Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

LLANFAIRTRLHAEARN.

PENMAENRHOS.I

SOAR, CYLCHDAITH COEDPOETH.

coSOAR, RHYL..

f KODION 0 HARLECH.

TRE'RDDOL. I

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

SPILLOW LANE, LERPWL. Cynhaliwyd ein Cylchwyl Flynyddol 10eg, 20fed, 21ain Chwefror. Pregethwyd nos Sadwrn, bore a nos Sul, gan y Parch D Gwynfryn Jones, a prydnawn Sul gan y Parch. John Roberts. IvI.A. (M.C.). Nos Lun, traddododd y Parch. D. Gwynfryn Jones ei ddarlith, ar y testyn, "Y Tir a'r BobI," i gynulleidia fawr. Y Cadeirydd ydoedd O. Tudor Jones, Ysw. Yr oedd y pregethu yn rhagorol o dda, a'r cynulliadau yn ganmoladwy, er fod yr hin yn eithriadol o anfanteisiol. Anodd fyddai dweyd gormod am deil- yngdod y ddarlith. ac awgrym gwerth ei ystyried ydoedd eiddo y Parch W. O. Evans, fod Gwynfryn yn cael ei ryddhau oddiwrth ofal Cylchdaith mewn trefn iddo allu mvned oddiamgylch i oleuo y werin ar bwnc y ddarlith hon a rhai cyffelyb Yr oedd y Cadeirydd mewn hwyl dda cyfunai y chwareus a'r doeth mewn modd sydd yn peri ei fod yn Gadeirydd di- guro. BAGILLT. Mr Joseph Edwards ydyw ymgeisydd dros Ward Ddwyreiniol Bagillt, yn erbyn yr aelod presenol, Mr Isaac Taylor, yn eth- oliad Cyngor Sirol sir Fflint, a chyhoedd- odd anerchiad farddonol at ei etholwyr, yr hon sydd yn achosi gryn ddyddordeb a mwynhad. Y maeMr Edwards yn dra adna- byddus fel bardd Cymreig ac eisteddfodol. Y mae yr hyn a ganlyn yr un pennill :— The highways and by ways within our boundaries, Have been grossly neglected, you know, in the past; If you'll grant me the favour of being your member, I fully assure you such state shall not last.