniadol, ac amrywiaethol, ac yn y dyddiau diweddaf hyn, i Soirees,' Tepartit, a Bazaars,' gael eu cynal ynddynt. Meddylier am eistedd- fod yn cael ei chynal mewn capel ar nos Saclwrn, pryd mae pob math o ddynion wedi casglu at eu gilydd i gystadlu, ac ar ol cynwrf, fel cyn- wrf Ephesus gynt; fpa fath yspryd all fod yno y Sabboth canlynol i addoli Duw sydd yn berffaith mewn sancteiddrwydd, ac yn ofnadwy mewn moliant ? Yn eglwysi Lloegr a Rhufain ni chaniatteir i ddim o'r pethau hyn gymeryd lie mae y lie yn cael. ei gadw yn gys- egredig, ac mae sancteiddrwydd y lie vn cael ei argraffu ar fynychwyr y lie. Cyfaddefwn fod amgylch- iadau mewn lleoedd gwledig, lie ni cheir neuadd gyfieus, yn ei gwneud hi yn anodd iawn i beidio defnyddio y capel i bob math o wasanaeth. Ar yr un pryd mae'r ffaith yn aros fod cynal y pethau hyn ynddynt, a thuedd ynddynt i ddinystrio yspryd defosiynol. Credwn eto, mai peth arall sydd yn cyfrif am yr amddifadrwydd o yspryd defosiynol yn ein gwasan- aeth, yw y ffaith ein bod ni fel Cymry yn ddiarhebol o hwyrfrydig yn dyfod i'r cyfarfodydd. Mae'r pregethwr yn ami ia wn wedi dechreu ei bregeth cyn i'r bobl i gyd ddyfod i mewn; nid oes genym fel cenedl y syniad lleiaf am bryd- londeb i foddion gras. Pan gerdda pobl i mewn ar y pryd y mae'r gwasanaeth yn mynd ymlaen, mae'nt yn dinystrio pob yspryd o ddefosi wn a all fod yn y lie?. Y dyn olaf ddylai fvnd i mewn i un- rhyw odfa ydyw y pregethwr ac fe ddylai yntau fod mewn pryd. Gwelir eto yr un peth, sef diffyg defosiwn yn nodweddu diwedd yr odfa. Os mai canu fyddant i ddi- weddu v cyfarfod, cerdda llawer allan ymhell cyn bod yr emyn wedi ei orffen. ac os, fel yn ein cyfundeb ni, mai gweddi fydd yn terfynu cyfarfod, braidd nad yw y gair amen o enau y pregethwr, cyn bydd ein pobl yn rhuthro allan, fel o chwareudv felly mae hi ar y Sab- oth, ac felly yn y cyfarfodydd wythnosol. Gallwn, fel Ymneill- duwyr gymeryd gwers yn hyn o beth oddiwrth y Pabyddion, a'r Eglwyswyr. Cydnabyddwn fod y cyrff hyn yn jhedeg i eithafion yn hyn, ac yn credu mai defosiwn yw crefydd, mae yn bosibi aros yn y fan hono ar yr un pryd. et nad def- osiwn yw crefydd, ac fod yn bosibl cael llawer o hono lie na bydd crefydd, yr ydym yn sicr, ble byn- ag y bydd gwir grefydd, fe fydd yno hefyd ddefosiwn crefydd. Fe fydd yno barch i'r addoldy, a pharchedigaeth yn nodweddu y gwasanaeth, mwy o sylw yn cael ei dalu i'r bregeth, i'r darlleniad a'r canu, a mwy yn uno yn y weddi, a llawer llai o siarad, a sisial, ac edrych o gwmpas. Mae yn bwysig i ni fel Anghydffurfwyr fagu a meithrin mwy o ysbryd defosiynol, a chario allan yn ein gwasanaeth yr hyn mae pawb yn ei edmygu yn Eglwys Loegr.

ALLOR Y WLADWRIAETH. ___I

Advertising