Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
CAERSWS. I
CAERSWS. I Dathlu Dydd Gwyl Dewi. I (Gan MEURIG MALDWYN). I Pan glywsom gyntaf y cynhelid Eistedd- fod Dalaethol Powys yn Caersws y Llun- gwyn nesaf, llonwyd ni yn ddirfawr wrth feddwl y gallai dyfodiad yr hen sefydliad i'r ardal hon fod yn foddion i ddeffro yr ys- bryd Cymreig sydd yn fwy na haner marw yma er's hir amser bellach. Llawenydd mawr i ni ydyw gallu hysbysu fod rhyw sail i obeithio mai felly y bydd. Hyd eleni ychydig o sylw a delid i goffadwr- iaeth Dewi Sant gan breswylwyr y rhan- barth yma o lanau yr Hafren. Yn wir prin y gwyddai y naill haner ohonynt pwy na beth oedd Dewi Sant. Diolch i bwyllgor Eisteddfod Powys am drefnu cyfarfod i ddathlu dydd gwyl Nawdd Sant Cenedlaethol y Cymry. A mi yn ymdeithydd yn Caersws y dyddiau hyn cefais yr anrhydedd a'r pleser o fod yn bresenol yn y cyfarfod. Ar ol cael ein gwala a'n gweddill o de a choffi gyda danteithion o amrywiol flas, cynhaliwyd cyfarfod difyr, adloniadol a buddiol dros ben dan arweiniad yr hyawdl Ap Gwydd- eri, neu yn fwy hysbys mewn rhai eylch- oedd wrth yr enw Dr. Rees. Ni raid iddo ef wrth lythyrau canmoliaeth, mwy nag y rhaid i ArthLir wrth ffyn baglau. Cafwyd anerchiadau byrion, pwrpasol, yn dwyn perthynas a phwnc y dydd, sef Dydd Gwyl Dewi gan amryw o wyr lleyg a lien, yn gymysg a chaneuon ac adroddiadau o nodwedd wladgarol. Yr oedd Telynor Mawddwy yn bresenol a r delyn deires, a chanwyd penillion gyda'r tanau yn ol dull yr hen Gymry gynt. Nod- weddid y cyfarfod drwyddo draw gan ysbryd gwir Gymreig, a hyny yn Caersws coner Gwlad sydd wedi enill iddi ei jiunan yn eitha cyfiawn o ran hyny yr enw wIad yn clifa ei phreswylwyr CymraeF" nd yr oesau dan sylw eithriad ydoedd clywed gair o Saesneg. Os ceidw yr ysbryd Wn yn fyw hyd y Llungwyn, bydd yma Ie -ynnes i groesawu Eisteddfod Powys. Priodol iawn y dywedwyd gan un wrth anerch y cyfarfod, Nid oedd ganddo chwi yn Caersws ddim busnesanghofio eich Cymraeg. Yma y treuliodd Ceiriog flynvddoedd olaf ei fywyd Fe dabarnac- lodd prif fardd telynegol ein cenedl yn eich plith chwi, ond welodd naw o bob deg ohonoch chwi mo'i ogoniant o, am nad oeddych yn gallu deall ei iaith! Cawsoch yr anrhydedd o letya angel o fardd yn ddiarwybod. Er iddo fyned i mewn ac allan yn eich plith am flynyddau y gwirionedd am dani hi welsoch chi er- ioecl mo Ceiriog. Gwelsoch y mae'n wir y Rhywun oedd yn byw yn y ty priddfeini sydd ar ochr y ffordd i Trefeglwys, ac yn myn'd a dod yn y tren bach oedd yn rhed- eg i'r Van Mines dyna i gyd. Ond wel- soch chi mo awdwr Myfanwy Fychan' a'r Bardd ganodd mor brydferth i Rosyn yr Haf Hyderwn y cynhelir lliaws o gyf- arfodydd o'r natur yma yn Caersws yn y dyfodol. Nis gwyddwn am well cynllun i 4 gocii yr lien iaith yn ei hoi!,—Iaith Gor- onwy Fawr o Fon a Chywydcl y Farn, Iaith Ellis Wyn o Lasynys a'r Bardd Cwsg, Iaith Morgan Lhvyd o Wynedd a Llyfr y Tri Aderyn, ac Iaith Daniel Owen a Rhys Lewis. Byddwn yn disgwyl gweled yn y dvfodoi agos fwy o lenyddiaeth Gymraeg ar fwrdd y ddarllenfa, ar llu ieuenctyd sydd yn crwydro yn ddiamcan ar hyd yr heolydd yn ystod nosweithiau y gauaf yn troi i mewn. Bod yr enaid heb wybodaeth nid yw dda,' Fy mrodyr yr wyf yn atolwg i chwi goddefwch air y cynghor."
NODIADAU CYFUNDEBOL.
NODIADAU CYFUNDEBOL. Pregethir pregeth flynyddol Cylchwyl y Genhadaeth Drain or Talaeth Man- chester, yn y Central Hall, gan y Parch Dr. Campbell Morgan, Ebrill 12fed. Gwelwn fod cyfarfod eglwysig Capel Mynydd Seion, Lerpwl, wedi ethot tair o chwiorydd. teilwng fel cynrychiolwyi; i'r Cyfarfod Blaenonaid. Yn marwolaeth y Parch. Surmaii Cooke, ymae'r Eglwys Wesleyaidd wedi colli un o'i gweinidogion parchusaf a defnyddiolaf. Carwyd ef yn gyffredinol. Rhoddodd pedair merch y Parch. H H. McCullah gyngherdd rhagorol yn Victoria Hall, Sheffield. Yr oedd un yn Soloist, a'r tair arall gyda'r berdoneg, y crwth a'r Picello. Yn Newcaistle-on-Tyne y cynhelir cyfarfod mawr blynyddol y Pregethwyr Cynorthwyol, pryd y disgwylir tua 940 o gynrychiolwyr i fod yn bresenol. Mae'r Arglwydd Faer yn bregethwr cynorthwyol. Gyda gofid y cofnodwn am farwolaeth y Parch. Robert Culley, un o'r brodyr ffyddlonaf a mwyaf caruaidd yn y wein- idogaeth. Efe ydoedd y Book Steward Seisnig. Y mae Golygydd Y Winllan i'w longyfarch am y modd y mae wedi ar- Iwyo y ford i'w ddarllenwyr. I'n tyb ni y mae'r misolyn yn gwella yn fisol. Hyderwn y parha felly. Llawen genym weled y newydd fod Mr J. J. Le Suenr un o Wesleyaid mwy- af adnabyddus y Channel Islands wedi ei appwyntio yn Vice-Consul dros Ynys Jersey. Gwelwn fod Esgob Bashford i gym- eryd lie y diweddar Esgob Goodsill fel cynrychiolydd yr Eglwys Fethodistaidd Esgobyddol i'r Gynhadledd a gynhelir yn Bradford. Allan o boblogaeth o 6,000,000 yn Canada, y mae 1,000,000 yn Fethodis- tiaid. Y mae pob nawfed person yn Australia yn perthyn i'r Wesleyaid. Darfu i'r Eglwys Fethodistaidd yn yr Unol Dalaethau godi fel ymgyrch Gan- mlwyddol 4,000,000p. Y swm mwyaf a godwyd erioed yn hanes yr Eglwys Gristionogol gan enwad unigol gydag un ymdrech. Carem ninau gyflwyno ein teyrnged uchel i ragoroldeb cynwysiad rhifyn Mawrth o'r hybarch EURGRA WN. Mae yn rhifyn cyfoethog o ran amrywiaeth a mater. Ceir ynddo ffrwyth meddwl nifer o brif lenorion yr enwad. Fel cy- hoeddiad misol enwadol gellir yn ddi- betrus ei restru fel prif fisolyn y dywys- ogaeth. Mae genym achos fel enwad fod yn falch o feddu cyhoeddiad o'i safle lenyddol ac iddo gyfroddwyr sydd yn cleilwng o gael eu henwau yn mhlith oreugwyr y Wasg Gymreig. Llongyf- archwn y Golygydd Cynorthwyol—y Parch. Thomas Hughes ar ei lwyddiant. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Pwyll- gor Cyfundebol ar y cwestiwn o Aelod- aeth Eglwysig yn y Centenary Hall, Llundain, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Llywydd ac Ysgrifenydd y Gyn- adledd yn bresenol. Mae'r dyddordeb a gymerir yn y cwestiwn i'w wel'd yn amlwg oddiwrth y ffaith nad oedd dim ond chwech allan o'r deg-a'r-hugain yd- oedd yn ffurfio y pwyllgor yn absenol. Yr oedd yn amlwg oddiwrth yr ymdra- fodaeth a gymerodd le fod y gweinidog- ion a'r lleygwyr wedi rhoddi yr ystyr- iaethoreu i'r pwnc, a chyflwynwyd nifer o gynlluniau gerbron y cyfarfod. Wedi ymddiddan ac ystyriaeth faith penderfynwyd apwyntio pwyllgor cryf i ystyried adroddiad y Gynhadledd yng nghyda'r awgrymiadau a fu gerbron y pwyllgor, ac i'r cyfryw barotoi cynllun. Yn y JOYFUL NEWS am yr wythnos ddiweddaf ymddangosedd ysgrif gan y Golygydd—y Parch. Samuel Chadwick yn dwyn y penawd Is Preaching Played Out? Diwedda ei ysgrif gyd- a'r geiriau canlynol:— Dywedir fod dydd pregethu trosodd. Rhaid crynhoi y lluoedd mewn ffyrdd eraill. Rhaglaw miwsig, chwareuon a'r cyffelyb, fyddent y pethau pennaf yn Eg- lwys Dduw. Ni allaf gredu y fath beth. Mae Duw wedi ordeinio pregethu. Gall ei fod ynghyfrif dynion yn ffolineb, ond nid yw Duw byth yn cyfeiliorni. Pregethu hyd heddyw ydyw prif arf Teyrnas Dduw. Yr Efengyl yn cael ei chyhoeddi, j'dyw Gallu Duw." Ac os syrthia yn fyr ar y pregethu y mae'r bai. Ni all Colegau wneycl dim. Mae rhai pregethwyr heb wybod sut i bregethu. Y mae'r gallu cyfi- redin i siarad yngholl ganddynt. Ni odd- efid hwynt yn yr un cylch arall. Mae pregethu yn gelf, a dylid disgyblu dynion i bregethu. Ond mae y pwnc yn un dyfnach. Daw y pregethu effeithiol nid o ddyn, ond o Dduw. Anhepgor y pregeth- wr ydyw yr Ysbryd Glan. O'r nef y daw y tafod tan, trwy ei ysbrydoliaeth Ef y daw goleuni, a nerth, ac argyhoeddiad ac edifeirwch. Pan y byddo y pwlpud ar I dan y llenwir y seti."
COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL.I
COLOFN Y PREGETHWYR I CYNORTHWYOL. I Gellir nodi ymhlith anhebgorion I pregethwyr llwyddianus y tri gras canlynol :—Naturioldeb yn y pul- pud, difrifoldeb ynddo ac allan o hono, a ffyddlondeb i gyhoeddiad- au. Hwyrach mai un o'r lleoedd anhawddaf i fod yn naturiol ynddo ydvw'r pulpud, gan mor hawdd ydyw i ddyn fod ynconscious o'i safle. ac yn neillduol os heb hen arfer gyda'r gwaith, i fethu gwybod yn iawn beth na sut i wneyd. Dylid ymdrechu ymdrech deg i siarad yn naturiol. Onibai ei fod yn mer- ,,TinQ c-lust y gynulleidfa. buasai gwrando af y gwahandeLll sydd yn lleisiau rhai pregethwyr oddi- allan ac yn y pwlpud yn destyn chwerthin. Ar hyd y ffordd i'r capel, bydd y pregethwr yn ymddi- ddan a chwi fel dyn, ond unwaith y dringa risiau'r pulpud, bydd y dyn yn siarad fel pregethwr. Hwyr- ach mai tenor yw ei lais pan yn canu, ond wrth bregethu rhaid ei ddwyn i gylch y basso profundo os yn bosibl. Pan yn ymddiddan ar yr aelwyd ni fuasai neb yn breu- ddwydio ei fod yn pregethu mor bell ag yr oedd y llais yn y ewes tiwn, ond y funud y caua ddrws y pulpud, dechreua ar y sing-song ryfeddaf, nes y cyll ei genadwri lawer o'i pherffeithiolrwydd. Cyhoeddodd Cynonfardd flyn- yddau yn ol lyfr bychan ar £ Ddar- llen a siarad sydd yn cynwys aw- grymiadau gwerthfawr am y modd i ddefnyddio'r llais i'r pwrpas gor- eu. Anhebgor siarad yn dda yw anadlu yn briodol llenwi'r ys- gyfeint yn rhwydd, a gofalu peidio gollwng allan fwy o anadl nag a ofyna'r gair neu'r frawddeg. Dy- wed Dr. Hutchinson mai un cam- gymeriad mawr mewn siaradwyr yw bloeddio er mwyn i'r llais gario i eithaf yr ystafell, a thrwy hyny achosi crygni ar y llais a difetha ei naturioldeb.. Pan gynyrchir y llais yn y modd priodol, nid yw un gwahaniaeth beth yw maint yr ad- eilad, teithia yn rhwydd i bellter mawr. Hwyrach mai un o beryglon mwyaf pregethwyr ieuainc yw siarad yn rhy gyflym, a thrwy hyny lithro dros eiriau a braw- ddegau heb roddi y pwys priodol arrfynt. Pe gellid cymeryd ham- dden i agor y genau yn iawn nes rhoddi y sain dyladwy i bob sill, ychwanegai lawer at werth yr hyn a draethid. Un o'r pethau hawddaf yw syrthio i arferion gwirion-ffol wrth siarad yn gyhoeddus, ac unwaith yr eir iddynt, nid yn hawdd y diddymir neb oddiwrthvnt. Un arferiad an- naturiol yw gostwng y llais ar ddiwedd pob brawddeg, hyd yn nod pan y gofyna synwyr y geiriau am godi y llais. Adwaenwn un pregethwr o enwad arall sydd yn euog iawn o'r pechod hwn, a phan yn rhoddi rhif yr emyn allan bydd yn disgyn o'r doh i'r soh ar derfyn y ffigyrau, nes creu awydd ynof i chwerthin allan wrth ei glywed. Pan fydd y brawd yn siarad ar yr aelwyd, sieryd mar naturiol ag un- dyn, ond ceidw yr oddity yma i'r gynulleidfa gyhoeddus. Carwn awgrymu i'r pregethwyr cynothwyol vvylio siaradvvyr cy- hoeddus eraill, y gweinidogion a'i gyd-bregethwyr; ac os y teimla fod rhywbeth yn eu lleisiau yn an- naturiol, i'w hysbysu o hyny yn garedig, a gwylio rhag y tram- gwydd ei hun. Byddaf yn arfer meddwl fod gan y pregethwr cyn- orthwyol fantais ar y gweinidog yn hyn, am ei fod yn cael gwrando yn ogystal a phregethu. Cyn terfynu, goddefwch i mi eto roddi pwys arbenig ar i bob un fod yn efe ei hun a neb arall. Peth di flas iawn yw clywed pregethwr enwog yn cael ei efelychu, rhyw ail-argraffiad ohono mewn rhwym- iad salw. Yn ddigwestiwn os yw'r pulpud i fod o ddylanwad yn yr ugeinfed ganrif, rhaid bwrw ymaith bob mursendod o hono, ac i bob un lefaru ei genadwri yn ol ei allu ei hun a thrwy ei ddawn naturiol ei hun.
MAES LLAFUR.
MAES LLAFUR. Actau xx. I—12. l-G. Paul yn ymweled ag eglwysi yr hen gylchdaith-Macedonia Groeg a Troas Iad. A'n cofleidio." C.D. "A'n cynghori." Yn y ffurf o gusan a chyngor y ffarweliodd Paul a'i blant ysprydol yn Ephesus. Ar- hosodd ychydig nes i dangnefedd gymeryd lie yr ystorm godwyd gan Demetrius, pryd y galwodd ynghyd ei ddisgyblion. Yna ymadawodd am Macedonia yn unol a'i fwriad nodir yn xix. 21, Gwelir oddiwrth 2 Cor. ii. 13, mai i Troas, gan ddisgwryl cyf- arfod Titus yr aeth gyntaf, ac oddi yno i Macedonia, o'r lie yr anfonodd ei ail Epis- tol at y Corinthiaid. 2. "Y parthau hyny." Yma yr oedd eg- lWYSI Philippi, Thessalonica a Berea, ym mhlith y rhai, ond odid y llafuriai Luc, ac yn ol tyb rhai yn y cyfnod hwn yr ysgrif- enoclc1 ei Efengyl. Ar y daith hon yr aeth Paul mor bell ag Illyricam, nodir yn Rhuf. xv. 19. Treuliodd dri mis yn ngwlad Groeg, Athen a Chorinth, canolbwynt dysg a masnach yn benaf. Yr oedd eisoes wedi anfon dau lythyr i Eglwys Corinth yn er- byn yr yspryd ymbleidio ffynai 'yno, a'u gwaith yn troi'r Sacrament yn wledd. 3. Gelynion i Paul ym mhlith eu gyfeill- ion, a chyfeillion ym mhlith ei elynion. "A gwnae, un O'r luddewon gynllwyn lçiçlQ," Moddion cyhoeddus; sicrhai gwas- naeth Gallio yn erbyn Paul wnaeth yr luddewon ar ei ymweliad cyntaf. Modd- ion dirgelaidd, cynllwyn i'w ladd ar y geir y tro hwn. Daeth rhai gelyniathus llongCorinth o hyd i drefniadau a chyfrin- achPaul ai eglwys. Pa fodd? Trwy rai oedd aelodau o Eglwys Corinth. Cristionogion a disgyblion i Paul ar dafod, ond gelynion a bradwyr yn y galon. Yr oedd Judas yn Eglwys Corinth Efe a arfaethodd" C.D. Penderfynodd." Daeth cynllwyn y gelyn- ion yn hysbys i rhywun oedd a'i galon yn gywir at Paul, a rhybuddiodd yr Apostol mewn pryd am hyny penderfynodd Paul ar fyrder, ddychwelyd trwy Macedonia yn lie dros y mor. 4. Cynrychiolwyr yr eglwysi yn gym- deithion Paul hyd Asia. 0 eglwys Berea, Sopator. 0 Thessalonica. Aristarcbus a Secundus. Y cyntaf oedd gydymaith i Paul ar ei fordaith i Rhufain (xxvii. 2.) cyfeirir ato yn (xix. 1? yn yr Epistolau ys- grifenwyd yn ystod carchariad Paul yn Rhufain, at Philemon (24) mae yn un o'r rhai sy'n anfon anerch. (Col. iv. 10.) geilw Paul efyn gyd-garcharor. 0 Derbe. Gaius Timotheus. Perthynai Timotheus yn deb- yg i Lystra, yr oedd y ddau fe ddichon yn gyfeillion er yn fore, ac wedi eu dychwelvd at Gristionogaeth yr un adeg. 0 dalaeth Asia eglwys Ephesus, Tichicus a Trophimus Yn Eph. vi. 21. Sonir am Tichicus fel brawd anwyl a gweinidog ffyddlon ag yr oedd Paul ar fedr ei yru i Ephesus. Yn Col. iv. 7. Paul a ysgrifena fy holl helynt i a fynega Tichicus i chwi." Yr oedd ef felly gyda Paul yn ystod ei garchariad cyn- taf yn Rhufain, hefyd ei ail garchariad. Sonir am Trophimus yn (2 Tim. iv. 20) fel un oedd lawer yn nghymcleithas Paul. Cy- merai Paul gydag ef gasgliad Eglwysi Macedonia i'r Saint tlodion yn Jerusalem, ac ar gais yr Apostol anfonodd yr eglwysi y cynrychiolwyr uchod gyd ag ef. 5-6. Luc, cofnodydd 3T hanes, yn ail uno a Paul yn ei deithiau. Am danom." Mae Luc yr hanesydd ei hun yn dyfod i mewn i'r hanes yn awr. Oherwvdd hyny ysgri- fena yn y person cyntaf ac nid yn y tryd- ydd person fel y rhanau diweddaf. Cym- deithion Paul oedd wedi eu rhagflaenu dros y mor i Troas. Yr Apostol a drodd i Philippi i alw am Luc. Ar ol dyddiau y bara croyw," Saith diwrnod y Pasg, yn y rhai y bwytaent fara croyw. Treuliodd Paul y Pasg yn Philippi gyda'i gydgenedl. 7-8. Sabboth yn Troas. '? ?? gyd gei-iedl. taf o'r wythnos." Dydd yr Arglwydd, y Sabboth Cristionogol, ar yr hwn y coffeir am adgyfodiad Crist ym mhlith yr holl Cristionogion, ac a gymerodd le y Sabboth Iuddewig. Ceir yma drem ar y modd y cedwid y Sabboth gan y Cristionogion cyntefig. Terfynai y Sabboth Iuddewig am chwech yr hwyr. Yn bellach ym mlaen ar y nos, gwelwn Gristionogion Troas yn ymgasglu at eu gilydd i Oruwch-ystafell- lie cyfleus, wedi ei goleuo gan lampau lawer ac wedi ei gorlenwi y noson yma, 'roedd y newydd am ddyfodiad Paul wedi eu tynu. Er agor y ffenestri dellt, oher- wydd y dorf, a gwres y lampau, aeth y lie yn fuan yn boeth a mwll. Gwneid y gwas- anaeth i fyny mewn canu a gweddio, pre- gethu, gweinyddu y cymun sanctaidd, ac yn ddiweddaf, yr Agape-cariad-wledd, pryd o fwyd yr arferai y Cristionogion boreuol gyfranogi o hono gyda'u gilydd ar ol y cymun. Pregethai ac eglurai Paul athrawiaethau dyfnion y grefydd newydd, a'r bobl yn gofyn cwestiynau, cododd y brwdfrydedd nes anghofiwyd yr amser. Parhaodd felly hyd hanes nos. 9—11. Damwain a gwyrth. "Mewn ffenestr." Agoriacl yn y mur i ollwng awyr a goleuni i mewn, nid oedd gwydr mewn arferiad y pryd hwn. Bachgen ieuanc o'r enw Eutychus, ddringodd, ac eisteddai yn yr agoriad, lie cai yfed o'r awyr, a chyf-. ranogi o'r addoliad oherwydd yr awr yn hwyr, y gwasanaeth yn hir, a'r awyr yn drymaidd, goddiweddwyd a gorchfygwyd ei natur ieuanc gan gwsg, ac er dychryn i bawb, syrthiodd yn ngwisg ei gefn, trwy'r agoriad, o'r drydedd loft i'r cyntedd islaw. Trwy ddamwain gyffelyb y cyfarfyddcdd Ahaziah y Brenin a'i ddiwedd, 2 Bren. i. 9. Syrthiodd trwy ddellt o'i loft." Ar hyd grisiau tu allan i'r ystafell yr eid i lawr o'r cyntedd, ffordd yma y rhuthrodd y gyn- ulleidfa, pan gyrhaeddwyd y gwaelod, er siom gwelwyd y bachgen yn cael ei godi yn farw, a godwyd i fyny yn farw," 9. a ddygasant y llanc yn fyw 12. a brawf mae nid ystyr "y mae ei enaid ynddo." 10. ydyw mai mewn llesmair yr oedd, ac mat camgymeriad oedd synio ei farw. Yr es- boniad naturiol 3rw, collodd ei fywyd tnvy y codwm, a chafodd ei fywyd trwv weddi Paul. "A syrthiodd arno ef." megys Elias hefo mab y weddw o Sareptah 1 Bren. xvii 21, ac Elisieus hefo mab y Sunamees. gyd- ag ystumy corff esgynai llef enaid" yr Apostol at Dduw. Wedi'r wyrth parha- wyd y gwasanaeth hyd doriad v dydd. D. M. JOXES.
-,._-_ -.-,.,,-TIPYN 0 POBPETH…
TIPYN 0 POBPETH MEWN BYD AC EGLWYS. Syr D. Brynmor Jones.—Cafodd Syr David Brynmor Jones ei ddychwelyd, dydd Llun, yn ddiwrthwynebiad dros ranbarth Abertawe, ar ei bennodiad fel Cofiadur MerthAT. Costau mynd i'r Sennedd.—Costau eth- oliadol Syr David Biynmor Jones oedd 63ip. 17s. 2c. Yr oedd costau yr ymgeiswyr seneddol dros fwrdeisdrefi Caerfyrddin fel \T eanh-n: —Mr. Llewelyn Williams, A.S. (R,), 428p. 15s. 7c. Isiarll Tiverton, G20p. Cyrhaeddai cyfanswm costau etholiadol Mr. Lewis Haslam, A.S. dros fwrdeisdrefi Mynwy, i 8CUp. 12s. 9c. Cvfanswm costau etholiadol Mr. D. A. Thomas yn Nghaerdydd ydoedd, 17s. Ie. Cyrhaeddai cyfanswm costau Mr. Ivor Guest yn 1900, i ]¡405p, Elfed a'r lancL—Dywedir fod y Parch. H. Elfed Lewis, M.A., Llundain, vn bwriadu cymeryd taith i'r America ddiwedd yr haf. Saesneg Ddwyfol eto.-Un o'r prif gwest- I iynau yn Nhrefedigaeth yr Orange yn Ne I Affrig, ar hyn o bryd, ydyw defnyddiad yr iaith Saesneg yn yr ysgolion dyddiol. Metha yr awduardodau addysgol hyd yn hyn, a dyfod i unrhyw benderfyniad ar y mater. Ymgyrch Datgysylltiad.- Ymhw\ llgor yr Ymgyrch, gynhaliwyd yn yr Anwyting rai ddyddiau yn ol, pasiwyd y Penderfyn- iadau hyn :— Pennodwyd pwyllgor cryf mewn cyssyll- tiad a llenyddiaeth, ac i gam gael ei gym- meryd yn ddioed i gyhoeddi pamphledi yn ymwneyd a gwahanol agweddau y cwest- iwn. Pennodwyd, hefyd, mabwysiadu llawlvfr ar yr eglwys Geltaidd hynafol, gan y Parch David Davies diweddar o Brighton, yr hwn. I sydd yn awr yn y wasg, fel llawlvfr swydd- ogol. Yr oedd trefniadau wedi cael eu gwneyd gan y pwyllgor i'w gyhoeddi yn fuan. Ar gynnygiad Mr Beddoe Rees, Caer- dydd, yn cael ei gefnogi gan y Parch. O. D. Campbell, Hwlffordd, mabwysiadwj-d y penderfyniad canlynol:— Fod y cyfarfod hwn yn llawenhau ar v fuddugoliaeth fawreddog a gaedi gynnydd yn Nghymru yn yr etholiad gyffredinol ddiweddaf. Creda fod y fuddugoliaeth yn brawf arall o ofyn anghyfnewidio.1 pobl Cymru am fesur cyfiawn 0 gydraddoldeb crefyddol i'r Dywysogaeth. Dadgana v cyfarfod yn mhellach ei obaith y bydd lr oil o'r blaid Gymreig yn Nhy y Cyffredin weled fod y lie cyntaf yn cael ei roddi i fesur Mr Asquith am 1909, yn union wedi i gwestiwn y veto gael ei benderfynu. Mabwysiadwyd penderfyniad crvf o wrthdystiad yn erbyn gwaith Cyngor Cen- edlaethol yr Eglwysi Rhyddion, trwv eu gwaith yn trefnu cwestiwn Dadsefylliad mewn lie o anfantais amlwg i gael trafod- aeth effeithiol arno yn y gynnadledd oedd i gael ei chynnal yn Hull. Cybydd-dra. Yn nghyfarfod llywod- raethwyr Coleg Caerdydd, cwynid yn drwm ar ammharodrwydd cyfoethogion Morganwg a Mynwy i gyfranu tuag at yr adeilad newydd. Diau fod achos i'r gwyn. Dylai dynion sydd wedi gwneyd cyfoeth mawr mewn ardal gefnogi pob sefydliad a rydd fantais i'w phlant a'i phobl ieuaingc. Yr Hen Sultan —Mae Llywodraeth Twrci, meddir, wedi llwyddo" i gael yn mron yr oil o gyfoeth Abdul Hamid, yr hen Sultan, i'w meddiant, ac nid yw y swm yn llai na phymtheg miliwn o bunau. Y Congo eto.—Yn Senedd Belgium, ddydd Mawrth, dywedodd aelod Rlwddfiydol fod ysgelerderau dychrynllyd yn cael eu cyf- lawni ar hyd glanau y Congo, ond nad oedd y cyhoedd yn Belgium yn cael gwyb- od dim yn eu cylch. Dadl y seneddwr hwn ydoedd y dylai y drefedigaeth gael ei gos- od o dan reolaeth y gwahanol alluceod Ewropaidd. Y Blaid Gymreig.—Cafodd cyfarfod go- hiriedig yr aelodau Rhyddfrydig Cymreig ei gynnal brydn^wn ddydd Mercher, yn Nhy y Cyffredin. Cymmerwycl y gadair gan Syr Alfred Thomas, yr hwn a ail etholwyd i'r swydd am y tymmor presennol. Yr aelodau eraill yn bresennol oeddynt: Syr Herbert Rob erts, Mri. D. A. Thomas, J. Herbert Lewis, Ellis Griffith, W. Roch, W. Jones, Lloyd Morgan, Lewelyn Williams, D. Davies, j. D.Rees.W.H. Jones, A. Mond, a Edgar Jones. Eglurodd Mr. William Jones, yr aelod dros Arfon, yn mhellach y cwrs oedd wedi arwain i ymchwiliad ac adroddiad Cyng- hor Sirol sir Gaernarfon, mewn perthynas i diroedd v Goron a chyttiroedd yn y sir hono ac yn unol a'r penderfyniad basiwyd gan yr aelodau Cymreig yn eu cyfarfod ddydd Llun diweddaf, penderfynwyd fod cadeirydd a chwipiau y blaid, ynghyd a Mr. William Jones a Mr. Ellis Davies, vr aelodau dros sir Gaernarfon, yn ymffurfio yn bwyllgor er dwyn yr achos ger bron 3* Llywodraeth, ac i bwyllgor arbenig gael ei benodi i wneyd ymchwiliad i'r mater. General Booth.—Yn yr Iseldiroedd v mae y Cadfridog Booth yn awr. Caiff gyfar- fodydd anarferol boblogaidd yn mhob man. Rhydd y teulu brenhinol bob croesaw a cliefnogaeth iddo. Y Prif- Weinidog yn ogystal a deimla ddyddordeb anarferol yn y genhadaeth.
YNGHYLCH YR EGLWYS.
LLUNDAIN. CYMDEITHAS LENYDDOL BRI--Nswic.-Nos Sadwrn, Chwefror 2(3, clan lywyddiaeth y Gweinidog, breintiwyd aelodau y Gym- Deithas uchod a darlith gan Mr. Daniel Rees (o'r Bwrdd Masnach) ar "Y Bardd Cristionogol Cyntaf." Dante oedd y bardd a chafodd yr aelodau wledd fras gan wr hyddysg yn ei destyn. Clywsom fod y dar- lithydd wedi cyhoeddi cyfieithiad i'r Gym- raeg o'r Ddwyfol Gan," ond ni bu son am y gwaith hwnvv y noswaith hon, er iddo son llawer ar weithiau pobl eraill. Ychydig o gan Dante gawsom gan y dar- lithydd. ond dywedwyd llawer am yr aw- dwr, ei oes a'i arferion. Wedi diolch yn gynes am y darlithydd uchelryw, ac i am- ryw o'r aelodau fynegu eu barn, terfynwyd cyfarfod rhagorol drwy i'r darlithydd gyf- hvyno copi o'r gyfrol Gymraeg i Mr. R. W. Parry fel arwydd o'i barch a'i edmygedd ohono. Gwnaed hyn yn nghanol banllefau cymeradwyol y gwyddfodolion. Y NODACHFA.-Mewn cysylltiad a'r nod- achfa sydd yn agoshau, cynhaliwyd cyf- arfod pwytho y chwiorydd yn Brunswic ar y 3ydd o Fawrth, pryd y rhoddwyd te i'r ymwelwyr a'r gweithwyr gan Mrs, Gor- don. GOH. DYLED CITY ROAD.-Gan i mi yn yr hen Wyliedydd draethu fy lien yn bur lwyr ar y mater uchod. Nid wyf am drethu llawer ar ofod y Gwyliedydd Newydd." Ond earwn yn fawr gael cyfle i ddeisyf yn daer unwaith eto ar ran y cyfeillion yn yr ym- drech i ddileu y ddyled uchod. Yr ydym wedi apelio at Gymru oil. Nid am nad yw wedi cynorthwyo o'r blaen, nac am nad oes ganddi ddigon o feichiau. Ond yn ol ein gallu yr ydym yn cynorthwyo eraill, ac yn barod i wneyd hyny ar ol yr ymdrech hon. Diolchwn yn fawr i lu o bersonau unigol ydynt wedi atep i'r apel. Eto y mae llawer o le. Oni allai y chwiorydd caredig anfon tipyn o Nwyddau. Mae chvy o eghvysi bychain Cymru wedi anfon 10s. yr un, sef Cnwch Coch yn y De, Q. Thanyfron yn y Go-locid, 1 JOHN HUMPHRFYS. ABERTYSSWe, CYLCHDAITH TREDEGAR Achos newydd sydd yma, ac y mae yn enill tir yn gyflym. Cawsom wasanaeth ein parchus weinidog E. Tegryd Davies, Tredegar yma nos Sul diweddaf. Cafwyd oedfa a hir gofir gan bawb. Rhanwyd y Sacrament i'r eglwys newydd am y tro cyntaf. Mae Cylchdaith Tredegar yn ed- rych yn llewyrchus iawn trwyddi oil ar hyn o bryd. Y mae yma Bregethwr Cyn orthwyol ga!luog a da hefyd yn y Gylch- daith, ac mae ein heglwys ni yn ddyledus iawn iddynt am eu help. Y mae un o honynt yn paratoi ar gyfer y Weinidog- aeth, sef Mr Morgan James Evans. Y mae yn fachgen a rhagolygon addawol iawn iddo. Hyderwn y llwydda yn yr Arhol- iadau. Bu Mr Prichard, Cenadwr, Bargoed, yma i-in Sabboth. Canmolir ef yn fawr. Mae llawer o ddisgwyl ei weled yma eto. Da fydd gan lawer glywed fod y Parch T. Manuel, Ysgrifenydd y Dalaeth ynghyd a Mr Powell, Caerdydd, wedi bod yma yn dewis darn o dir i godi capel newydd. Y mae pob peth yn edrych yn ffafriol iawn. Hyderwn na cheir streic. PENNAL. MARW.—Prydpawn dydd Iau, yn Mhen- nal. claddwyd y diweddar Mr. John Pugh. Yr oedd yn wael er's tro, a bu farw dydd .Sadwrn. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. Evan Isaac a J. H. Williams. TOWYN. Cymdeithas Ddirwestol y Merched.—Yn Nghapel y Wesleyaid, nos Wener, cynhal- iwyd cyfarfod o'r gymdeithas uchod, pryd y llywyddai Mrs. Lewys Lloyd. .CEMMAES. MARW.'—Prydnawn Llun, bu farw Mr. John Jones, Dolfonddu, yn 71 oed. Er ei fod yn ;Cwyno. daeth y diwedd yn bur sydyn. Claddwyd ef yn mynwent Ymneilltuol Machynlleth, ddydd Gwener, a chafodd gynhebrwng parchus. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Evan Isaac,[Jacob Pritchard, a J. H. Williams PENEGOES. CARIAD A PHRIODAS "— Yn Ysgol y .Cyngor, nos Wener, bu Mr. W. O. Jones, Bangor, yn darlithio ar Gariad a Phriod- as." Llywyddai Mr, D. E. D. Griffith, L. ,and P. Bank, Machynlleth.