Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ADOLYGIAD Y "WINLLAN." I

Y BLAENOR A'I WAITH.

Advertising

ADOLYGIAD Y WINLLAN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADOLYGIAD Y WINLLAN. Mri. Golygwyr. ¡ Mewn pryder ac ofn y deuaf 1, un gwan, i'r maes pan y mae dau o wyr giew yno gyda'u cleddyfau o fy mlaen. Y mae'n dda gennyf am danynt. Ofnwn yn ddiweddar fod agwedd lenyddol bywyd Cymru yn dirywio am nad oedd cymaint o ffraeo yn- ddo a chynt. Hen fyd enwog am ei wr- hydri ym maes y gad yw'r byd Llenyddoi. Yr oedd Ffrae Farddol yn yr hen amser yn un o'r pethau mwyaf adeiladol, wele eng raifft: Atoch Meurig Dafydd, hyn o lyth- yr, i'ch gwybyddu fy mod yn rhyfeddu yn fawr iawn eich bod yn beio ar fy ngherdd cybelled ag y clywaf eich bod. Mi a gaf foneddigion, a chyffredin Cymru,a ddyweto yn amgenach, heblaw disgyblion a phen- eerddiaid; eto nid mor rhyfedd hyny a'ch bod yn dywedvd bod eich cerdd chwi cys- tal a'm heiddo i. Os felly, Meurig, chwi a wyddoch iawn farnu, ac iawn ddysgu. trwy gyflawn gydgordiadau ymadroddion, mydr, a sillafau a chyfoethogrwydd y ger- ddoriaeth; nid amgen mesurau, cywydd- au, awdlau, ac englvnion a chanu y rhai hyny yn awenyddgar yn marn pencerdd, fal y mae yn rhaid iwch, cyn bod yn bryd- ydd wrth fraint a defawd yr hen Brydein- laid. Ond myfi a welais wr fal chwi, a gafas fenthyg pum llyfr barddoniaeth tros ddwy flynedd ac a fum fy hunan yn ceisio ei ddysgu, pe yd fuasai clysg yn myned i'w ben ond yr oedd mor ddwl at ddysg a gwydd wyllt, mor falch-ffol a Satan, mor genfigemis a Lucifer, can galled a Ieuan Grod Hen, cjdiawsed i ddyn ymddiried iddo ag i Iddawc Carn Bryclain; a chantho ben mawr a synwyr bychan i ddysgu. canu cerdd blethedig, gysylltiedig, gyfrochedig, ddiadwyau, a synwyrau godidawg, ystyr- iaethawl &c. C-c. Dyma ateb Meurig Dafydd, Mae gen- ych lawer iawn o sen gelwyddawg yn eich I llythyr; ni fyddaf waeth o hyn. Mi ad- waenwn Sion y Tincer o Fargam cyn iddo briodi etifeddes Mawddwy, a chymeryd benthyg enw newydd yn Ngwynedd. Bu hawdd ymddyddan unwaith ag ef; nid felly yn awr. Mi a ddysgaf i chwi bwnc o addysg, ni wyddoch chwi fawr hyd yn hyn am dano. Nid iawn i fardd hoffi, chwaith- ach ymarfer a chelwydd mae defodau yr hen feirdd yn gwahardd y peth hyn. Yr ydych chwi chwyddedig iawn eich llaf- ar; ond nid unwaith na dwywaith y gwel- ais i lawer peth, a dybygid ei fod yn fawr, yn tori o'r diwedd i maes yn o lliprynaidd a salw,-Sion bach Ni flinaf fy mhen mwyach o'th blegyd bydd wych, a chais fod yn gall—ryw bryd. MEURIG DAFYDD." Ni fu ffrae farddol a llawer o rym ynddi ar ol helynt D. Price, Bron Epynt yn Steddfod Lerpwl; gwyr Cadvan yn dda am honno. Y mae'n debyg mai un o hil y Ffrae Farddol yw'r ffrae lenyddol. Y mae'r ffrwgwd bresennol i gyd, ynghylch tipyn o ysgrif tri tudalen o'm heiddo yng Ngwin- llan Mawrth. Y mae'n debyg fod pob tad yn eiddigus dros weld ei blentyn mor drwsiaclus ag y mae'n bosibl. Anfonais innau fy mhlentyn hwn oddiwrthyf wedi ei wisgo cyn hardded ag y gallai fy ffansi i wneyd. Yr oedd cwlwm destlus yma, a chwlwm destlus acw, a'r rubanau a'r blod au yn eu lleoedd priodol, ond pan-welais fy mhlentyn drachefn yr oedd y cylymau addurnol wedi mynd, y rubanau a'r blodau wedi colli eu lliwiau, ac heblaw hynny yr oedd amryw dyllau yn ei wisg. Rhwng popeth credaf (er nad wyf yn sicr iawn) mai mewn rhyw saith ar hugain o fannau y tybiodd gwr y wasg mai gwell fuasai cy- wiro fy chwaeth i. Hwyrach ei fod yn well teiliwr na mi, ond y mae gan fympwy ac opiniwn gymaint o le a chywirdeb yn null rhiant o wisgo ei blentyn. Ceisio ei wisgo a wneuthum a la Llanfair P.G., gan dybio fod teilwriaeth ysgol Dr. W. O. Pugh fel Hen Het Silk fy Nain,' allan o'r ffasiwn ers blynyddoedd bellach. Yn awr rwy'n cilio cyn gynted ag y gallaf rhag ofn i ryw farchog y nodwydd fy nhrywanu a hi. Teyrnased tangnefedd, Yr eiddoch yn gywir E. TEGLA DAVIES.

I YR ARGYFWNG.