Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TC.L PPOa? V, r?,i l?z,- ii7 LIVERPOOL. SHAFTESBURY HOTEL. Mount Pleasant. Four Minutes' Walk from Lime Street and Central Stations. Cars from Landing Stage stop at the door. A High Class Temperance Hotel. Moderate Charges. Welsh spoken. Arran Monumental Works, DOLGELLEY. BRANCH AT TRAWSFYNYDD. J. & R. W. THOMAS, MONUMENTAL MASONS. ALL MARBLE WORK UNDERTAKEN, including Memorials in Granite and Marble. Cof-Seiri Marmor a Cheryg Beddau o'r gwaith goreu. Estimates Free. Distance no object. Anfonwch am y Prisiau. Why buy trashy Foreign made Watches, when you can obtain Reliable British Made Watches fully Guaranteed, in Gilt, Oxydized, Nickel, Silver, or Gold Filled Cases from G. E. OWEN, Watchmaker, Barmouth, at 55., cl Is., cl 17s. 6d., and [2 2s. each in Gent's size, and [1 5s., [1 9s. 6d. and [2 2s. each in Ladies' size. On receipt of Postal Order any of the above will be sent at sender's risk and cost. Money refunded if the Watch is not ap- proved of DYMUNA Mr. J. E. Morris, Arweinydd Hen Gor Meibion enwog Llangollen, yr hwn fu yn fuddugol yn rhai o brif Eisteddfodau y Gogledd, hys- bysu ei fad yn barod i wasan- aethu fel Arweinydd Cyman- faoedd ac fel Beirniad Cerdd- orol. Cyfeiriad:— Central, Oak Street, Llangollen. Mr. T. CARRINGTON (PENCERDD GWYNFRYN), Organydd "Rehoboth," Coedpoeth. BEIRNIAD, CYFEILYDD, Sc. Ail Argraffiad o'r Gan boblogaidd, Cymru." Y geiriau gan Mr. T. Herbert Hughes, Llanrwst. Unrhyw lais. Drwy'r post, 7c. Anthem Goffa Canrhawdfardd, Gwyn ei fyd y gwr." Dewiswyd i Gymanfaoedd Lerpwl, Manchester, &c. am 1910. Can Ddirwestol hwyliog. 6s. y cant. Cyfeirier: Coedpoeth, Wrexham. Arweinydd a Beirniad CerddoroL DYMUNA Mr. ROBERT GRIFFITH, Vulcan Villa, Abermaw, Wneyd yn hysbys ei fod yn agored i dderbyn ymrwym- iadau fel Arweinydd Cyman- faoedd a Beirniad Cerddorol. TELERAU RHESYMOL. YMOFYNER I'R CYFEIRIAD UCHOD. TELYNOR MAWDDWY. Dymuna Mr. DAVID ROBERTS (TELYNOR MAWDDWY), Morben Villa, Abermaw, HYSBYSU ei fod am brisiau rhesymol JJL yn barod i Ddysgu Pupils ar y Delyn Gymreig (y deires neu'r bedolawg), ac hefyd eu dysgu i Ganu Penillion. At hyny y mae yn barod i Ganu Pen- illion a Chwareu'r Delyn mewn Cyng- herddau a'r cyffelyb, ynghyd a Beirniadu mewn Cyfarfodydd Cystadleuol. "John Penri," Y Merthyr Cymreig, I'w gyhoeddi yn fuan. LLYFR SWLLT AR HANES JOHN PENRI, GAN D. Gwynfryn Jones, ABERMAW. Bydd y Llyfr yn cynwys rhai ffeithiau newyddion. Archebion ac Enwau Tanys- grifwyr i'w danfon i'r Awdwr.
HYNODION A HELYNTIONI ABERNODWYDD.
HYNODION A HELYNTION I ABERNODWYDD. GAN NEMO. I I PEN NOD VIII. I I ABftJLADD DIWRNOD CYNHAUAF. I Rhaid i'r beddrod gael ei ddiwrnod, Yn wythnosau'r byd Fe geir awr gyfleus i drallod, Unrhyw bryd." Yn unol ag arferiad ardal Abernodwydd ers cyn cof, ymwelwyd a'r Hendre gan rhywun o bob ty yn y plwyf, ac ni feddyl- iai neb am alw yn wag-law. Nid oedd sefyllfa fydol y galarwyr, yn peri fod yr arferiad yn cael ei dori o gwbl, deuai rhai a bwydydd o wahanol fathau nen rhyw ddilledyn buddiol i rai o'r plant, os dig- wyddai fod rhai yn perthyn i'r teulu trall- odus. Pan glywais am yr arferiad gyntaf methwn a deall pa synwyr oedd dwyn rhoddion i bobl da eu byd, ond eglurodd fy modryb y byddai gneud gwahaniaeth rhwng cyfoethog a thiawd yn debyg o beri trallod i'r anghenus ac ychwanegu gofid at ofid. Tybiwn fod y cynllun yn un rhag- orol i estyn cymwynas i dlodion yr ardal mewn adeg ag y mae yn-dda wrthychydig o gynorthwywyr, a thybiwn ei fod yn llawer gwell na'r arferiad ffol sydd mewn bri mewn rhai parthau o Gymru, o fwyta yn nhy y trancedig cyn cychwyn tua'r fyn- went. Yn ol a glywais cyrchu pobl i'r angladd o bell ac agos, a throir ty galar yn dy gwledd, ac ystyrir ei fod yn anfri ar y teulu os na fydd i bobl y drws nesa' a phob drws arall yn yr ardal gymeryd eu gwala a'u gweddill o'r danteithion fydd wedi eu hulio ar eu cyfer. Mewn ambell i achos ni cha y siopwr fydd wedi pobi y teisenau a berwi y bacwn ddima byth am danynt, a phryd arall bydd gwraig weddw fu'n porthi'r plwyfolion dydd claddedig- aeth ei gwr yn gorfod mynd at y Gwarch- eidwaid i ymofyn ymborth iddi hi a'i phlant cyn pen y pythefnos. Gresyn na cheid diwygiad yn arferion claddu y Cymry. Er fod pobl Abernod- wydd yn rhagori ar ambell i ardal yng Nghymru eto sylwais fod yno lawer i ddef od wastraffus a dialw am dani. A waeth imi nodi rhai ohonynt yn y fan hon. Rhenid cardiau coffa i bawb ddelai i'r angladd, nis gwn o bethau'r ddaear pa ystyr sydd iddynt. Y mae pawb sy'n caru a pharchu'r marw yn sicr o'i gofio heb yr un cerdyn, ac ni bydd i'r lleill a'u derbyn- iant feddwl dim ohonynt, ond odid na luchir hwy i'r tan y cyfle cyntaf a geir, neu gwaeth na hynny,-lluchir hwynt o gwm- pas y ty o gongl i gongl nes y byddant yn dduach na chynt, a hawdd fyddai barnu oddiwrth y modd eu diystyrir, nad oedd gan y bobl gafodd gardiau feddwl o gwbl o'r marw a fwriedir ei barchu trwy eu rhanu ac hyd yn oed pan y meddylir llawer ohonynt beth sydd mor wrthun a'u dodi mewn ffram fel pictiwr a gosod uwchben y cerdyn watworlun anaturiol o lun dan rywbeth yn eistedd dan helygen blygedig, fel pe yn arwyddocau fod marw yn terfynu pob peth. Y mae gorfod aros noson mewn ystafell wely gyda rhyw hanner dwsin o'r cyfryw yn crogi ar y par- ed yn waeth na threulio noson mewn 11 Chamber of horrors." Nid oedd pobl Abernodwydd, mor bell ag y sylwais yn rhyw eithafol iawn gyda'u galar wisgoedd. Nid oeddynt mor ynfyd a phrynu cadachau poced gyda thua modfedd a hanner o ymyl ddu iddynt, a choleri gyda rhimyn du igam-ogam yn rhedeg ar hyd eu hymylau. Yr unig eithriad a welais, oedd Shion Rhys, Tyntwll, yr hen bagan y soniais am dano o'r blaen. Yr oedd ef mewn mourn- ing dros ei ben, yr oedd bron yr oil o'i het wedi ei gwisgo a chrape a phlygion o'r un defnydd am ei fraich, ond nid oedd hynny yn beth i'w ryfeddu ato yn ei aohoa er, canyc yr ucclci yn llawer mwy cyd-naws a'i ymddygiad na phe y buasai yn Gristion ac yn credu mewn Adgyfodiad a bywyd gwell y tu liwnt i'r lien. Cynhaliwyd trengholiad ar William Jones ond nid oedd y cwbl ond ffurf. Nid oedd dedfryd i'w chvyn ond marwolaeth trwy ddamwain." Er nad oedd y pellder o'r Hendre i Eglwys St. Cuthbert yn llawn filldir a han- ner, yr oedd mewn plwyf gwahanol, ac er i fy ewythr ymdrechu yn deg, methodd a llwyddo i berswadio y person i roddi can- iatad i'r Gweinidog gladdu, safodd ar ei hawl honedig yn ol y gyfraith a mynnai wasanaethu ynyr Eglwys ac ar lan y bedd ei hun. Nid oedd ond ychydig fisoecld er pan gafodd y fywoliaeth ac y mae yn am- heus gennyf a adnabyddai William Jones o gwbl. Beth tybed ydyw y rheswm fod offeiriadon Cymru mor hoff o gladdu Ym- neillduwyr? Nis gallaf feddwl am yr un rheswm os nad ydynt yn meddwl y cant y fraintonel dal ati hi o gladdu yr olaf yn y man. Parodd ystyfnigrwydd y Parch. Joseph Jenkins, yn gornedd i'w phriod gael ei gladdu gan ei Weinidog gryn ofid i Mali Jones a ffromodd yr ardalwyr yn aruthr, oblegid nid oeddyn-t hwy yn perthyn i'r epil anachaidd hynny o Ymneilltuwyr a geir mewn rhai parthau o Gymru, a war- adwyddant eu Heglwys a'u proffes, trwy gael rhyw berson neu giwrad, i fragawth- ian ffurf o wasanaeth ddienaid mewn rnodd peirianyddol uwchben bobl dduw- iol, a ystyrient hwy yn hereticiad anob- eithiol. Credai Ymneilltuwyr Abernod- wydd mai y Gweinidog a wnai y tro i bregethu i'r byw oedd y nnvyaf cymwys i ddodi ei gorff i'r ddaear ar ol i'r enaid a frashawyd trwy ei Weinidogaeth fynd i ogoniant. Ni ddychmygent am fynd at y Person i ofyn iddo gladdu eu hanwyliaid fel pe byddai allwedd Paradwys yn crogi wrth ei wregys ac nad oedd mynedfa yno ond trwyddo ef. Fel protest yn erbyn yspryd trahaus a ffroenuchel y Person, penderfynwyd cynal gwasanaeth yn y capel cyn myn'd a'r corph i'r fynwent. Canwyd, gweddiwyd a darllenwyd y gwasanaeth gladdu a thraddodwyd anerchiadau pwrpasol yno ac yna, wedi cerdded mor bell a'r llidiart oedd ymhen y llwybr arweiniai tua'r Eg- lwys trodd bron yr holl dyrfa eu cefnau ar y person oecld yn disgwyl am y corph ac aethant adref Nis gwn i, am odid un olygfa mwy tar- awiadol nag angladd yn y wlad ar ddiwr- nod cynhauaf. Diwrnod angladd Wlliam Jones yr Hendre, yr oedd pawb yn lied brysur, canys yr oedd y gwair ar lawr yn barod i'w gario ym mhob fferm yn yr ardal, ac nid oedd golwg gadarn iawn ar y tywydd, yr oedd y wybr wedi cochi gryn dipyn yn y boreu a phob argoel y byddai yn debyg o wlawio cyn nos ond er y cyf- an ni fu i hyn luddias y plwyfolion i ddod at eu gilydd yn llu i ddangos eu parch i'w cymydog cymwynasgar, corff yr hwn oedd i gael ei hebrwng i'w orffwysfa y diwrnod hwn. Wrth y ty wedi darllen y ddegfed Salm a phedwar ugain, a chanu yr hen emyn adnabyddus Fe adgyfododd Iesu Yn ogoneddus iawn," &c. Arweiniwyd mewn gweddi dyner a theim- ladwy gan y Parch. O. Festin Williams, Gweinidog yr Anibynwyr yn Abernod- wydd. Yna cychwynwyd tua'r fynwent. Yr oedd yn rhaid i'r elorgerbyd, wrth adael y ty, fyned i ddechreu, trwy y llid- iart, wrth ba un y cyfarfyddodd a'i angau, gan adael y das wair a ddechreuodd ei gosod ar ei gilydd i rhywun arall ei gor- ffen. Yna aethpwyd ar draws cae oedd ef wedi ei dori ychydig ddyddiau yn flaen- orol, ac awgrymiadol dros ben oedd gwel'd yr adladd eisoes yn dechreu tyfu, ymwth- iai llafnau o'r gwellt i fynny trwy fon y gwellt a dorasid. Gwyn oedd eu lliw gan nad oeddynt wedi bod yn ddigon hir yn y goleuni, i droi eu lliw fel ag i gydasio a'r gwerddlesni swynol oedd i'w ganfod ar bob llaw. Wedi myned trwQcld i'r cae nesaf sylwn fod ei bladur wedi ei gadael ar lawr, yn y cau y dodwyd hi, boreu y diwrnod y bu farw mor ddisymwyth, gellid meddwl iddo gael ei alw at ei frecwest pan ar ganol ei wanaf ac iddo yntau wthio llafn ei bladur i'r ystod o wair a dorasai a thaflu ei got lian ac ychydig wair dros yr hogbren a gariai ar goes ei bladurrhag wres yr haul doddi y bloneg a gydiai y grud wrtho. Ar bob llaw gwelid ei ol, mewn un maes siglid cauad o wenith anaeddfed gan awel dyner a chwythiai ar y pryd, a newidiai ei liw yn barhaus gan fodcymyl- an a heulwen fel pe yn erlid eu gilydd yn barhaus ar hyd ei wyneb. Er fod llaw y gweithiwr fu'n hau y gwenith ar hadau eraill a dyfent yn y caeau cyfagos, "Yn yr amdo'n gaeth." Dwed y d'wysen dan ei bendith, Beth a wnaeth." Er fod y gweithiwr diwyd wedi marw, tystia pob erw o'r tir a driniodd mor dda, a phob gwyrch a gwal ar ei ffarm wrth y byd gerbron y nef fod gweddillion gwlad- wr gonest yn cael ei hebrwng i dy ei hir gartref. Distaw a thrist oedd yr osgordd- lu a ddilynent y gorff tua'r bedd ond yn y glas uwch eu penau canai. dau nen dri ehedydd yn swynol dros ben ond y mae yn haws iddynt hwy ganu nag yw i ni gan eu bod yn nes at fyd y pethau gwynion na ni. Aeth llawer o bethau trwy fy meddwl ar y ffordd tua'r bedd ac wrth ddychwelyd yn ol i Faesneuadd. Yr oedd popeth yn ddameg i mi, a chredaf y gwelais ym- hellach a chliriach i gyfrinach bywyd a marwolaeth y diwrnod hwnw nag erioed. Yn yr adladd eiddil a gwelw, a sathrwn gynt yn ddigon diystyr gallwn ddirnad am nerth y bywyd anherfynol sydd yn di- lyn pob lladd, a marw, a mwy o bryd- ferthwch a thynerwch na'r bywyd a fu, gwelwn hefyd nad yw gwaith byth yn mynd yn ofer, os galwyd William Jones, adref ar ganol tori ei wana' wair, ar draws y cae, ac iddo adael ei bladus yn gegur yng nghysgod yr ystod, byddai rhywun yn sicr o'i ddilyn a thynnu y wanaf i ben, ac y byddai i gryman rhywun arall gael ei osod yn y gwenith a hauodd efe pan fyddai yn aeddfed a chludo pob ysgub i ddiddos- rwydd. Sylweddolais yn llawn, mai gwaith ydyw yr unig beth mewn gwirion- edd, nad yw byth yn mynd yn ofer. Y Sabbath dilynol i'r angladd yn unol a chyhoeddiad a wnaed yn y wasanaeth a gynhaliwyd yn y capel cyn myn'd a'r corff i'r fynwent, cynhaliwyd gwasanaeth goff- fldwriacthiul yn yr hwyr ac yr oedd yr addoldy yn rhwydd lawn. Canwyd emynau cyfaddas dan deimlad- au dwys, a thraddodwyd pregeth bwrpasol gan y Gweinidog seiliedig ar y seithfed adnod o'r drydedd bennod ar ddeg o'r Ep- istol at yr Hebreaid, Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw, ffycld y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Ymdriniodd er testyn mewn modd deheuig a chymhwysodd y geiriau at y blaenor dan sylw mewn dull meistrolgar a dyddorol, a chymhwysodd y gennadwri at gydwybod- au y gynulleidfa gyda grym neilltuol. Nid oedd wyneb sych yn gan neb o'r gwrandawyr, ac yr wyf yn dra sicr i ami un benderfynu dilyn ffydd y gwr hynaws a duwiol a gipiwyd adref mor sydyn, o ferw a phrysurdeb y cynhauaf y tu hwnt i'r lien i ardal dawel yr aur delynau. (I barhau.)
PORTHI'R PRAIDD.I
PORTHI'R PRAIDD. I (Gan y Parch O. Hughes, A rthog) I Tangnefedd Duw. "Tangnefedd Duw" yw uchel- nod y bywyd crefyddol—gwobr a choron ymarweddiad sanctaidd, tiriogaeth hyfrvtaf crefydd, y por- feydd gwelltog a'r dyfroedd tawel," gerllaw y rhai y mae y Bugail Mawr yn arwain ei braidd ar ad- egau nodedig nefoedd ar y ddaear yw y tangnefedd hwn, grawnsypiau addfetaf Canaan yn yr anialwch y teimlad puraf, tawelaf, mwyaf nefol a all creadur ei fwynhau ie, yr un o ran natur a gwynfydedig- rwydd Duw ei Hun, a thangnefedd y Cyfryngwr, yr Hwn a ddywedodd Fy nghangnefedd yr wyf yn ei roddi i chwi." Pan y mae y sant yn ei brofi, mae Duw ar y pryd yn ei ddiodi ag afon ei hyfrydwch ei Hun ac mae ychydig ddefnynau o hono yn gwneyd dyfroedd per- eiddiaf ffynonau, y creadur yn ddi- flas iddo. Pwy sydd genyf yn y nefoedd fel' Tydi ? &c. Mae y tangnefedd hwn mor uchel ei ryw fel nad pawb o'r saint sydd yn ei dderbyn, am nad ydynt yn deilwng; ac mae y Beibl yn ei gysylltu yn arbenig a llafur a ffyddlondeb yn yr yrfa grefyddol. Ofer ydyw i'r crefyddwr ysgaprwth, esgeulus, di- ofal, feddwl am dano: "Sefwch yn yr Arglwydd Anwylyd llaw- enhewch yn yr Arglwydd yn was- tadol. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn. Na ofelwch am ddim, ond gwnewch eich deis- yfiadau yn hysbys gerbron Duw ac yna, fel canlyniad y cwbl Tang- nefedd Duw, yrhwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonau yn Nghrist Iesu." Coron, hufen, gwobr bywyd o sancteiddrwydd ydyw. Digon o dal i ti, Gristion, heb son am nefoedd yn y diwedd—digon o dal i ti am flynyddoedd o wylio yn ddiesgeulus—o weddio yn ddyfal heb ddiffygio—o godi y groes beu- nydd—ydyw awr o brofi y tang- nefedd hwn. Goreu Duw iw bobl ydyw DR. JOHN HUGHES. Peidiwch Anobeithio am y byd. Peidiwch anobeithio am y byd, er ei holl dwrf a'i derfysg, ei dyw- yllwch a'i gymysgedd. Yr Ar- glwydd yn yr uchder sydd gadarn- ach na thwrf dyfroedd lawer, ac na chedyrn donau y mor," ac er fod y diafol a'i lu yn cynllwyn ac yn cynllwyno, a phlant diafol yn bar od i weithio allan gynlluniau eu tad, y mae yr Anfeidrol yn cyhoeddi uwchben y cyfan, Fy nghyngor i a saif, a'm holl ewyllus a wnaf," ac y mae y cynghor hwnw yn gyng- hor o heddwch, a'r ewyllys yn llwythog o ddaioni a gras ar gyfer dynolryw. Golygfa anhawddgar ddigon sydd ar y gwastadedd di- ffaeth. Ond peidiwch a'i ddiofrydu i felldith a than wrth edrych tua'r deml, mi a welaf ddyfroedd yn dyf- od allan odditan riniog y ty, ac yn cynyddu wrth redeg yn mlaen nes myned yn afon nofiadwy, ac yna yn myned tua bro y dwy"rain, ac yn llifo i'r gwastad, ac yn dwyn byw- yd a ffrwythlondeb i r lie yr elo, ac o'r diwedd yn ymarllwys i'r mor marw, ac yn iachau y dyfroedd. Iachawdwriaeth Duw ydyw gob- aith y byd, a hanes yr iachawdwr- iaeth yn y Beibl sydd yn taflu gol- euni gobaith ar hanes dynolryw. YR UN. Adnabyddiaeth o Dduw. Y cam cyntaf mewn crefydd yd- yw adnabyddiaeth o Dduvv, ac nid yw perffeithrwydd mewn crefydd yn ddim ond perffeithrwydd) yn yr adnabyddiaeth o hono. Yno yr adnabyddaf megis y'm hadwaenir." A hyn yw y bywyd tragwyddol iddynt dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a an- fonaist ti, Iesu Grist." Yn y fan yna y mae crefydd yn dechreu mewn adnabyddiaeth o Dduw yn ngwyneb Iesu Grist. Ac ni a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe a roes i ni feddwl fel yr adnabydd- om yr hwn sydd gywir, ac yr ydym ni yn y cywir hwnw, sef yn ei Fab ef, Iesu Grist. Derbyn y meddwl i adnabod "y cywir hwnw" yw dechreuad gwir grefydd. Ac mae y lleiaf yn y cyfamod newydd wedi dyfod i'r fan yna, ac nid yw y mwyaf yn gwneyd dim ond cyn- yddu mewn gras a gwybodaeth o Dduw." Ysgrifenu yr wyf atoch chwi blant bychain, ar i chwi ad- nabod y Tad." Ysgrifenu yr wyf atoch chwi dadau, am adnabod yr hwn sydd o'r dechreuad. Adnabod Duw a gymhellir ar y lleiaf a'r mwyaf, ond fod y plant bychain i'w adnabod fel tad, a'r tadau i'w adnabod fel "yr hwn sydd o'r dechreuad." Maent yn yr un sef- yllfa, ond fod i'r sefyllfa hono wahanol raddau, N is gellir medd- wl am neb llai na'r Samariaid, y rhai ni chlywsant ond gair y wraig am Grist, ac un cyfle ganddo ef ei hun ond y maent yn myned o'r oedfa gan ddywedyd, Ni a wydd- om riiai hwn yn ddiau yw y Crist Iachawdwr y byd." Er lleied oedcl- ynt, yr oedd y berthynas newydd yr oeddynt wedi eu dwyn iddi fel deiliaid y cyfamod gras, wedi eu codi i'r stad uchel yma. Dichon yn mysg y rhai mwyaf, na welodd y byd erioed neb mwy na Phaul, ac nid oedd ganddo yntau yn ei fan uchaf ar ei oreu, ond ymestyn am y wybodaeth yma. Fel yr adnabyddwyf ef." Ac nid canwyll yn llewyrchu mewn lie tywyll yw y wybodaeth yma, ond y seren ddydd yn codi yn ein calonau. Canys Duw yr hwn a orchymyn odd i'r goleuni lewyrchu o dywyll- wch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonau, i roddi goleuni gwyb- odaethgogoniant Duw yn ngwyneb Iesu Grist." DR. JOHN THOMAS. Amcan wrth wrando yr efengyl. Y maeffolineb dyeithr mewn llu- aws o honom, nad ydYln yn gosod yr un nod o'n blaen, yr un dyben i gyrchu ato, wrth wrando yr efen- gyl. Nid yw y marsiandwr yn hwylio yn unig er mwyn hwylio, ond er mwyn masnach, ac y mae yn masnachu i fyned yn gyfoethog. Y mae yr amaethwr yn aredig nid yn unig er mwyn cadw ei hun yn brysur, heb yr un nod pellach yn ei olwg ond y mae yn aredig fel y gall hau, a hau fel y gall fedi gyda mantais. Ac a gawn ni wneyd y gwaith mwyaf rhagorol a ffrwyth- lawn-yn ddiffrwyth—gwrando, yn unig i wrando, heb edrych ddim pellach. Y mae hyn yn wir yn wagecid mawr, ac yn drueni mawr, colli y llafur hwnw heb enill dim trwyddo, yr hwn ond ei arfer yn iawn a fuasai o bob un arall Y mwyaf manteisiol ac enillfawr ac eto mae pob cyfarfod yn llawn o hyn. LEIGHTON.
IYr Hen Gorff a'r Bala.
Yr Hen Gorff a'r Bala. Yng Nghyfarfod Misol Lerpwl, y Parch. O.J. Owen a alwai sylw at y ffaith mai yn 1811 y bu ordeinio gweinidogion gyntaf gyda'r Cyfundeb, ac fod trefniad wedi ei gwblhau i gynnal Cymdeithasfa Mehefin Y flwyddyn nesaf yn y Bala er mwyn i'r or- deiniad canmlwyddol fod yn y dref honno. Byddai Cymdeithasfa Mehefin, 1910, felly heb le wedi ei gwahodd ac onid gwell a fyddai apelio am ei chael i Lerpwl, gan na chafodd ieuenctyd ein heglwysi erioed gyfle i weld Gwasanaeth Ordeinio o'r fath ?
IFfei a'r Llywarch Hen.
Ffei a'r Llywarch Hen. Fel hyn y seiryd Llywarch yr wythnos o'r blaen, yn y "Weekly News" am ein Nawdd Sant- Hawddmor i Wyl Dewi Sant—Dewi fab Don. Efe yw Nawdd-Sant ein cenedl ni. A ydoedd Gymro o waed ? A fedrai Gymraeg? Yn wir, nis gwn i. A fu efe'n byw ? Do, meddai'r chwedlau. Hwyrach mai hen dywysog gloyw ei gledd ydoedd, yn byw yn y Werddon yn adeg Branwen. Clywodd y mynachod son am dano os nad pregethwr oedd, gwnaethant ef ar un- waith. Lluniasant iddo gymeriad, a rhoddasant ynddo wyrthiau fel gemau, pethau amheuthyn amseroedd ein hamvy- bodaeth. Cofiir am dano trwy loddesta, a gorfoleddu am Gymru yn Saesneg. Y mae hen genedl y Cymry yn canmol ei hun un- waith yn y flwyddya o leiaf. Chwareu teg iddi trwyn sura'r Sais ddigon ami ar gyfer hynny."
ISyrthio'n Farw.
Syrthio'n Farw. Dydd Sadwrn, syrthiodd y Parch J- Hathren Davies, gweinidog yr Undodiaid yn Cefn, Merthyr, yn farw ar y stryd wrth ei eglwys. Cwynai er's tro, a thybir fod yr helynt a fu yn y fynwent yn ddiweddar wedi effeith- io arno.
IFFEIRIAU CYMRU.
FFEIRIAU CYMRU. Y RHAI A GYNIIELIR YR WYTHNOS HON. Y GOGLEDD. Mawrth 27.-Amlwch. 28.—Tywyn Meirionydd, Gresford, Gwrecsam. Llanbrynmair, y Dref- newydd. 29. -• Llangernyw, Caerw}TS y Drefnewvdd. 30.—Bethesda, Llanerfyl. 31.—Llanfyllin. Ebrill I.-Treffynnon, Llanfaif Caereinion. „ 2.—Fflint, Dinorwig. Y DEHEUDIR. Mawrth 28.-Llanbedr pent Steph- an, Abergwaun, Llan- fihangel Ystrad. 29 .-Castel Inedd, Gower Inn,. Llangyfelach, Crymmych. 31.—Llandysul. Ebrill 1.—Aberdar, Pen y bont.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Caerfyrddin, Mawrth 19eg.- Caws, 40s y 120 pwys. vvyaÚ, 7s. 6c. y 120. Castellnewydd Emtyn, Mawrth 18fed.—Wyau, 16eg am sw, Ilt. Ym' enyn ffres, Is. 2c. y pwys. Dinbych, Mawrth 28ain,—Ymen- yn ffres, Is. 4c. i Is. 5c. y PWys. Gwlan Saesnig, 10c i lIe y pwys a Gwlan Cymreig o 7c i 8c y pwy5- Llandeilo, Mawrth IOeg.-Yal- enyn, Is 2c i Is 3c y pwys. \iVyaÚr 17eg am Is. Llanrwst, Mawrth 22ain.—Ym' enyn ffres, o Is 4c i Is 5c y Py\'ys, Wyau, 14eg a 15eg am Is.
AMSER GOLEU LAMPAU.
AMSER GOLEU LAMPAU. Mawrth 29ain byd Ebrill 4ycld. Mawrth. PrydnaW'!l' 29—Mawrth 7.2-5 30-Mercher 7.21 31—Iau 7.28 Ebrill. I-Gwener 7.30 2—Sadwrn 7.31 3-Sul 7.33 4-LILin 7.34