Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ADOLYGIAD Y "WINLLAN." I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

ADOLYGIAD Y "WINLLAN." Mri. Golygwyr,— Ffelix a ddychrynodd." Cafodd hwnw yn Llyfr yr Actau achos i ddych- ryn, ond ni chafodd neb erioed lai o achos na Golygydd y Y\7inllan." Obleg- id nid oedd efe yn fy holl feddyliau pan ysgrifennais yr hyn a wneuthum am y gwallau yn ysgrif y Parch. E. Tegla Davies yn y "Winllan" am Mawrth. Un rheswm oedd gennyf dros gondemnio'r dylni neu'r diogi oedd yn achos y gwall- au hynny, oedd cwyn chwerw dost y Golygydd yn fy nghlyw ychydig o wyth- nosau'n ol ynghylch ei argraffydd. Llef- erais innau'n groywach nag arfer er mwyn ceisio gwella pethau, ond dyma'r diolch gaf gan y gwr a gwynodd gym- aint ei hunan ynghylch yr un peth yn union a minnau Ond gan fod y Golygydd yn noddi rhai o'r gwallau a nodais, y mae'n bleser genyf ei ateb yn y peth hwn. Cyn imi ddechreu, sylwer ar Gymraeg fy marn- nwr llym. Dyma un frawddeg o'i lith, Ceir yr un gair yn cael ei sillebu." Yn ddiweddar ymddanghosodd ysgrif yn y Genhinen," gan y Cymreigiwr rhag- orol Pedr Hir, yn condemnio mynych arfer y ffurf cael fel berf gynorthwy- ol. Ond dyma Olygydd y Winllan yn defnyddio'r gair ddwywaith yn yr un frawddeg, (un o'r gwendidau pennaf y medr ysgrifenwr Cymreig, fod yn euog ohono), ac yn dweyd Ceir yr un gair yn cael ei sillebu," yn le Sillebir yr un gair." Eto, dechreuir y frawddeg olaf yn ei lith yn y rhif unigol, ond diweddir hi yn y rhif liosog: Temtir fi ond ymataliwn." Ond dyma'r awdwr sy'n fy ngalw i gyfrif mewn dull mor chwyrn a chwerw. Ymdclengys peth fel hyn, yng ngeiriau Golygydd y Winllan ei hun, yn chwerthinllyd i'r eithaf. Prun bynnag, atebaf ei gyhuddiadau boh yn un. 1 ] 1 G 1. hwnw," "hono," Gwnn mai hwnnw," "honno," a ysgrifennodd Mr. Tegla Davies. Y n yr un ysgrif digwydd y gair carreg." Ehoddir dwy r yn carreg ac os oes eisiau dwy r yn (i carreg," y mae eisiau dwy "n" yn hwnnw" a "honno," am yr un rhes- wm yn union. Gwelir fy mod yn bar- nu'r Golygydd yn ol ei safon ef ei hun. Os yw "carreg" yn gywir, rhaid fod II-Niiw a d hono" yn anghywir. Fel gwahaniaeth rhwng orgraff Gol- ygydd y Winllan a'm horgraff i yw hyn,-y mae'i orgrgff ef yn anghyson eT gwala, a'm horgraff innau'n gwbl gyson. i 2. cerng. Un rheswm pam y cyf- lnais at hwn cedd y gwycldwn mai cerryg" a ysgrifenodc1 awdwr yr ys- ?l'1f. Gwir yw y digwydd y ffurf cerr- 19" yng N ghaniaclau J. Morris Jones. ond clywais ef yn clweyd ei hunan, pan ofynais iddo am esboniad ar rai anghys- onderau,yn ei weithiau, ei bod braidd Yn amhosibl sicrhau cywirdeb manwl t^e^n argmffu. Nis gwnn yn sicr a tt Cleuai' r ffurl  0 (l'111 1 "'11 ????? ?? "cerrig" o dan y pen ?'? end yn sicr, os eir yn fanvd, cerryg" sy'n gywir. Sut felly? Am yr un rheswm yn union mai "menyg" sy'n gywir ac nid menig." Dyma reol yr iaith wrth ffurfio'r lliosog o eiriau deusill,—pan fo'r llafariaid yn a-e yn yr unigol, byddant yn e-y yn y lliosog. Engreifftiau,-castell-cesty11, astell— estyll, padell—pedyll, gwaneg-gwenyg, caseg-cesyg, angel—engyl, asgell—es- gyll, gradell—gredyll, maneg-menyg. Dyna ddigon i ddangos beth yw rheol yr iaith, Pam y dylid gwneud eithriad gyda cerryg ? I settlo'r mater, dyma o'm blaen Adroddiad Pwyllgor yr Or- graff, wedi'i arwyddo gan y Prif Athro Syr John Rhys, M.A., Ll.D., Owen M. Edwards, M.A., y Prif Athro T. F. Ro- berts, M.A., Ll.D., yr Athro J. E. Lloyd, M.A., y Prif Athro Syr Isambard Owen, M.A., Ll.D., a phump o wyr cymwys eraill, ynghyda'r Athro J. Morris Jones, M.A., yr Ysgrifennydd. Yn awr, beth ddywed y gwyr grymus a disglair hyn ar y pwnc ? Dywedant yn groyw a phendant yn yr adroddiad a nodais, mai'r lliosog o "carreg ydyw cerryg ac nid cerrig." Pwy dybiech chwi sy debycaf i fod yn gywir,—y dynion hyn ynte Golygydd y Winllan ? A gwy- bydded y Golygydd na bum i erioed, ac nad wyf heddyw'n honni o gwbl fy mod yn oracl anffaeledig ar orgraff y Gym- raeg,dim ond fy mod yn barod i wran- do ar wyr cyfarwydd fel y rhain, a dys- gu ganddynt. 3. Am y gweddill, cydnebydd y Gol- ygydd ei hun fod tri o'r gwallau yn rhai hyll iawn." Os felly, y mae pen pra- ffafyffonynfy llaw i, a phaham yr holl frytheirio croch yma ? Ond prif gwyn Golygydd y Win- llan yn fy erbyn yw fy "anhegwch" wrth feirniadu 'r Winllan rhagor yr Eurgrawn." Gadewch inni weld: 1. Gwyr pawb a ymostyngodd i ddar- llen y Nodion na bum yn brin mewn camol y Winllan'' yn fawr o dan y Golygydd newydd. 2; Nodais wallau yn yr Eurgrawn yn ogystal a'r Winllan." Gwnaethum hynny wrth adolygu rhifynnau Mawrth. Soniais am dri o wallau yn Eurgrawn." Mawrth, ac un o honynt yn digwydd deirgwaith neu bedair. Pa anhegwch at y "Winllan'' sydd yn hyn? Pa ffafriaeth tuag at yr "Eurgrawn'' yw hynyna ? Gwnn nad enwais bob gwall yn yr Eugrawn mwy nag yr enwais bob gwall yn y Winllan." Ond mi nodais ddigon ohonynt i ddangos fy mod yn ddiduedd a diragfarn. Gallwn enwi chwaneg, ond nid chwilio am feflau a brychau yw fy amcan wrth ddarllen nac wrth adolygu. 3. Rhaidcofio fod yr "Eurgrawn" yn llawer mwy na'r Winllan, ac ni buasai'n gymaint syndod felly petai yn- ddi fwy o wallau nag yn y "w inllan." Ond yn rhifyn Mawrth beth bynnag, yn ol yr herwydd, y mae yn yr "Eur- grawn lawer llai o wallau nag sy'n y Winllan." Ac nid wyf wedi nodi dim ond gwallau o un ysgrif yn y "Win- llan," a hono o angenrheidrwydd yn ferr. Cynifer o wybed meirw oedd mewn cyn lleied o enaint! Y maent mor lliosog mewn ysgrif mor ferr fel nas gallaf dynnu dim ar fy ngeiriau'n ol. Gresyn na buasai Golygydd y Win- Ilan wedi ildio i'r demtasiwn a ddaeth heibio iddo, a dyfynu'r frawddeg adeil- adol a hyglod a gyfansoddodd Syr Mar- chant Williams. Y mae'r ffaith ei fod wedi 'i demtio i droi am swcwr i'r lath ffynhonnell yn eglur ddangos ei bod wedi mynd yn bur fain arno. Bydd yn hyfrydwch gennyf ateb y ddau gyda'u gilydd os deuant i'r maes eto. D. TECWYN EVANS, I (" Eich Adolygydd").

Y BLAENOR A'I WAITH.

Advertising

ADOLYGIAD Y WINLLAN. I

I YR ARGYFWNG.