Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
NODION LLENYDDOL.I
NODION LLENYDDOL. I ,(Pob Llyfr a Chyhoeddiad Cymraeg i'w I adolygu i'w hanfon i'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llys Menai, Portdinorwic.) CENHINEN GWYL DEWI. I Amheuthyn mewn dyddiau fel y rhain yw darllen cyhoeddiad nad edwyn na phlaid nac enwad. Yn bendifaddeu cy- hoeddiad gwerthfawr i genedl fel ni yw'r Genhinen. Nid oes derbyn wyneb ger ei bron hi. Fel y gwyddys, rhifyn ar- bennig yw Cenkinen Gwyl Dewi o barch i goffadwriaeth Cymry glewion a theilwng sydd wedi ymado a'r fuchedd hon. Syniad rhagorol yw hwn, ac y mae clod yn ddyledus i Eifionydd am ei gario allan unwaith eto mor lwyddian- nus. Swllt yw pris y cwbl, a hyderaf fod lliaws o Wesleaid Cymru yn prynu ac yn darllen y Genhinen. Y mae gennym ddigon o amser a digon o arian at bopeth a fynnwn, ac yng nghanol yr holl wario ar foethau, gobeithio nad ydym yn anghofio pwrcasu cyhoeddiad mor deilwng a'r Genhinen. Rhifyn amryddawn yw hwn. Coffheir ynddo am bregethwyr o bob enwad, beirdd, gwleidyddwyr, llenorion, cerddorion, athrawon,—y rhai y mae eu tarianau oil yn astalch y cedyrn, a'r rhai a wnaethant eu rhan i yrru'r hen wlad yn ei blaen. Dyma ysgrif dda gan y Parch. 0, Lloyd Jones, M.A., B.D., Bryn Siencyn, ar y Parch. Evan Roberts, Dolgellau, pregethwr gwreiddiol a gry- mus iawn a ddechreuodd bregethu gyd- a'r Wesleaid, ond a aeth drosodd at y Methodistiaid Calfinaidd, ac a lwyddodd yn fawr gyda hwy. Dyddorol yw ysgrif y Parch. J. C. Morrice, M.A., Llandeg- fan, ar hen fardd hyglod, Gruffudd ab leuan, a flodeuai tua 1500-1530. Dy- ma ddarn peraidd o gywydd Gruffudd i'w anwylyd: Ni aned yn nwy Wynedd Oil i gyd un well i gwedd Mae parch yn i hwyneb hi, Mae'n weddus pob man iddi; Gwefusau fal mannau met, Gwrid brig y cerryg cwrel Golwg gwar lliw mwyar llwyn Gloywddu a mwnwgl addwyn A llaw fychan mewn maneg, A genau doeth a gwen deg. I Ni chaid tolc o'i gwyched hi, Na thwrn amherffaith arni." Rhoddir lie parchus yn y rhifyn i'r ys- grif ar y Parch. Richard Roberts, Llun- dain, gan yr ysgrifenydd presennol y Mae gan Cadfan amryw ddarnau bardd- Onol yma,—hapus iawn yw ei waith Ar lan bedd Hwfa Mon Ni bu farw ef, ond cysga Yn nhawelwch erw Duw Mynna'r Nef, a mynna Gwalia Gadw Hwfa'n Hwfa fyw. Byw i gann-canu mwyach Gaiff, heb ofid nac ystaen; Ac mae'n canu'n fil pereiddiach Nag y canai 'rioed o'r blaen." Ymysg beirdd Wesleyaidd a ysgrifen- Godd i'r rhifyn hwn, sylwais ar enwau ynfor, Gwespyr, Gwilym Dyfi, Mr. T. erbert Htighes, Ab Hefin. Buasai'n (Ida iawn gennyf weled chwaneg o'n g^ -vemidogion ieuainc yn ysgrifennu i'n y oeddiadau cenedlaethol. Y mae ddigon ohonynt a fedrent Wl1e"l :l Q, aim ond iddynt daro ati. Y 1hae 11 bwysig inni gadw cyfathrach agos si b WYSlg lnl11 gaclw cyfathrach agos hyl",Y d y genedl, a hyderaf y bydcl i'n brod-yi leuanc medrus gymeryd yr aw- grym. Ysgrifennir yn deg ac yn feis- trolgar ar "Dr. Lewis Edwards fel diwinydd" gan y Parch. John Owen, Anfield, Lerpwl. Cymhellir ni i beidio edrych ar Dr. Edwards fel oracl anffael- edig, ond i ymegnïo" i ddeall athraw- iaethau'r Efengylgyda'r sobrwydd medd- wl, y parchedigaeth, a'r eangder ysbryd oedd yn nodweddion mor amlwg ynddo ef." Dyddorol a tharawgar-fel y dylai fod-yw ysgrif y Parch. W. Glasnant Jones ar Watcyn Wyn. Gwreiddiol a gwerthfawr yw cynghorion Watcyn Wyn i'r bechgyn-bregethwyr yn ei ys- gol. Dyfynnaf rai ohonynt:— Pregethwch eich bregethau'ch hunain, boys: byddwch yn Jacob neu yn Esau nid yw pob Isaac ddim yn ddall, cofiwch chwi." Peidiwch gwaeddi mewn gwaed oer, neu fe aiff yr awr weddi yn waeddi. Peidiwch whado (hynny yw, dyrnu, cnocio) 'r Beibl wrth breg- ethu, neu fe aiff yr oedfa yn show Punch and Judy. Beth feddyl- iech chwi am ganwr yn whado 'i gopi wrth ganu ? Cyngor go dda yw'r olaf i rai ohonom ni bregethwyr. Gwnn am bregethwr a falodd Feibl hardd a Llyfr Emynau newydd cryf, wrth eu dyrnu a'u cnocio am dair blynedd yn ddidor. Dylai pob un tebyg iddo gario'u Beiblau a'u Llyfr Emynau eu hunain i bob pulpud, a thalu'n gyfiawn am bob un a ddrylliwyd ganddynt, hyd oni chadwont eu dyrnau a'u bysedd yn weddaidd. Nid oes ham- dden na gofod i alw sylw at ddim ond prin ddegwm y rhifyn rhagorol hwn. Argymhellaf y Genhinen yn galonog i'ch darllenwyr. Yn rhifyn Mawrth o'r Homiletic Review, ceir ysgrif dda iawn ar destyn anodd-Temtiad Crist-gan y Parch. J. Hugh Michael, B.A., Wakefield. Ys- grif glir, ofalus, feddylgar ydyw; er nas gwnn pam y mae eisiau cymaint o ddy- fyniadau yn yr iaith Roeg ynddi; ac os oes eu heisieu o gwbl, y maent yn rhy elfennol i'w cyfieithu, fel y gwneir ym- hob engraifft.
CERDDORIAETH. I
CERDDORIAETH. I Myn'd ar gynydd parhaus, mae'n ym- ddangos, y mae coffadwriaeth DEWI SANT. I Eleni, rhoddwyd arbenigrwydd i hyn yn yr Ysgolion Elfenol. Anogai y Bwrdd Addysg yn Llundain i ysgolfeistriaid Cymru, o leiaf, ddwyn i sylw y plant ar y dydd cyntaf o Fawrth ychydig o hanes yr hen sant Cymreig. Ffordd ddymunol yw hon i argraffn ar feddwl y to sy'n codi amgylchiadau a hanes dynion a lleoedd enwog yn eu gwlad, a'r ardal- oedd y maent yn byw ynddynt, ac hefyd i'w hadgofio am hen ddefion ac arferion. Ond nis gwyddom am ffordd mwy deniadol a pharhaol i argraffu ar fedd- yliau plant hanes Cymru Fu nag ar gan, ac yn y fan hon y daw gwasanaeth ein HALAWON CENEDLAETHOL I i'r golwg. Gwelwn fod llawer o ysgol- ion yn dathlu y dydd cyntaf o Fawrth drwy gynhal cyfarfodydd i ddadganu hen alawon Cymreig. Mae genym doraeth o alawon a ddeil i'w cymharu ag eiddo unrhyw genedl, ac y maent yn lluosog iawn hefyd. Yn y flwyddyn 1863 cyhoeddodd Ceiriog restr o enwau ein hen Alawon cenedlaethol yn Ngreal y Corau," ac yn Y Bardd a'r Cerddor restr arall. Rhifai y cyn- taf 1027, a'r olaf 1195. Ond dywed awduron diweddaf fod lliaws o wallau ac ail-adroddiadau yn y rhestrau uchod, ac nas gellir penderfynu i sicrwydd nifer y tonau. Y prif gasgliadau ydynt eiddo John Parry (Parry ddall), Rhuabon (yn 1784). John Parry (Bardd Alaw), (1809). Richard Roberts (Roberts Ddall), Caer- narfon. (1829). Miss M. J. Williams, Abergynolwyn, (1844). John Thomas (leuan Ddu), Trefforest, (1845). Owain Alaw, (1860). Brinley Richards (1874). John Thomas (Pencerdd Gwalia). Nicholas Bennett. (1896). Dr. Joseph Parry. Gofidus yw meddwl nad oes geiriau i lawer o'r hen alawon. Ymddengys i argraffiadau Parry Ddall ac eiddo Nicholas Bennett gael eu dwyn allan heb y geiriau. Gwneir ymgais ragorol gan wahanol genhedloedd i ddiogelu hen alawon. Mae Cymdeithasau Caneuon Gwerin (Folk-lore Societies) wedi eu sefydlu mewn rhanau o'r Deyrnas hon -yn Lloegr, yr Iwerddon, Ynys Man- aw, yr Alban. Hefyd fe sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru'' yn ystod cynhaliad Eisteddfod Caer- narfon yn 1906, ac yr ydym yn deall fod gwaith da yn cael ei wneyd, ac yn ddistaw ac yn araf, Ysgrifenydd Cerddorol y gymdeithas yw Dr. J. Lloyd Williams, Bangor. Mae y sym- udiad ardderchog hwn yn cael ei gym- eryd i fyny yn aiddgar ymhob rhan o'r dywysogaeth. Ymddangosodd yn barod o dan nawdd y gymdeithas gasglwyd o I hen alawon, ac y mae rhan ail o hono bron yn barod,—yn cynwys 25 o hen donau gyda geiriau, pa rai ddeuwyd o hyd iddynt yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf. Ysgrifenai Mrs. Mary Davies yn ddiweddar yn y Western Mail, a dy- wedai fod rhai o aelodau y gymdelthas wedi cyfarfod o dan hen wr yn Sir Gaerfyrddin oedd yn cofio cryn lawer o hen alawon. Gweithiwr ar y ffordd fawr ydoedd un, a dadganodd amryw mewn llais clir a melodus, ac er nad oedd yn meddu gwybodaeth elfenol o gerddoriaeth o gwbl, yr oedd yn cofio cryn lawer. Un o'r caneuon ydoedd rywbeth tebyg i'r un a adwaenir drwy holl Ewrop fel y pren ar y bryn" (The tree in the wood). Mae hon yn hollol wahanol i'r gan o dan yr un teitl ddarganfyddwyd yn Ngogledd Cym- ru, ac a argraffwyd yn ddiweddar gan y gymdeithas uchod. Nid gwaith hawdd ydyw dethol a dosbarthu yr alawon hyn, gan fod llawer yn ddiau wedi myn'd o dan gyf- arwyddiadau mawrion, ond er y cwbl pe obeithir cyn bo hir iawn y bydd rhestr led gyflawn o honynt wedi ei pharotoi, a haedda y gymdeithas bob cefnogaeth. Mae lliaws o ddarlithiau wedi ei traddodi mewn amryw siroedd yn y Gogledd i'r amcan o enyn dyddor- deb yn y mudiad. Ar y mater hwn y mae ein cydwladwr athrylithgar-Mr. Emlyn Evans wedi ysgrifenu llawer o bryd i bryd yn y Oerddor, ac nis gwyddom am neb mor gyfarwydd ynddo nag ef. i Gwelsom raglen o donau cynulleidfa- ol gogyfer a CHYLCHWYL GERDDOROL HARLECH. Symol yw y casgliad. Ai gormod tybed yw awgrymu i'r Pwyllgor y priodoldeb y tro nesaf i gael rhaglen gynwysedig o hen alawon Cymreig i'w dadganu yn y gylchwyl. Nis gwelwn unrhyw fantais o ganu tonau cynulleidfaol yno, gan fod y cymanfaoedd canu, perthynol i'r gwahanol enwadau, yn ymgymeryd a'r gwaith hwnw. Ond dyma gyfle ardd- erchog i ddod a'n hen Alawon i sylw. Byddai treulio un o'r cyfarfodydd i'r amcan hwn yn sicr o fod yn fuddiol ac adeiladol. Onid campus o beth fyddai clywed y corau unedig yn canu Ym- gyrch Gwyr Harlech yn yr hen gastell."
DIFFYGION A RHAGORIAETHAU…
DIFFYGION A RHAGORIAETH- AU Y GENEDL. Anerchiad Dydd Gwyl Dewi. I Y mae yn dda genyf gael y fraint a'r anrhydedd o ddweyd ychydig o eiriau ar ddydd coffadwriaeth nawdd Sant y Cymry, a hyny mi a obeithiaf wrth gyn- ulliad sydd wedi ymgynull ynghyd oher- wydd sel genedlaethol. Fel y gwyr rhai o honoch fe'm dewiswyd i ddweud gair neu ddau heno ar Ddiffygion y Genedl, testyn mi wranta, digon anodd i ddyn wneyd unrhyw chwareu teg gydag ef. Fe nod- wyd cyfaill arall, rhag i mi syrthio i'r am- ryfusedd o fod yn rhy unochrog i leisio barn ar Ragoriaethau'r Genedl, ond oher- wydd rhesymau penodol fe ymwrthyd y cyfaill hwnw a'r gwaith. Gan nad oes neb hyd y gwn yn barod i gymeryd ei le bwr- iadaf, rhag i'r diffyg o anghydbwysedd fod ar y cyfarfod ddweyd brawddeg neu ddwy ar y Rhagoriaethau berthyn ini ynghyd a'n diffygion. Oherwydd amgylchiadau anffafriol yr wythnos diweddaf ni chefais amser i fyfyrio uwchben y mater. Felly rhaid i chwi foddloni heno beth bynag ar opiniynau anelwig, mi addefaf sydd yn fy meddwl ers blynyddoedd am y genedl y perthynaf iddi. Gyda golwg ar ddiffygion y genedl, fe wel yr ystyriol ei fod yn fater pur ddelicate i'w ymdrin yn enwedig ar noson fel heno, pan mae cenedl y Cymry bron yn gyffredinol yn canmol eu hun. Hwyrach, a dweyd y gwir fod canmol ein hunain yn ormodol heb alw sylw ein gil- ydd at ein diffygion yn un o'n gwendidau ond nid wyf yn barod heno i roi fy ngair drosto. Wrth son am ein diffygion gwn yn burion na fyddaf yn porthi balchder cenedlaethol neb, gobeithio na fydd imi darfu dim ar eich ysbryd cenedlaethol na'i dramgwyddo. Cofiwch bob amser fod eithriadau i bob rheol, ac o ran dim wn i feallai mai chwi yw yr eithriadau hyny. Nid wyf yn bwriadu gosod bys ond ar nifer fechan o'n diffygion a'n rhagoriaethau rhyw ddau neu dri dan bob pen. At hyny nid wyf am gynnyg iachad oddiwrthyf y clwyfau cenedlaethol, feallai y byddai yn burion peth rywbryd yn y dyfodol i Undeb Diwylliant Machno dreulio noson i gynnyg physigwriaeth, ac i dori llwybrau o iach- awdwriaeth i'r genedl. Hawdd i Ddyn wrth geisio ymdrin a mater cenedlaethol ydyw llithro i fwnglera a son am ddiffygion a rhagor- iaethau lleol neu ddiffygion a rhagoriaeth- au y mater dynol, yn hytrach na rhai'r genedl. Dyma'r pryd y dywedaf fod diffyg neu ragoriaeth ar genedl, pan fo mwyafrif'r genedl i'w beio neu ei chanmol o'i blegid. Gadewch i ni gychwyn gyda'n diffygion. Cyn y gallwn yn iawn ddeall diffygion ein cenedl rhaid tafiu rhyw fras gip o olwg dros hanes ei gorphenol, oherwydd ei gorff- ennol sydd yn penderfynu beth ydyw hi heddyw. Bu'r genedl am bedwar can' mlynedd dan iau Rhufain. Yn ystod y cyfnod hwn, collodd ami i arweinydd oedd yn ddwfn yn ei serch, a chollodd lawer o'u rhyddid. Dyma'r amser y dechreuodd y genedl ddysgu cwyno. Yr oedd y Rhuf- einiaid yn rhy falch a phenuchel i gymvsgu dim a'r Cymro, ac nid oedd y Cymro yn'tau yn awyddus iawn i wneyd rhyw lawer o'i orchfygwr a'i elyn. Cadwodd y Cymry yn gwbl ar wahan. Gadawodd y Rhuf- einiaid Brydain heb adael odid dim o'i hoi ar anianawd y Cymro. Ymhen ychydig flynyddoedd daeth y Saeson drosodd, ac am gyfnod o wyth canrif buont wrthi oreu medrent yn lladd y Cymry ac yn lladrata eu meddianau nes o'r diwedd iddynt ddwyn ein hannibyn- niaeth oddiarnom. Gwthiwyd y Cymro i gilfachau'r mynyddoedd, ac oddiyno am flynyddoedd edrychai ar y Sais fel estron a gelyn. Nid yw y Celt felly wedi ymgymysgu a na Rhufeiniwr na. Thenton. Y mae yn genedl sydd wedi byw yn gyfangwbl ar ei hadnoddau ei hun. Gan fod y wlad y gwthiwyd ni iddi yn llaAvn o fynyddoedd nid oedd fawr o gyfathrach cydrhwng trigolion y dyffryn yma a'r cwm acw. Y canlyniad ydyw ein bod wedi bod ar hyd y canrifoedd ac yn heddyw fel cenedl o ddim rheswm yn rhy deuluol. Y mae yn perthyn ini fel cenedl holl ragoriaethau a holl ddiffygion y dyn unig. Edrychwch ar lenyddiaeth y gorffenol. Beth yw'n mabinogion ?-chwedlau teulu- aidd. Adroddid hirnos y gauaf i gylch y teulu. Ni fu genym am genedlaethau feirdd cenedlaethol dim ond beirdd teulu. Beirdd teulu y gelwid hwynt. Amhosibl hollol i genedl yn byw gymaint arni ei hun ac wrtho ei hun feddu dylanwad mawr ar y byd. Fe wyr pawb, wyr ryw- beth. mai ail-raddol iawn ydyw dylanwad Cymru wedi bod yn y gorffenol ar y gwedd- ill o'r byd. Y duedd deuluol hon sydd eto mor gryf ynom barodd i ni golli'n hanib- yniaeth. Enw'r Sais arno ydyw Provinc- ial Feeling. Ceid gwahanol gad-lywydd- ion a gwahanol dywysogion dros wahan- ol rannau o Gymru. Ymladdai y rhai'n yn ami yn erbyn eu gilydd yn hytrach nag yn erbyn y gelyn gyffredin. Y mae yr un peth fel y sylwais o'r blaen yn fyw yn ein plith ni eto. Nid oes fawr o gyfeillgarwch rhwng Hwntw a Gog- leddwr. Y mae y naill yn ddrwgdybus iawn o'r llall. Nid yw pobl Sir Fon yn caru ond ychydig ar Gymro os na fydd yn un o Sir Fon, ac y mae hyny'n wir am Siroedd eraill Cymru. Brawd o waed coch cyfa i hwn ydyw enwadaeth, ac y mae hwn yn ddiffyg mawr ar ein cenedl, nad wyf heno ond am ei henwi. Gresyn nad ellid ar fyrder ei alltudio o'r wlad, gwnai hyn fawr les i dwf y genedl. Bai amlwg arall arnom fel cenedl ydyw, ein bod yn genedl bruddglwyfus iawn. Chwiliwch y beirdd o'r chweched ganrif i lawr; dyna sydd ganddynt gan mwya o lawer cwyn coll, ac odlau hiraeth am yr enwogion fuont feirw ar feusydd y brwyd- I rau rhwng y Cymry a'r Saesoii. Ystyriwch ein halawon cenedlaethol, y mae argraff ein pruddglwy arnynt. Dyma rydd fwyaf o foddbad i gynulleidfa o Gymry heddyw clywed canu ton neu alaw leddf. Pwy yw y pregethwr mwyaf pob- logaidd gyda'r werin—hwnw fedr ganu'n lleddf oreu pan ddelo'r hwyl. Y mae hyn oll l'-vi, T)rlodoll i'r profedig- aethau yr adfyd a'r cynni yr aeth y genedl drwyddynt yn y gorffenol. Y mae'r genedl wedi ei siomi mewn bywyd. Y mae bywyd y Cymro yn fwy o tragedy na dim arall. Nid yw yn ymdrechu rhyw lawer enwogi ei hun gan fod bywyd a phethau'r byd hwn mor ansicr. Y dydd o'r blaen gofynnais i wr o Sais deallus iawn am ei farn am danom fel cen- edl. Yr oedd hwnw wedi byw yn ein plith am hir amser, ac wedi bod yn byw mewn gwahanol ardaloedd, ei farn oedd, ein bod yn genedl alluog, ac oherwydd hyny ein bod yn dueddol at fod yn ddifraw a diog. Y mae hyn fel y gwyddoch yn wirionedd drwydd4, os y bydd dyn yn meddu ar dal- entau tuhwnt i'r cyffredin, fodynddo hefyd ysbryd marw, diwaith. Y rheswm am hyn ydyw y cenfydd ei fod yn alluog i ddadrys pynciau dyrus gyda graddau o rwyddineb. Nid ydyw hynny fel y gwyddoch yn svin- byliad i waith. Dywedodd Dr. Arnold, o Rugby, prifathraw hyglod ysgol uwc.h- raddol Rugby, nad y bechgyn mwyaf dis- glaer ddeuai i'w ysgol oedd yr ysgolorion mwyaf llwyddianus, ond y rhai clyfal o alluoedd canolig, a rhain hefyd oedd yn sicrhau y swyddi uchaf mewn bywyd wed'yn. Y mae hyn yn wir am ein cenedl ni, nid yw yn genedl ddyfal oherwydd ei thalent. Os ydwyf drwy nodi hyna o ddiffygion wedi agor briwiau cenedlaethol, gadewch i mi'n awr am funud neu ddau eu heneinio ag olew ein Rhagoriaethau. Yr wyf eisoes wedi cyffwrdd ag un ragoriaeth neilltuol berthyn ini, sef ein bod yn genedl feddyl- gar. Peidied neb ohonom ymchwyddo neu redeg i ffwrdd yn ben uchel oherwydd yr eithriadau posibl. Sut bynag, y mae'r genedl yn hynod am ei meddyigarweh vmhlith cenhedloedd y dda'ear. Y mae ceisio cyfrif am feddylgarwch y Cymro y tuhwnt i gyfeiriad yr anerchiad hwn, ond gallaf ddweyd fod ei duedd neilltuedig en- ciliol wedi bod o fantais iddo ddatblygu meddwlgarwch wrth weled trechu ei w, lad a chwympo y cedyrn aeth i chwilio am rywbeth digyfnewid, croesodd foroedd amser i'r byd a ddaw i chwilio am foddion- rwydd. Yn vr ymdrech datblygodd ddychymyg gref. Yn ei ymgais i broil. sail i'w ddychmyg- ion meithrinodd duedd i athronyddu. Credaf yn gryf nad oes genedl o dan haul heddyw mor athronyddol a chenedl y Cymry. Pe dilynech hanes y ganrif ddi- weddaf yn ei Heisteddfodau, Cyfarfodydd Llenyddol, yr Ysgol Sul, a phe aech I mewn i efail y gof, gweithdy'r saer, a siop y crydd. chwi gaech faint a fynnech o brofion o'n tueddion meddylgar ac athronyddol. t Rhain oedd y sefydliadau ag ydynt eto o ran hyny, y sefydliadau mwyaf poblog- aidd yn ardaloedd ein gwlad. Cynwysent -ymdrin trafod a thraethu ar bynciau annodd ac astrus byd y meddwl. Y mae meddylgarwch y Cymro yn ein harwain at yr ail ragoriaeth enwaf heno, sef ei grefyddolder. Nid oes dim fel cref- ydd all gyflenwi mesur deheuadau calon y Celt. Y mae crefyddolder y Cymro yn ddihareb, ond ni fynaswn er dim ddweud fod popeth a berthyn i'w grefyddolder yn berffaith. Fe dyfodd llaAver o bethau o'i grefydd ddylsent ar bob cyfri gael eu llosgi Ond er hynny y mae y naws grefyddol draidd drwy ei ysbryd yn rhagoriaeth werthfawr. Rhed fel gwythien aur drwy ei fywyd. Cred ei fod yn gyfrifol am ei weithredoedd i rywun mwy nag ef. Credaf onibai am ein teimladau crefyddol cryfion y buasem fel cenedl y ddihira, waetha dan haul. Dywedaf hyn am fod talentau y Cymro mor ddisglair, ac onibai am wrth- glawdd ei grefydd y buasai'n pechu mwy na mwy. Fel y mae pethau rhaid gosod cenedl y Cymry mewn rhin a moes yn un o genhedloedd glana'r byd. Yn olaf yr ydym fel cenedl yn un gym- wynasgar dosturiol a charedig. Yr ydym wedi bod Tel y sylwyd eisoes mewn treial- od-collasom ein tir, ein teuluoedd, ein harweinwyr, ein hanibyniaeth. Gwyddom beth ydyw trallod ac adfyd, gwyddom werth nawdd a thrugaredd, cymwynas a charedigrwydd, ac o wybod eu gwerth dysgasom eu cyfrannu i eraill. Dyma'r diffygion. 1. Ein bod fel cenedl yn rhy deuluaidd. 2. Ein bod yn rhy brudd glwyfus a di- fater ynghylch bywyd. 3. Ein bod braidd yn ddioglyd oherwydd ein talent. Dyma'r Rhagoriaethau. 1. Ein bod yn genedl feddylgar. 2. Ein naws grefyddol. 3. Ein caredigrwydd. Meithrinwn ein rhagoriaethau, a gwnawn bob un yn unigol ymgais i ymysgwyd o fachau y beiau sy'n ein dal yn ol. HARRI EDWARDS.
Advertising
Nofel yn gwneyd ei Chartref yn Lleyn. Son a Siarad Pawb am dani. Gwelectydd y Glyri GAN WILYM tLYWELYN. Pris 2/6 a 1 Peth go ddymunol wrth ddarllen awdwr newydd yw medru teimlo fel y teimlir wrth glywed pregethwr ieuanc—' Wel, y mae yna rywbeth yn hwn.' Disgwyliaf bethau mawr oddiwrtho.Y Gwyliedydd Newydd. Mewn gair, mae dawn y nofelydd ganddo.Y Faner. "Ystori ragorol, yn denu un i'w darllen drwyddi cyn ei rhoddi heibio.Jlr. T. Gwynne Jones. Mae'r arddull yn dlos, a chryfheir gwladgarwch y darllenydd.Cymru. Possesses great power to delineate character. "-IVes tern Mail. It excites a decided curiosity as to writer's potential force. "Vla?zches tel- Guardian. Yr wyf wedi darllen y llyfr gyda bias anarferol. "-Jlr. L. J. Roberts, M.A. Rhaid edrych ymlaen am lyfrau eto gan Mr. Gwilym Llywelyn.Y Genedl. It is full of interesting incidents.South Wales Daily News. Dipyn o gamp fydd i neb ddarllen y gyfrol hon yn hollol ddifeddwl. Silyn yn Y Glorian. Celfydd yw y portread o'r fodryb grintachlyd, a chynhwysa y llyfr cryn dipvn a fyfyr cudd y Celt.Y Drysorfa. One cannot read a chapter of this book without being struck by its noble spirit of nationality. It is a beautiful allegory."—Freeman s Journal, Dublin. Ynghyd a lliaws o rai eraill cyffelyb. Telerau swynol i Lyfrwerthwyr, neu yn rhad drwy y post am 2s. 6c. neu Is. 2c. The Armonic Ltd., High Street, Mold, N. Wales.
YN Y SENEDD.
YN Y SENEDD. DYDD LLUN. Treulion y fyddin sydd gerbron heddyw. Bu Mr. Haldane am tua dwy awr yn siarad ac egluro costau y Fyddin. Tystiai fod y Fyddin Dirol yn llwyddiant mawr. Cod- odd Mr. Ramsay Macdonald y mater o gyflog teg i'r gweith^yr dan y Llywodraeth. Siaradwyd y mater allan fel na chafwyd pleid- leisio arno. Crefu am gael pasio y Gyllideb yr oedd yr Arglwyddi heddyw Rhyfedd y fath gyfnewidiad sydd wedi do'd drostynt. DYDD MAWRTH. Dywedai Mr. Lloyd George fod y golled i'r Trysorlys trwy'r dyrys- wch presenol yn £ "28,500,000; ac fod yn anhawdd dweyd faint o'r arian hyn ellid eu diogelu eto. Gwnaeth Arglwydd Hugh Cecil a'i blaid ymdrech galed arall i gael pasio i godi tollau Incwm, ond yn gwbl ofer. Ar bwynt tegweh cyflogau gweithwyr dan y Llywodraeth achubwyd ei phen trwy i'r Gwydd- elod bleidleisio o'i phlaid. Yr oedd Plaid Llafur ei hun yn rhanedig ar y penderfyniad. Gwnaed rhai add ewidion gan Mr. Haldane a Mr. Buxton gyfarfyddai a'u cwynion, a dywedwyd yr edrychai y Pwyllgor i mewn i'r holl fater. Yr. oedd mwyafrif y Llywodraeth yn 63. y mwyaf gafodd hyd yma. Cynyg- iodd:\1r Holt leihau y fyddin i'r j mesur o 15,000 o filwyr. Ni fynai |Mr. Haldane wrando all-no. ac ni fynai ychwaith son am leihau y inl fer gedwir yn N eheubarth Affrica. Parhad yn ludaien S.
Advertising
EVERY BOX OF ii ,ENGLAND'S GLORY MATCHES USED Means MORE WORK for British Workpeople. Oloycestsr.
I 'M? bC"m. Y Pethau nid…
Y Pethau nid ysgydwir. Parhad o tudalen 1. nad oes dim yn sicr. Mae cyfrifol- deb aruthrol arnom fel dysgawd- wyr-gwae ni os rhwystrwn un o'r rhai bychain hyn. Mae y pethau hanfodol yn aros. Onid yw y Beibl fel Gair Duw yn aros ? Os ydyw yn fwy dynol nag y tybid gan y tadau, nid ywynllai dwyfol, ond yn fwy felly. Mae gwir feirniadaeth wedi dangos rhagoriaeth anghymarol y Beibl ar bob llyfr arall. Mae Crist i aros yn ddyn ac yn Dduw,yn Fab Duw, ac yn lachawdwr y byd. Am lu sydd wedi bod yn ceisio einioes y Mab bychan-nid ydynt yn fyw. Eithr byw ydyw ef o hyd, ac y mae o oes i oes i gael mwy o'i le yn meddwl a chalon y byd. Mae y fendith o faddeuant—er mor anesboniadwy ydyw o safle naturiol-yn ffaith ddiymwad ym mhrofiad y rhai sydd yn derbyn yr Iesu fel lachawdwr, ac y mae maddeuant yn gychwyniad bywyd newydd ar gynllun bywyd Mab y Dyn. Mae Duw fel Tad yn aros —nid gormesdeyrn-un o'r syniad- au 'gwneuthuredig' oedd hwnw- eithr Tad trugarog a sanctaidd sydd yn gwylio dros fywyd ei blant drwg a da, ac yn hiraethu am eu cael oil ar yr aelwyd i fyw yn llew- yrch ei wyneb. Dyma wirioneddau tragwyddol ein crefydd. Glynwn ynddynt, dysgwn hwy i'r plant, ysgrifenwn hwy ar byst ein tai, ac y rhwmwn hwy yn rhactalau rhwng ein llygaid.