Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

BATHODAU YR YSGOL SUL. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BATHODAU YR YSGOL SUL. Dymunaf alw sylw aelodau hyn-1 af yr ysgol Sul yn Nghymru, a'r rhai Cymreig yn Lloegr, at y Bath- odau a roddir yn fiynyddol gan Miss Gee, Dinbych, i bump o'r deiliaid hynaf perthynol i'r ysgol Sul. | 01..1. ¡ Digwyddaf fod yn aelod o'r pwyllgor ag sydd yn penderfynu teilyngdod yr ymgeiswyr, ac nid wyf yn datguddio cyfrinach nac yn tori yr un rheol, pan yn ymgymer- yd a rhoddi ychydig o gyfarwydd- iadau i'r ymgeiswyr oedranus hyn a'I modd i weithredu. Yr oedd nifer o ymgeiswyr y llynedd, yn gant a chwech. Deg- ar-hugain o honynt yn bedwar ugain a throsodd, a'r gweddill dan bedwar ugain. Ystyriai y Pwyll- gor mae ieuengtyd oedd y rhai rhwng 60 a 70 oed, a'r rhai rhwng 70 ac 80, yn ganol oed, ond mae yr hen bobl mewn gwirionedd oedd- ynt y bedwar ugeinaid ac i fyny. Nid wyf yn dweyd hyn i ddigaloni yr ymgeiswyr ieuengaf, deuant hwythau yn bedwar ugain os y byddant byw ond tra yn rhestr y ieuengtyd peidient a disgwyl gor- mod am y wobr. Llawenydd i'r Pwyllgor, ac yn enwedig i Miss Gee, oedd gweled cymaint o ymgeiswyr, ond eto mai lie i ragori. Adwaenwn hen wron- iaidfyddlon i'r ysgol Sul perthynol i'n henwad ni, ag ydynt wedi cer- dded dros y pedwar ugain ac yn ffyddlon i'r ysgol Sul, ond heb an- fon eu henwau o gwbl i'r gystad leuaeth hon, a hyny feallai am nad ydynt yn gwybod am dani, mae yn deall sut i wreithredu. Dyna fy amcan yn ysgrifenu gair fel hyn, ydyw gwneyd i fyny hyd y gallaf y diffyg yma. Yr hyn sydd yn eisiau i'r ym- geisydd ei wneyd ydyw, ysgrifenu llythyr, neu gael rhywun i ysgrif- enu llythyr drosto, yn rhoddi i lawr enw ei breswylfod, a'i enwei hun yn gyfiawn, gyda ei oed, ac enw yr Ysgol Sul y mae yn ddeil- ydd o honi ar hyn o bryd. Nid oes eisiau profiad na thraethawd, ond y ffeithiau hyn yn syml, ond gofaler fod y llythyr wedi ei ar- wyddo gan Gadeirydd Undeb yr Eglwysi Rhyddion agosaf at yr ymgeisydd, neu gan rhyw berson arall adnabyddus. Anfoner y llothyr wedi talu v cludiad i Dr. Oliver, Holywell, o fewn y mis presenol (Mawrth). Caredigrwydd mawr o eiddo Miss Gee a'r teulu, ydyw rhoddi y medals hyn yn fiynyddol, ac y mae yn gwneyd o galon, ac o gariad at Iwyddiant yr Ysgol Sul yn Nghym- ru. Y mae yn haeddu diolchgar- wch ysgolion Sul Cymru am ei charedigrwydd. Mae y buddugwyr yn cael y fraint o ymddangos ar lwyfan Cyfarfod Blvnyddol Undeb yr Eglwysi Rhyddion, i dderbyn y medal, neu rhywun yn eu lie, os y methant hwy eu hunain a bod yno. Bendith ar yr hen bobl sydd-yn ffyddlon i'r Ysgol Sul. Dinbych. D. THOMAS, I

Oddiar Y Mur.

Advertising

YN Y SENEDD.