Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y BOBL IEUAINC.
COLOFN Y BOBL IEUAINC. (G-an y Parch. 0. MADOC ROBERTS). Gorchfygu yr Anhawdd. Dawn werthfawr iawn yw y gallu i gymeryd trafferth, dyna ebai un yw athrylith. Daw pob gorchwyl yn rhwydd unwaith y cymerwn drafferth gydag ef. Cryn drafferth gaed flynyddau yn ol gyda phethau sydd heddyw yn hawdd. Plentyn trafferth yw rhwyddineb. Un peth yw gwneud yr hyn a hoffwn, peth arall trwyadl wahanol yw hoffi'r hyn a wnawn. Pwy sydd fwyaf hoff o'r piano ? Neb, ond y sawl gymerodd dra- fferth i'w meistroli. Y gwaith yr ydym ni wedi gadael mwyaf o'n hoi arno, ad fwyaf o'i ol arnom ni. Gwir fod y gof wedi curo llawer ar yr haearn anys- twyth, ond mor wir a hynny cura'r haiarn yn ol i'w fraich gyhyrau cryfion. Mae gorchfygu'r anhawdd yn grymuso'r gorchfygwr. Nid yw gwaith yn amcan ond moddion mae pob egni dreuliwn ar waith yn dyfod yn ol gyda Hog. Cyn y gall yr ieuanc feistroli ei waith rhaid iddo ddysgu meistroli ei hun. Pan y cyll y gwan ei dymer, dwg y gwaith ddelw ei wendid, blin yw gweld delw ein tymherau yn ein cyflawniadau. Wele da iawn ydoedd," —gwelodd Duw ei oreu yn edrych allan arno ei hun o'i greadigaeth. Dylem ninnau roddi ein goreu yn ein gwaith, ond rhaid ei hoffi cyn y bydd y gwaith yn deilwng o honom. Gwir nad yw ein goreu yn greadigaethau gorchestol, ond wrth feith- rin hoffter at yr anhawdd y deffroir y Crewr ynom Brwdfrydedd. Oes Y mae Crewr mewn dyn, mae yn y meddwl allu achosol gallu'n anad- lu bywyd i bethau. Pa sawl achos heddyw sydd yn disgwyl wrth ami i Grewr ieuanc i roddi bywyd ynddo ? Gair mawr pobl ieuainc yr oes hon yw 1, enthusiasm gair da od ydyw hefyd. Tardda fel y dywed ysgolheigion o air Groeg cyfansawdd eu-in, Theos-God. Gwr ieuanc llawn o enthusiasm yn 01 ystyr y gair, yw y gwr ieuanc llawn o Dduw. Duw wedi cyffroi ei deimlad, wedi goleuo ei feddwl, wedi rhoddi iddo weledigaeth. Pan soniai y Groegwr enthusiasm golygai" yr un peth a'r Lladinwr pan yr arferai y gair ins- piration." Gwelwch fod y Sais wedi I seisnigeiddio y Roeg a'r Lladin. Ni raid i'r Cymro fenthyca geiriau o un- rhyw iaith i gyfleu y drychfeddwl, mae ganddo ef eiriau cyfaddas megis ys- brydoledig, brwdfrydig gwr ieuanc a'i hyd yn frwd, Iluchia hwn ei ysbryd ei hunan i eraill, daw mewn gwirionedd yn grewr (creu-gwr). Creir gwyr o'i 1 gwmpas. Mor fuan y lluchia ami i enaid dan mewn Seiat. Oni ddywedir am ambell i un mai efe yw bywyd y ^.udiad' beth olygir? Yn syml dim ond hyn, fod ei frwdfrydedd yn heintus. Mae ambell i flaenor oer yn rhewi ei xestr, tra y mae arall yn tanio pawb o'i gwinpas. Dyma angen mawr ein eglwysi, dynion ieuainc a merched ieuainc a than Duw yn llosgi yn eu calonau. Cofier y gall brwdfrydedd godi o nwyd, gwelir hynny yn fynych yn ein chwareuon, ond y mae brwd- ^i'ydedd a dyfnder ynddo yn golygu fod j y ùan wedi ei gyneu yn ei galon gan rYm argyhoeddiad. Y Swyddog gofaliis, Hoffwn weled brwdfrydedd ein pob1 i, euainc yn cael ei droi yn wasanaeth i eglwys Crist. Paham nad ellir ei gael y?y Seiat, yr Ysgol Sul, a'r Gymdeith- ]Ddii,?-ylliadol ? ??? yr eangu .ar ?ch ein swyddogion wedi dod a chyfle ^1?, eiC^°g i'n pobi ieuainc i luchio O'n;vvc1 1, he dl' c1 bv!* yd inewydd i'r hen sefvdhadau hyn | an eisuvch ar y eyfie. Os cewch eich 8uhol 'Tn .y .f eld Y 1 ? ?? Ysgrifenydd yr YsSo1' neu yn dd? ? ???str leuenctyd, ymdanwch o "U d 1 r gwaith. Beirniaid lied lym ;y W Pobl yw1! °I lei|aiue ? rheo1 vn en wedi g a, 'va th } .J b a,, < 1 rllii hy,ach na hwy eu hun- ajn D r1 .L' 1 ?in '? ?y?nt hwythau gymeryd eu bT.-rm "l 1-0' Fy marn ? fod llawer ^b^°1 rieuainc sydd wedi ym- 1 o letlamc syc1ü wech ym-I gymeryd a swyddau yn eu cyflawni yn t llawer mwy diofal a bier na rhai o'r tadau. Pan welaf ysgrifenydd yr Ys- gol yn esgeulus hefo llanw schedules, neu pan welaf flaenor Rhestr yn ysgrif- enu enwau ei aelodau a lead pencil yn lie inc, byddaf yn casglu ei fod yn dech- reu dirywio, ac y dylai roddi ei swydd i arall. Rhaid gorchfygu y pethau an- hawdd ac anymunol sydd ynglyn a phob swydd. Mae gorchfygu'r anhawdd mewn un cylch yn gymorth i orchfygu yr anhawdd ymhob cylch. Mae'n werth gorchfygu'r anhawdd er mwyn y gorfoledd sydd yn dilyn.
I GOHEBIAETHAU.I
I GOHEBIAETHAU. [Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein Gohebwyr]. I ADOLYGIAD Y "WINLLAN." I Mri. Golygwyr, Mae rhai pethau ynllythyr yr adolygydd yn eich rhifyn diweddaf nas gellir gadael iddynt basio yn ddisylw. 1. Awgryma fy mod yn noddi gwallau, ni rydd fy llythyr yn y "Gwyliedydd New- ydd le i neb diragfarn dynu y casgliad hwn. Ameu yr wyf hawl undyn i alw pob un yn ddwl," neu yn ddiog fydd yn sillebu geiriau yn wahanol iddo ef. Ysbryd adol- ygydd galluog, mewn sylw ar lyfr yn y Drysorfa," fydd yn fy meddianu,—" Ni ddyblir y cydseiniau fel y gwneir yn gyff- redin, ac ni ellir beio am hyny, gan uad oes reol sefydlog ar y mater." Mor wahanol ydyw adolygydd y Drysorfa i adolyg- ydd y "Winllan"! "Ni ellir beio am hyny," ebe un, "dwl neu ddiog," ebe'r llall! Condemnier faint a fyner (ond mewn modd boneddigaidd), wallau nad oes am- heuaeth yn eu cylch, megis a yn lie a., mae yn lie mai, &c., ond na alwer neb yn ddwl,' os yn peidio dyblu y cydseiniaid mewn geiriau ag y mae eto amrywiaeth barn yn eu cylch. Nes y ceir rheol sefydlog gyd- nabyddedig, goddefgarwch sydd yn gweddu oreu i adolygwyr, ac nid ysbryd barnol anffaeledig. Dyblir y cydseiniaid yn y "Winllan" fel y myn y Gohebwyr, pan y gofynant am hyny. Gwyr yr adol- ygydd hyn o'r goreu. Pan na wneir apel felly, yn naturiol dilynir orgraff arferol y misolyn a dyna sydd yn cyfrif na ddyblwyd y cydseiniaid yn ysgrif Mr. Tegla Davies, Bydd gan Mr. Davies ysgrif dlos yn y "Winllan" am Mai, ac yn hono dilynir yn fanwl orgraff yr awdwr, ar ei ddymuniad. Prawf hyn nad yw y rhai sydd yn gyfrifol am y misolyn yn ystyfnig na mympwyol. Bwriadaf cyn bo hir newid cryn dipyn ar yr orgraff. Nis gellir gwneud cyfnewidiad- au mewn un-dydd, un-nos. Ond gwar- eder fi rhag galw y rhai a wahaniaethant mewn barn oddiwrthyf yn rhai dwl na diog." Gwrthdystiad yn erbyn hyn yw fy llythyr, fel y gwel pob darllenydd diduedd, ac nid "nodded" i wallau fel y myn yr adolygydd. 2. Nis gallaf ystyried beirniadaeth ddi- niwedyr adolygydd ar frawddeg neu ddwy o fy llythyr yn ddim amgen nag ymgais i daflu llwch i lygaid y darllenwyr. Cyfeiria at Pedr Hir fel ei awdurdod dros gondem- nio mynych arfer y ffurf cael fel berf gynorthwyol. Ond ni ddywed fy hen gyfaill fod yr arferiad yn wael, nac i'w feio bob amser. Dyma ei eiriau, Y mae'r gair cael, er hyny, yn gwneud gwaith rhagorol yn fynych pan elwir arno i gynorthwyo berf arall." A chyd- nebydd mai tueddol iawn wrth siarad neu ysgrifenu yw tra mynychu'r gair." Nid wyf fi yn cymeradwyo yr arferiad, cofier, ond mater o arddull, ac nid orgraff ydyw hwn. Eto, Dechreuir y frawddeg olaf yn ei lith yn y rhif unigol, ond di- weddir hi yn y rhif liosog temtlr fi ond ymataliwn' Ac ymor- foledda, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer, uwchben y darganfyddiad mawreddog hwn o'i eiddo Mewn difrif, gellir disgwyl i beth fel hyn fod (isla w sylw gwr Ilai dysgedig na'r adolygydd. Hawdd i rai heb fod yn nodedig am eu craffder ganfod mai sliP ydyw "fi" yn lIe" ni." Yn sicr y mae'r ffaith ei fod wedi'i demtio i droi am swcwr i'r fath ffynhonell yn eglur ddangos ei fod wedi myn'd yn bur fain arno." Tybed nas gwyr erbyn hyn mor anhawdd ydyw cael pob brawddeg, a gair, a llythyren, yn hollol gywir mewn ysgrif. Ni raid iddo ond edrych dros ei ysgrif ddi- weddaf ei hun i weled hyn. Dyma ddwy n mewn ysgrifenodd unwaith, a dim ond un dro arall. A dyma hyd yn oed hwnw a hono heb ddwy n vnddynt Ond gwn mai slips yw y rhai hyn, ac nid wyf yn ddigon plentynaidd i wneud capital ohonynt, er mwyn ceisio tanu llwch i lyg- aid y darllenwyr. 3. Rhaid i'r adolygydd faddeu i mi am gyffesu i mi fethu peidio gwenu pan welais ei restr o wyr grymus a disglaer." Yn anffodus iddo ef nid yw yr holl vvyr hyn yn eu gweithiau yn ei ochri, beth bynag am eu Hadroddiad. Dyma'r Athro J. Morris Jones, M.A., Ysgrifenydd "Pwyllgor yr Orgraff" yn defnyddio cerrig," ac nid cerryg." Dyma un o gyhoeddiadau Owen M. Edwards, M.A., (aelod pwysig arall o'r Pwyllgor) o'm blaen, a "cherrig," sydd yn hwn. A dyma ysgrif o waith y Parch Dciniel Rowlands, M.A., y gwr a symudodd gyntaf tuag at gael y Pwyllgor crybwylledig, ar waith y Pwyllgor, a cherrig" sydd yn hon At bwy felly, y cyfeiria yr adolygydd, pan y gofyna mor fostfawr, Pwy dybiech chwi sy debycaf i fod yn gywir—y dynion hyn, ynte Golyg- ydd y Winllan ?" Oblegid dyma rai-ac ar lawer o gyfrifon y rhai pwysicaf—O'r gwyr grymus a disglaer hyn yn wahan- ol iddo ef, a gall fod chwaneg ohonynt, pe cawn hamdden i chwilio i mewn i'w gweithiau. Dealled yr adolygydd nad wyf fi yn penderfynu pwy sydd gywir nac anghywir. Fy mhwynt 'i o hyd yw, tra y bydd amrywiaeth barn hyd yn oed ymhlith gwyr grymus a disglaer," mai chwerthinllyd i'r eithaf ydyw gwaith un- rhyw feirniad yn condemnio i ddinystr y rhai a ddigwyddant wyro i un ochr. 4. Cardota'r cwestiwn yn hollol a wna'r adolygydd yn wyneb y cyhuddiad o an- nhegwch a ddygwyd yn ei erbyn. Ni awgrymwyd nad oedd wedi canmol y "Winllan," ae wedi nodi gwallau yn yr Eurgrawn." Mae gan yr adotygydd allu rhyfedd i ffoi yn barhaus oddiwrth y mater mewn dadl at rywbeth arall. Y gwyn a ddygais yn ei erbyn oedd, ei rod yn dweyd fod clod yn ddyledus i un, ac yn cyhuddo y llall o fod yn ddwl neu yn ddiog tra'r ddau yn gyfrifol am wallau cyffelyb. Dealla pawb mai nid am y clod yr wyf yn ei feio, ond am y gwa- haniaeth a wna rhwng dau sydd yn yr un camwedd. Beth yw amddiffyniad yr ad- olygydd ? Fod un Cyhoeddiad yn "llawer mwy" na'r llall!! Felly yn ol maint Cyhoeddiad y penderfyna ar ddylni neu ddiogi, ac nid yn ol ansawdd y gwallau!! Os digwydd gwallau "hyll iawn (megis mae yn lie mai) mewn Cy- hoeddiad mawr, gellir yn ddibetrus ddweyd clod sydd yn ddyledus," ond os digwydd- ant mewn cyhoeddiad llai, bydd hyny yn arwydd o ddylni neu ddiogi! Dyma athrawiaeth ddiethr, bid sicr, a safon newydd o farnu. Cyfeiria yr adolygydd at ryw ymddidd- an a fu rhyngddo ef a minau ychydig o wythnosau yn ol ynghylch y Winllan." Perthynas anuniongyrchol a ddaliai yr ymddiddan hwnw a'r pwnc sydd yn awr o dan sylw, ac nid yw cyfeiriad yr adolygydd ato yn ei helpio ddim yn ei amddiffyniad. A dealled y darllenwyr mai ymddiddan cyfrinachol ar yr aelwyd ydoedd hwnw Os yw yr adolygydd yn foneddwr, gwn y gofidia yn ddwys oherwydd ei ymddygiad, pan fyfyria yn ddifrifol uwch ei ben felly ni ddywedaf chwaneg ar y mater. Gwell genyf roi barn cariad arno, a chredu mai yn ddifeddwl, o dan gynhyrfiad y foment, yr ysgrifenodd ei lith. GOLYGYDD Y "WIXLLAN." AT OLYGWYR Y GWYLIEDYDD. Mri Golygwyr. Er nad wyf am gymeryd rhan yn y ffrae lenyddol, fel un sy'n hoffi Cymraeg, carwn ofyn i Parch. Tecwyn Evans sut y mae'n cysonir" hwnw yn ail linell ei lythyr di- weddaf hwnnw yn yr ateb cyntaf i'r cy- huddiadau. Onid yw efe'n anghyson. Eto, gan y cymer adroddiad Pwyllgor yr orgraff fel safon, sut y mae efe'n sillebu fel safon, sut y mae efe'n sillebu gwnn" gyda dwy n tra nad oes ond un yn y rhestr geiriau geir ar derfyn yr adroddiad uchod' SYLWEDYDD. Mri. Golygwyr. Teimlaf yn ddiolchgar, os bydd i chwi ganiatau congl fechan o'ch Newyddiadur at fy ngwasanaeth, addawaf na fydd i mi eich blino a meithder. Yr wyf yn Dderbyn- iwr cyson or "Gwyliedydd Newydd," ac yn cael mwynhad mawr yn y darlleniad o hono, yn arbenig felly yr Adgofion gan Egwest, yr wyf yn adnabod Egwest yn dda ac yn gyfaill mawr ag ef, teimlo yr wyf na ddylai gwr o'i safle ef, ymguddio fel hyn rhag y werin o dan gochl ffugenw,—gan ei fod yn gymeradwy gan bawb a'i hadwaen- ai. Os caniata Golygydd y Gwyliedydd i mi fynegu ei enw, bydd hyny yn gymerad- wy gan lawer a ddarllenodd yr Adgoflon sef Mr. John Whittington, Bodfari Tref- nant, Flint-shire. Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i Mr. Whittington am ei nod- iadau, amserol, melus moes mwg, gan fod y lie y soniweh am dano yn agos iawn at fy nghalon ac felly wrth fy modd, nis gwn am neb yn ardal Penygroes heddyw a allai roddi bywargraffiad mor ardderchog a manwl a Mr. Whittington, gan ei fod ef, fel finnau wedi ein geni yn Penygroes, er mae pentref bychan ydyw Penygroes y mae iddc hanes godidog,—cewri fagwyd yma, gadawaf i Mr. Whittington y gorchwyl o fynegu ramantau yr ardal, a'u rhyfeddodau yn y gorffenol, oddeithr i mi ddwyn ar gof, mae yma y ganwyd Eos Morlais, disgwyl- iwn wrth Egwest roddi ychydig o hanes y gwr clodfawr hwnw, fel ag y bydd i ardal fechan Penygroes ymffrostio yn ei chewri, fel ag y nodais mae yma y ganwyd Eg- west ,y mae yntau yn enwog iawn fel Cer- ddor, y mae wedi cyfansoddi clarnau lied faith, ac mae wedi bod yn Athraw Cerdd- orol am lawer blwyddyn, hefyd mae yn bregethwr enwog gyda y brodyr Wesley- aidd. Dangos yr wyf yn hyn o ysgrif, fod hanes ardderchog i'r ardal y sonia Egwest dani. Efallai y bydd i Egwest cyn rhoddi ei ysgrifell ar. dudalenau y Gwyliedydd roddi tro mewn adgof i Abergynolwyn am ei fod ef wedi bod yno ers yn agos i 40 mlynedd. Diameu y caem lawer o fwyn- had. I DORA.
[No title]
Edward Lhuyd, Rhydychen. I Un o'r Cymry enwocaf a galluocaf yn ei ddydd oedd Edward Lhuyd, ceidwad Museum Ashmole, yn Rhydychain. Fel y mae waethaf y modd, yr mae ei hanes yn anhysbys i gorph mawr y genedl heddyw. Y mae Mr Richard Ellis, B.A., o'r Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, yn gwybod mwy o'i hanes na neb sy'n fyw, ac^yn debyg cyn hir o gyhoeddi ffrwyth ei ymchwiliad- au maith a manwl. Byddai hyny yn gym- wynas fawr a Chymry ac yn deyrnged I ddyledus i goffa Lhuyd. Darllenodd Mr. Ellis bapur gofalus a dyddorol dros ben ar hanes Lhuyd o flaen y Cymmrodorion dro yn ol. Byddai cwblhad y gwaith campus hwnw yn beth y byddai pob ysgolhaig Cymreig yn wir ddiolchgar i Mr Ellis am dano. Nathan alr Gwllthyrs. Eel yma y canodd Nathan Wyn i'r gwlithyn bach: 0 wlithyn pur dy swyn Prif addurn anian fwyn, A'i choron hi Cusanu'r clogwyn gwyrdd, Y ddol ac ochrau'r ffyrdd, Cofleidio'r blodau fyrdd, Yr ydwyt t; Tydi yw balm yr allt. 1 ber eneinio 'i gwallt, 0 ga wg y nos Ai deigryn angel pur. Wyt ti mewn gwlad o gur. Ddisgynodd dros y mur O'r wynra dlos ?
Advertising
EVERY BOX OF ENGLAND'S GLORY MATCHES USED, Means MORE WORK for British Workpeople. I Moreland, Gloucester.
,DEFOSIWN CREFYDDOL.
DEFOSIWN CREFYDDOL. [G-AN IEUlnG MALDWYN.] Hyd yma yr wyf wedi darllen y Gwyliedydd Newydd yn gyson a di- fwlch er ei gychwyniad, ac yr wyf yn cael dwTysged o bleser ac adeiladaeth wrth wneud hyny. Os digwydd bod ynddo ysgrif o'm gwaith fy hun, dyna y peth cyntaf fyddaf yn ei ddaiilen yn wastad First Myself! Hunanol gynddeiriog" medde chwi. Hwyrach yn wir, ond yr hwn sydd ddieuog o honoch tafled y gareg gyntaf. Pe bae pawb yn ddigon gonest i gyfaddef y gwir, fe allai y ceid allan mai nid y fi yw yr unig un sydd yn gwneyd y fath beth, ond myfi y mae'n debyg yw yr unig un sydd yn ddigon diniwed i gyfaddef hyny, Gan y gwirion ceir y gwir. Yn y Gwyliedydd wythnos neu bythefnos yn ol yr ysgrif a dynodd fy sylw yn fwyaf neillduol ydoedd yr ys- grif ar Ddefosiwn Crefyddol," oblegid yr oeddwn inau hefyd beth amser yn ol wedi bod yn dweyd tipyn ar y mater yn un o gyfarfodydd ein Cyrndeithas Lenyddol, a bron yr un sylwadau a wnawd genyf finau y pryd hyny, ac a geir yn yr ysgrif hono, ond eu bod wedi eu rhoddi wrth eu gilydd yn fwy taclus a Ilafar-ber yn yr ysgrif. "What oft was thought, but ne'er so well ex- pressed. Oes y mae mawr angen am ddiwygiad yn y cyfeiriad yma yn ein plith fel Ym- neillduwyr. Yr ydym filldiroedd ar ol Eglwys Loegr yn y gras yma. Nis gwn lawer am Eglwys Rufain, unwaith yn ystod fy oes y bum mewn eglwys Bab- yddol. Ail gynyg i Gymro, eglwys y Pabyddion fuasai yn nes i'r marc. Wil Bryan onide ddywedai y carai weledenwad newydd yn codi yn Nghym- ru i gymeryd i fyny good points yr holl enwadau, a defosiwn Eglwys Loegr ydoedd un o'r rhai hyny. Onibae fod eisioes lawn digon o enwadau, a gormod ddengwaith o enwadaeth yn Nghymru buaswn yn eilio y cynygiad olwyrfryd calon, ond beth sydd yn lluddias i'r gwahanol enwradau introducio y good points yma i'w henwad eu hun, ac nid y lleiaf o honynt yw Defosiwn. Y mae y ffaith ein bod ni Ymneilldu- wyr wedi cychwyn ein gyrfa grefyddol mewn tai anedd a hen ysguboriau yn cyfrif i raddau helaeth am y diffyg parch a ddangosir genym yn ein hym- ddygiad yn Nhy Dduw. Y mae y dull trystfawr o fyned i fewn ac allan o'r addoldai gan liaws mawr y dyddiau hyn yn gweddu yn well i ysgubor nac i Dy Dduw. Peth arall sydd wedi bod yn flinder ysbryd i mi ydyw y pesychu a'r hecian dianghenrhaid a glywir yn rhy fynych o lawer yn ein hoedfaon. Gellid medd- wl ambell waith gan gyffredinolrwydd y pesychu fod pob perchen anwyd wedi dyfod i'r oedfa y diwrnod hwnw. Nid amhriodol fyddai ysgrifenu ar furiau ein haddoldai mewn llythrenau breision Peidiwch pesychu hyd y gellir, ond os bydd raid gwnewch mor ddistaw ag sydd bosibl" Mae fel pe tae rhyw gyd- ddealltwriaeth yn bod cydrhwng pobl y peswch yma, oblegid cyn gynted ag y dechreua un yn y fan hyn, etyb un arall, ac felly ymlaen hyd y seithwaith ie, a thrugain seithwaith yn ami, digon i beri i ddyn diarth feddwl mai cystad- leuaeth besychu sydd yn myn'd ym- laen ac nid addoliad Crefyddol. Ni all na ddel pesweh, mwy na rhwystrau, Love and a cough cannot be hid," meddai, ond yn benclifaddeu fe ellid cuddio Ilpwer iawn o hono pe bae pobl ddim ond treio, For I have tried both," chwedi y Scotman. Dosbarth arall sydd yn haeddu gair o sen ydyw y rhai hyny sydd yn cysgu yn yr addoliad. Y mae genyf fwy o gydymdeimlad ar torllwyth yma nag ar un blaenorol, er mai hollol anweddus ydyw ymddygiad y rhai hyn hefyd. Mae John Ploughman yn meiddio amddiffyn tipyn arnvnt, Dim rhyfedd fod y bobl yn cysgu dan y pregethau," meddai. Some preachers put such a lot of sleeping stuff in. their Sermons,—They mesmerize the people." Y mae yr un awdwr yn ei Lectures to his Students, yn dweyd rhywbeth i'r perwyl a ganlyn os wyf yn cofio yn iawn. Os digwydd i chwi ganfod rhywun yn cysgu pan fydd wch yn pregethu, cymerwch hyny yn awgrym nact yv, eich pregeth yr hyn y dylai fod, a'r cwestiwn ddylid ei ofyn ydyw, Nid beth yw y mater ar y cys- gadur,? ond beth yw y diffyg sydd ynof fi ? A dyma berl arall o enau Will Bryan, Os nad elli di wneud i bob en- aid wrando arnat ti, rho hi i fyny a cher i werthu calico." Clywais ystori am un o hen fiaenor- iaid Cymru fn, a fvddai yn arfer cau ei lygaid ar adegau o dan y bregeth. Gan feddwl gweinyddu tipyn o gerydd ar yr hen frawd, gofynai y pregethwr iddo un tro, 11 Ai cysgu y byddweh chwi bob amser yn ystod y bregeth Nage bob amser," ebe yr hen flaenor yn ddiniwed ei wala. Y mae yma. ambell i ddyn yn pregethu weithiau yn fy myw y cysgwn i." Etoi gyd o'r braidd y gallaf gredu fod y bai i gyd ar y pregethwr. Gwyddom i un gysgu pan oedd yr Apostol Paul yn pregethu, ond buasai yn well i hwnw gadw ei lygaid yn agored beth bynag. Fe allai bod hynyna yn ddigon ar un daliad. Y mae y Golygwyr yn erfyn am ysgrifau byrion a melus, fy nliuedd inau yw bod yn hir ac yn liallt. Mel- usaf can, can yr eos, ond ni pharodd Duw i'r fran dewi. Nid dyddan gwrando casuri. Oni fyddai y testyn hwn (Defosiwn Crefyddol) yn bwnc Seiat priodol iawn? Nic hidiwn ben botwun pe cawn ystlys genad gan yr awdurdodau goruehel agor y mater. A ddarlleno ystyried.
[No title]
I Etholiad Cyngor Dosbarth Towyn. Dydd Sadwrn, Ebrill  Mr. John Lloyd (W.) r? Mr. Hugh Evans (A.) :!cicl Mr. Daniel Edwards (.Nl.c.") I Yr hen aelodau oeddynt Evans a La- wards. Llongyfarchwn Mr. Lloyd ar enill y fath safie anrhydeddus. I Etholiad Gwarclieidwaid Plwyf Towyn. Yr oedd 0 o ymgeiswyr aiii sedd. Yr oedd Mrs Jones, priod y Parch Robert Jones, Gwynfa, Towyn yn un o'r a etholwyd. DOLGELLAU. Llawen genym fod Mr. David Meredvdd. goruchwyliwr Cylchdaith Dolgellau ac Abermaw, wedi ei ddychwelyd yr uwchaf ond un, i Gynghor Dinesig Dolgellau. Aeth Wesleyad arall i mewn hefvd sef Mr. W. T. Lloyd.
Family Notices
GENEDIGAETH. DAN-IFs-Yn Gwynfa Villa, Caergybi, priod y Parch. H. Meirion Davies—mab. MARWOLAETH. ROBERTS—Gwener y Groglith, 1010. yn Bodawen, yr Wyddgrug, David John, mab cyntaf-anedig y Parch, a Mrs E. Berwyn Roberts, yn flwydd a saith mis oed.
Marwolaeth y Parch. T. Manuel.
Marwolaeth y Parch. T. Manuel. Gofidus genym hysbysu i air ein cyrhaedd yn dweyd am farwolaeth sydyn y Parch. Thomas Manuel, Ysgrifenydcl Talaeth y De-yn ei gartref, Porth, bore dydd Sad- wrn. Cleddir dydd Mercher, yn Mynwent Gyhoeddus, Trealaw. Cychwynir o'r ty am 2. Dyma ddyrnod drom i'r Gylchdaith ac i Wesleyaeth yn y De. Cysured yr Ar- glwydd ei weddw a'i blant.
Adgofion Kelly.
Adgofion Kelly. Yn ei lyfr o "Adgofion," dywedir pethau hynod gan y Parch C. H. Kelly. Dyma fel yr edrydd am un o'i helyntion :Yn ystod fy salwch diweddaf dywedodd medd- yg arbenig na fyddai i fy nghalon, yn ol ei farn ef, byth adenill ei gvrres cynhemd. Mor gynted ag y cyhoeddwyd y ffaith der- byniais lythyr oddiwrth gynyrchiolydd un o'r newyddiaduron dyddiol yn gotyn am v darlun diweddaf ohonof, fel y gallont fod yn barod i gyhoeddi fy narlun pan fydchvn fanv. Newydd ddelio gyda'r llythyr hwn. cefais air oddiwrth gynrychiolydd Cym- deithas Llosgi Cyrph yn dangos rhagor- iaeth llosgi ar gladdu, ac yn erfyn arnaf roddi gorchymyn i'm teulu mai llosgi fy ngorff ac nid ei gladdu a ddymunwn, ac y dylai y cyfarwycldiadau hyn gael eu rhoddi mewn amser da, ac nid yn fy ewyllys. yr hon, hwyrach, a agorid yn rliy ddiweddar. Anfonodd gyda'r llythyr daflen gyfreittaol i'w harwyddo yn awdurdodi'r llosgiad." Gallai llythyrau o'r natur yma yru dyn yn y fath sefyllfa i fraw a dychryn ond gwel- odd y pregethwr yr ochr ddoniol i'r oil. Y mae llygaid masnach yn ddigon agored, faint bynag o rai eraill sydd yn ngauad.
YR HOLL EGLWYSI.
YR HOLL EGLWYSI. Gipsy SMith.Y mae y Gipsy hyadl. ac ymroddedig wedi dechreu arei genhadaeth yn Paris. Dyma ei ymweliad cyntaf erioed a phrifddinas y Ffrangcod, er ei fed er's deng mlynedd a'r hugain wedi bod yn cynnal cyfarfodydd yn America. Awstralia, Affrica, a'r holl ynysoedd Prydeinig. Ei bregeth olaf. —Y Sul o'r blaen tradd- ododd y Parcn. R. Jones ei bregeth olaf fel gweinidog Capel Mawr, Rhos. Adolygcdd ai gyssylltiad maith a'r eglwys, a chyda dwysder y cyfeiriodd at ei ymaaawiad. Trom ydoedd calon llawer un drwy y gwasanaeth. Crefydd dyn, a Chefydd mercii ?—Mewn pregeth o'i eiddo dywedodd y Parch Silvest er Home fod clynion yn fwy crefyddol na merched, ac y mae'n àmlwg- y clyw lawer yn ei gylch am amser maith. Yn y Sun- day Strand ceir syniadau amryw o enwog- ion ar y sylw, Dywed Father Adderiy a Mr. Fred A Atkins fod Mr Home yn sicr o fod yn gywir yn ei fynegiad; ond mynn Mrs. Bramwell Booth. Miss Jane T. Stoddart, Syr Robert Anderson, Mr. W. T. Stead, a Mr. C. B. Fry ei fod yn cyfeiliorni. Mae | llawer i'w ddweyd ar y naill ochr a'r llall. Y perygl wrth feirniadu Mr. Home ydyw sylfaenu barn ar gamddealltwriaeth. Ni ddywedodd nad yw merched yn grefy7ddol> ydyw fod crefydd dyn yn fwy dwfn a" gwir- ioneddol. Crefydd y teimlad sydd gan y7 rhyw deg ond y meddwl sy'n gweithreda gan ddyn. Wedi eu henill clrosodd gan swyn Y mae'r merched ond argvhoeddiad a barn sy'n llywcdraethu dymion. Mae gwaith y ty a'r aelwyd, ac ymddangosiad personol wedi llenwi amser a meddwl y rhyw fenywaidd fel nad yw darllen a meddwl, i fewn yn eu rhaglrn; ond am. ddymion rhaid iddynt fyw drwv feddwl neu drengu. Mae achos crefydd yn ein gwdacl, mae'n wir yn cael cynnorthwy rhagorol 2. sylweddol gan ferched ond y mae grymusder a bodolaeth crefydd. i raddau helaeth, yn dibynu ar ddymion. Dividend Diod.-Bu Dr. Sinclair. Arch- ddiacon Llundain, yn pregethu i ddarllen- wyr a thafarnwyr Manchester yr wythnos o'r blaen, a bu hyn yn achlysur i gyhoeddi y Saith fod yr archddiacon yn clal gwerth dwy fil o bunau o gyfranddaliadau yn mragdy Barclay, Perkin (S- Co. Dywed Dr. I Sinclair ei fod am eu gwerthu. Fel1:(n wir
GWASANAETHU YR AR-GLWYMX BETH…
ger bron y cyhoedd. Tystiodd ei dad ar derfyn ei dymhor yn ngweithdy'r Saer ei fod wedi ei lwyr foddloni ynddo." Dywed Zechariah, y Proffwyd, y daw dydd pryd y bydd ar ffrwynau y meirch, Sancieiddrwydd i'r Arglwydd; a phob crochan yn Jerusalem a Judah yn, Sancteidd- rwydd i Arglwydd y lluoeddh.y. —Daw dydd pryd yr ystyrir gwas- anaeth cyffredin y chwe diwrnod gwaith yn wasanaeth i'r Arglwydd. Y pryd hwnnw eir i'r farchnad, a'r gwaith yn ysbryd ac ofn yr Ar- wydd. Eir i'r Polling Booth ddydd yr Etholiad yn ysbryd y Seiat. Ymleddir brwydrau gwleidyddol masnachol a chymdeithasol yn ysbryd a nerth y cyfarfod gweddi ac addoliad y Deml. Y dydd hwnnw gwelir gogoniant yr Ar. glwydd yn y Demi a thu allan iddi. A dywed pob gwir ddisgybl: Wele fi, anfon fi."