Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

TY YR ARGLWYDDI.

TY'R CYFFREDIN.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

TY'R CYFFREDIN. DYDD LLUN, MAWRTH 14eg. SIARTER Y DDYNES. Cyfnewidiadau Pv/ysig. Dygodd Syr Charles McLaren, A.S., o flaen y Senedd, ddyad Llun, gyfres o fesurau yn cynwys diwyg- iadau ydynt yn rhan o'r hyn elwir Siarter Hawliau a Rhyddid y Ddynes. Amlinellwyd y siarter hon gan Lady McLaren, a chy- hoeddwyd hi gyntaf gerbron Cyng- hrair Rhwng genedlaethol Ethol- fraint y Merched. Bwriada y mesur sefydlu, mysg T)etha-uL eralll:- 1. Fod i'r wraig gael yr hawl o gadwriaeth gan ei gwr, heb ymyr- aeth gwarcheidwaid y tlodion, os nad oes ganddi foddion eraill o gynhaliaeth, ac os y rhwystrir hi i enill ei bywoliaeth oherwydd gofal plant ieuainc. 2. Fod y wraig fydd yn treulio ei boll amser i ofalu am bethau y ty, a gofal y plant i feddu hawl ar ei gwr yn ystod ei fywyd neu ar ei ystad ar ol ei farw, am swm o ar- ian wedi eu cyfrif ar safon. ddim mwy na chyflog housekeeper yn ei safle hi o fywyd, os fydd ganddi foddion eraill at ei chynaliaeth. 3. Fod i Ddeddf Ysgar gael ei diwygio fel i ganiatau ysgar i'r gwr neu y wraig ar sail anffydd- londeb yn unig. 4. Fod y tad a'r fam i fod yn gyd-warcheidwaid i'w plant. 5. Fod hen hawliau y wraig i waddol i gael eu hadferu ac fod i wragedd gael eu rhoddi mewn safle mwy cyfartal mewn perthyn- as diffyg ewvllys, 6. Na fyddo dynes oherwydd ei rhyw yn unig, neu ei bod yn briod. i gael ei hamddifadu o ymarfer ei hetholfraint Seneddol. Y mae a wneio adranau ereill ag oedran priodasol genethod, atal anfoesoldeb, yr angen am ychwan- eg o gyfleusterau addysgol i eneth- od, sefydliadau trefol at gael llef- rith i fabanod a phlant ieuainc. "Yn Mhrydain yn unig o wied- ydd Ewrop," meddai Lady Mc Laren, "y mae y weddw heb hawl gyfreithiol ar ystad ei gwr; gall, os myn, ei gadael yn hollol heb arian." Credai os gellid sicrhau i'r wraig gyda phlant bychain ran o gyflog y gwr, byddai yn haws iddi aros adref. Mewn perthynas i ferch- ed yn gyffredinol, dangosai y dyst- iolaeth nad allai y dynion, pe myn- ent, gadw y merched. Yn yr Al- maen, gweithiai naw miliwn o ferched am eu bywoliaeth; yn Ffrainc, yr oedd 82 y cant yn 11a f urio am eu tamad. Yr oedd yn wahanol amser fu, pan gynyrchaiy merched gymaint yn eu cartrefi; yn awr, ni wnant ddim bron ond ysgubo y baw, ac nid oedd gwaith fel hwn yn cynyrchu dim. Yr amcan presenol yw dod a'r mater i sylw. DYDD MAWRTH, MAWRTH 15fed. Cwmmerodd y Llefarydd y gad- air am chwarter i dri-. PLEIDLEISIAU I FERCHED. I Cyflwynodd Mr. Vivian ddeiseb, wedi ei harwyddo gliI n 1,341 o eth- olwyr seneddol yn Birkenhead, yn ffafr estyn yr etholfraint i ferched. Daeth Mr. Snowden yn mlaen i gyflwyno deiseb gyffelyb wedi ei harwyddo gan 6,000 o etholwyr yn Blackburn. DAMWEINIAU YN CHWARELI-LLECHI I DINORWIC. Mr. Ellis Davies a ofynodd i'r Ysgrifenydd Cartrefol pa un, yn ngwyneb y ffaith nad oedd dim llai na 33 y cant o'r gweithwyr o'r tu mewn i Chwareli Llechi Dinonvic. sir Gaernarfon, wedi cael eu niweidio, yn rnhob un o'r blynyddoedd 1908 a 1909, a fyddai i 3rmchwiliad arbenig gael ei wneyd i'r amgylchiad; os na wneid, a fyddai iddo ystyried y priodoldeb o gael ymchwiliad di- ced gan ryw berson annibynol cyf- arwydd a'r gangen o lechi. Mr. Churchill a ddywedodd fod arolygwyr mwngloddlauwedi talu sylw arbenig i ddamweiniau yn y chwareli hyn. Cyfeiriant hwy fod cyfartaledd lliosog o'r niweidiau i o nodwedd ddibwys, a bod toriad- au, neu friwiau o lymder y lechen yn ffynonnell ffrwythlawn iawn o'r niwed a phe byddai i'r damwTein- iau difrifol ddim ond cael eu hys- tyried (hyny yw, y rhai a adrodclir i'r arolygwyr) fod y nifer yn ol y cant yn fychan—1.0 yn Dinorwic, a 1.96 yn y chwarelau eraill, yn yr un rhanbarth, yn ystod 1909. Rhoddwyd cyfarwycldiadau i'r ar- olygwyr wneyd adroddiad pellach, ar ol gwneyd archwiliad ar eang- der yr adroddiadau am 1909, y rhai sydd newydd ddyfod allan, ac yn ngwyneb dynesiad y Ddirprwyaeth Frenhinol i'r sefyddfa yn y chwarel hon, yn gystal a chwareli eraill, nid oedd yn mfeddwl y byddai ym- chwiliad annibynol yn un doeth. DYDD MERCHER, MAWRTH 16eg. Cymerodd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri. EHOLIADAU SENEDDOL. I Cyfiwynodd Mr. J. King fesur i ddiwygio y gyfraith gyda golwg ar etholiadau seneddol ac i sichau pan gymer etholiad cyffredinol le, fod yr holl etholiadau yn cael eu cynnal yruri diwrnod. DYDD LUJ A GWENER. I Arglwydd Charles Beresford fu y dyddiau hyn yn siarad ar bwngc y llynges a ptrwyllgorau gan mwy- af ar y supplies. Arglwydd Morley a ddyfynodd o areithiau blaenorol Rosebery, i ddangos pa fodd yr oedd wedi newid ei olygiadau a dyfynodd o areithiau Mr. Balfour, er dangos ei fod ef yn dal allan y dylai Ty y Cyffredin fod yn oruchaf. Nid oedcl y Llywodraeth yn ei gweled yn angenrheidiol i gynnyg gwelliant, I ond byddai iddynt gynnyg eu cyn-, J ygion eu hunain yn yr amser pri- odol. Trwy eu hymddygiad eu hunain yr oedd yr arglwyddi wred achosi ymgyrch a Thy y Cyffredin Cymmerwyd rhan yn y ddadl gan Arglwydd Onslow, Arglwydd Northcote, ac Arglwydd Duncan, larll Cawdor, ac larll Carrington. DYDD MAWRTH, MAWRTH 16eg. Ail agorwyd y ddadl ar gynllun Arglwydd Rosebery i ddivv-ygio Ty yr Arglwyddi. Dadganodd Archesgob, Caer- gaint ei grediniaeth ddiysgog y byddai i sylwedydd di-duedd o wlad arall, wrth symio i fyny y sefyllfa wleidyddol yn y wlad hon, gael ei daraw a syndod fod dim wedi digwydd i gyfiawnhau cyf- newidiadau mawrion yn nghyfan- soddiad y senedd. Golygai cynyg- ion y Llywodraeth gyfundrefn o un ty, boed iddynt ei gelu fel y med- rent. Nid oedd o un dyben dyweyd nas gallai yr arglwyddi gytuno ar gynllun nis gallai un corph llios- og o ddynion benderfynu y fath fater pwysig heb ddadl ac amyn- edd Yr oedd y faingc esgobol yn berffaith barod i gymeryd eu rhan yn y gwaith a'r canlyniadau. Ardalydd Salisbury a ddywedodd nad oedd yn credu yn niddvmiad hollol yr hawl etifeddol, trwy ba un yr oedd y rhan fwyaf o'r byd yn cael ei lywodraethu. Yr oedd beiau yn nghyfansoddiad Ty y Cyffredin. Cafwyd mw\-afrif o ymhlaid cyn- llun Arglwydd Rosebery. DYDD MERCHER, MAWRTH 16eg. Yr oedd nifer liosog o bendefig- ion ac ymwelwyr wedi ymgynull i'r Ty am haner awr wedi pedwar, Dan yr ail-agorwyd y ddadl ar Ddivvygio Ty yr Arglwyddi. Ar- glwydd Curson oedd y- cyntaf il siarad, a dadleuai ef y dylent hwy gael yr un rhagorfraint gyda golwg ar y cyllicl a seneddau yr Unol Dalaethau a Ffraingc, ac ail cly y rhan hvyaf o'n trefedigaethau. I'r I rhai hyny nas gallent gael eu | gvvneycl yn bendefigion cynrych- ioladol,dywedoclcl y gallant gael eu I derbyniad i mewn trwy ffyrdd er- aill, neu fyned i Dy y Cyffredin. Argl\A737dd Cromer a dclaclganai I ei fod yn wrthwvnebol i roddi i fyny unrhyw allu, hyd yn oed gyda golwg ar gyllid, ond yr oedd yn I ffafriol i ddwyn Ty i gyffyrddiad a'r bobl, ar y llinellau awgrjanwyd gan Arglwydd Roseben7. Arglwydd Halsbury a dd3rwed-1 odd y byddai iddo bleidleisio clros | y penderfyniad, ond yr oedd cyn- nygion Arglwydd Rosebery yn rhai niweidiol, a'r un i ddiddymu yr hawl etifeddol i sedd yn Nhy yr Arglwyddi oedd yr un fwyaf niw- eldiol o r cwbl. IAT] A GWENER. I Cauwyd y ddadl i fyny gan yr Arglwydd Crew a Lord Lands- downe.

FFEIRIAU CYMRU. I

MARCHNADOEDD. I

Advertising

AMSER .GOLEU LAMPAU. --, I