Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
LLANFAIRTRLHAEARN.
LLANFAIRTRLHAEARN. D.ARLITH.Nos Iau, Chwefror 24ain, bu y darlithydd poblogaidd, ilir W. O. Jones, Aber, yn traddodi darlith yn nghapel Methodistiaid Calfinaidd yn y lie uchod ar Ffyliaid a ffoledd.' Yr oedd y dalithydd yn ei hwyliau goreu, a chadwodd y gyn- ulleidfa barchus ddaeth ynghyd mewn hwyl ardderchog. Weithiau ceid y digrif nes yr oedd y gynulleidfa oil yn chwerthin yn iachus, ac waith arall difrifol nes oedd- ym oil yn teimlo rhyw sobrwydd neillduol, a thystiai pawb mai am heuthyn yw cael darlith gan Mr W. O. Jones.
PENMAENRHOS.I
PENMAENRHOS. Yn nghyfarfod Cymdeithas Lenyddol Undebol Disgwylfa (W.), Penmaenrhos, nos Wener, Chwefror 18fed, cafwyd papur gwerthfawr ar Beryglon ieuengctyd a moddion diogelwch," gan Mr Robert Davies, Raynes Terrace, ynghyd a dadl ar Pa un ddedwyddaf—bywyd y gweithiwr ai ynte bywyd y boneddwr ? Agorwyd o blaid dedwyddwch y gweithiwr gan Mr John T. Davies, Raynes Terrace, ac yn ffafr y boneddwr gan y Ilywydd. Rhodd- wyd y mater i bleidlais yn y dull arferol, a thystiodd y mwyafrif mai bywyd y bon- eddwr sydd ddedwyddaf. TREDEGAR. Y Sul cyn y diweddaf, bu y Parch Hugh Hughes yma yn cynal ein Gwyl Bregethu. Cafodd amser nodedig o dda. Daeth tyr- faoedd i'w wrando, a gwnaed casgliadau da tuag y Trust Funds. Noson Gwyl Dewi, perfformiwyd Rhys Lewis," yn y Neuadd Ddirwestol, gan barti lleol. Daeth nifer fawr o Gymry yn nghyd, a mwynhawyd y Ddrama, yn neill duol rhan Mari Lewis, a Thomas Bartley. Rhwydd hynt i'r cwmni newydd. Dyma ddeehreu ardderchog, TAFARNAU BACII.-Nos Lun diweddaf, cafwyd Magic Lantern Entertainment yn y lie uchod. Dangoswyd darluniau pryd- ferth o Ogledd a Chanolbarth Cymru. Yn ystod y cyfarfod cafwyd Adroddiad gan Miss H. E. Davies, a chan gan Mrs Proser. Cyfeiliwyd yn ddeheuig gan Mr. Richard Owen. Melus, moes mwy. DEWI. LLANEGRYN. Nos Wener, Chwefror 25, cyfarfyddodd Cymdeithas Ddiwilliadol, dan lywydd- iaeth ein Parchus Weinidog J. Smith, Towyn; pryd y cafwyd dadl "Pa un a'i mantais a'i anfantais." Mantais, J. Jones, Anfantais, J. R. Williams, siaradwyd gan Ll. Griffith, E R Jones, ynghyd ar llywydd, a phan rhoddwyd y mater i farn y cyfar- fod cafwyd fod mwyafrif o blaid Enwad- aeth. Da oedd genym ddeall am Iwyddiant Miss L. J. Williams, Glanywern, yn Nghyf- arfod Cystadleuol Abertrisiant yn dod allan yn fuddugol ar y Prif Adroddiad, a hyny oddiar hen Gystadleuwyr. Hefyd am lwyddiantein cantorion; Linwaith eto daeth G. Davies, Tynewydd a'i barti allan yn fuddugol ar yr Wythawd, yn Abertrisiant, a T. Humphreys, ar yr Unawd Tenor, a W. L. Jones ar y Baritone, a T. Davies a T. Humphreys ar y Ddeuawd, yn Nghyfarfod Cystadleuaeth Towyn, Dydd Gwyl Dewi. Wel done fechgyn am gadw i fyny enw da hen ardal Egryn. Da genym ddeall ein bod fel eglwys Wedi sicrhau gwasanaeth Mr H. Roberts, Llangoed, Sabboth olaf ynIEbrill, a gallwn jel eglwys fod yn dawel os byw ac iach bydd Mr Roberts, yn sicr o gyflawni ei addewid. EGRYN..
SOAR, CYLCHDAITH COEDPOETH.
SOAR, CYLCHDAITH COEDPOETH. Y CYMDEITHAS LENYDDOL.—Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaf o'r uchod nos Iau, ÇhWefror 24ain, o dan lywyddiaeth Mr. ^-dward Williams. Atolygwyd gwaith y tymor gan Mri. Thomas Whitley a Wil- llam EdVirards: IJefyd cafwycl Solos gan y Personau canlynol.— Misses Sally Williams, l G- :p.n^e Hopwood. Emily Goodwin, a Mr. F. G. Whitley. Cafwyd adroddiad campus é? Mr. Luther Williams. Cawsom gyf- drrod cia i derfynu tymhor  ??od da i derfynu tymhor llwyddianus G. E.
coSOAR, RHYL..
co SOAR, RHYL. SoCynhaliodd oob1 ieuaac Soar, 0c,al Tea tra ?wyddianus tuag at Drvs- ?rf3 ? ? ?oldy Newydd. Yr ys?rifenydd oedid"lT ames ??okes, Trysorydd, Mr. R. O. Ru??'-?. ?onoeddygyntafi'r bobl leu- ainc eu gweithio allan, a serch rhai anfan- teision trodd allan yn rhagorol. Yr oedd yr arlwy yn gampus, a gwnaeth y brodyr ieuanc a'r boneddigesau eu gwaith yn ber- ffaith. Ar ol y wledd cynhaliwyd cyng- herdd campus. Cadeirwyd gan Mr. Thomas Roberts, Burnswick. Yr oedd y cyngherdd a'r wledd y naill cvstal ar llall. UN O I-IONYNT. MAENTWROG. Nos Iau; Chwefror 24, talodd Miss Pritchard, Birmingham, ymweliad ar Maen i ffurfio cangen o Gymdeithas Ddirwestol y Merched. Cynhaliwyd y cyfarfod yn Gigal (A.), dan lywyddiaeth y Parch J. Maelor Hughes, (A.), Rhoddodd Miss Pritchard anerchiad campus, a chafwyd amryw ganeuon yn ystod y cyfarfod. Siaradwyd ymhellach gan y llywydd, a'r  ,I C ) ac amrvw er,-till. Parch Hugh Ellis, (M.C.) ac amryw eraill. Llywyddodd Miss Pritchard yn ei hym- drech i ffurfio Cymdeithas. Etholwyd Miss Richards, Cemlyn, yn Llywyddes Miss Roberts, Shop Isaf, yn Ysgrifenyddes Miss Jones, Glanddwryd, yn Drysoryddes. Nos Fawrth, Mawrth laf, cynhaliwyd y Gymdeithas yn addoldy y Wesleyaid. Daeth cynulliad da o chwiorydd ynghyd a chafwyd cyfarfod gwir dda. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Maentwrog Uchaf. Prysur i'w bobol y Maen y dyddiau hyn yn paratoi at Etholiad y Cynghor Sir. I UN o LANNAI'R DDWYRYD.
f KODION 0 HARLECH.
f KODION 0 HARLECH. I Gan BARDD CRWYDRAD. Y mae genym yn gyntaf oil i longyfarch Y GWYLIEDYDD NEWYDD i'n plith. Nid oes yma ond canmoliaeth ddigymysg iddo, yn ei ffurf, ei bapur, a'i gynwys. Credwn ei fod, ac y bydd yn anrhydedd ini fel enwad. Dyma fel y canodd un o feirdd y cylch am ei ymddangosiad cyntaf. Am hir oes boed mewn mawrhad Yn arweinydd i'r enwad, Yn ddidwyll newyddiadur; Wrth ein bodd, a'i iaith yn bur, I ni ar ben arlwy iach Heb ball a roddi bellach, Yna ei fawl, ai enw fydd Yn oludog WYLIEDYDD." Ar ol yr ystorm etholiadol, distawrwydd i raddau sydd yn teyrnasu yn y cwr yma o'r byd. Da genym ddweyd i ni fel Wes- leyaid ddangos pob ffyddlondeb i'r achos Rhyddfrydol. Darfu i bob un o honom sydd yn meddu pleidlais sefyll yn bur tros ein hegwyddorion. Cymerodd y Parch Daniel Williams, ac loan Glan Menai, eu lie yn amlwg yn y cyfarfodydd cy- hoeddus amryw weithiau. Nos Iau, Chwefror 18, cynhaliodd y gan- gen hon o'r Feibl Gymdeithas ei chyfarfod blynyddol. Y cynrychiolydd ydoedd, y Parch Wynn Evans, Machynlleth. Dechreu- wyd gan IoanGlan Menai,llywydd y pwyll- gor Darllenwyd Report gan yr Ysgrifenydd, a da oedd genym ddeall fod yma gynydd sylweddol wedi bod mewn cyfraniadau er y blynyddoedd o'r blaen. Prawf hyn fod yr eglwysi yn fyw i'r achos da yma. Caw- som anerchiad rhagorol gan y Cynrych- iolydd. Nos Fercher, Chwefror 23ain, yn Ysgoldy y Cyngor, traddododd y Parch Gwynfryn Jones ei ddarlith boblogaidd ar Ty yr Arglwyddi." Yr oedd Gwynfryn yn ei hwyliau goreu, a phawb am ei yru i'r Sen- edd rhag blaen i lorio Ty yr Arglwyddi. Yr oedd digon o dan yn ei anerchiad i yru y ty hwn yn fflam. Bu wrthi yn dyrnu arno mewn llawn hwyl am awr a haner, ofer ydyw ceisio manylu dim ar yr anerch- iad rhagorol. Myned ardaloedd eraill Gogledd a De ei chlywed. Cadeiriwyd yn ddeheuig fel arfer gan Dr. Jones, Harlech, boneddwr sydd bob amser yn y ffrynt gyd- a'r achos Rhyddfrydol. Yr oedd yr elw oddiwrth y ddarlith at ddi-ddyledu capel perthynol i'r Methodistiaid yn Llechwedd Ddu ger Harlech, credwn iddynt gael elw sylweddol. Wedi talu diolchgarwch i'r darlithydd, y cadeirydd &c, aeth pawb i'w fan wedi eu cwbl foddhau. Cyfarfod Dirwestol y Merched, cynhal- iwyd yr uchod yn nghapel y Weslevaid, nos Wener, y 25ain cyfisol, Miss Pritchard, Manchester, oedd yn cymeryd y brif ran yn y cyfarfod, ac y mae ei gallu i'r cyfeiriad yma yn adnabyddus yn mhlith dirwestwyr ein gwlad er's amser maith. Cafwyd cyf- arfod rhagorol yn ol tystiolaeth y rhai oeddynt bresenol. Rhoddwyd gwahodd- iad i blant y Bands of Hope i gyfarfod yn y capel am 6 o'r gloch, ac yr oedd llu mawr wedi ymgynull. Yr oedd Miss Pritchard yn ddoniol gyda hwy. Rhoes lawer o gynghorion buddiol iawn iddynt. Yr oedd y plant wrth eu bodd gyda hi. Boreu Sabboth, Chwefror 27, llanwyd ein pulpud gan y bardd swynol "Talfardd" Dyma y tro cyntaf erioed iddo ymweled a Harlech yn y cymeriad o bregethu. Gwyddem yn dda am dano fel bardd swynol, a naturiol. Ceir ei gynyrchion yn ami ar ddalenau Yr Eurgrawn," "Y Win- llan," a'r Gwyliedydd Newydd, a'r hen." Yr hyn a ellir ei ddweyd am dano fel bardd, ellir ei ddweyd am dano fel pregethwr. Brysiwch yma eto. Rhoes foddlonrwydd cyffredinol. CONWY. Y GOBEITHLU.—Ychydig cidycldiau yn ol, cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol i an- rhegu plant y Gobeithlu. Rhanwyd gwerth C5 o lyfrau. Llywyddwyd gan y Parchedig Phillip Price. Galwyd can- euon, adroddiadau a chystadleuaeth. Gweethiodd Mri. Robert Jones, Ted Evans, ac S. Pritchard yn gampus gyda'r plant ar hyd y tymor. A oes yn Eglwys Crist waith pwysicach na gofalu am y plant ? Fel y plygir y gangen y tyf y pren. LLANDUDNO. CYNGKOR Y SIR.— Cyn v deio y geiriau hyn tan lygad y darllenydd credwn y bydd y ddau Wesleavid selog, y cynghorwyr T. W. Griffith. Glyngarth, a W. O. Williams, MeitletonNook wedi eu clewis, i gynrychioli adranau o'r drea'r wladhonyn Nghyngor y Sir. Mae Mr T.W Griffiths,Y.H., yn hen law, ac nid oes ar Gynghor Sir Gaernarfon well aelod nag ef. Cymaint ydyw sel a gwaith Mr. Griffith, a chymaint ydyw parch pawb tuag ato, fel y disgwyliwn glywed toe, ei fod wedi ei ethol yn gadeirydd y Cynghor. Parth Mr. Williams, am a wvdclom, ni fu efe yn y Cynghor o'r blaen, ond os etholir ef bydd yn rhaid i'r Cynghor deimlo ei fod yn wr dewr, ac yn wr o farn. Gwelsom ei anerchiad at yr ethoiwyr, danghosai graff- ter neillduol, amaethyn ydyw ei gyfeiriad at raib enbyd y landloriaid yn bwyta i fyny diroedd y bobl. Caiff William George yn W. O. eilydd gwych. EISTEDDFOD.-Fel arfer ar Ddygwyl Dewi cynhaliodd yr Anibynwyr ei Heis- teddfod. Deallwn mae y Cynghorwr Pierce Jones, un o'r Wesleyaid gweithgar oedd Llywydd cyfarfod y Prydnawn. Clywsom iddo wneud Llywydd gwych iawn. PENMACHNO. CYMDEITHAS DDIRWESTOL.—Nos Iau di- weddaf, o dan lywyddiaeth Mrs T. J. James. Bryn Salem, cynaliodd y merched eu cyfarfod dirwestol, pryd y cafwyd an- erchiad campus gan Mr E. Davies-Jones, cyfreithiwr, ar Ddirwest.' Eglurodd Mr Davies y gwaith mawr a wneir gyda dir- west gan y chwiorydd drwy y deyrnas. Cafwyd adroddiad o'r Gynhadledd Ddir- westol yn Manchester. Cafwyd ton gan gor plant y Ruban Gwyn,' gan Miss Mary Lloyd Jones. Cafwyd cyfarfod rhagorol. CYMDEITI-IASAU LLENYDDOL.- Nos Wen- er, Chwefror 18fed, cynnaliwyd Cymdeith- as Lenyddol Salem o dan lywyddiaeth fed- rus John Richards, Graianfryn. Cafwyd anerchiad gan y Parch. W. Lloyd Davies (W.), Bod Owain, ar 'Frwydrau Anghyd- ffurfiaeth.' Yr oedd Mr Davies yn ei hwyl- iau goreu, a chawsom lawer iawn o oleuni ar yr hyn a wnaeth ein tadau a gymmaint ddioddefasant. Priodol iawn y gellid dyweyd EraiU a lafuriasant, a ninnau a aethom i mewn i,w llafur hwynt.' Byddai yn werth i bob Ymneillduwr yn y wlad gael clywed yr araeth benigamp hon. Nos Sadwrn, yn Bethania, o dan lywydd- iaeth y Parch. W. Lloyd Davies, Bod Owain, cafwyd anerchiad rhagorol ar Iechyd' Bychan yw byd heb iechyd, Er ei gael yn aur i gyd.' Traddodwyd yr anerchiad gan Mr. F. O. Jones, prif-athraw Ysgol y Cynghor. Eg- lurodd Mr. Jones yn fedrus iawn am yr hyn sydd yn achosi afiechydon, a rhoddai bwys mawr ar awyr iach, ac awyriad ystaf- elloedd. PENMAENMAWR. Ty YR ARGLWYDDI.-Nos Iau diweddaf, bu Gwynfryn Jones yma yn traddodi ei ddarlith ar Dy yr Arglwyddi. Llywydd- wyd gan Mr. Rowlands, gweinidog y Methodistiaid. Yr oedd yr elw i helpu brawd sal. Gwelsom yr Hen Spec yno, ac yn mwynhau ei hun yn gampus. Pe cawsai Gwynfryn a'r Hen Spec ryddid am bum' mynyd i wneyd a fynent,-—wel! dyn a helpo Ty yr Arglwdddi a'i holl bleidwyr o hilgerdd. LLANTYSILIO. CYMDEITHAS LENYDDOL UNDEBOL LLAN- TYSILIO.-Nos Lun, Chwefror Meg, cafwyd un o'r dadleuon goreu ar y testyn A ddy- lai y Chwiorydd gymeryd rhan yn Gy- hoeddus, yn Gymdeithasol, a Chrefyddol." Agorwyd yn gadarnhaol gan Mrs. Jones, Garreglwyd. Yn nacaol gan Mr. Ewart Davies. Siaradwyd gan Mr. D. B. Davies oochr y Chwiorydd a Miss Roberts, Ber- wyn View, a Mrs. Roberts, Cymo. Dy- wedodd Mrs. Roberts fod y Chwiorydd yn fwy llwyddianus na'r brodyr am hel at y Genhadaeth Dramor a phethau cyffelyb. Cododd Mr. Edward Evan Roberts yn sydyn ar ol y chwaer, a dywedodd fod y chwiorydd yn rhai da am hel arian, ond eu bod yr un mor gyflym am eu gwario. Siaradodd eraill, Mri. L. J. Williams, D. Roberts, a J. Davies, Afondale. Cawsom gyfarfod da iawn, ac ar y terfyn datganodd Mr. Robert Morris. Cyfarfod Chwefror 21. Dechreuwyd trwy weddi gan Michael Williams, Maen- goron. Cafwyd Helyntion yr Amserau gan Mr. Edward Evan Roberts, David Morris a Ewart Davies. Ymdriniodd yr olaf yn ddeheuig ar Araeth y Brenin. Yna aed yn mlaen at brif waith y cyfarfod, sef parhad o'r ddadl. Agorwyd yn Gadarn- haol gan Miss Edwards, Gyfelie, ac yn Nacaol gan Mr. W. Roberts. Cafwyd dadl hynod frwd a buddiol. Siaradodd amryw y noson hon eto, sef, Mri. David Davies, M. Williams, D. Morris, Tom. Ed wards, a chan y Cadeirydd, Mr. Johnie Roberts, Cymo. Aed ati i bleidleisio ac er ein syndod ni chafodd y Chwiorydd yn fwvafrif ond tri. o P. D. DOLGELLAU. PWNC Y TIR.—Nos Wener, bu y Parch. D. Gwynfryn Jones, Abermaw, yn areithio ar Bwnc y Tir yn ysgoldy y Wesleyaid i gynulleidfa luosog. 0 BEN CILSANWS. Cawsom berfformiad o Rhys Lewis ych- ydig yn ol gan y Cwmni enwog o Aber- dare, sydd yn dwyn yr enw, Cwmni Daniel Owen." Maent yn fedrus anghy- fredin hefyd; pobpeth "up to date," y golygfeudd yn ardderchog, ar cymeriadau yn gampus. Yn y Drill Hall Merthyr y cynhaliwyd ef am ddwy noson, serch fod yr amser yn ddrwg a chymaint allan o waith. Yr ydym wedi talu 1-20 on dyled, ac mae eto ychydig yn ngweddill. Teim- lwn yn ddyledus iawn i'r rhai fu wrthi ddydd a nos yn gwneyd y peth yn llwydd- iant at yr uchod cawsom ddau Entertain- ment i'r plant, trodd y cyntaf allan yn llwyddiant, agos [2 o elw, cawsom un drachefn yr wythnos ddiwedda, ar pro- gramme yn cael ei gyfansoddi o ddieithri- iad caredig, o Merthyr, Penyrheolgerrig, fel yn canlyn Mr T. Havard, Mrs Jones, Miss Rogers. Johnnie Lewis o Benvrheolgerrig, Mr T. Edward o Merthyr, Rosemery Edges, Elizabeth Morris. Cafwyd cyfarfod da dros ben, coronwyd y cyfan gan Mr W. Williams o Merthyr, yn tafiu ei lais. Can- wyd Hen Wlad fv Nhadau gan Mr. Wm. Morris ar y diwedd. STEPHANOS. BIRMINGHAM. Colled fawr i eglwys Colmore Row fydd ymadawiad y chwaer Miss Mitchell (o Bwlchgwyn). Bu yn selog a gweithgar dros ben gyda'r achos bach yn y lie. Byddai bob amser yn barod i wneyd ei rhan a medclai ar gymSvysderau neill- duol i fod yn ddefnyddiol. Dywedwyd geiriau canmoliaethus iawn am dani yn y Seiat nos Sul gan flaenoriaid yr eglwys. Bendithion gora'r Net foddo yn gwlawio ar lwybr y chwaer yn dymorol ae ysbrydol. R. CARNO. Y CYNGHOR SIPOL.-CN-il I-)vdCi y llin- ellau hyn ar ddalenau y GWYLIEDYDD bydd Etholiad Cynghor Sirol Maldwyn drosodd. Caiff Mr LIew. D. Humphreys ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Hyd 3T mae yn bosibl daw y Toriaid ac ymgeisydd i'r maes yn mhob etholaeth, ond methwyd a chael neb yn ddigon gwrol i sefyll brwydr yma, am y rheswm fe allai fod Llew ar )- ff ordd.' LLANWNOG.—Mr R. Jones, Pendinas, sydd wedi dal y Sedcl hen yn ddigwymp er creadigaeth y Cynghor Sirol, un mlynedd ar hugain yn ol, felly gweler ei fod wedi cyrhaedd i'w oed fel Cynghorwr. Gwneir ymdrech i'w ddi-orseddu bob tro, ondyn aflwvddianus. Y waith hon eto bydd raid iddo ddynoethi ei gledd. Y mae ef bellach wedi cynefino a brwydro, a bron nad yw Corn y Gad a thinciau arfau yn meddu ar fwy o swyn nag o ddychryn iddo. Pri- odol y gellir dwreyd,—" He has won such victories before, and so he shall again." Nid yw etholwyr Llanwnog yn myned i wrthod gwasanaeth yr aelod mwyaf defn- yddiol sydd yn eistedd ar y Cynghor, ac un sydd wedi eu gwasanaethu mor ffyddlon am gyfnod mor faith, neu y maent yn ffolach nag yr oeddwn yn arfer tybio eu bod, ac yn aniolchgar a drwg" gyda hyny. Y CYNGHOR DOSI;ARTH.—Am y ddwn sedd ary Cynghor hwn enwir wyth o ber- sonau. Fel y mae mwy yn ymgiprys am ffermydd bach nag am ffermydd mawr, felly hefyd gallwn dybied y mae hi ynglyn a swyddi mawr a bychan. Gyda ychydig o ddoethineb y mae yn anhawdd genym gredu na ellir setlo y cwestiwn yma heb apelio at Ceasar. M. M. SALEM, LLANDDULAS. CYFARFOD NADOLIG:- Y tro yma eto caf- wyd cyfarfodydd da, y cynulliadau yn llu- osog. DODREFN NEWYDD :—Serch ein bod yn addoli yn y capel ers pymtheg mlynedd, nid oedd y set fawr wedi ei dodrefnu yn briodol; gwnaed hyny eleni. Rhoddodd aelodau ieuanc yr ysgol sul I.lyfr Emynau newydd hefyd at wasanaeth y pwlpud. ORGAN NEWYDD.—Yr oedd yr organ yn hen; ac yn ddiweddar rhoddwyd penau ynghyd i geisio dyfalu pa gynllun iw gael er mwyn cael offeryn newydd a phender- fynwyd cymeryd llyfrau a myned allan i gasglu a llwyddodd hyn yn rhagorol, a bore dydd Nadolig diweddaf yr oedd Or- gan newydd hardd wedi'i rhoddi yn ei lie drwy ddiwydrwyddjy brawd ffyddlon Mr. Joseph Jones (joiner), arweinydd y gan yn y He, a chafwyd hwyl arbenig y bore hwnw o dan weinidogaeth y Parch. H. Hughes. PERFFORMIAD.—Dydd Iau, Chwef. 24 caf- wyd cyfarfod neillduol, sef perfformiad 0 (Rhoda the Gipsy Girl), gan gor St. Paul Abergele, o dan arweiniad Mr. William Jones yr hwn a roddai ei wasanaeth yn rhad. Cafwyd noson o foddion gras mewn gwirionedd, yn enwedig wrth wrando ar Miss Jones, Abergele, yn darllen yr adran- au, yr oedd yn effeithiol iawn. Dylasem ddwyweud fod Mrs. Davies, priod ein par- chus weinidog, wedi llywyddu yn ardder chog, cafwyd cyfarfod da, a disgwylir elw sylweddol oddiwrtho. R. J. PENCARNISOG. CYMDEITHAS LENYDDOL.—Cafwyd dadl frwdfrydig, y testyn oedd, Pa un a'i Rhan ai Dewisiad yw priodas ? Cadarnhaol, J. Ll. Jones Nacaol, W. O. Jones. Yr oedd y lie yn llawn, a dyddordeb mawr, a dadlu brwd bu rhaid ymranu, y rhai Priod o blaid Rhan, a mwyafrif y bobl ieuangc o blaid dewisiad. MARWOLAETII.—Collwyd o'n plith un ffyddlawn iawn, sef Edward Roberts, Tyn- yr-Ardd. Brawd tawel a dirwgnach yd- oedd. Aeth oganol helbulon i'r Wynfa nefol. Claddwyd ym Mryn Du, Glnvef- ror 14, tan y drefn newydd. NODION 0 GYLCHDAITH TREORCHY. NANTYMOEL.—Newyddion da sydd yn ein cyrhaedd o'r lie hwn. Rees Williams a'i gyfaill o Dreorchy fu yno y Sul diwedd- af, a chafwyd amser da. Yr oedd y tywydd yn fwy ffafriol a'r cynulliadau yn fwy llu- osog, a'r cyfeillion yn fwy calonog Y mae Mr. Moses Jones wedi addaw mynd yno y Sul nesaf. Yr oedd yn dda genym gael y newydd da fod yna fwriad i godi £ 20,000 ar gyfer anghenion gwahanol fanau. Gobeithio y caiff y jbwriad ei sylweddoli yn fuan. MAESTEG.—Y mae Maesteg mewn angen am gapel yn awr pe byddai modd ei gael, a dyna fydd angen nifer o leoedd eraill yn fuan iawn. Da genym ddweyd fod Mr. Hugh Hughes, Treherbert, a'i Gor yn barod i berfformio darn gorchestol yn fuan yn ei dref enedigol. Y mae Mr. Lewis Edwards, arweinydd y cunu yn Treorchy, yn parotoi darn arall i gael ei berfformio yn mis Ebrill.
TRE'RDDOL. I
TRE'RDDOL. Dydd Mercher, Chwefror 23ain, yn Soar, Tre'rddol, unwyd mewn glan briodas, Mr. Edward Jones, Cyfreithiwr, Blaenau Ffest- iniog a Phorthmadog, gyda Miss Edith Myfanwy Jones, merch hynaf y Parch, a Mrs. Edward Jones, Tre'rddol. Daeth nifer luosog o'r ardalwyr i fod yn llygaid-dystion o'r amgylchiad dyddorol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Rhys Jones, Aberdyfi, a chynorthwyid ef gan y Parchn. Llewelyn Morgan, Abervs-- twyth, a Robert Arthur Jones. Borth. Dr. Pierce Jones, Porthmadog (brawd y priodfab) oedd y gwas priodas, a'r Misses Morwena a Blodwen Jones (chwior- ydd y priodas-ferch) oedd y morwvnion. Wedi'r gwasanaeth yn y capel ymneilldu- wyd i Wesley Villa, lie yr oedd y boreu- bryd priodasol wedi ei ddarparu. Yn ychwanegol at y rhai a enwyd eisoes, yr oedd yn bresenol Mrs. Roberts, Gwynfryn, Ffestiniog (chwaer y priodfab), Miss Gwaldys Thomas, Porthmadog, Miss Ellis, I Borth, Miss Roberts, Tre'rddol, Mrs. Rich- ards, Penrhyn ynghyd a brodyr y briod- asferch ac amryw eraill na chawsom eu ¡ henv/au. Dymunwyd yn dda. i'r ddeu- rJ.dyn ieuanc gan y gweinidogion, ac ateb- wyd gan y gwr ieuanc ar ei ran ef a'i briod, a chan y Parch. Edward Jones ar ran y teulu i gyd. Cyn ymadael o Porth- madog, lie yr oedd yn athrawes yn Ysgol y Genethod, Chapel Street, cyflwynwyd i Mrs. Jones ar ran y plant a'r athrawon, inlaid mahogany .Bureau hardd, fel ar- wydd o'u parch tuag ati. Derhyniodd Mr. Edward Jones hefyd Silver Muffin Dish and Cover gan aelodau ei ddosbarth yn Ysgol Sul Porthmadog, lie y mae yn aelod gweithgar a ffyddlon er yr adeg yr ymad- awodd ei anwyl Fam ac yntau o'r Llan. Derbvniodd y par ieuanc amryw bellebrau yn dymuno yn dda iddynt ar eu huniad. ac yr oedd nifer yr anrhegion yn lluosog- a drudfawr. Wecli iddynt dreulio eu mi5 mel yn Llundain, bwriadant vmseh-dh1 yn y Blaenau, lie y mae Mr. Jones ynidyn a'i alwedigaeth fel c\Tfreithiwr mewn safle an- rhydeddus yn ffirm Mri. R. O. Jones & Davies. Dymumvn bob bendith i'r cklau ar eu huniad. Minnau i'r ddau ddymunaf Fyth yno wen heulwen haf; Bydded tiriondeb idclynt. A Duw yn nawdd, a hawdd hynt. R' Ar L. CEMMAES MON. Nos Wener diweddaf, vn y Village Hall. Cemmaes, cafwyd anerchiad hwyliog' gan y Parch J. E. Roberts, Tregele. ei destyn ydoedd, William' Ellis, Maentwrog." A chafodd pawb eu boddhau yn fawrwrtll ei wrandaw. Y llywydd ydoedd, y Parch W. Richards, Vicar, a chynygiwyd diolchgar- wch gan y Parch J. S. Evans. (A.), ac eil- iwyd gan y Parch \1,1. Richards. (B.), Noddfa. MEGAN GELr. GLYNCEIRIOG. Gair eto am y beirdd. Y mae cofgolofn wedi ei chvfodi er coffawdwriaeth am DUW Morus (Eos Ceiriog) o flaen ffermcly Pont- ymeibion ei gartref genedigol yma y treul- iodd ei oes. Hefyd y mae ei hen gadair farddonol ar gael mewn gardd yn agos i'r lie a nodwyd, er fod ei pherchenog wedi ei gladdu er's ugeiniau o flynyddoedd bell- ach, cyrcha llawer o ymwelwyr yno i'w gweled. 0 ymunodd Cynddelw cyn ei farwolaeth am gael ei gladdu yn Merv. vn rhoddodd fynegiad o hyny yn y ddwy un- ell ganlynol:— I Ferwyn yr af i huno, 0 Ferwyn y dof yn effro. Hefyd y mae symudiad ger bron yr y Dyffryn at godi cofgolofn er coffa.Avdv, r- iaeth am Ceiriog yn Llanarmon pum' milldir oddiyma, ac hefyd ddarllenfa yn y Glyn. Derbyniwyd rhoddion tuag attynt 0 barthau pellaf y ddaear, ac y mae hynny. yn profi fod ein cenedl am anrhydeddu ei henwogion. A diolch i'r bardd bregethwr a llywydd ein Cymanfa, sef Cadfan, am ei ymdrechion diflino gyda'r amcanion a nodwyd. Bu brawd i Ceiriog fanv yma yn ddiweddar yn 81 mlwydd oed. ROBERTUS. YSTUMTUEN. CYNGHORWR SIROL.—Cynhaliwyd Cyf. arfod Rhyddfrydwyr y plwyf nos Sadwrri, i wrandaw adroddiad yr hen Gynghorwr, Mr. W. Evans, Ponterwyd. Etholwyd y Vicar i'r gadair! Cafwyd adroddiad boddhaol iawn gan Mr. Evans. Darlien- odd v Parch Charles Edwards. y Cadeir- ydd, Gylch-lythyr yr Agent Rllyddfrydih yn galw'r cyfarfod. Emvyd tri i'r swydd. sef, W. Evans, Morgan Morgans, Llern- iaddau, Ponterwyd, ac Edward Jones. Pregethwr Cynorthwyol, Ystumtuen. Ar v Bleidlais gvntaf cafodd W. E. 8 M. M. 14; E. J, 20. 'Yr ail dro—M.M. 20 E. J. i2. Wedi hyny, etholwyd ein brawd ffyddlon Edward Jones, yn unfrydol, a chan na ddaeth neb allan yn ei erbyn gan y BIaid Doriaidd, efe fydd yr aelod am doir blynedd. Dymunwn iddo iechyd a nerth i wneyd ei waith yn deilwng o'i enwad. MARWOLAETHAU —Mrs. Dinah Edwards, yn 77 mlwydd oed. Chwaer anwyl ein lieu dad ffvddlon D. Powell, Llywernog a Mrs. Mary Morgans, New Inn, yn 78 oed merch yr hen flaenor anwyl Thomas Evans. Yr oedd y ddwy chwaer yn aelodau yn Pont- erwyd, ac yn ymddiried yn hollol sicr ar Graig yr Oesoedd. Ac eto, dyma'r newydd fod un o blant Pencastell wedi many, sef John Edwin Richards, yn ei gartref, Bron berllan, Borth. Diddaned 3T Arglwvd ei berllana, 'i blant, a'i frodyr a'i chwiorydd yn Horeb a Ponterwyd. Claddwyd y ddwy chwaer yn nghladdfa M.C. Cymervyd rhan yn yr angladdau gan y Parch E. f >. Thomas. Claddwyd Mr. Richards yn Llanfihangel-genau'r-glyn. dycld Iau. \IYNYPDV. \v BRON-Y-NANT, MOCHDRE. Yn ei blaen yn rhagorol yr a yr EgiwyS fechan hon. Dwy flynedcl yn o:, diddyled- wyd y capel o'r ddyled oedd ami ar 01 yr adgyweiriad. Eto ni orfiwysir ar y rhwj^f- au. Ceidw y cyfeillion eu golwg ar y dy- fodol, mae Bronynant a Mochdre yn prysur jfyndynuno suburbs Colwyn Bay. ac ni wyddus beth fydd y cynnydd ami toe ac felly credai yr yrnddiriedoh^yr y dylidcael lie i eangu y capel rvw adeg y daw galw. Dydd Llun wythnos i ddoe aeth y Parch. John Wesle37 Hughes, a Mr. David Barlow ar ran yr ymddiriedolwyr i arwerthiant tiroedd Ystad Glanywern, a phrynasant y Bwthvn a'r tir sydd ynglyn a'r Capel. Mae'r tir tua 500 o latheni ysgwar. Bydd hyn yn gaffaeliad mawr yn yr amser a ddaw. COLWYN BAY. Y GUILD.—Cafwyd cynulliad da vn y Guild, i wrando dwy anerchiad y naill ar Gymru Fu," gan Mr. W. O. Grimt1,. Rhos-on-Sea a'r llall ar "Gymru FHld, gan Mr. David Griffith, LaAvson Villa. Yn absenoldeb Mr. Wesley, llywyddwyd gan Mr. E. W. Roberts, Savannah. MYND I AWSTRALIA.—Nos Sul. W3"thnos yn ol, traddododd Mr. Isaac Evans, brawd y Parchedig Ishmael Evans, ei bregeth olaf cyn hwylio i Awstralia. Mae gwasanaeth Mr. Evans fel pregethwr wedi bod yn dra derbyniol a theimlir lie gwag ar ei ol. Bwriada Mrs. Evans ganlyn ei phriod i'r wlad bell cyn pen y deuddeg mis. Eidchm- ir iddynt bob llwydd, yn ysbrydol a thymhoroi. DYGWYL DEWI.—Dathlwyd coffawdwr- iaeth ein hen Sant Cenedlaethol yn Horel), Colwyn Bay, nos Fawrth. Mawrth laf. Rhoddwyd te campus gan Misses Basett a Williams. Daeth torf dda o genedlg" arwyr ynghyd i fwynhau y darpariadau. Heb- law yr arlwy gorfforol, cafwyd yn ogvstal arhvy ddanteitliiol i'r meddwl adrodciiad- au, areithiau. a chaneuon. Yr oedd y neuadd wedi ei haddurno ac arwyddeiriau. ac ag enwau ein gwroniaid, ein llenonon Parhad yn Tudalen 7.
Advertising
SPILLOW LANE, LERPWL. Cynhaliwyd ein Cylchwyl Flynyddol 10eg, 20fed, 21ain Chwefror. Pregethwyd nos Sadwrn, bore a nos Sul, gan y Parch D Gwynfryn Jones, a prydnawn Sul gan y Parch. John Roberts. IvI.A. (M.C.). Nos Lun, traddododd y Parch. D. Gwynfryn Jones ei ddarlith, ar y testyn, "Y Tir a'r BobI," i gynulleidia fawr. Y Cadeirydd ydoedd O. Tudor Jones, Ysw. Yr oedd y pregethu yn rhagorol o dda, a'r cynulliadau yn ganmoladwy, er fod yr hin yn eithriadol o anfanteisiol. Anodd fyddai dweyd gormod am deil- yngdod y ddarlith. ac awgrym gwerth ei ystyried ydoedd eiddo y Parch W. O. Evans, fod Gwynfryn yn cael ei ryddhau oddiwrth ofal Cylchdaith mewn trefn iddo allu mvned oddiamgylch i oleuo y werin ar bwnc y ddarlith hon a rhai cyffelyb Yr oedd y Cadeirydd mewn hwyl dda cyfunai y chwareus a'r doeth mewn modd sydd yn peri ei fod yn Gadeirydd di- guro. BAGILLT. Mr Joseph Edwards ydyw ymgeisydd dros Ward Ddwyreiniol Bagillt, yn erbyn yr aelod presenol, Mr Isaac Taylor, yn eth- oliad Cyngor Sirol sir Fflint, a chyhoedd- odd anerchiad farddonol at ei etholwyr, yr hon sydd yn achosi gryn ddyddordeb a mwynhad. Y maeMr Edwards yn dra adna- byddus fel bardd Cymreig ac eisteddfodol. Y mae yr hyn a ganlyn yr un pennill :— The highways and by ways within our boundaries, Have been grossly neglected, you know, in the past; If you'll grant me the favour of being your member, I fully assure you such state shall not last.