Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Canmlwyddiant Wesleyaith Gymreig,…

LLITH O'R AMERICA. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITH O'R AMERICA. Mri. Golygwyr, Diweddais yn fy ysgrif flaenorol yn nhwrw dinas Chicago, ac addewais y bu- aswn yn yr ysgrif hon yn gadael Chicago am y wlad, yr hyn a wnethum; teithiais gyda Rock Islsnd Rail Road am Cotter Iowa, pellder o 236 o filldiroedd teithiais 181 o honynt yn nhalaeth Illinois; os yw yr oil o'r dalaeth hon fel y rhanau y teith- iais i ynddynt, y mae yn wlad dda odiaeth, Pan oeddwn yn teithio rhan o wlad Canada, ac am y tro cyntaf yn fy mywyd i mi weld Indian (corn) yn tyfu; tybiwn mai byr oedd, er nad oedd genyf brofiad i ddweyd y naill ffordd na'r llall ond fel yr oeddwn yn nesu at Chicago, gwelwn eng- reiphtiau o gorn yn rhagori ar eiddo Can- ada a thrachefn pan yn teithio trwy Illinois am Iowa gwelwn fod y corn yma yn rhagori ar ddim a welais yn flaenorol, yr hyn sydd yn profi ei bod yn wlad dda iawn ond os wyf yn deall yn iawn eu bod am roi y flaenoriaeth i Iowa fel gwlad y corn; beth bynag y mae genyf brofiad o hono yn Long Creek Iowa, ei fod yn tyfu mor uchel a bod yn 9,10, ac 11 o droedfeddi o uchder, a pheth yn uwch na hyny; ac y mae gwerth y corn i'w brisio yn ol uchder y gorsen, oblegid ar y gorsen frasg y mae y gornen oreu. Dywedodd Cranogwen pan ar ymweliad a Long Creek flynyddoedd lawer yn ol, fod tri pheth mawr yn Long Creek, a dau o'r pethau hyny oedd corn a moch. Yr oedd y tren yr oeddwn i arno i fod yn Cotter am 5-35 p.m., ond methodd a chadw ei amser y tro hwn am fod tren nwyddau yn mynd o'i flaen, a hwnw wedi nogio ar y ffordd, yn methu tynu ei lwyth i roi ffordd glir i'r un oedd yn dyfod ar ei ol, a dyma y tren cyntaf welais yn yr America yn methu cadw ei amser, ond ysywaeth, nid dyma yr olaf. Yr oeddwn ar y pryd yn meddwl fel y mae yr America yn rhagori ar Brydain mewn llawer o bethau, ei bod yn rhagori yn y peth hwn, ond dyn a'n helpo, y mae yn beth cyffredin yn y gauaf beth bynag, i'r tren fod ar ol ei amser 3, 4, a 5 o oriau, ac y mae hyn yn- gwneyd anghyfleustra mawr i'r teithwyr. Ond o'r diwedd cyrhaeddais ben y daith yn ddiogel, os nad yn brydlon, a phwy oedd yn y Depot yn bryderus ddisgwyl am danaf ond William fy mab, a nifer o'r cvmydogion. Cofiwch mai enw Americ- anaidd ar Station yw Depot. Bellach wedi yr ysgwyd ilaw a chyfarch gwell i'n gilydd, aethom mewn Buggy oedd wedi ei ddarparu gan William er ein cludo i'w gartref i fwynhau cymdeith- as wyneb yn wyneb, wedi i ddwy flynedd ar hugain o amser ein gwneyd yn ddieith- riaid. Cofiwch eto mai gair American- aidd yw Buggy, am gerbydd ysgafn, ped- air olwyn, yn y rhai sengi gall dau eis- tedd, a dim ond hyny, ond yn y rhai dwbl, gall pedwar eistedd, ac y mae iddo gyfar i'w godi uwch ben pan fo haul, neu ar wlaw. Bellach ceisiaf ddweyd gair am y lie a'r trigolion. Gelwir y rhanbarth yn Long Creek, am fod afon ddu o'r enw Long Creek, nid yn rhedeg, ond yn araf symud trwy y fro, ac y mae yma sefydliad Cymreig yn mesur efallai 8 milldir o hyd, a 2 o led, ac yn y pen gogleddol iddo ben- tref o'r enw Cotter—y preswylwyr gan mwyaf yn Gymry: preswylir y lie, fel yr awgrymwyd yn barod, gan ddyfodiad o Gymru, a llawer o honynt wedi dod o gymdogaeth Pennal, Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril, a gallaf enwi tri wedi dod o Eglwysfach, Ceredigion Richiard Jen- kins, y mae iddo frawd yn byw yn Ynys- greigog, a chwaer, Mrs. Pritchard, Tyno- hir gynt, y ddau le yn agos i'r Eglwysfach, gall y brawd hwn ganmol yr America-y mae uwchben angen. John Richards yw yr ail a nodaf wedi dod o ardal Eglwys- fach, hen wr yn nghymdogaeth yr 80; bu yn filwr yn y Rhyfel Gartrefol yn yr Am- erica flynyddoedd yn ol hoffa son am yr adeg, ac y mae yn meddwl llawer o hono ei hun fel un ymladdodd dros ryddid y caethion, ac yn ei henaint y mae yn der byn gan yr Arlywydd gyfran dda fel ad- daliad. Y mae ei briod, yr hon sydd yn gysur mawr iddo, yn enedigol o Bryn- llwyd ger Corris. Y mae iddo frawd a chwaer yn Sir Drefaldwyn, y brawd, T. Richards, Glygrnant, Llanbrynmair, a'i chwaer, Mrs. Jones, Gelli, Llanwrin. Y trydydd a nodwn yw, Humphrey Richards, cefnder i John Richards a nodwyd, a nai i'r diweddar David Jenkins, Maesteg, Eglwysfach. Yr oedd y diweddar David Jenkins yn Wleidyddwr deallus, yn lienor gwybodus, yn bregethwr melus, ac yn Wesley selog, ac y mae ei nai wedi oyfran- ogi i fesur o'r un elfenau, y mae yn darllen llawer, ac yn ysgrifenu yn ami i'r Cyfaill- cyhoeddiad misol Methodistiaid America, ac i'r Drych, ac er ei fod yn flaenor gyda'r Methodistiaid er's llawer o flynyddoedd, y mae yn Wesley selog er hyny, yn caru eu hathrawiaeth, ac yn derbyn eu cofnodolion -yr Eurgrawn a'r Wmllan yn fisol, ac yn up to date gyda y llyfrau diweddaraf sydd yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Wres- leyaidd. Un arall y carwn i ddweyd gair am dano yw Mr. Rees, os nad wyf wedi cam- gymeryd, Rowland Rees wrth ei enw, ac yn gefnder i Mr. Edward Rees. Y.H., Med- ical Hall, Machynlleth, ei briod yn ferch i'r diweddar bellach Edward Humphreys, ac E. T. Humphreys yn frawd i Mrs Rees, priod y diweddar Lewis Rees, Carmel ger Llwyngwril. Y peth sydd i fesur yn hynod yma yw fod y teulu yn cael eu gwneyd i fyny o dad a mam a J3 o blant, yr oil o'r plant gartref, ac ar adeg ciniaw pob un yn cymeryd ei gadair wrth y bwrdd, a gall- wch feddwl nad bwrdd bychan a wna y tro. Bum yn llygad-dyst o'r olygfa, ac y mae y tad a'r fam, er eu holl ofal, rnor sir iol ar un tad a mam yn y sefydliad, a'r fam yn edrych yn well na llawer mam hefyd. Gobeithio y gwelir y plant oil yn tyfu i fyny yn genhedlaeth gref, yn ofni Duw, ac yn cashau drygioni. Un arall y carwn wneyd svlw o hono yw Thomas Hugh Jones. Y mae yn fab i'r diweddar Thomas Hugh Jones, oedd yn wr blaenllaw os nad yn flaenor yn eglwys St Paul's, Aberystwyth. Gwyddwn iddo ddod i'r ardal, ac yr oeddwn yn falch o'i weled ar gyfrif y caredigrwydd a dderbyniais gan ei rieni lawer gwaith pan yr awn o Gorris i Aberystwyth i bregethu. Yr oedd gan- ddo chwiorydd yn Aberystwyth, pe dig- wyddai i rai ohonynt weled y nodion hyn, gallant fod yn dawel am eu brawd T. H. Jones, ei fod mewn amgylchiadau cysurus iawn. Bu yn gallach na llawer, wrth briodi cafodcl wraig, ie, un yn llond yr enw, a chafodd wraig sydd yn gwneyd ei goreu o'r ddau fyd. Y mae y ddau yn gwneyd llawer er hyrwyddo yr achos da. Dylaswn fod wedi dweyd cyn hyn fod yn y Sefydliad Cymreig hwn dri achos Cym- reig, un gyda'r Anibynwyr, a dau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Y gweinidog ar hyn o bryd ar y.ddwy eglwys Fethod- istaidd yw y Parch Hugh E. Jones. Brod- or yw ef o Abergynolwyn, sir Feirionvdd. Y mae yn nai i'r diweddar Edward Ed- wards, pregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleyaid yn Abergynolwyn, ac y mae yn berthynas o bell a'r Patriarch Edward Jones, Hendrewallog. Wesleyad i'w ef fu yn garedig i'w enwad, nid mewn gair yn unig, ond mewn rhoddion hefyd. Da genyf allu ei ddweyd fod y Parch. Hugh E. Jones uchod yn gymeradwy yn y ddwy eglwys y mae yn llafurio ynddynt, ac fel prawf o hyny, cafodd eleni gan eglwys Bethel anrheg o Ffur Coat, er ei alluogi i sefyll gerwinder yr hin, ac i gadw gwres pan y bydd hi yn 20 a rhagor islaw godd- im. Yn awr gall ganu fel y canodd arall o'i flaen ar dderbyniad cyffelyb anrheg. Byth, byth ni fethaf Bethel,clan ganu Do'i gynar i'r capel Nid dychryn yn syn ddisel, 0 achos rhew-wynt uchel. Yn barod i bob oerwynt—yr ydwyf A rhedeg i'r rhuthrwynt; Carwn glywed y corwynt, Yn codi ffrae—gwae i'r gwjmt." Deallaf fod i Mrs Jones ddau frawd wedi llwvddo i fyned i'r Weinidogaeth Seisnig yn rhywle yn yr America, a diau y bydd hyn yn destyn llawenydd i'r Eglwys Wes- leaidd yn Abergynolwyn ddeall fod ei phlant yn troi allan yn dda. ac nad ofer fu y llafur i'w hadclysgu a'u hyfforddi. Gwr arall y carwn wneyd sylw o hono, ac efe yn Weslead pan yn yr Hen Wlad yw y Parch. D. T. Davies, Maesyneuadd, Pont- robert, cylchdaith Llanfair Careinion. gynt ac y mae yn frawd yn nghyfraith i Thomas Pierce, pregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Nghorris ond yn awr yn trigianu yn Bedliniog, Deheudir Cymru. Y mae Mr. Davies yn awr yn weinidog yn Caroll Nebraska, a'r rheswm fy mod i yn son am dano ynglyn a Long Creek, yw mai yno y cyfarfyddais ag ef,pan yr oedd ar ymweliad a'r lie, a'r rheswm am hyny drachefn mai yno y cafodd gydmar bywyd, a'i fod yn cael seibiant oddiwrth ei waith gyda'i deulu ynghyfraith. Bu yn sirioldeb i fy meddwl ei gyfarfod, a charaswn gael mwy o'i gwmni nac a gefais, a sicr yw y bydd pawb yn yr Hen Wlad oedd yn ei adnabod yn falch o ddeall ei fod yn gymeradwy fel gweinidog yr efengyl. Un arall y carwn wneyd sylw o hono, daeth i gyfarfyddiad a mi yn ardal Long Creek oedd y Parch. James Vincent Jones, Cleeveland, Ohioh; yr oeddwn yn ei adnabod yn dda pan yr oedd yn llanc brodor yw o Eglwysbach, Sir Aberteifi, ac yno y dechreuodd bregethu a chyda'r Wesleyaid y gwnaeth hyny, ond yn awr y mae yn weinidog gyda'r Anibyn- wyr yn y lie a nodwyd, a chanddo eglwys luosog, ac yn cael ei gydnabodyn ei enwad yn bregethwr poblogaidd, a phrawf o hyn yw iddo yn un o dri gael ei ddewis i Long Creek i Gyfarfod Pregethu. Wedi yr adeg yma, cafodd ei frawd E. Mansel Jones ei ordeinio yn weinidog ar eglwys Anibynol Johnstown, Pensylvania, a Vincent Jones oedd ar yr amgylchiad yn traddodi siars i'r eglwys. Dyma i chwi ychydig o hanes dau o fechgyn fagwyd gan eglwys Wes- leyaidd Eglwysbach Cvlchdaith Machyn- lleth. Y casgliad yr wyf yn ei dynu ar ddiwedd hyn o ysgrif yw, fod llawer o WTesleyaid Cymru wedi llwvddo i gael lie da yn yr America, ac fel rheol yn cael eu cydnabod yn y closbarth goreu o bregethwyr. Bell- ach cyn sychu fy ysgrifbm, rhaid dweyd gair eto am amaethwyr Cymreig Long Creek-eu bod fel amaethwyr wedi llwy- cldo i ddod yn dirfeddianwyr, bron 'yr oil o honynt yn byw ar eu tir eu hunain, ac ami un yn meddianu dwy a thair ffarm, a mwy na hyny, yn werth miloedd mewn arian parod; diau nad drwg gan y Cymry yn yr Hen Wlad, ddeall am lwyddiant eu brodyr yn ngwlad yr Yankee oes y mae miloedd yn y Talaethau Unedig o Gymry, groesas- ant y Weilgi haner can mlynedd yn ol heb allu gwneyd fawr ond talu eu cludiad, yn awr yn amaethwyr cefnog, a'r tlodion yn few and far between. Ydwyf Cymro ar grwvdr. JOHN OWEN.

FY ADGOFION.

[No title]