Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR LLUNDAIN. I
LLYTHYR LLUNDAIN. I (Gan ein Gohebydd Arbenig). I I Er pan anfonasom o'r blaen mae llawer iawn o bethau wedi digwydd, ond nis gellir dyweyd fod yr awyr wedi clirio ail i ddim. Yn wir, bron na thybiwn heddyw ,fod pethau yn fwy anaddawol nag y buont. Ond rhaid wrth feiddganvch mawr i bro- phwydo. Mae amryw bethau fodd bynag wedi tynu ein sylw, ac yn wir temtir ni i gyfeirio atynt yn y llith hon. YMWELIAD Y TYWYSOG A DEHEUDIE I AFFRIG. Nid ydym hollol sicr pa bryd y mae yn myned, nac yn hidio ond gwelsom y dyddiad, ac enw y llong sydd i gael yr an- rhydedd o gario ei fawrhydi. Mae'n debyg y rhydd ei bresenoldeb ryw fath o urddas arwynebol ar amgylchiad agoriad y Sen- edd Undebol yn Affrig, yr hwn amgylch- iad yn benaf a'i geilw i gymeryd yfordaith. Ond yr hyn a dynodd ein sylw yn benaf oedd Rhaglen ei weithrediadau tra yno Pe buasai yn ymweliad rhyw hen dywys- og paganaidd buasai rhywbeth i'w ddy- weyd dros ei raglen ond fel math o gyn rychiolydd o wlad Gristionogol, tybiem ei bod yn un fydcl iawn a thra milwrol. Oni ellir mewn difrif anfon i ymenydd ein har weinwyr mewn materion fel hyn, fod go- goniant mewn rhywbeth heblaw milwr- iaeth ac arfau dinystr ? A ydyw wedi dy- fod i hyn-mai unig ogoniant a nerth gwlad Gristionogol ydyw arfau rhyfel. Un o'r pethau cyntaf a wneir wrth gwrs ydyw adolygu y lluoedd. Rhan helaethaf y rhag,en ydyw ymweliadau a'r lleoedd y tywylltwyd gwaed gwirion yn amser y rhyfel. Mae wedi penderfynu cymeryd ei Suliau yn dawel, a chrefyddol. Un prawf o hyny ydyw mai ar y Sul y bwriada ym- wefed a bedd Cecil Rhodes, yr ymgorph- oriad rhyfedd hwnw o feddyliau materol. Yna daw agoriad y Senedd, ac wrth gwrs, lawer o wledda, a dawnsio, lie yr ymdden- gys ein Tywysog i fantais yn ddiau. Nid ots air o son am ddim crefyddol yn y rhaglen. Ac ar rai cyfrifon efallai mai diolch ddylem am hyny. I ETHOLIAD CYNGHOR SIROL LLUNDAIN. I Daeth, yn well na'n hofnau, gan mai tawel iawn yr ymddanghosai pethau. Ar wahan i anffawd yn Central Finsbury, buasai y pleidiau yn gyfartal. Colli wnaeth y Diwygwyr yn mhob cyfeiriad, lie mae Mammon yn teyrnasu. Gresyn mawr na fuasid wedi gallu gwneyd yn well, ond rhaid peidio grwgnach. Di- gwyddodd rhai pethau rhagorol. Mae lloedd tylottaf Llundain-y lleoedd gwer- inol, bron i gyd yn nwylaw y Rhyddfryd- wyr. Curwyd Shirley Benn, yr hwn a geisiodd droi John Burns o Battersea yn yr Etholiad Cyffredinol.1 Cauwyd hefyd Sim- mons, yr hwn fu ddigon digywilydd i achosi y drafferth i Mr Benn ymladd eil- waith yn St. George's in the East. Ni choll- wryd ond Deptford, ac enillwyd 21 o sedd- au. Mae'r modd y defnyddiodd y Moder- ater eu mwyafrif o ddau yn Etholiad yr Aldermen yn arddanghosiad o'r hyn awna Toriaeth pan ga gyfle. Am ddigywilydd- dra ac anfoesgarwch, hi pia hi. Cymeras- ant feddiant o'r deg lie gwag a chawsant araeth ar y mater gan Sir John Benn, o dan yr hon y dylent wrido. Ond pan wrido y math yma, bydd y mil-flwyddiant yn y golwg. Mae Rhyddfrydwyr ar y Cynghor yn ddigon cryfion i gadw'r lleill rhag gwneyd llawer o niwed, os na ellir eu tywys i ddaioni. Ty YR ARGLWYDDI. I Nid oes genym lawer o duedd i gyfeirio at hwn ond am dano ef y sonir heddyw, ac ychydig iawn am ddim arall. Credwn fod ei ddiwedd gerllaw, er efallai nad yn y dyfodol agos iawn. Mae gwerin Lloegr mor ddi-dal, yn enwedig yn y cylch oddeutu Llundain, lie mae arglwyddi mor ami a rhad a dim yn y farchnad. Mae'r cwrs gymerir yn un dyddorol iawn. Flyn- yddau yn ol, pan oedd y Parnell Commiss- ion yn eistedd, un o'r prif weithredyddion oedd Richard Pigott, awdwr y forged letters. Pan welodd yr hen frawd hwnw fod pethau yn troi yn ei erbyn, diangodd ar frys, a rhag i neb arall gael y fraint o roddi plwm yn ei fenydd, gwnaeth hyny ei hun. Dyma agweddiad meddwl Ty yr Arglwyddi heddyw. Gwelant fod eu dydd yn darfod a gwell ganddynt farw trwy eu l'iaw eu hunain na thrwy law neb arall. Pan nad oedd pethau yn myn'd yn hollol ffafriol i Doriaeth yn yr etholiad, dechreu- wyd gwaeddi bod eisiau diwygio'r Ty dafiodd allan y Gyllideb. Yn ddiweddar iawn, pan welwyd fod y Llywodraeth o ddifrif am wneyd i ffwrdd a'r Veto, wele Arglwydd Roseberry yn rhagflaenu Ty y Cyffredin gyda nifer o gynygion y mwyaf eithafol o ba rai ydyw yr hwn sydd am roddi ergyd farwol i ettfeddiadaeth fel cymhwysder i sedd yn y Ty. Nid oes dim arall wedi cael sylw y Ty hwn yr wythnos hon. Mae areithiau rneithion a gwagsaw wedi eu traddodi, y rhai y byddai yn wastraff ar amser eu dar- llen. Mae'n rhy ddiweddar am gabolfa o'r lath. Gallwn dybio fod Viscount Morley wedi dyweyd mewn ychydig frawddegau, yr oil oedd eisieu. sef mewn effaith fod Ty I ac y cydnabyddir fod cymaint o angen diwygio arno yn hollol anghyfaddas i wneyd yr hyn a wnaed yn nhafliad allan y Gyllideb. Os oes eisiau condemniad ychtvanegol ac effeithiol ar yweithted hon, darllener araeth Arglwydd Rosebery. OND BETH A WNEIR? Er i ronyn o gysur gael ei roddi i galon- au Rhyddfrydwyr yn ddiweddar rhaid dyweyd nad yw pethau yn edrych ar hyn o bryd yn dda o gwbl. Cydnabyddwn ein bod mewn anwybodaeth am fanylion cyn- lluniau v Llywodraeth. Ond mae rhyw deimlad yn mhob cylch nad ydynt o dclifrifag eithrio George a Harcourt. A dyma mewn gwirionedd ydyw y felldith o hyd gyda Gweinyddiaethau Rhyddfrydol. Mae'r wlad o ddifrif, ac yn gwneyd aberth- au lawer er mwyn rhoddi Rhyddfrydwyr mewn swyddau. Ond wedi cael y swydd- au, teimlir eu bod yn gorphwys ar eu Tnwyfauyn cyfaddawdu, ac yn ceisio plesio Pawb. Gresyn oedd j'r blaid Ryddfrydol sorl arn" ddiwyo-io" Tv yr Arglwyddi o gwbl ar hyn o bryd. Nid ydym yn amheu P, ?, d I ?Iii, gwneyd hyny, ac nis gwelwn fod ?nghysondeb o gwbl rhwng hyny a i ffwrdd a'r Veto. Ond yn awr yr Olaf Ydd eisiau ac nid dim arall. Ceir ???i ?beth fydd Penderfyniadau y Lly- wAn rf-e^h un o'r dvddiau nesaf yma. Os T ??? ?? ?'? dyddiau nesaf yma. Os Vc!v  grynon a beiddgar, popeth yn dr)'? ? na, bydd Aelodau Llafur a'r C??yQaelodmewnarfau, a dvna ben. Ie, dyna ben ar gyfleustra Rhyddfrydwyr am I amser i ddyfod. APEL AT Y BRENIN. Amheuir yn awr a fwriedir gwneyd hyn. Ac amheuir hefyd pe y gwnelid a yw efe yn ffafriol. Os nad yw iddo ef ac i'w had ar ei ol y bydd y gwaethaf o'r helynt. Bu bywyd rhagorol a synwyr cyffredin cryf ein Buddug da yn ddigon i ddystewi y son am Werin-lywodraeth, pan oedd dyn fel Chamberlain yn ffafriol iddi. Mae lor- werth VII. wedi gwneyd yn dda hyd yma ac wedi sefydlu ei hun yn ffafr y bobl, ond rhaid iddo wylio. Nid oes neb yn meddwl fawr o'i olynydd mor bell, a chredwn nad yw yn codi yn ffafr y wlad. Mae mwy o son am Werin-lywodraeth nag a fu er's clegau o flynvddoedd, ac mewn difrif mae yn ymddangos fel pe na fyddai obaith am danom ond trwy gael Plaid Llafur yn ddigon cryf i lywodraethu, beth bynag am ffurf Llywodraeth y wlad, brenhiniaeth neu fel arall. TTEULIAU LLETHOL Y LLYWODRAETH. I Tra y mae'r Arglwyddi a'u bryd ar hunanladdiad, ymddengys Ty y Cyffredin a'i fryd ar ladd y wlad trwy feichiau ych- wanegol yn nghyfeiriad milwriaeth fwr- iedir tua c6,000,000 yn fwy ar longau rhyf el na'r flwyddyn o'r blaen ac y mae peth fel hyn yn hollol anheilwng o'r Blaid Ryddfrydol sydd a'i harwyddair yn nghyf- eiriad Cynildeb. Rhoddir ffordd er mwyn cyfarfod ar anesmwythder a gynyrchwyd gan Charles Beresford a'i gyffelyb. Iechyd i galon oedd gweled agweddiad Llafur yn y mater hwn. Waeth y naill Weinydd- iaeth na'r Hall os yw gwlad Gristionogol am wario [40,000,000 ar longau rhyfel a pethau o'r fath. Nid yw peth fel hyn ond dechreu y diwedd i'n gwlad.
Cymanfa Bregethu Lerpwl.
Cymanfa Bregethu Lerpwl. Cynhaliwyd y Gjmianfa eleni, o ddydd Gwener dros y Sul, hyd ddydd Mawrth. Cafwyd hindda ddymunol iawn, a bu hyny ynhelp i gael cyn 1.1 lleidfaoedd da. Bernir fod y cynulliadau yn well y tro yma na'r un tro er pan gychwyn- wyd; a diau mai cynyddu a wnant fel y bydd yn Gymanfa yn hen- eiddio ac yn dod yn un o institutions y dre. Y pregethwyr eleni oeddynt y Parchedigion Hugh Hughes, Is- fryn Hughes, D. Gwynfryn Jones, R. W. Jones, Bethesda G. O. Roberts, Caer; W. R. Roberts, Llandndno, Charles Jones, D. Tec- wyn Evans, Robert Pritchard, Headingley, a H. R. Owen, Dids- bury. Yn ystod y nosweithiau blaenorol cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi i erfyn am yvenau yr Ar- glwydd ar yr wyl, yr oedd cryn di pyn o wres yn rhai o'r cyfarfodydd hyn; a phan ddaeth y Gymanfa, teimlwyd yn yr holl odfaon nad oedd y meistr yn nepell oddiwrth ei weision, Fel yma yr oedd trefn y Pregethu. I Nos WENER, AM 7-30. Oakfield.—Parch. Hugh Hughes. ■Mynydd Seion.—Parch D. Gwynfryn Jones. Birkenheacl.- Parch. Charles Jones. Trinity Road.—Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Y SABBOTH. Oakfield—10-30, Parch W. R. Roberts. 2-30, Parch D. Gwynfryn Jones. 6, Parch T. Isfryn Hughes. Mynydd Seion—30-30, Parch T. Isfryn Hughes. 2-30, Parch D. Tecwyn Evans, B.A. 6, Parch Hugh Hughes. Spellow Lane-10-30, Parch Hugh Hughes. 2-30, Parch, R. W. Jones. 6, Parch D. I Tecwyn Evans, B.A., Birkenhead.—10-30. Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., 2-30, Parch. H. Hughes. 6, Parch. D. Gwynfryn-Jones. Trinity Road—10-30, Parch. R. W. Jones. 2-30, T. Isfryn Hughes. <5, Robt. Pritchard. 1 Garston-JO.30, Parch. Robt. Pritchard. 2.30, Parch. G. O. Roberts. G, Parch. W. R. Roberts. Plimsoll Street—10.30, Parch. D. Gwynfryn Jones. 2.30, Parch. Charles Jones. (j, Parch. R. W. Jones. Egremont—10.30, Parch. G. O. Roberts. 2.30, Parch. W. R. Roberts. 0, Parch. Charles Jones. Knowsley Road—10.30, Parch. Charles Jones. 2.30, Parch. Robert Pritchard. 6, Parch G. O. Roberts. Widnes—10-30, a G, Parch. H. R. Qwen. Rock Ferry—10-30. Parch. Owen Evans. 2-30, Parch. R. Lloyd Jones.
Advertising
Neath Abbey, Cylchdaith Abertawe. CYNHELIR Nodacljfa Fawreddog Dan nawdd yr Eglwys uchod yn Central Hall, Skewen, Dyddiau Iau, Gweper a Sadwrl7, Mawrtb ,1, ac Ebrill i ac 2, 1910. Diolchir am gyfraniadau neu nwyddau anfonir i Swydd- ogion y Pwyllgor :— Parch. G. Bedford Roberts, Tawel fan, Skewen. Mr. David Poley, 14, Springfield, Skewen. Mr. William Pickrell, Tai-llwyd, Neath Abbey, — — Nofel yn gwneyd ei Chartref yn Lleyn. Son a Siarad Pawb am danill Gweledydd y (ilyn GAN "WILYM tLYWELYN. Pris 2/6 a 1/ Peth go ddymunol wrth ddarllen awdwr newydd yw medru teimlo fel y teimlir wrth glywed pregethwr ieuanc-' Wel, y mae yna rywbetk yn hwn.' Disgwyliaf betliai-, mawr oddlwrtho. Y Gwyliedydd Newydd. Mewn gair, mae dawn y nofelydd ganddo.Y Faner. "Ystori ragorol, yn denu un i'w darllen drwyddi cyn ei rhoddi helbl;o.A" Gwynne Jones. Mae'r arddull yn dlos, a chryfheir gwladgarwch y darllenydd."—Cyrarn. Possesses great power to delineate character. TVestern Mail. It excites a decided curiosity as to writer's potential force. "-illo nchestei- Guardian. Yr wyf wedi darllen y llyfr gyda bias anarferol."—Mr. L. j. Roberts, M.A. Rhaid edrych ymlaen am lyfrau eto gan Mr. Gwilym Llywelyn."—Y Genedl. It is full of interesting incidents.South Wales Daily News., Dipyn o gamp fydd i neb ddarllen y gyfrol hon yn hollol ddifeddwl."—"Silyn yn Y Glorian. Celfydd yw y portread o'r fodryb grintachlyd, a chynhwysa. y llyfr cryn dipyn o fyfyr cudd y Celt. '—Y Drysorfa. One cannot read a chapter of this book without being struck by its noble spirit of nationality. It is a beautiful allegory.Freeman's Journal, Dublin. Ynghyd a lliaws o rai eraill cyffelyb. Telerau swynol i Lyfrwerthwyr, neu yn rhad drwy y post am 2s. 6c,. neu Is. 2c. The Armonic Ltd., High Street, Mold, N. Wales.
Advertising
EVERY BOX OF ENGLAND'S GLORY' MATCHES USED Means MORE WORK for British Workpeople. Gloucester.
COLOFN Y MERCHED. I
COLOFN Y MERCHED. I Bwyd ac Iechyd. Wedi darllen erthygl" gynwys- fawr dan y penawd uchod o eiddo'r meddyg adnabyddus, Dr Andrew Wilson, credwn mai dyddorol ac addysgiadol ydyw imi yma wneud rhai cyfeiriadau at yr hyn gryb wyllir ganddo. Pan ystyriwn, yr ydym i raddau helaeth yr hyn y gwna ein bwyd ni i fod. Gan yr adeiladir ein cyrph o'r bwyd fwytawn, ac y maethir ein hymenydd a'r gwaed gynyrchir o'n hymborth, hawdd ydyw gweled fod iawn lywodraethiad ein cyfan- soddiad hefyd yn dibynu ar an sawdd y gwaed. O'n hymborth hefyd y derbyniwn yr yni,' neu y gallu i gyflawni gwaith; mewn gair, cyflawnir pob gorchwyl a dyledswydd o'n heiddo, o'r bwyd fwytawn. Gellir i ryw raddau gymharu'r cyfansoddiad dynol i beiriant. Rhaid yn gyntaf adeil- adu'r peiriant, o haiarn dyweder, yna rhaid ei ddiwallu a glo i gyn- yrchu ager, er ei alluogi i weithio. Felly gyda'r corph, rhaid ei adeil- adu a'i gyflenwi a gallu i weithio —yn feddyliol a chorphorol (mus- cular), Y mae yr haiarn o ba un yr adeiladwydy peiriant yn wahan- ol i'r glo a'r dwfr a ddefnyddia i'r dyben o gynyrchu yni,' neu allu i weithio felly hefyd gwahaniaetha y bwydydd a adeiladant y cyfan- soddiad, oddiwrth y rhai sydd yn cyftenwi ini yni (energy). Corph-adeiladol ac Yni-gynyrch- iol. Nid ydyw, efallai, yn "bosibl i dynu llinell mor derfynol cydrhwng y ddau ddosbeirth, hyn o fwydydd, ag a welir cydrhwng haiarn y peir- iant ynghyda'i danwydd a'i ddwfr. Y mae'r ddau fath o fwydydd yn arosod(overlapinn)eu gilydd mcgis: eto: canfyddir gwahaniaeth pen odol cydrhwng y nitrogenous, neu'r corph adeiladwyr; a'r non-nitro- genous, neu y rhai hynny a gyn- yrchant ein gallu i weithio. Dywed gwyddonwyr wrthym fod yn rhaid ini yn feunydcliol wrth un rhan o'r corph-adeiladwyr, ar gyfer pedair rhan a haner o'r yni-gyn- yrchwyr. Tori eu beddau gfyda'u danedd. Gallwn gyraedd safon uchel o iechyd tra 3 n cadw at y cyfartal- edd yma. Pan yn bwyta gormod neu rhy fychan o un o honynt yr ydym yn agored i afiechyd. Y mae cymeryd gormod o gig yn cym- I wyso un i gael gout, neu afiechyd tebyg; yr un modd ag y mae cym- eryd i ormodedd o'r nori-nitro- F i e genous, yn tueddu ami un i fyned yn rhy dew. Rhaid i'r ieuangc wrth gyfran fwy o'r dosbarth cyntaf o fwydydd, er adeiladu, yn ogystal ac adgy- wiro ei gyfansoddiad. Yn amser henaint, eto, rhaid lleihau swm y bwyd. Yn wir, dywedodd un meddyg ffraeth rod y dyn deugain mhvydd oed sydd yn bwyta cym- aint a'r un deg-ar-hugain yn sicr o fod yn tori ei fedd ei hunan gyda'u ddanedd. Tystia gwyddoniaeth mai bwytawr cynil (spare livers) ydyw y mwyaf tebyg o gyraedd oedran teg ac irf. Cynrychiolir y corph-adeiladwyr gan Alumen; i'w gael mewn wyau, cig, fowl, a physgod gluten mewn blawd, legumin, mewn pys, ffa a lentils, a I casein, mewn llaeth. Dyma'r syl- weddau mwyaf adnabyddus o honynt, er fod yna rai eraill. Y bwydydd sydd yn rhoddi ini allu i weithio ydynt, starches, siwgrau, a gwerau (fats). Cofier fod starch a siwgr yn debyg iawn, a rhaid i'r starch ddefnyddiwn (mewn bara, tatws, moron, rice, tapioca, a'u cyffelyb) gael ei droi i siwgr cyn y gall wasanaethu'r corph. Yn syml pan y bwyteir beef steak, ceir o'r cig coch sylwedd i adeiladu ac adgyweirio'r corph, ac o'r pig gwyn, allu i weithio. Effeithia'r siwgrau a'r starches yn gyffelyb i'r fat: cynyrchant wres, a galluogant ni i ddadblygu ein gallu i weithio. Ffeithiau am Fwydydd. Yn ychwanegol rhaid i ni wrth oddeutu "3) 1 2 peint o ddwfr yn feu- ny ddiol--yr hyn gawn mewn dwfr pur, te, coffi, llaeth, a cocoa. Y mae'r cyfansoddiad dynol yn cynwys dwy yn unig o sylweddau (solids). Yn ychwanegol rhaid i ni wrth owns o sylweddau mwnol (minerals) bob dydd a chyflenwir y rhai hyn o'r gwahanol fwydydd yn ogystal ac o'r halen cyffredin, sydd i'w gan- fod mor reolaidd ar ein byrddau, Rhaid i'r gwaed hefyd wrth ych- ydig haiarn (iron) ac os na chyn- wysa ein bwyd^ychydig potash fe ddioddefwn yn bur fuan oddiwrth scurvy. Gochelwch Ormodedd. Cyfansodda'r ffeithiau elfenol hyn A.B.C.' pob ymchwiliad de- allgar am ymborth priodol. Yr ymborrh delfrydol' mewn gwir- ionedd ydyw yr hwn ganfyddwn y mwyaf cymwys a chyfaddas i'n hanghenion personol ein hunain nid yr un peth wna'r tro i bawb ? Y mae un rheol euraidd y dylem oil ei dilyn, sef osgoi gormodedd- arfer dirwest yn mhob peth. Rhybuddir ni gan feddygon y dyddiau hyn i ofalu peidio cymer- yd bwydydd cigawl i ormodedd, gan mai ychydig, mewn cymhar- iaeth sydd yn angenrheidiol i ad- eiladu'r corph, ac fod unrhyw or- modedd yn y cyfeiriad hwn yn sicr o gael ei ddilyn gan afiechyd. Bwyta i fyw,' ac nid 'byw i fwyta' wedi'r cwbl yw y cynllun goreu i bawb ei ddilyn a thrwy ymdrechu cadw gwyliadwriaeth feddylgar dros gyflwr ein hiechyd, gallwn reoleiddio ein hymborth yn y fath fodd fel y bydd yn ffynhonnell o nerth a dedwyddweh ini, yn ngwir ystyr y gair. Wrth derfynu, teimlwn yn aw- yddus i ofyn y cwestiwn canlynol, —Beth ydyw y prifbeth wna'r car- tref yn brydferth ? Ceisiwn ei ateb (D.V.), yn y nesaf. Y mae adeg y spring cleaning yn agosau, ac er bod yn amserol bydd yn bryd imi esgyn (?) o fyd y 1 pots a'r pans,' gan ein bod hyd yma, bron wedi amwybyddu gwaith amrywiog yr housemaid. Ai nid Wesley ei hunan ddywedodd fod glanweithdra y peth nesaf'at dduwioldeb ?
Y SEIAT FAWR.i
Y SEIAT FAWR. Edrychid yn mlaen at y Seiat Fawr. Cvrchodd rhai iddi o bell ffordd, gwelwyd rhai o Gynlfu yn- ddi yn mwynhau yrarhvy ysbryd- ol. Yn y Mynydd yr oedd y seiat yn cael ei chynal, ac yn dechreu am 7 o'r gloch, a serch mae nos Sadwrn oedd, yr oedd capel braf y mynydd yn rhwydd lawn. 0 bos ibl nad oedd y seiat mor hwyliog ar Seiat y llnnedd, eto yr oedd yn seiat gref ac yn seiat sydd yn sicr o adael argraff ddofn ar fyw\Td Yl11- arferol pawb oedd yn gwrandaw. Yr oedd y mater i siarad arno yn seiliedig ar 2 Tim. ii., 22, 37 peth- au i'w dilyn," sef iawnder," fiydd," '"cariad," "tang '| nefedd." Llywyddwyd gan y Parch. David Jones, Mynydd Seion. Dechreuodd Tecwyn 3m afaelgar Dech.,ceuodd 'Iec?v-\I-n ai,-telgar: Y cyntaf i anerch oedd v Parch. W. R. Roberts. Sylwodd Mr. Rob- erts fod yr Apostol yn anog y bobl ieuainc not rhag chwantau arben- ig, oedd hwyrach yn fwy tueddol iddynt hwy nag i eraill; ond nid oedd hyny yn ddigon, yr oedd yn rhaid "dilyn," N id yw peidio gwneyd drwg yn grefydd rhaid gwneyd da. Gadael Sodom a mynd i Soar Un o ystyron dilyn ydyw erlid. Rhaid i ni fod o ddif- rif felly yn ymroi ar ol cyhawnder. Pwnc y Parch. Isfryn Hughes oedd ffydd. Eglurodd Mr. Hughes yn dra eglur a meistrolgar, mae ystyr j ffydd ydyw anturio ar Grist. Dil- yn ffydd ydyw dangos trwy'n bywyd ein bod yn pwyso ar Grist, ac yn ymddiried ynddo. Wrth ffydd yn troi yn olwg y meddylier fod dilyn ffydd yn esgor ar fodd- lonrwycld. Cawsom fwyd cryf gan Isfryn. Pan yn siarad ar gar- iad yr oedd y Parch. R. W. Jones yn ddoniol a da odiaeth. Dang- I hosodd fel y mae cariad yn tyneru cyfiawnder. Nid sentiment yw cariad. Caru ein gelynion ydyw ewyllysio y daioni goreu i bawb. Byw yn ymyl y groes, ac 3-mhres- enoldeb cariad Duw fedr ddysgu ein cariad. Danghosodd y Parch. Hugh Hughes mae ffrwyth yr holl ddilyn ydyw hunanfeddiant, ghyys. a melus, yn holl helyntion bywyd i gyd, mewn testynau, treialon ac angau ar farn olaf. Seiat gref iawn oedd hon yn wir. GOH.
Advertising
Oherwydd Gwyl y Pasc claw y Gwyliedydd Newydd o'r Wasg y Sadwrn.
[No title]
Cloddio Sylfon.—Yn Nghwriur Lerpwl y dydd o'r blaen, yr oedd darlun o dwr o weithwyr yn Llanddulas, fuont ar gais y Canon Roberts, yn cloddio, am ddim. syl- fon yr eglwys newydd yno. Da iawn, mae hyn yn hen, hen, hen, beth yn hanes y capelau ymneillduol, ond, a barnu oddi- wrth y cyhoeddus—rwydd a roddir iddo rhaid fod hynyna yn beth newydd yn han- es yr hen fam. Dywed y Courier fod yn mhlith v llu un jarmeillduwr oedd o'i galon yn helpu,—hwyrach Ond pa sawl ym- neillduwr a fu yn helpu codi yr Ysgolion Cenhedlaethol ? sydd-ar hyd a. lied v wlad, ac yn hollol yn nwylaw y Personiaid ? Hwyrach y rhydd y Courier i ni ychydig o ddarluniau y rhai hyny. Caftnoil Bach.—Pennodvoyd y Cannon Kemphthorne, o Lerpwl, yn Esgob Cyn- northwyol yn Hull. Y Clerigwr hynaf yn Esgobaeth Bangor. D y cl d Iau, yr oedd y Parch D. L. Wil- liams, M.A., yn dathlu hanner can' mlyn- edd fel rheithor Llanwnda. Brodor ydyw o i-, errys-ide, ger Caerfyrddin, ac yr oedd yn wyr o bosibl y disgynydd hynaf yn fyw o'r diweddar Barch Peter Wiliiams. Mae yn mhell dros 90 mlwydd oed, ac hysbysir ni mai efe yw y clerigwr hynaf yn esgob- aeth Banger. Maeyn mwriad ei biwyfcl- ion ei anrhegu. Wedi hen arfer.—" Mae eich cwestiwn wedi dyfod mor sydyn, Mr, HoAvell," Imeddai Caroline, dan wrido, "fel na wn i yn iawn beth i'w ddyweyd. Rhaid ichi roi amser i mi ystvried y peth. Wrth gwrs, Miss Caroline," meddai'r gwr ieuanc yn addfwvn. Felly—yr—ydw -i wedi arfer gwneyd—bob amser mewn— mewn—mewn achosion fel hyn."