Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Wes-¡ leyaidd. i

NODIADAU CYFUNDEBOL. I

-LLYTHYR LLUNDAIN.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR LLUNDAIN. (Gan ein Gohebydd Arbenig). I Cyn y bydd i'r ychydig llinellau hyn ym- ddangos bydd y Senedd wedi codi am ych- ydig ddyddiau o seibiant. Ond nid yw am godi nes gwneyd cryn lawer tuag at GLIRIO'R AWYR BOLITICAIDD. Mae'r ychydig ddyddiau diweddaf yma wedi bod yn rhai hynod o ddyddorol i'r neb sydd yn ceisio dilyn symudiadau y byd y mae yn byw ynddo. Er gwell neu er gwaeth mae'r awyr yn dyfod yn gliriach ddydd ar ol dydd, a chredwn yn bersonol mai gwella y mae pethau ac nid gwaeth- ygu. Cawsom foodhad neillduol yn Araeth Mr. Asquith, yn Rhydychain diwedd yr wythnos o'r blaen. Ar wahan i'r araeth ei hun, yr oedd yr amgylchiadau yn llawn calondid a gobaith. Mae,r Toiiaid wedi chwareu eu card diweddaf, ac wedi methu ni gredwn hydyn nod yn y 'Siroedd Cartref- ol." Dyma lie y gwnaethant oreu yn yr Etholiad diweddaf a hyny trwy y moddion mwyaf gwaradwyddus — llyrwpbrwyaetn celwyd—trais. Ond mae Rhyddfrydiaeth y Siroedd yn llawn gobaith a a chyfarfydd- asant a'r Prif Weinidog mewn afiaeth. Traddododd yntau araeth a darllenasom bob gair gyda boddhaad. Esponiodd dirgel ion llwyddiant y Toriaid gan awgrymu y gwelliantau raid gael er eu curo. Ond baich ei araeth oedd egluro bwriadau y Llywodraeth. Penderfynant wneydi ffwrdd a Veto yr Arglwyddi ar unwaith ac am byth. Da iawn y gwnaeth bwysleisio meddwl y Llywodraeth ar gwestiwnyr Ail Dy oblegid gwna'r ochr arall bopeth all yn y wlad i berswadio pobl mai Plaid yr un Ty ydyw y Rhyddfrydwvr yr hyn sydd gelwydd wrth gwrs. Y cwestiwn yd- yw cael Ail Dy gwerinol, a thy-ac o dan reolaeth Ty y Bobl. AREITHIAU ERAILL. Dydd LIun ymddanghosodd toraeth t o honynt. Traddododd Haldane araeth rymus, yn yr hon y cyfeirioddat wiriondeb John Bull yn son am ei ymddiswyddiad Penderfyna aros yn Ilinell y Tan, ac ym- ladd y frwydr hon allan i'w therfyn. Bu Redmond wrthi hefyd ac ymddengys yn hollol ansigledig yn ei benderfyniad i beidio cymeryd rhan mewn ffug-frwydr. Gallem'dybio ei fodlyn bur foddhaus yn ar- aeth Mr Asquith a daliwn i gredu nes bydd raid i ni beidio y daw y ddau ar- weinydd hyn i gyd-ddeall a'u gilydd. Y brif araeth ymddangosodd dydd Llun oedd eiddo Mr Churchill. Unwaith eto ym- ddanghosodd yn Lancashire, ac yr oedd y brwdfrydedd yn fawr. Llanwyd y Free Trade Hall at yr ymylon, ac mae'n ddigon sicr deued Etholiad pan y del fod Lan- cashire yn iach yn y ffydd. Tystiai Churchill nad oedd arno ofn yn bersonol gwynebu y Ty ? a gwneyd i ffwrdd a'r Arglwydci yn hollol. Ond sicr yw mai teimlad un- frydol y Cabinet ydyw dros gau ddau Dy mai yn y goleu hwn yr ant i'r wlad. Ond mae Veto'r Arglwyddi wedi ei thynghedu, a gwyddant hwythau hyny. Gallant fyn'd yn mlaen os yn dewis gyda'u chwareu plant o ddiwygio eu hunain, ond gwydd- ant o'r goreu eu bod eisoes yn destyn gwawd y weriniaeth. SYMUDIAD CYFYWYSGALL Y CANGHELLYDD. Gresyn nad yw yn ei gynefinol iechyd ond y syndod yw, ei fod ar ol dirfawr lafur, ac yn wir, tra mewn dibaid lafur yn dal cystal. Hyderwn y bydd ychydig seibianr y Pasc yn ei lwyr wellhau. Ond y mae wedi gyru Chamberlain a'r Ar- glwydd Hugh bron i ffitiau. Ni welwyd dau mi dybiwn yn dangos eu syched am swydd yn gyffelyb i'r ddau hyd yn ddi- weddar. Gresyn na welent eu hunain fel y gwel eraill hwynt. Ond gofalodd y Canghellydd wrth beidio gofyn am gyflen- wad ond am chwech wythnos drefnu, pe deuent i swydd, y caent yr hyfrydwch o ofyn am supply gan y Senedd, yr honyn ol pob arwyddion allai wrthod, pemynai ac mae'n sicr y mynai. Nid oes obaith i'r Toriaid gael mwyafrif effeithiol, pe caent fwyafrif o gwbl. Yna deuent ar ofyn Sen- edd am fodd i fyn'd yn mlaen, a chaent eu gwrthod. Canlyniad hyny fyddai gorfod taflu yn awenau o'u dwylaw, a myn'd yn ol i'r hen ochr i'r Ty lie maent wedi eis- tedd mor anniddig er's mwy na phedair blynedd. Stroke ardderchog fu hon ac y maent bron mewn ffitiau er pan gawsant hi. DATGUDDIAD Y GYFRINACH. I O'r diwedd mae Mr Asquith wedi dat- guddio ei fodd o wneyd i ffwrdd a Veto yr Arglwyddi. Nid ydynt i gyffwrdd a Chy- llideb y Deyrnas o gwbl. Mae'r mater hwn yn cael ei ddeffinio yn glir a chroew, o dan y penawdau—Trethi, Cyflenwad, Benthig &c. At hyn, nid ydynt mewn deddfwriaeth gyffredin i droi unrhyw Fesur yn ol fwy na dwywaith nac i or- threchu cymaint ag un. Hefyd, apelir at y wlad fan bellaf bob pum mlynedd. Y tebygrwydd yw y deuir i lawr i bedair cyn penderfynu'r mater. Hefyd, diau y tynir yr amser i lawr i lai na dwy fiynedd mewn perthynas a gallu yr Arglwyddi i lesteirio mesurau. Dylai holl gatrodau Rhydd- frydol y wlad uno ar bolisi fel hwn a'i gario i fuddugoliaeth. DIWYGIADAU ETHOLIADOL. I Mae swn y rhai hyn eto yn yr awyr, a'r gwersyll Toriaidd yn crynu. Nis gwyddis pa un a'i dod a Mesur gerbron eu hunan ynte rhoddi gwyneb i Fesur preifat a wna'r Llywodraeth; ac nid gwaeth pa un. Os ceir Etholiadau ar un diwrnod a gwneyd i ffwrdd a'r bleidlais luosog. Golyga o 70 i 80 yn rhagor o seddau i'r Rhyddfrydwyr ar wahan i bob ystyriaeth arall. Dywedir nad yw'r Etholiad i ddyfod mor fuan ag y myn rhai, ac fod pob arwyddion y byd i'r Gyllideb 1909-10 fyned trwodd cyn i'r Ty godi am wyl y Sulgwyn. Fodd bynag am hyny, mae pleidwyr y Llywodraeth yn llawn calon, a'r ochr arall yn cymeryd arni fod, ond yn rhoddi lie i ddyn amheu. Y FASNACH Lo. I Gofidus iawn meddwl fod miloedd ar 1 filoedd o Lowyr, a miloedd mwy o rai di- bynol arnynt yn gorfod gwynebu ar Wyl y Groglith gyda mesur o brudd-der. Ofn- wn yn fynych fod gan y glowr ormod o ar- weinwyr, a thybiwn weithiau y byddai yn well iddo ddelio wyneb yn wyneb a'i feistr. Mae o un cyfyngbwynt i arall ar hyd y blynyddoedd, a'i galon yn ei wddf druan. Yr Arglwydd a gyfryngo yn yr amgylchiad hwn, ac a baro ddaioni.

LLITH O'R AMERICA. -

--I Teilyga'r Gweithiwr ei…

I Y -BYD A'I BETHAU.

! Y Ddiwinyddiaeth Newydd.