Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

HYNODION A HELYNTION ABERNODWYDD.

I ,., LLITH r,O'R 11, AMERICA..

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I LLITH r O'R 11, AMERICA. rryanawn Liun, y ol o.ionawr, a mi yn nghanol yr America, haner y ffordd o Sinas, New York i Sanfrancisgo, wele y Postman, yr hwn fel pawb arall sydd yn dra charedigl wrthyf, yn dod a sypyn, fel y deallais ar ol ei agor, o'r Hen Wlad wedi tori'r amlen, gwelais mai dau rifyn o'r Gwyliedydd Newydd ydoedd. Yr oedd pob Gwylied- ydd a dderbyniais erioed yn newydd wrth ei dderbyn ond wedi ei ddanlen yn myn'd yn hen ond dyma Wyliedydd, er ei gadw nid aift yn hen, ac er ei ddarllen ddwy waith, fydd newydd o hyd. Cof genyf glywed am un fyddai yn cario ei shop ar ei gefn ar hyd y wlad, iddo un tro droi i dy cyhoeddus yn Nghorris, a chyn ymadael y lIe, idclo ddweyd wrth berchen y Ty, os oedd yn y Ty hen Alamanacks, y buasai yn rhoi swm da'am danynt. Gwelodd y pen- teulu ei fantais, a chasglocld nifer dda o honynt at eu gilydd, ond erbyn edrych nid Ii3?i mo honynt, ond Alamanacks newydd oedd yr oil; a diweddodd y cyfan mewn tipyn o ddigrifwch diniwed felly am y Gwyliedydd Wesleyaidd presenol, nid aiff hwn yn hen er ei gadw, a bydded felly, heb arwyddion henaint arno, tra y bydd angen am ei wasanaeth. Posibl fod y darllenwyr yn cofio imi dro yn ol anfon hanes fy nhaith o Pengygarn- edd i Utica, ac i'r hanes, fel y deallais, ddod allan yn y' 'Gwyliedydd,"ac na bu y "Gwyl- ieclydd" fyw yn hir wedi hyny gobeithio hefyd mai nid hyny fu achos ei farwolaeth. Adclewais, os wyf yn cofio yn iawn, os byddai yr ysgrif hono yn dderbyniol y bu- aswn yn anfon rhagor erbyn hyn y mae pethau wedi dod i bwynt, y Gwyliedydd wedi ail gychwyn, a minau yn meddwl t fod genyf lawer o bethau y byddai yn ddyddorol i Wesleyaid Cymru eu gwybod, ac os gallaf roi rhyw help i'r Gwyliedydd Newydd," pob peth yn dda. Nis gwn a fydd hanes fy nhaith o ddyddordeb ond i ychydig yn Nghymru ond y mae yn ddyddorol i mi daflu cipdrem drosti, gan mai hon yw daith fwyaf fy mywyd, ac nid oes ond un daith eto i fod yn fwy, ac y mae y daith hono erbyn hyn yn nes i mi na dydd fy ngenedigaeth. Wedi i mi aros pedwar diwrnod yn Utica—talu ymweliad ag amryw o hen Gymry anwyl oeddwn yn eu hadnabod gynt, a chael y croesaw mwy- af ganddynt— cael swpera gyda'r Parch. W. Caradog Jones, D.D., a'i briod, (hen weinidog Corris), ac yn ei gwmni cael golwg ar y capel hardd lie y mae yn gwasanaethu i 400 o aelodau, lie y mae Organ gostiodd [700, gafwhd yn rhodrl gan un o'r aelodau, gwr cyfoethog wrth -g\\TS, ac am y capel, y mae yn werth ynoOO Hefyd yn nghwmni y Parch E. Evans (W.) cefais olwg ar y Coke Memorial-cape] y Wesleyaid Cymreig sydd yn y ddinas, capel hardd eto: ac ar ol talu ymweliad a Swyddfa'r Drych," a chael fy adnabod yno fel tad William Owen, Cotter—un o ysgrifenwyr i'r "Drych," gadewais Utica am Chicago: cael y tren 9 p.m. nos Iau,a theith- io ar hyd y nos. Peth cyntaf a dynodd fy sylw yn y daith hon oedd ein bod wedi cyr- haedd i dref o'r enw Syracuse, (poblogaeth 117,503), fod y tren yn myn'd trwy ganol yr heol, a gall fod hyny rhwng 10 ac 11 o'r gloch, a dyna lie yr oed(I I la wer, os nad pawb, wrthi yn brysur yn trin y byd, shopau heb eu cau, ar trefwyr heb adael yr heolydd. Synais yn fawr y pryd hwnw fod y gerbydres yn cael caniatad i fyned trwy heolydd poblog y buasai diogelwch y trefwyr yn ddigon o reswm dros ei atal ond erbyn hyn nid yw i mi yn beth hynod o gwbl, gan ei fod yn beth cyffredin yn yr America, a minau wedi ei wel'd ddigon o weithiau. Lie nesaf o bwys ar ein faith oedd Buff- alo, tref fawr a'i thrigolion yn 376,587. Er fod ein llygaid yn tryrnhau, yr oedd yn raid cadw yn ddihun hyd nes cyrhaedd yno, oblegid yr oeddym i newid yno am linell arall-gadael y West Shore am Wabash; ond fel yr oedd y lwc symudwyd y cerbyd a'i deithwyr i'r flinell hono heb i neb ddis- gyn. Clywais i a chlywsoch chwithau lawer o son am y Niagra Falls,;ond pan yn Buffalo, yr oeddem o fewn deg neu ddeu- ddeg milldir, os wyf yn cofio yn iawn, i'r ffrwd fawr hono ac er agosed iddi ni chlyw- som dwrf ei dyfroedd, hwyrach fod y gwynt yn anffafriol i hyny. Bellach wedi gadael Buffalo, nid oedci dim ar ffordd i gael cyn- tyn, yr hyn a gafwyd a dyna i chwi olyg- fa, yr oedd yn y cerbyd o 40 i 50, a phawb yn cysgu ei hochr; y mae swn y tren yn ffafriol i hyny; ac erbyn i mi ddeffro gwel- wn fod yr haul wedi deffro o fy mlaen, a thaflu ei oleuni ar y wlad, a dyma y wlad gyntaf a welais wedi dod i'r America, oblegid mai teithio y nos yr oeddem a'r dydd yn aros yn y trefydd, a dyma oedd yn hynod mai gwlad Edward y 7fed oedd y wlad gyntaf a welais wedi dod i'r Amer- ica, oblegid vr oeddem ar v pryd vn teithio trwy ranbarth o Canada, .ac erbyn i mi rwbio fy llygaid i gael golwg glir ar y wlad, tybiwn fy mod ar gefnen uchel, a heb ei bod yn wlad dda odiaeth gwartheg brithion a heb eu bod yn fawr, a'r ceffylau felly, a gallwn feddwl nad yw y rhanbarth hwn yn ddim cynharach na Chymru, oblegid ar 30 o Orhpenaf yr oeddem yn teithio trwodd, a dyddiau y cynhauaf gwair a gwenith heb ddod; ac wrth sylwi gwelwn fod yma gynyrch yn y wlad hon nad oeddwn wedi gweld ei gyffelyb erioed o'r blaen, ac wedi ymgynghori ag un cyn galled a minnau daethom i'r penderfyniad mai corn ydoedd, a dyma y corn cyntaf yn tyfu a welais erioed, ond gwelais ddigon o hono wedi hyny. Ar ol hyn y lie cyntaf o bwys y daethom iddo oedd Detroit, tref fawr eto, a'i phobl- ogaeth yn 317,591 yma yroeddwn i groesi dros ran o lyn Hwron. Er gwneyd hyny gwthiwyd y gerbydres yn yr oil" o honi, yn ager beirniant a cherbydau teithwyr i" wel i beth ddywedaf ? nid i gweh, ac nid i long, yr enw Cymraeg arno ydyw Ysgraph, a chludwyd ni felly yn ddiogel ar wyneb y dyfroedd iT lan arall, a gosodwyd y gerbydres un- waith eto ar reiliau i wneyd ei ffordd am uiaicago, un o brir ddmasoedd y byd, a'r cwestiwn bellach oedd yn poeni fy medd- wl oedd sut i wynebu y ddinas fawr, y fwyaf yn y byd, hyny yw, a'r fwyaf o dir, yn 30 o filldiroedd o hyd, a 10 o led, a'i thrigolion yn 2,117,675, poblog- aeth New York yw 4,013,781, a phoblogaeth Llundain yw 6,580,616, gwelir felly fod poblogaeth Llundain yn fwy na phoblog- aeth New York a Chicago ynghyd, ond y mae'r Yankee yn-'dweyd, un garw am frulio yw ef, os bydd cynydd New York gymaint yn fwv na Llundain yn y dyfodol, fel y bu yn y gorphenol, na raid aros yn hir iawn na bydd New York yn brif ddinas y byd a Llundain yn ail. Beth bynag cyrhaeddas- om pen y daith yn ddiogel, wedi bod yn y Train am ugain o oriau, hwy nag y bum i yn y Train erioed o'r blaen, ac erbyn cyr- haedd yno, pwy welwn i wrth y Borth sydd yn arwain i'r Station ond Cadvan, fy fnab, yn disgwyl am danom. Yr oedd yn dda genyf ei weld, yn gyntaf, am nad oeddwn wedi.ei wel'd er's tair blynedd o'r blaen. ac yn ail, am y byddai ef bellach yn arweinydd difeth er ein dwyn i le diwall, yr hyn a fu. Yn awr gwelaf fod fy llith wedi myn'd yn faith fel na wiw i mi son am ryfeddodau y ddinas, gadawaf hyny hyd y tro nesaf. Nodyn terfynol. Wedi darllen o honof yr ail rifyn o'r Gwyliedydd Newydd," a gwel'd yn hwnw hanes Cyfarfod Chwar- terol Llanfvllin, a bod yr-Arolygwr wedi galw sylw y cyfarfod at farwolaeth Mrs. John Evans, Salem Mr Davies, Shop Bwlchycipau Mr William Jones, Llan- fyllin Parch J. D. Jones a Mr John Jones, Gegin, gwisgodd prudd-der dros fy medd- wl, meddwl fod tri o honynt, oeddwn yn gydnabyddus iawn a hwynt, wedi gadael yr anial am yr hyfryd wlad. Mrs Evans, priod John Evans, Salem nid wyf yn synu cymaint ati hi, ei bod wedi croesFr afon, oblegid yr oedd yn gwersvllu ar ei glanau er's amryw flynyddau. Derbynied y brawd fy nghydymdeimlad llwyraf ag ef yn ei brofedigaeth o golli un fu yn gywir iddo am fl-, ryddau lawer. Y Parch. John D. Jones.' Chwith genyf feddwl fod y brawd hwn wedi gadael y gwaith a hi eto vn ddydd. Cafodd y Dalaeth Ddeheuol gell- ed o bregethwr da yn marwolaeth y brawd J. D. Jcnes. Ac am y brawd John Jones, Gegin, un o ffyddloniaid eglwys Bryn- garnedd, nid wyf yn tybied y tram- gwyadau neb o'r frawdoliaeth wrthyf, am ddweyd, mai ef oedd y ffyddlonaf ac ys- tyried ei amgylchiadau. Yr Arglwydd, meddaf, a fyddo'n gymborth i'w briod a'i bedwar plentyn, ac a godo eto rhai i lanw lie y rhai sydd yn ein gadael, a dyblwn ein diwydrwydd er bod yn barod i fyned ar eu holau. Penygarnedd gynt. JOHN OWEN.

PORTHFR PRAIDD.

-__.- - - . YR EGLWYSI RHYDDION…