Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Wes-¡ leyaidd. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDYSUL. Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth yr hen chwaer Mrs. Ketty Jones, Penyfed- wen yn 83 mlwydd oed. Nid oedd ei hiechyd yn dda er's blwyddi lawer, ond ni fu yn gorwedd ond am rhyw bedair wyth- nos. Daeth y diwedd yn dra sydyn ond yr oedd yn gwbl barod. Yr oedd yn Gristion cywir ac yn Wesleyad selog. Bu iddi ddau o frodyr yn pregethu gyda ni, y brawd Daniel Jones yn bregethwr cyn- orthwyol, a'r Parch TimothyJones, yr hwn a fu farw yn Abertawe, a fu yn Weinidog ffyddlon ac ymroddgar yn ei ddydd. Dydd Gwener, y 18fed cyfisol, ychydig oriau cyn i'w henaid ddychwelyd at yr hwn a'i rhoes, cafodd yr ysgrifenydd y fraint o fod Wrth ei gwely. Pethau crefydd oedd ei Phethau y pryd hwnw, a phan ofynwyd iddi sut y 'teimlai wrth feddwl am wynebu ei Duw, dyna ddywedodd, Iesu Grist yw'r cwbl heddy." Do, aeth ein hen chwaer anwyl gartref a'i hymddiried yn ddiysgog yn Nghrist. Dydd Llun y 21ain daeth tyr- fa luosog i dalu y cymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd yn y Ty gan ei gweinid- og, y Parch W. G. Hughes, ac yn yr Eg- hvys, ac ar lan y bedd gan y Parchn. J. R. Jones (Vicar), D. A. Jones (Curate.) CYNGHOR PLWYF.—Llawenydd i ni fel Eglwys yw gweled fod rhai o'n haelodau yn cael eu cyfrif yn deilwng o fod yn ael- odau o Senedd ein Plwyf. Etholwyd tri Wesla eleni, sef Mr. John Evans, Well Villa, blaenor hynaf yr Eglwys, a Mr. Elias Prothroe, Pendref. Y mae y ddau yma yn aelodau o'r Cynghor er's blynydd- au bellach. Etholwyd hefyd Mr. Samuel Jones, Glanyrafon, un arall o'n blaenor- laid. Boed iddynt eu tri dymhor hapus a defnyddiol yn y cylch y penodwyd hwy iddo. LLWYDDIANT.—Cipiodd Ysgrifenydd ein Heglwys, sef Mr. Tom Davies (Glenydd) y Hawryf am adrodd, "Araeth Llewelyn," yn Eisteddfod Ebenezer, ac enillwyd y gwobrau eraill yn myd yr adrodd gan rai fu dan ei ofal ef. CEREDIG. DYSERTH. LLAWENYDD 80AIN MLWYDD. Dydd Llun, y 14eg o'r mis hwn, cyfarfyddod nif- er o gyfeillion Miss Parry yn ei thy, i ddathlu pen ei 80ain blwydd oed. Y mae Miss Parry yn bur adnabyddus i lu o Wesleyaid y cylch, ac i'r holl weinid- ogion fu ar y tir. Y mae yn Wesleyaid selog ac yn addurn i'w henwad a'i Cheidwad. Cara y naill a'r llall a chariad dwfn ac angherddol. Nid oes bron ddarlun yn ei thy heb ryw arliw Wesleyaidd megis gweinidogion a'r cyffelyb. Ni bu ei ffyddlonach erioed. Cyfarfyddodd [a damwain pan yn lied leuanc, yr hyn a'i hunalluogodd i gerdded ond trwy gymorth maglen, ac wrth ei mag- lau y mae wedi treilio ei hoes faith. Gorchwyl llafurus ydyw teithio o Water- fall View i'r capel. Y mae gwneud hyn i hen chwaer, 80ain oed, yn waith anhawdd ond y mae gwneud hyn wrth faglan yn orchest. Yn ddiweddar y mae ei golwg i raddau helaeth wedi pallu, a theimla anhawsder i deithio i'r capel, yn enwedig felly yn yr haf, pan y mae cymaint o deithio gan wyr traed a cherbydau. Ond er hyn i gyd nid oes neb ffyddlonach na hi yn nghynull- eidfa y saint. Bu yn cadw ysgol pan yn ferch ieuanc, a dyddorol oedd clywed rhai o'r gwahodd- edigion, fu yn ddisgyblion iddi, yn dwyn tystiolaeth i'w thynherwch, ei gofal, a'i llwyddiant fel ysgolfeistres. Dymunai lawer weled pen ei 80ain blwydd, a chafodd ei dymuniad. Cafwyd amser dedwydd a dyddorol, a theimlai y cyfeillion fod caredigrwydd Miss Parry, y tro hwn fel bob amser yn rhedeg drosodd. Cafw yd anerchiadau pwrpasol gan y Parchn. Tryfan Jones a Mostyn Jones, Mri. John Williams ac eraill. Miss Parry ydyw yr aelod hynaf yn yr eglwys, a hyderwn y ca rai blynyddau eto yn ein plith i fwynhau gwenau ei Har- glwydd yr hwn a gara mor fawr. Fel hyn y canodd Tryfan ar yr aclysur. Cvflwynedig i Miss Parry, Dyserth, ar ei SOain mlwydd oed. R'ym yma heddyw'n diolch 0 galon bur dilith, I'n Tad o'r nef am gadw Miss Parry yn ein plith. Rhoes iddi bedwar ugain 0 flwyddi ar y daith, A chymorth i'w cysegru Dan ganu yn ei waith. Boed 'iddi flwyddi lawer 0 lwydd a bendith lawn, Gan dreilio mewn tawclwch Hyfrydol ei phrydnawn. A phan ddaw'r hwyr a'r noswyl, Boed iddi heddwch gwyn, A threulio tragwyddoldeb Mewn mawl ar Seion Fryn. MOSTYN. LIVERPOOL. CYMANFA GANU LWYDDIANUS.—Cynhal- nvyd ein Cymanfa Ganu flynyddol yn Mynydd Seion, Nos Lun 21 cyfisol, o dan anveiniad medrus Mr. Wilfred Jones, A.R. .M. Daeth cynulliad gwir deilwng yng- hyd. Yn ddoeth i'n tyb ni, gwnaed i ffwrdd a'r anerch a'r areithio a geir yn Thy fynych yn ein Cymanfaoedd Canu, trwy hyn cafwyd amser yn ymarferol, i f?ned trwy y rhaglen oil pa un a gynhwys-  Y tonau canivnol—Ouseley, Aberdar, •Saviour, Author of Life, Weimar, Pont- YjPridd, Honddu. Maude, Bodlondeb, antmel, Pricilla, Capel Newydd, Luther ?rEmyn 794), Craig yr Oesoedd, (W. H. ??), a'r anthem "Gwyn ei fyd y gwr" n. Carrington). Cafwyd canu eithriadol o (Ida ar bob ?? tonau, ond fe allai in- Y rhai y teimlwyd mwyaf o eneiniad v y^dg\ lyn a hwy oeddvnt Weimar, St. Sav- v Ur' Capel Newydd? a Luther. Yr olaf ar d'- geiriau "Duw Mawr pa beth a welaf ? ?a.\v," ac yn bendifaddeu dylid canu hon \V17 G boi'^ Gymru 0,1 mae y don hon wedi bn" ? gysylltiol ar geiriau ers canrifoedd, ? g es^n s'cr ydyw eu cadw ar wahan— ???y? yn sicr vdyw eu cadw ar wahan— d\S",a ^esuv gwreiddiol v don—" cyfaddas- iad ia? ydyw trefniant at Fesur Hir. Ni ??J ?. ?? hyn gau allan y don sydd wrth ben y crl lriau yn ein l?y? tonau—os gellir cael ear. 6m pobll w dysgu a'i chofio. VVn befyd, na ddylai casglwyr y Uyfr tonn 11 ?dyweyd y drefn o gwbl am SVfno^l■ c^ad nior ddiniwed a naturiol. Nicl „ydyw ond cyfanu yr hyn a amcanent hwy eu hunain atto, sef dwyn pob ton ac emyn i'w ffurf gwreiddiol hyd yr oed yn bosibl, ond fel pob ymgymeriad dynol, methasant y nod yn yr engraifft hon yn ogystal a chyda'r don brydferth a dihafal "Wareham" trwy osod y Cyfaddasiad i mewn ar mesur 4-11 yn lie y gwreiddiol (a'r goreu o ddigon) ar Mesur Hir, gellir cyfeirio at Abertawe a Herdelberg yr un modd. Boddhawyd ni yn fa wr yn y dat- ganiad o'r anthem, credwn y bydd hon yn dod yn boblogaidd. Cadeiriwyd yn ddoeth a hael gan Mr. Tudor Jones, gwr ag sydd yn ffafr-dyn yn y cylch er's blyn- yddau. Da oedd genym weled holl Wein- idogion Wesleyaid y cylch yn bresenol. UN AIZ El IIYNT. I

NODIADAU CYFUNDEBOL. I

-LLYTHYR LLUNDAIN.I

LLITH O'R AMERICA. -

--I Teilyga'r Gweithiwr ei…

I Y -BYD A'I BETHAU.

! Y Ddiwinyddiaeth Newydd.