Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BOBL IEUAINC. (G-an y Parch. 0. MADOC ROBERTS). Gorchfygu yr Anhawdd. Dawn werthfawr iawn yw y gallu i gymeryd trafferth, dyna ebai un yw athrylith. Daw pob gorchwyl yn rhwydd unwaith y cymerwn drafferth gydag ef. Cryn drafferth gaed flynyddau yn ol gyda phethau sydd heddyw yn hawdd. Plentyn trafferth yw rhwyddineb. Un peth yw gwneud yr hyn a hoffwn, peth arall trwyadl wahanol yw hoffi'r hyn a wnawn. Pwy sydd fwyaf hoff o'r piano ? Neb, ond y sawl gymerodd dra- fferth i'w meistroli. Y gwaith yr ydym ni wedi gadael mwyaf o'n hoi arno, ad fwyaf o'i ol arnom ni. Gwir fod y gof wedi curo llawer ar yr haearn anys- twyth, ond mor wir a hynny cura'r haiarn yn ol i'w fraich gyhyrau cryfion. Mae gorchfygu'r anhawdd yn grymuso'r gorchfygwr. Nid yw gwaith yn amcan ond moddion mae pob egni dreuliwn ar waith yn dyfod yn ol gyda Hog. Cyn y gall yr ieuanc feistroli ei waith rhaid iddo ddysgu meistroli ei hun. Pan y cyll y gwan ei dymer, dwg y gwaith ddelw ei wendid, blin yw gweld delw ein tymherau yn ein cyflawniadau. Wele da iawn ydoedd," —gwelodd Duw ei oreu yn edrych allan arno ei hun o'i greadigaeth. Dylem ninnau roddi ein goreu yn ein gwaith, ond rhaid ei hoffi cyn y bydd y gwaith yn deilwng o honom. Gwir nad yw ein goreu yn greadigaethau gorchestol, ond wrth feith- rin hoffter at yr anhawdd y deffroir y Crewr ynom Brwdfrydedd. Oes Y mae Crewr mewn dyn, mae yn y meddwl allu achosol gallu'n anad- lu bywyd i bethau. Pa sawl achos heddyw sydd yn disgwyl wrth ami i Grewr ieuanc i roddi bywyd ynddo ? Gair mawr pobl ieuainc yr oes hon yw 1, enthusiasm gair da od ydyw hefyd. Tardda fel y dywed ysgolheigion o air Groeg cyfansawdd eu-in, Theos-God. Gwr ieuanc llawn o enthusiasm yn 01 ystyr y gair, yw y gwr ieuanc llawn o Dduw. Duw wedi cyffroi ei deimlad, wedi goleuo ei feddwl, wedi rhoddi iddo weledigaeth. Pan soniai y Groegwr enthusiasm golygai" yr un peth a'r Lladinwr pan yr arferai y gair ins- piration." Gwelwch fod y Sais wedi I seisnigeiddio y Roeg a'r Lladin. Ni raid i'r Cymro fenthyca geiriau o un- rhyw iaith i gyfleu y drychfeddwl, mae ganddo ef eiriau cyfaddas megis ys- brydoledig, brwdfrydig gwr ieuanc a'i hyd yn frwd, Iluchia hwn ei ysbryd ei hunan i eraill, daw mewn gwirionedd yn grewr (creu-gwr). Creir gwyr o'i 1 gwmpas. Mor fuan y lluchia ami i enaid dan mewn Seiat. Oni ddywedir am ambell i un mai efe yw bywyd y ^.udiad' beth olygir? Yn syml dim ond hyn, fod ei frwdfrydedd yn heintus. Mae ambell i flaenor oer yn rhewi ei xestr, tra y mae arall yn tanio pawb o'i gwinpas. Dyma angen mawr ein eglwysi, dynion ieuainc a merched ieuainc a than Duw yn llosgi yn eu calonau. Cofier y gall brwdfrydedd godi o nwyd, gwelir hynny yn fynych yn ein chwareuon, ond y mae brwd- ^i'ydedd a dyfnder ynddo yn golygu fod j y ùan wedi ei gyneu yn ei galon gan rYm argyhoeddiad. Y Swyddog gofaliis, Hoffwn weled brwdfrydedd ein pob1 i, euainc yn cael ei droi yn wasanaeth i eglwys Crist. Paham nad ellir ei gael y?y Seiat, yr Ysgol Sul, a'r Gymdeith- ]Ddii,?-ylliadol ? ??? yr eangu .ar ?ch ein swyddogion wedi dod a chyfle ^1?, eiC^°g i'n pobi ieuainc i luchio O'n;vvc1 1, he dl' c1 bv!* yd inewydd i'r hen sefvdhadau hyn | an eisuvch ar y eyfie. Os cewch eich 8uhol 'Tn .y .f eld Y 1 ? ?? Ysgrifenydd yr YsSo1' neu yn dd? ? ???str leuenctyd, ymdanwch o "U d 1 r gwaith. Beirniaid lied lym ;y W Pobl yw1! °I lei|aiue ? rheo1 vn en wedi g a, 'va th } .J b a,, < 1 rllii hy,ach na hwy eu hun- ajn D r1 .L' 1 ?in '? ?y?nt hwythau gymeryd eu bT.-rm "l 1-0' Fy marn ? fod llawer ^b^°1 rieuainc sydd wedi ym- 1 o letlamc syc1ü wech ym-I gymeryd a swyddau yn eu cyflawni yn t llawer mwy diofal a bier na rhai o'r tadau. Pan welaf ysgrifenydd yr Ys- gol yn esgeulus hefo llanw schedules, neu pan welaf flaenor Rhestr yn ysgrif- enu enwau ei aelodau a lead pencil yn lie inc, byddaf yn casglu ei fod yn dech- reu dirywio, ac y dylai roddi ei swydd i arall. Rhaid gorchfygu y pethau an- hawdd ac anymunol sydd ynglyn a phob swydd. Mae gorchfygu'r anhawdd mewn un cylch yn gymorth i orchfygu yr anhawdd ymhob cylch. Mae'n werth gorchfygu'r anhawdd er mwyn y gorfoledd sydd yn dilyn.

I GOHEBIAETHAU.I

[No title]

Advertising

,DEFOSIWN CREFYDDOL.

[No title]

Family Notices

Marwolaeth y Parch. T. Manuel.

Adgofion Kelly.

YR HOLL EGLWYSI.

GWASANAETHU YR AR-GLWYMX BETH…