Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Yn barod erbyn Mawrth 23.. ESBONIAD Y MAES LLAFUR: Cyfrol 1. EFENGYL IOAN, Pennod I.-IX. GAN Y Parche Richard Lloyd Jones. Pris Dau Swllt. Gwerthir Dwsin ac uchod, yn ol Is. 6c. yr un i'r Dosbarthiadau neu yr Ysgolion fydd yn anfon am danynt, gyda Blaendal. Llawl^f2? stl Efengyl Mathew (Rhan I af, Pen. 1—9.) Aft gyfer Dosbarth II a III GAN Y Parch. P. Jones Roberts. PRIS PEDAIR CEINIOG. Gwerthir Dwsin, ac uchod, am dair cein- iog yr un i'r Ysgolion a anfonant am dan- ynt gyda blaendal. I SYLWER Y mae y Gwersi wedi eu trefnu ar gyfer pob Sabboth. Cynwysa yr Adnodau ac Esboniad arnynt ar gyfer pob gwers. Dyma lyfr hwylus -a rhad. Dylai fod yn llaw bob un o'n Pobl Ieuainc vn y Ddau Dosbarth II a III.
NODION LLENYDDOL.I
NODION LLENYDDOL. (Pob Llyfr a Chyhoeddiad Cymraeg i'w I adolygu i'w hanfon i'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Elys Menai, Portdinorwic.)
ESBONIAD Y MAES LLAFUR. I…
ESBONIAD Y MAES LLAFUR. I .E.'tj!f.t?'i?lri.l? JL i?AfT.?? i?I<!f?? UH* YR EFENGYL YN OL IOAN— CYF. 1. I hon wele i law Esboniad y Parch. E. Lloyd Jones, Cadeirydd Talaeth Gyntaf y Goglecld, ar y naw pennod cyntaf yn yr Efengyl yn ol loan, ar gyfer Dosbarth iv. Hon felly yw'r gyfrol gyntaf yn y gwaitli. Y mdcli-I he lira Mr. Lloyd Jones' oherwydd byr- dra'r amser a gafodd i yaiend ei waith, ond oni bai iddo ef ei hun ddwevd iiynny, nid wyf yn credu y buasai neb yn casglu oddiwrth yr Esboniad mai byrr fu'r amser. I wr fel efe, sydd mor hyddysg mewn diwinyddiaetli ac esbon- iadaeth hen a diweddar, gwaitli cymhar- ol rwydd oedd cyfansoddi Esboniad ar lyfr felFfengy1 loan. Tipyn o beth ddweyc1 am neb yw fod ynddo gym- hwysder arbenig i wneud Esboniad ar Efengyl loan, ond mentraf ddweyd hynny am Mr. Lloyd Jones. Ni buas- wn yn dweyd hynny am dano—i'r un graddau—ynglyn ag ambell i lyfr arall yn y Beibl; ond yn yr achos hwn, dyma engraifft dda o weddeidd-dra pethau,—the fitness of things. Wrth ysgrifennu Esboniad ar Efen- gyl loan, pwysig iawn yw cael Rhagar- weiniad cla. Peth cyffredin yn ddi- weddar yw, gwadu mai loan yw awdwr y bedwaredd Efengyl, er mai peth ang- hyffxedin iawn yw dod ag unrhyw res- wm teg a chryf dros y farn honno. 0 leiaf, nid wyf i wedi gwelcl hyd yma ddim gan neb i'm siglo o'r safle gadarn a os- odir i lawr gan yr Esgob Westcott. Hyfrydwch mawr imi yw gweled fod Mr. Lloyd Jones yn credu, gyda gwyr goreu a galluocaf yr Eglwys ymhob oes, yn nilysrwydd Efengyl loan. Gesyd allan ei resymau dros ei gred yn glir ac yn gadarn iawn. Buasai'n dda gennyf innau, fel yntau, petai ganddo fivy o ofod at ei wasanaeth ond o fewn y terfynau gosodedig, anodd fuasai i neb wneud gwell gwaith. Y mae'r Rhagar- wTeiniad drwyddo yn gryno a chynhwys- fawr, a diau y caiff sylw neillduol a chy- ffreclinol. Yng nghorff y gwaith, nodwedd rag- orol yw y Nodiadau ar Y Gair," Gwyrth," a Bara'r Bywyd." Oddi- wrth y cyfryw nodiadau a'u cyffelyb, hawdd gweld fod yr avidwr yn hyddysg iawn yn niwinyddiaeth pob oes, ac yn nhueddion meddwl yr oes hon. Gwyr beth yw ar y gloch yn meddwl y byd mewn amryfal gyfeiriadau, ac y mae ganddo ei hun feddwl anibynol yng nghanol y cwbl. Byrr o angenrheid- i-.v\ (Id yw y Nodiad ar Wyrth, ond y mae cystal a dim a welais erioed ar y pvrnc. I ddangos eglurder a chyfoeth yr El s- boniad, nid gwaith rhwyclcl yw dewis engreifftiau, am eu bod mor liosog. Nodwn i. 29: ("Wele Oen Duw") "Nid gosod allan ddiniweidrwydd ac addfwynder Crist oedd prif amcan (y Body ddiwr), ond cyfleu y syniad yr aberthid Ef fel yr aberthid Oen y Pasg." Eto o'r un adnod, ar yr hynsydd yn iynnu ymaith &c. Nid oodd mod(I i Grist gymeryd ymaith bechod y byd, heb ei gymeryd arno Ei Hun." Rhag- orol yw'r sylw nad oes cynnwys moesol i'r gair cnawd" yn iii. 6; ac mai pwynt iii. 8 yw dysgu'r tebygrwydd rhwng y sawl a aned o'r Ysbryd a'r Ys- bryd Ei Hun, ac nid y tebygrwydd rhwng y gwynt a'r Ysbryd. Y mae yr Ysbryd yn anadlu lie yr ewyllysio yw y cyfeithiad a fabwysiedir yn lie. "Y mae'r gwynt yn chwythu lie y mynno." Cyfieithiad y Prif Athraw W. Edwards, D.D., Athrofa'r Bedyddwyr, Caerdydd, yw yr un a ddefnyddir amlaf gan Mr Lloyd Jones, a chyfieithiad gwych iawn ydyw, yn ol y dyfyniadau sydd yn yr Esboniad hwn ohono. Defnyddir hefyd beunydd gyfieithiadau y Parch. Owen Williams, Dr. Briscoe, Dr. Weymouth &c. Ond nid oes dim yn feichus yn y defnydd a wneir o'r cyfryw ni ddefn- yddir hwy, ac ni newidir y cyfieithiad, ond pan bo gwir achos yn galw am hynny. Da iawn gennyf weld Mr Lloyd Jones yn condemnio'r gair damnio yn iii. 17 ac mewn mannau eraill. Gresyn mawr fod hwn wedi 'i roi i mewn yn y lleoedd hyn erioed. Barnu sy'n gywir, ac nid damiiio." Yr hwn nid yw yn credu a ddamni- wyd eisoes,"—nage, "a farnwyd eisoes." Ymddengys i mi fod yn hyn a ddywedir ar vi. 44 yn feistrolgar ac anatebadwy. Dyddorol fuasai clywed beth ddywedai Dr. Cynddylan Jones yn wyneb hyn. Y mae'r hyn a ddywedir ar vii. 38 wedi peri i un beth bynnag newid ei farn ar ystyr yr adnod honno, ac hefyd wedi dinistrio'r pen olaf mewn pregeth ar y testun hwnnw a'r ddwy adnod sydd o bobtu iddo. Er mai da fuasai i Mr. Lloyd Jones fod wedi manylu mwy ar gystrawen a safle y frawddeg gyntaf yn yr adnod (vii. 38),—" yr hwn sydd yn' credu ynnof I." Heblaw rhagoriaeth yr esboniadaeth, y mae rhyw naws ac eneiniad dymunn- ol odiaeth ar y gwaith i gyd. Felly y gweddai i bethau fod mewn Esboniad ar yr Efengyl hon, ac felly y disgwylid oddiwrth yr awdwr. Dymunaf longyf- arch yr Ysgolion Sul am fod yr Esbon- iad glan, clir, galluog, a thrylwyr hwn yn eu cyrraedd; a hyderaf y gwertli1' I ef wrth y miloedd fel yr haedda. Nid yw y pris ond deuswllt; a gellir cael dwsin ac uchod am cideunaw ceiniog yr uü. Ar tucl. 55, o clan adnod 22, yn lie Pen. iv. 12, hyn ddylai foci,—Pen. iv. 2." Nid yw "yn awdwr choni yn gywir; ond yn awdwr icldi." Nid yw Fod y llygad-clyst hwn yn neb arall ond yr Apostol loan" yn iawn yn lie Fod," "nac1 oedd sy'n gywir. Drwg genyf weld" g yn wynebu "dar- ganfyddwyd yn lie "darganfuwyd "tu hwynt yn lie tu hwnt": "daethym" yn lie claethum (neu "deuthum "): braslunelliad yn lie braslinelliad yn Palestina yn lie ym (neu o leiaf" yn '') Mhalestina." Ond ar wrahan i'r brychau a'r meflau hyn, nid oes and canmoliaeth uchel i iaith ac arddull yr awdwr. Ysgrjfenna Mr. Lloyd Jones Gymraeg coeth a llith- rig ar y cyfan. Rhodder croeso calon nog i'w Esboniad campus.
ESBONIAD Y MAES LLAFUR.
ESBONIAD Y MAES LLAFUR. LLAWLYFR AR MATHEW I.-ix. I Cefais yr hyfrydwch o weld y Llaw- lyfr uchod cyn iddo fynd i'r wasg, lie y mae yn awr, ac o'r lie y daw allan ar unwaith. Darllenais ef yn ofalus, ac y mae'n bleser gennyf ddwyn tystiol- aeth i'w ragoriaeth. Yr awdwr yw y Parch. P. Jones Roberts, Llywydd y Gymanfa. Ysgrifenwryd ef ar gyfer Dosbarthiadau II. a III. Y pris yw pedair ceiniog ond gellir cael dwsin ac uchod am dair ceiniog yr un, ond anfon blaendal. Yn y Llyfrfa Wesleaidd, Is- fryn, Bangor, y cyhoeddir ef gan Dr. Hugh Jones. Dyma'r Rhan I. o'r Llawlyfr, ond cymer i mewn y Maes Llafur am eleni. Dosrennir y Llawlyfr i 39 o Wersi; gwers ar gyfer pob Saboth am clri chwarter, yr oil i'w hadolygu yn y chwarter olaf. Y mae hwn yn gynllun newydd ac yn sicr o brofi yn fanteisiol i'r athrawon a'r ysgolheigion. Dymunaf o galon longyfarch yr awd- wr. Nid peth hawdd yw gwneud Llawlyfr ar gyfer y Dosbarthiadau hyn. Haws gwaith yw gwneud Esboniad ar gyfer y Dosbarth hynaf, megys y mae'n haws golygu'r Eugrawn na'r Win- llan, neu megys y mae'n haws pregethu i bobl mewn oed nag i blant. Rhaid i Esboniad ar gyfer yr ail a'r try dyed Dosbarth fod yn anad dim yn ddydd- orol ac yn fyrr. Da gennyf ddweyd fod Llawlyfr Mr. Jones Roberts felly. Ond os yw yn ddyddorol, nid yw yn arwynebol, ac os yw yn fyrr, nid yw yn llipa. Yn ogystal a bod yn ddyddorol ac yn fyrr, y mae yn gynhwysfawr. Yn ddiau y mae'n engraifft darawgar o lawer mewn ychydig. Nid osgoir yr un anliawsder, hyd y sylwais. Canlyniad y chwalu a'r chwilio a'r meddwl fu'n mynd ymlaen wrth baratoi'r Llawlyfr a geir yma, ac nicl y cwrsweithrediad. Ceir ynddo lawer sylw pert, effeithiol, yn ogystal ag eglurhadaeth gryno, oleu. I Fel y gweddai i Lawlyfr fel hyn, byrr yw y Rhagarweiniad, ond y mae hwnnw'n gryno a llawn. Nid oes rhyw lavver chwaneg o ddim gwerth ei ddweyd fel Rhagarweiniad i'r Efengyl yn ol Mathew. Poenus yw darllen Rhag-I arweiniad ambell i Esboniad,—rhai o'r Esboniadau Saesneg yn enwedig—oher- wydd y gor-ysgolheigdod a'r dyfynnu a'r cyfeirio di-orffen sydd ynddynt y maent yn ddigon i godi diffyg treuliad ar dclyn cyffredin yn ami. Ond nid oes yma yr un ias o goeg-ddysgeidiaeth nac o pedantry. Dyddorol yw sylwi fod Mr Jones Roberts wedi mabwysiadu'r cyf- ieithiad Cymraeg o'r Cyfieithiad Diwyg- iedig fel testun. Dianghentaid dweyd fod hyn yn welliant. Gwell yw y newydd yn yr achos hwn, ar bob cyfrif. Meddylier am Math. vi. 6, Ond tydi, pan weddiech, dos i'th ystafell &c." Yn niwedd yr adnod, fel y mae yn y cyf- ieithiad awdurdodedig, y mae'r geiriau a ganlyn: A'th Dad yr Hwn a wel yn y dirgel, a dal i ti yn yr amlwg. Ond ni dclylai y geiriau yn vr arnZwg fod i mewn o gwbl. A'th D,-cl a ddl i ti,"—nid yn yr amlwg, o angen- rheiclrwycld, fel y mae'r gau weddiuwyr yn derbyn eu tal; ond y mae tal gwedcli wir yn anrhaethol well na dim tal yn yr amlwg o gwbl. Nid amlwg, yn y lie dyfnaf a chyntaf, yw gwedcli wir; ac nicl amlwg chwaith mo'i thai goreu hi. Nodwn hyn fel engraifft go dda o ragoriaeth diamheuol y cyfieithiad newydd ar yr hen. Nid oes gennyf ddim ond camoliaeth i'w roddi i'r Llawlyfr o'r dechreu i'r cli- weclcl. Gwyn fyd pobl ieuanc ein Hys- golion Sul heddyw sy'n derbyn cymorth mor hylaw a gwerthfa-wr a rhad a hwn, i'w helpu i astudio rhan o'r llyfr godid- ocaf yn llenyddiaeth y byd. Y Testa- ment Daearyddol" (pob parch idclo hefyd, da odiaeth fu inni wrtho), oedd yr help goreu o gafoclcl rhai ohonom i agor ein de all i welecl pethau rliyfedd allan o Gyfraith yr Arglwydd. Ond dyma Law- lyfr cymv^ys iawn, rhagorol ymhob ys- tyr, yng nghyrraedd ieuenctic1 Y sgolion ISul Yvresleaicld Cymru am y pris isel o dair ceiniog neu rot. Pleser pur i mi yw ei gymell i sylw'r Ysgolion a'r ysgol- beigion trv/y'r wlad.
Y SENEDD. i
Y SENEDD. i DYDD LLUN. Holi y Prif Weinidog heb fod nemor doethach v bu'r Wrthblaid heddyw. Wi fu dim neilldnol gerbron y Ty. Taflwyd gryn fywyd trwy ateb Mr Lloyd George yn yr hwn y dangosodd yn groeyw fod y Llyw- odraeth am anturio ei bodolaeth ar basio y Gvllideb. Daliodd Mr A. Chamberlain yn ei gyfrwysdra ei hun. Prysuro y Gyll- ideb gallesid tybio oedd ei awydd, ond trwy air byrbwyll datguddiodd mai dinys- trio y Llywodraeth ar bwys y Gyllideb oedd yn ei galon. Yr oedd cyfeillion Mr A. Chamberlain yn barod i'w ladd am ei amryfusedd hwn. Rhoddodd Penderfyn- iadau y Prif Weinidog ar Veto yr Arglwy- ddi dawelwch a boddlonrwydd mawr i holl adranau Diwygiad—yn Rhyddfryd- wyr, Llafur a Gwyddelod. Y mae hyn wedi clirio llawer ar yr awyr, ac y mae ar- goelion cydsymud cryf yn awr. DYDD MAWRTH. Cyfarfu Mr. Lloyd George a Mr. Birrel i gyda Mr. Redmond a Mr. Dillon heddyw a disgwylir i'r Ymgynghoriad brofi yn fodd- ion i sicrhau cyd-ddeall. Cedwir y gyf- rinach, ond credir fod liawer wedi ei enill. Yn Nhy yr Arglwyddi pasivvyd gyda 175 yn erbyn 17 o blaid cynygiad Lord Rose- berry sylwedd pa un ydyw gwneud ymaith a hawl i sedd yn Nhy yr Arglwyddi ar sail etifeddiaeth yn unig. Nid yw hyn yn gol ygu nas gall y Ty eto gael ei gyfansoddi o Arglwyddi etifeddol. Dyma'r egwyddor etifeddol wedi cael dyrnocl drom yn ei Thy ei hun. Gwelir fod TY yr Arglwycldi yn ymosod ar y gwaith o ddiwygio ei hun. Y mae yn rbyddiv/ecldar. Rhaid os saif o gwbl i eraill gael llais a llais helaeth yn ei gyfansoddiad. Cant weled iddyrit trwy daflu allan y Gyllideb gyflawni hunan- laddiad. DYDD MERCHER. Yrncldern yn nghylch y Gyllideb—a cheisio llithio y Llywodraeth oddiwrth ei penderfyniad y bu yr Wrthblaid heddyw eto. Yr oedd Mr Lloyd George fel y graig. Ceisiwyd codi bwgan arall o Germani. Eisteddodd yr Arglwyddi i basio nifer o fesurau y cytunir arnynt yn gyffredinol. Digwyddiacl pwysicaf heddyw oedd ar- aeth Mr Lloyd George yn y Queen's Hall, Llundain. Cafodd un o'i adegau goreu, a thraddododd araeth y bydd ei dylanwad yn cerdded Pryclain drwyddi draw. Pwnc y Tir oedd ganddo. Dangosodd fel y dar- fu i Werin Cymru yn 18G8 ymladd ag. Ar- glwyddi Tir a'u trechu. Dalen o lyfr Cymru roddodd iddynt, a dyma'r ddalen raid i Loegr gymeryd a'i dilyn os yw ei phobl i gael ymwared o'u caethiwed blin a thrwm. Pery ei engreifftiau o ormes land- lordiaid gyffro a digofaint cyffelyb i effaith araeth Limehouse—ond mor wir a hyny deffroant y werin a chodant obaith ym- wared i'r Bobl. Cenhadaeth Rhyddfryd- iaeth meddai y Cymro Ganghellydd ydyw gwneyd na byddo llafur yn wobr caeth- iwed, ac fod llafur yn llwybr i ryddid." DYDD IAU. Cyfarfu y Ddau Dy heddyw i basic yn derfynol y Consolidated'Fund Bill ac ych- ydig fesurau eraill trwy dderbyn y cydsyn- iad brenhinol. Dydd Mawrth y cyferfydd y Senedd nesaf. Y pryd hwnnw dygir gerbron Ben- derfyniadau Y Llywodraeth ar Veto yr Arglwyddi. Diau y bydd yno Dy llawn. Marcia y Penderfyniadau hyn gyfnod pwysig mewn hanes.
Advertising
Cylchdaith Wesleyaidd Oakfield, LERP,L. Gyda'r amcan o gyfarfod a'r treulion yn nglyn a Capeli Newydd Oakfield a Spellow Lane, Ysgoldy Newydd Trinity Road, Bootle, a treulion eraill y Gylchdaith, cynhelir Nodacljfa Fawreddo o YN Brunswick Hall, Moss Street, Lerpwl, Mai 3, 4, 5, a'r 6, 1910. Diolchir am cyfraniadau neu Nwyddau gan yr Ysgrif- enyddion- Parch, Edward Davies. 82, Newby Street, Liverpool. Mr. E. D. Williams, 66, Dacy Road, Liverpool. Mr. R. T. Jones, 180, Wadham Road, Bootie. j——-—— Q   ,—————. ËSTD Total Assetts exceed 911,000,000. FIRE, LIFE, ANNUITIES, Personal Accident, Burglary, Workmen's Coitipensation (including Domestic Servants), Sickness, Fidelity Guarantee, Plate Glass, Motor Car, Loss of Proffits, Driving Accidents, &c. LIFE.-For the Quinquennium ended 31st December, 1908, the LARGE REVERSIONARY BONUS of S8 15s. per cent. was again declared on Sums Assured under the Participating Tables of the Prospectuses. Prif Swyddfeydd Head Office: I 1, Dale Street, Liverpool. I London Chief Office 1, Cornhill, E.C. Cardiff Office 108, St. Mary Street. Applications for Agencies Invited. CWMNI YSWIRIOL LERPWL, LLUNDAIN a'r GLOB. Cyfanswm Cyfalaf dros 11 Miliwn o Bunau. TAN, |BYWYD, BLWYDD-DALIADAU, Qamweiniau Personoi, Tori Ty, lawn i Weithwyr (yn cyn- wys Gweision a Morwynion), Afiechyd, Diogeliad Cytun- deb, Gwydr (Plate Glass), Modur, Coiled Enillion, Dam- weiniau Cerbydau ac felly yn y blaen. BYWY1). —Am'y Pum' Mlynedd yn terfynu Rhagfyr, 1908, dychwel- wyd yn ol Y RHODD FAWR o S8 15s. y cant ar y Symiau Yswiriwyd yn yr Adran Gyfranogol. Gwahoddir Ceisiadau am le fel Agents i'r Cwmni. Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Ijewis Davies, Glyndwr Artistic Printing Works, High Street, Blaenau Ffestiniog.