Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Wesleyaidd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddion Wes- leyaidd. POSTCARES A GOHEBIAETHAU. I ILANRWST. DAPLITH.- David Rowland, y Bala oedd testyn darlith draddodwyd gan y Parch Gwilym Roberts (Eglwysbach) i aelodau Cymdeithas Ddiwylliadol Eglwys Horeb yn wythnos ddiweddaf. CRONFA Y DIWEDDAR R. R. OWEN.— Cyrhaeddodd cronfa goffa y diweddar frawd anwyl, R. R Owen agos -1-70. Mor chwith yw hebddo, PENMACHNO. DARLITH.—Nos Sadwrn diweddaf, yn Bethania (W.), Machno, o dan lywyddiaeth y Parch T. J. James, cafwyd darlith ragor- ol ar Nodweddion y Cymro," gan y Parch T. Gwilym Robets (W.), Eglwysbach. Yr oedd te rhagorol wedi ei drefnu gan bobl ieuainc yr eglwys cyn ac ar ol y ddarlith. Elai yr elw oddiwrth v cvfan at yr achos vn y lie. ASTON-IN-MAKERFIELD. CYFARFOD PREGETHu.-Dydd Gwener y Groglith cawsom wasanaeth felus a ben- dithiol y Parch. T. N. Roberts, Cefnmawr, a Sul y Pasg, bregethwyd yn rymus i gyn- nulleidfa lliosog gan y Parcb. M. E. Jones, Wyddgrug. Nos Sadwrn darlithiwyd gan Mr. Jones a'r 11 Hen Gymeriad Hynod." Yn sicr dyma ddarlith gwerth ei gwran- daw. Cyfunir ynddi y buddiol, dyddorol, ac adeiladol. Nis geilir ei gwrandaw heb edmygu y cymeriad y traethir arno. Da iawn gennym gael lie i gasglu y bydd Mr. Jones yn dychwelyd i'r gwaith rheolaidd yn fuan. Yn y pulpud mae ei le heb os nac onibae. W. LLANBEDR, MEIRIONYDD. Mae y lie yma yn myn'd ar gynydd yn flynyddol, fel cyrchfan ymwelwyr, ac mae yma gryn lawer wedi dyfod eleni i dreulio gwyliau y Groglith ar Pasg. A pha ryfedd mae'r olygfa ramantus a gwyllt a geir yn Cwm Bychan a Drws Ardudwy yn llygad- dynu yr ymwelydd. Mae'r enwadau Ymneillduol yn meddu ar ddylanwad teilwng yn yr ardal, er nad yw yr Annibynwyr wedi rhoi eu pabell i lawr yma hyd yn hyn. Mae yr Eglwys Wesleyaidd yn Bezer er yn fychan, yn weithgar a blodeu- og, a chyda Haw Mr. Gol, caniattewch i ni ddyweud fod y Parch. Daniel Williams, a'i briod wedi dyfod i drigianu yn ein plith trwy iddynt fethu cael Ty cyfleus yn Harlech. Er mai yn Llanbedr y bu'r Gweinidog yn byw ar y dechreu, a chred- wn yn gydwybodol rnai yma y dylai fod, gan ei fod yn lie mwy canolog iddo wneyd ei waith yn effeithiol. Bu Mr. Williams yn bedyddio tri o bobl ieuainc yn Bezer, boreu Sabbath diweddaf, ac yn derbyn tri i gyf lawn undeb ar eglwys yn oedfo y nos. Mae hyn yn siarad ynffafriol am weithgar- weh yr eglwys yn y lie. Da iawn oedd genym weled Mr a Mrs T. W. Griffith, Llandudno, (tad a mam Mrs Daniel Will- iams), yma yn treulio y Sabbath diweddaf hefo ni. Mae Mr Griffith fel mae'n hysbys i ddarllenwyr Y Gwyliedydd yn uno leygwyr mwyaf blaenllaw ac amhvg Ail Dalaeth Gogledd Cymru, ac wedi ei ddyr- chafu i'r Fainc Ynadol yn ddiweddar, an- rhydedd a wir deilynga. Cawsom anerch- iad amserol ganddo yn Bezer nos Sul. Mae'r Gwyliedydd Newydd yn cymer- yd yn ardderchog yn ein plith. AELOD. HOREB BANGOR. CYFARFOD Y GROGLITH.—Y bregethwyr CYFAT, FOT) Y GPOG- eleni oeddent y Parchn. D. Gwynfryn Jones. ac Evan Roberts, Penisa'r-Waen. Gvvyl bregethu ragorol, y cynulliadau yn foddhaol iawn. GOH. Y GYMDEITHAS.—Cynhaliwyd cyfarfod terfynol y tymor y nos o'r blaen, pryd y darparwyd gwledd i'r aeiodau. Yn ddi- lynol aed trwy raglen ddvddorol, o dan lywyddiaeth Mr. J. R. Parry. Berea (M.C.) Dadl ar A yw chwareuon yn fantais vnte anfantais i fywyd moesol y genedl ?" Cad- arnhaol, Mr. G. L. Davies nacaol, Mr. Rd. Williams, Carnarvon Road. Yr oedd y mwvafrif dros v cadarnhaol. Llvwyddai Mr. W. Lloyd Williams. ABERDYFI. VVESLEY GUILD.—I derfynu'r Wesley Guild am y tymor, cafodd yr aelodau ymgomwest yn y Central Restraurant. Caed cyfarfod wedi'r wledd, dan lywyddiaeth y Parch. Rhys Jones. CARNO. "Y TIR A'R BOBL.— Nos Eawrth, yn Nghabel y Wesleyaid, bu'r Parch D. Gwyn- fryn Jones, Abermaw, yn darlithio ar y testyn uchod. Llywyddwyd gan Mr. test,??n Ll,:hoC?. Lly-,vyc?LO,v d gan ?, l r GLANADDA, BANGOR. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Nos Lun, Mawrth 14eg. daiilenwyd papurau ar Moses, "gan Air. 0. Jones, a Namaan y Syriad, gan Mr. Joseph Jones. Cahvyd ymdrafodaeth pellach ar y papurau gan amryw o'r aelodau. Yr oedd y Schoolroom yn oriawn a threuliwyd noson ddifyr. Nos Lun, Mawrth 21ain, cafwyd dadl ar y testyn "A ddylai gweinidogion gymeryd rhan mewn pynciau gwleidyddol." Agor- wyd "Dylent" gan Mr. Peter Williams. "Na dclylent," Mrs Lloyd. Dadl ardder- chog. YR ABERMAW. CYNGHERDD EOLLOL GYMREJG.—Yn y I Neuadd Gynull, ac o dan nawdd ein Cym- deithas Lenyddol, cynhaliwyd un o'r Cyngherddau mwyaf dyddorol y gellir ei I fwynhau byth yr oedd pobpeth yn GymT raeg. Y peth amlwg oedd y delyn a cbanu peniliion, a'r cwbl yn yr hen arfer, sef'canu tan bared, Dull allan o welit, a Difyrru y Brenin. Yr oedd pawb wedi eu gwifgo yn yr hen ddiwyg Gymreig. Yr oedd y Cyngherdd yn llwyr yn llaw Mr. Dafydd Roberts, y Telvnor dall o Fawddwy ond a dr;g yn awr yn y dref hon. Os oes ar ryw eglwys angen cynherdd ar linellau newydd hollol, cynghorwn hwynt i ym- ohebu a Dafydd Roberts. vVel, campus, ie yn benddifaddeu. MEIFOD. Gyda'r Groglith daeth ein cyfarfod preg- ethu blynyddol. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Cadvan Davies, Chas. Jones, a W. J. Jones. Y nos Iau blaenorol cawsom ddarlith ddyddorol ac addysgiadol gan Cadvan ar Gymru, ei Beirdd." Llywydd- wyd gan Mr. Chas Heber Humphreys, Llanfair. Dydd Gwener yr oedd y cynull- iadau yn lluosog a'r pregethu yn rhagorol. Cawso/n gywair i'n meddyliau yn y boreu trwy bregeth y Parch. Chas. Jones ar "allu cymhelliadol cariad Crist." Cafwyd preg- eth Seisnig yn y prydnawn gan y Parch. W. J. Jones, Llanfair; a'r nos cafwyd oedfa wlithog a bendithiol, Cadvan yn ei hwyl- iau. GOH. SALEM, LLANDWROG. Cafodd Band of Hope y lie uchod nos- waith Ion y 23ain cyfisol. Bu Llywydd y Gymdeithas, Llew Parry, yn traddodi Dar- lith ddyddorol ar Fagu leir. Gosodwyd yr amrywiol rywogaeth ar Ganfas trwy offerynoliaeth y Lantern. Yr oedd golwg ardderchog ar yr leir, yn wir, ni welsom eu cyffelyb erioed. Cafodd y darlithydd hwyl i ddweyd yr hanes, a'r gynulleidfa eu boddhau, a'r plant wledd. Hefyd mae gwledd arall yn y golwg, mae chwiorydd yr eglwys yn bwriadu anrhegu y gym- deithas a gwledd o de, ac yn yr hwyr bydd cyfarfod terfynol y gymdeithas am y fiwyddyn, yn yr hwn y gwobrwyir y plant am ffyddlondeb a dysgu. Bu y swyddog- ion, y Brodvr, a'r chwiorydd, a'r plant yn hynod ffyddlon ar hyd y fiwyddyn. Diolch lawer iddynt. E. R. GLYNCEIRIOG. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol y Sabboth diweddaf, Mawrth 20fed, o dan lywyddiaeth Llywydd yr Undeb, Mr. Henry Edwards. Ychydig o gynnyrchiolwyr ddaeth yng hyd. Yr oedd cyfarfod ysgol Tregeiriog yr un dydd. Yr oedd yn dda gennym weled y Llywydd wedi cael adferiad iech- yd. Cyfarfod y boreu. Adroddwyd gan y plant xii. o loan. Hanes lesu Grist a'r Hyfforddydd gan y rhai ieuengaf. Allwedd gan Ddosbarth II. Dechreuwyd Cyfarfod y prydnawn trwy i ddosbarth 1. adrodd y Deg Gorchymyn. Aed trwy hanes lesu Grist gan Ddosbarth 1. Allwedd gan Dosbarth II. Canwyd gan Percy Roberts a'i frawd John Roberts yn chwareu y crwth iddo. Adroddwyd Psalm gan Cecil Roberts. Dechreuwyd Cyfarfod yr hwyr gan ddosbarth y Chwiorydd trwy iddynt ad- rodd allan xxiii o'r Actau. Holwyd y bennod gan Mr. David Jones, Tregeiriog. Cyfarfod da iawn ar ei hyd. UN 0 BETHEL. CRICCIETH, Sul, Mawrth 20ed, cynhaliwyd cyfarfod Ysgol yr Eglwys uchod. Dau gyfarfod y byddis arferol a'u cynal, ond eleni yr oedd yn angenrheidiol cael tri cyfarfod, ac er hynny yr oedd yr amser yn rhy brin. Llywyddwyd gan lywydd yr Ysgol, J. Williams. Dechreuwyd cyfarfod y boreu, gan William Rees, yna cafwyd adroddiad- au gwir dda o'r Salmau. Holwyd Dos- barth 1, yn yr Hyfforddwr gan John Wil- liams. Cafwyd cydgan o'r emyn 010 gan ddosbarth Mrs. Rd, Jones. Canu pur swynol gan rai mor ieuangc. Cafwyd anerchiad gan Captain Thomas Roberts ar Yr Ysgol Sul fel moddion i feithrin cymeriad. Holwyd dosbarth II yn Hanes lesu Grist, gan William Rees. Yr atebion yn bur barod. Cafwyd triawd swynol gan rai o aelodau yr ysgol. Holwyd dosbarth III a IV yn y Maes Llafur gan y brawd Hugh Jones, Hope House. Cyfarfod y Prydnawn. Dechrenwyd gan Owen Evans, un sydd yn ei henaint yn dwyn sel dros yr Ysgol Sul. Adroddwyd y bennod gyntaf o Marc gan rai o'r bechgyn. Hol- wyd Dosbarth II yn Hanes Saul gan R. M. Williams a chafodd atebion pert a pharod gan y plant. Cawsom anerchiad gan W. Rowland Hughes, ar Perthynas yr Ysgol Sul a'r Eglwys." Sylwadau da a gwerth eu cofio. Canwyd deuawd effeith- iol, Throw out the life line." Holwyd Dosbarth II gan John R. Jones o'r All wedd." Cafwyd papur gan y brawd Robt. Williams. Holwyd Dosbarth II yn Hanes lesu Grist gan J. Williams. Cawsom Anerchiad gan Peter J. Bowen ar" Cym- wysderau. Athraw llwyddianus yr Ysgol Sul." Cyfarfod yr hwyr. Dechreuwyd gan John Davies. Eto adroddodd rhai o aelodau yr Ysgol ranau o'r gair. Holwyd dosbarth 11 mewn ffordd gyffredinol gan Hugh Jones. Canmolai yr holwr yn fawr y plant am eu hatebion parod a gwreidd- iol i rai cwestiynau pur ddyrus. Deuawd, "YNefol Gor." Anerchiad gan John R. Jones ar Lwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru." Wedi hyny galwyd ar Mrs Margaret Williams, Awelfryn i gyf- Iwyno anrhegion o lyfrau i'r bobl ifangc Yr oedd Miss Sarah Cadwaladr Jones wedi cyflwyno rhai yn nghyfarfod y boreu i'r plant, a Miss Jones, Bron Rhiw wedi cyflwyno rhai yn y prydnawn. Yr oedd y iiyfrau yn cael eu rhoddi i bob un heb fod dros un ar bymtheg oed. Cyfran- odd cyfeillion yr Eglwys yn hael tuag at gael y llyfrau, ac yr ydym yn dlyledus i'r brodyr William Rees a Capt. Thomas Roberts am ymgymeryd ar gwaith o gasglu yr arian. Cafwyd anerchiadau rhagorol hefyd yn yr hwyr gan y brodyr R. M. Williams a Hugh Jones. Teimlad pawb oedd ein bod wedi cael cyfarfod llwyddianus, ac y bydd yr Ysgol yn debyg o sefyll yn uchel yn yr arboliad dcith. iol eleni, GOH. ABESCEGIR. MARW.—Dydd Sadwrn, Chwefror 26, bu farw Mrs. Mary Owen, Tycapel wedi cvs- tudd byr. Claddwyclhi y dydd Mawrth canlynol yn Mynwent Penegoes. Gwasan- aethwyd yn yr angladd gan y Parchn. Jacob Pritchard, J. H. Williams, a Pherson Penegoes. Bu'r chwaer ymadawedig yn edrych ar oly capel am flynyddau lawer ac yr oedd ei thy yn agored i bregethwyr bob amser. Yr oedd yn ferch i'r diweddar John Morris, Abercegir. Cydymdeimlwn yn fawr ai thair merch adawyd. Nid oes ond tua mis er pan yr hebryngwyd gwedd- illion mab hynaf Mrs. Owen i'r un fyn- went. ARTHOG. GOBEITHLU,-Un gobeithlu sydd yn Arth- og cydrhwng yr holl eglwysi, a rhai o bob enwad yn gofalu am dano. Mae'r drefn yn gweithio yn wych. Dydd Mercher rhoddwyd iddynt y tret blynyddol o de a bara brith, a phethau da eraill. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol: canwyd, adroddwyd a dadleuwyd gan y plant. Hefyd bu Gwynfryn Jones yn dyddori y plant a'r bobl trwy adrodd hanes ei daith i Africa. Eglurodd y sylwadau a darluniau trwy y llusern lledrith. Diolch- wyd yn gynes iddo, ac hefyd i Mr. Price Lewis, a Mr. G. Ellis Owen, Abermaw, am eu cymhorth iddo trwy drin y llusern. Y Cadeirydd oedd Mr. Edwards, Gweinidog y Methodistiaid. Y mae clod mawr yn ddyledus iddo ef, Mr. Williams yr Ysgol- feistr, a'r Parch. Owen Hughes am eu llaf- ur gyda'r plant. Hefyd heblaw ei waith hwn y mae sel a gweithgarwch y Parch. 0. Hughes gydag achos bychan Arthog yn ddibaid. GOH, LLANSILIN. Cynhaliodd y Wesleyaid eu cyfarfodydd pregethu blynyddol nos Iall a dydd Gwen- er diweddaf. Gwasanaethwyd eleni. gan y Parchn. R. Lloyd Jones (cadeirydd y dal- aeth), a T. Isfryn Hughes, Llanrhaiadr. Cafwyd cyfarfodydd da yn mhob ystyr. GOH. LLANGYNOG. CWRDD PREGETHU.—Cynhaliodd y brod- yr Wesleyaidd yn y lie hwn eu cyfarfod pregethu blynyddol nos Iau a'r Groglith. Pregethwyd gan y Parchn. R. Morgan. Tregarth, a Owen Evans, Birkenhead. GOH. SPENNY MOOR. Cynhaliwyd ein gwyl flynyddol eleni fel arfer Sul y Pasg, a chawsom i'n gwasan- aethu y Parch. Lewis Edwards, gweinidog ienanc Leeds, a chawsom ganddo dair o bregethau coeth ac adeiladol, yr oedd yna ryw newydd-deb yn cael ei deimlo yn ei bregethau bob tro, a dyna oeddwn yn ei deimlo nad oes raid i ni fel Wesleyaid ofni am y pwlpud yn y dyfodol tra y bydd gen- ym ddynion ieuanc fel Mr. Edwards yn es- gyn ein pwlpudau. GOB. YSTUMTUEN. PETH NEWYDD.—Y London Daily News yma tua 10 a.m. y dydd y cyhoeddir ef! Arferem fod 24 awr ar ol. Onid yw Ystum- tuen o'r diwedd up to date ? TELEGRAMS.—Arferai telegrams gostio 12s, wedi hyny Is 9c, ond er yr amser bellach cawn bob telegram yn free, ac os bydd rhai o ddarllenwyr y nodion hyn yn anfon brys neges i Mynvddwr, byddwch cystal a chofio'r telegraphic address, M., Ystumtuen, Devil's Bridge. Gofalwch beidio rhoi Devil's Bridge ar lythyr neu ar y Gwyliedydd Newydd, rhag i ni golli y 24 awr. Na ddyweder byth mwy ein bod yn bell o bob man, nac ar ol yr oes. Yr oedd yn ddigon anodd dioddef dywed- iad fel yna o'r blaen. MARWOLAETH.—Gyda gofid y cofnodwn farw y brawd ieuanc William Morgan, anwyl fab Mr a Mrs Lewis ac Afrina Mor- gan, Brynganv, Ystumtuen. Bu yn wael iawn am fisoedd, ac edrychai yn mlaen am wellhad yn y Gwanwyn a'r Haf. Terfyn- odd ei daith nos Sul y 27am cyf. Bydd yr angladd dydd Sadwrn. Cydymdeimlir a'r teulu oil yn eu galar dwys. CLYWEDION.—Fod y Parch Rhys Jones wedi cael amser dayn Mynydd Bachy Gro- glith, iddo bregethu 4 gwaith yn amserol a galluog. Fod y Parch J. Meirion Williams wedi cael hwvl o'i flaen nos Wener. Fod y cynulliadau yn foddhaol, a'r casgliad yn dda. Fod y cyfarfod chwarter wedi ei gynal ar ol oedfa 2 o'r gloch, a phob lie yn cael eu cynrychioli. Mae cyfarfod tawel iawn oedd ar ei hyd, ac na fu dim neill- duol dan sylw. Fod W. O. Jones i ddar- lithio dair gwaith yn gynar yn mis Ebrill ar gyffiniau y gylchdaith, ar Y Tafod a "John Jones." Fod y brawd D. Griffiths, Cwmbrwyno yn bur wael ei iechyd, ac wedi gorfod rhoi ei waith heibio. Dymun- wn iddo wellhad buan. YSTALYFERA. Dydd Mawrth diweddaf cynhaliwyd Gwyl De Flynyddol y Gobeithlu. Rhodd- wyd y wledd y flwyddyn hon eto yn rhad gan Mrs. Corris Davies. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mrs Davies, Mrs Eben Evans, a Miss Ada B. Griffiths, yn cael eu cynorthwyo gan merched ieuanc y Band of Hope. Mae'r chwiorydd hyn bob amser yn barod i wneuthur pobpeth er hyrwydd- iant yr achos yn y lie. Addurnwyd y Vestry yn hardd ar gyfer y wledd. Ar y diwedd, rhanwyd melusion i'r plant, a chafwyd dwy awr o chwareu dmiwed. Am saith yn yr hwyr, cynhaliwyd Cyfar- fod Adloniadol o dan lywyddiaeth y Parch D. Corris Davies. Cymerodd 32 o blant ran mewn adrodd, dadlu, a chanu. Rhanwyd 31 o Tystysgrifau a 30 o Fedals i'r Plant am eu ffyddlondeb a'i llafur yn ystod y gaeaf. Canodd cor y plant dair gwaith yn ystod y cyfarfod, a pharti o fechgyn Seion unwaith o dan arweiniad Dd. John Evans, Athraw y Band of Hope yw y Parch D. Corris Davies,. ac arwein- ydd y canu yw Mr Eben Evans. Cafwyd tymor llwyddianus eleni, y mwyaf llwydd- ianas er's blynyddoedd. GCJH. LLANGEFNI. Dydd Sadwrn, Mawrth 20, 1910, yn nghapel y Wesleyaid, unwyd mewn glan briodas, Mr. John Davies, 8, Erasmus Street, Penmaenmawr, a Miss Elizabeth A. Thomas, Brynhyfryd, Rhosybol, trwy weinyddiaeth y Parch. Lewis Owen, Aml- wch, yn mhresenoldeb Mr. Morris, Llan- erchymedd, cofrestrydd. Gweision y bri- odas oeddynt, Mri. J. T. Hughes, Lerpwl, a John J. Thomas, Rhosybol, y naill yn gefnder a'r Ilalt yn nai y briodasferch. Mor- wynion oeddynt, Misses Thomas, Rhos- goch, a Maggie Thomas, 'Llanerchymedd, y naill yn chwaer, a'r llall yn nai y briodasferch. Wedi'r gwasanaeth yn y Capel, ymneillduwyd i Gwalia House, lie yr oedc1 darpariaeth ddanteithiol wedi ei pharatoi. Da genym oedd gweled Mrs. Winifred Griffiths, Llangefni, gynt o Gallt- ymelyd, Sir Fflint, modryb y priodfab, yn mhlith y rhai a eisteddasant wrth fwrdd y wledd. Ar y terfyn dymunv/yd i Mr. a Mrs. Davies bob Ihvyddiant a Nawdd Duw a'i dangnefedd. Gadawsant gyda'r tren 2.30 am Blaenau Ffestiniog i dreulio eu mis mel. Yr oedd Mrs. Davies yn aelod selog a ffyddlon yn eglwys Caersalem, Cylchdaith Amlwch. Fel Diacones yr eglwys fechan bu yn ddiwyd a gofalus am flynyddau. Yn ei symudiad i Benmaen- mawr cafodd yr eglwys uchod golled fawr dros ben. Nid oes genym ond gobeithio y gwel Duw yn dda gyfodi rhyw un o gyffel- yb ysbryd i lanw y bwlch. Mae yn sicr genym y caiff Mrs. Davies dderbvniad cynes a chroesawgar gan ein heglwys yno. Gallwn eu sicrhau yn eu derbyniad, y der- byniant i'w plith un o'r chwiorydd mwyaf rhinweddol a berthynant i'n heglwysi. Hyfrydwch genym ddeall fod Mr. Davies wedi ac yn cymeryd rhan amlwg gyda'r achos yn Mhenmaenmawr. OMICRON. COUNDON. Cynhaliwyd ein te party a'n cyngherdd dydd Gwener y Groglith. Cafwyd tywydd dymunol, yr .oedd gofal gwneud y te y tro yma ar Mrs John Davies a gwnaeth ei gwaith i foddlonrwydd pawb bu chwior- ydd eraill yn cynorthwyo. Yn yr hwyr cafwyd cyngherdd, fe gawsom i'n gwas- anaethu y tro hwn cor y North Eastern Railway Co., o dan arweiniad medrus Mr. John Jones, Bishop Auckland, ni raid i'r cor yma ynghyd a'i arweinydd medius wrth lythyrau canmoliaeth, y maent eisoes yn bur adnabyddus yn yr ardal hon, ac y maent yn gwasanaethu yn rhad ac am ddim. Cafwyd Mr. Law, Hartley House, yn y gadair y tro hwn eto a gwnaeth ei waith yn hynod ddeheuig a chafwyd rhodd svlweddol ganddo i'r drysorfa. Cynygiwyd diolchgarwch i'r cor ag i'r cadeirydd gan y Parch. E. Wynn Owen ac eiliwyd gan Mr. Geo. Jones cafwyd cyfarfod da a disgwyl- iwn elw sylweddol oddiwrtho. GOH. SALEM, MYNYDD BACH. CYFARFOD PREGETHU.—Cynhaliwyd Cyf- arfod Pregethu yn y lie uchod yn dechreu Nos Iau 24, a dranoeth, sef dydd Gwener y Groglith. Cawsom oedfaon ar hyd y dydd, y gweinidog fu yn"1 ein gwasanaethu eleni oedd y Parch. R. Jones, Aberdyfi, hefyd cawsom wasanaeth y Parch. J. Meirion Williams, Pontrhydygroes, gyda Mr. Jones nos Wener. Cafwyd cynulliadau da ar y cyfan yn enwedig nos Wener pryd 'roedd y Capel yn orlawn Hawdd oedd teimlo fod y Meistr yn arddel y gweision. Hyd- erwn y caiff yr had da a hauwyd ddyfnder daear ac y bydd eu ffrwyth yn ganfyddad- wy yn yr Eglwys a'r Eglwysi cylchynol. GOH, COLWYN BAY. NODION EGLWSIG.—Gwnaed cais gan y gweinidog am ychwanegiad at lestri Orclinhad er cwblhau y llawnrif. Gwnaed y diffyg hwn i fyny yn ddioed gan Mrs. Evans Alpine Villa. Derbyniwyd gan Mrs. Griffiths, Lawson Villa, rodd o Feibl newydd hardd at was- anaeth y pulpud. Nos Sul, Mawrth 20ed, derbyniwyd saith yn aelodau Eglwysig o had yr Eglwys. a derbyniasant bob un Feibl, y cyfryw yn rhoddedig gan Mrs Jones, Demerse (gynt o Manchester). Canmoladwy yw hyn oil. GWENER Y GROGLITH.—Te a Darlith paratowyd, te yn y prydnawn, a daeth nifer dda ynghyd. Y Tafod oedd testyn darlith yn ddilynol gan Mr. W. O. Jones, Aber, daeth lliaws ynghyd, a dyddorol iawn oedd ymdriniaeth Mr. Jones ar y testyn uchod a theimlad pawb oedd eu bod wedi cael llawn gwerth eu pres. Cymer- wyd y gadair gan Mr Enoch Jones, Gordon Lodge, a deallwn i'r cadeirydd gvflwyno rhodd sylweddol tuag at y drysorfa. Gem. PISGAH, RHIWLAS. CYFARFOD PREGETHU BLYnYDDOL Y PASG.—Dyma yr wyl yr ydym fel eglwys yn ei chadw ers blynyddau bellach ac yn edrych yn mlaen mewn boddhad am dani. Ni siomwvd ni yn ein disgwyliadau eleni. Y gweinidogion fu yn gwasanaethu oedd y Parchn. Dr. Hugh Jones, ac Evan Roberts. Cafwyd ganddynt fel arferol bregethau ardderchog. Yr oedd y cynull- iadau yn lluosog. Er na chafwyd y pleser o dderbyn dychweledigon yn ystod y cyf- arfod credwn y bydd hadau y gwirionedd- au grymus a bregethwyd yn sicr o ddwyn ffrwyth yn eu pryd, ac y byddwn ninnau oil ar ein mantais. Dymunwn i'r ddau lawer o nerth i bregethu yr efengyl yn y dyfodol, Yr oedd yn dda genym eu gweled a'u clywed. Dechreuwyd y gwahanol oed- faon gan Mr. Ellis, ein gweinidog, a Mr. R. O. Hughes (M.C.) A. W. PONTRHYDYGROES. Canol dydd y Sabboth, Mawrth -ICeg. bu farw yr hen dad Morgan Richards, Pont- ydail yn yr oedran teg o bedwar ugain a phedair. Yr oedd yr hen dad wedi ei gaethiwo i'w wely er's amryw wythnosau, ond er hyny credwn ei fod yn addfedu i ogoniant. Yr oedd yn un o'r cymeriadau puraf yn y gymdogaeth. Un o'r hen ffashiwn ydoedd yr hen dad Morgan Rich- ards, ond yn gristion gloew a didwyll. Bu yn hyfrydwch genym lawer gwaith ei glywed ef yn dweyd ei brofiad yn y Seiat, yr oedd. yn foddion gras mewn gwirionedd bod yn ei gwmni. Cofus genym ei glywed ef droion pan wedi codi i dipyn o hwyl, byddai yn neidio a phrancio fel hogyn deunaw oeO, pan yn dweyd am yr hyn oedd y Gwaredwr wedi ei wneyd iddo. Claddwyd ef yn Mynwent Yspytty Ystwyth, dydd Iau, Mawrth 24ain. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch J. M. Williams. Bydded i'r Arglwydd gysuro ei weddw oedranus yn ei hen ddyddiau, a'r oil o'r plant yn eu galar. PERERIN. CLAUGHTON ROAD, BIRKENHEAD. CynbalIwyd y Te a'r Cyngherdd blyn- yddol. Cymerir y cyfrifoldeb i gynhal hwn gan y bobl briod a sengl bob all. blwyddyn. Yr am can yw i greu brwdfrydedd yn y naill i geisio codi mwy o elw ariannol na'r llall. Cyfle y rhai priod ydoedd eleni, a'i harweinwyr jrdoedd Mri. L. Morris fel ys- grifenydô, a WTm. Evans yn drysorycld, Cafwyd cydweithrediad da. Rhoddwyd Te neu Swper gan liaws yn ystod tymhor y gauaf, pa rai fu yn llwyddiannus. yna coronwyd y llafur ar y dyddiad a nodwyd gan lwyddiant anarferol yr wyl fawr. Cor Merched y Gitana, dan arweiniad Madam. Maggie Evans (Megan Mon) ydoedd at- dyniad y Cyngheredd. Mae eu buddugol- iaethau hysbys yn y mynedol yn ddigon o dystiolaeth fod y canu o safon uchel iawn, ac yn wledd i bawb oedd yno. Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. Mawrth Ideg.—Cafwyd cyfarfod arben- nig i ddirwyn y tymhoi i fyny. Llywydd- wyd gan y Parch. Owen Evans, a daeth cynhulliad da ynghyd. Cawsom de rhag- orol a ddarparwyd gan nifer o'r merched ieuangc. Treuliwyd rhyw awr wedyn i ymddiddan ar lafur y tymhor, cafwyd syl- wadau adeiladol iawn gan y Llywydd go- gyfer ar dyfodol, argymhellodd yn daer am ymroddiad yr aeloclau i ymberffeithio yn yr iaith Gymraeg, Cafwyd caneuon gan Miss Lena Jones, a Spencer Hughes, Galwyd ar yr Islywydd Mr. E. R. Jones i siarad, a gwyddai pawb beth i ddisgwyl ganddo, yn ol ei arfer bob blwyddyn dy- ddanodd ni ai adolygiad barddonol ar bob noson y cyfarfu y Gymdeithas ar hyd y tymhor, enw pob person a thestyn ei ysgrif wedi eu gosod yn hynod o gyfrin a thestlus. Cyfeiriwyd at y ddadl gafwyd cydrhwng rhai on haelodau ni ac eraill o gymdeithas Clifton Road (A.) yr hon fu yn llwyddiant mawr. Talwyd diolchiadau i'r Swyddogion, a phenderfynwyd cael cymdeithas etto y gauaf nesaf. Diben- nwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol mewn hwyl llawn or tan Cymraeg. BWRDD Y GWARCHEIDW AID ,-Mae Mr. Tudor Jones wedi bod yn cynrychioli y Cymry ar y bwrdd hwn am fiwyddyn. ar dyddiau hyn, mae Miri am ail etholiad, a saifyntau y tro hwn etto ochr yn ochr gyda ereill i amcan cadw ei sedd. Nid wyf yn ofni y cyll hi, am fod Mr. Jones yn ystod y fiwyddyn wedi gwneyd gwaith arddechog. Nid yn unig i'r Cymry ond i'r trethdalwyr yn gyffredinol. Bu ei allu i ymdrin a nifer o faterion pwysig o werth anarferol ar y bwrdd. Dymunwn iddo lwyddiant. CYFARFOD PREGETHU BLYNYDDOL.—Cyn- haliwyd hwn Gwener y Groglith a Sul y Pasg. Pregethwyd yn rymus gan y Parchn. R. W. Jones, Bethesda a Rd. Jones, B.A. Criccieth. Cafwyd cynulliadau da ar y cyfan ar ddau frawd yn ei hafiaeth, Hir y parhao y dylanwad. F C. NEWMARKET. Ddydd Gwener y Groglith, cynhaliodd Wesleaid, Newmarket, de parti a chyng- erdd. Cadeirydd, Mr. VVm. Parry, Bodlon- deb Mr. Wm. Crewe. Gwrecsam, yn barn- u'r canu Mrs. T. C. Rogers, Dyserth, yn adrodd; Mr. Jos. Spencer, yn cyfeilio IVIe Arthur Williams, yn ysgrifenydd; a Mr. Wm. H. Blythin yn drysorydd. Fel hyn yr enillwyd yn yr hwyr Unrhyw unawd (i fab neu ferch), R. O. Williams, Ffynon- groew. Unawd i Feibion, "Y Mab Afrad- lon," R, O. Williams, Ffynongroew. Un- awd i ferched, "Pwy sy'n mynd i'w fagu ef, Miss Griffiths, Ffynongroew. Unrhyvv unawd i blant dan Hi-Miss Lloyd, Ffyn- ongroew. Adroddiad i bob oed—J. P. Jones, Oxton. LLANDUDNO. Caersalem.-Credaf mai dyma y gwaith cyntaf i ni fel Eglwys, draethu ein lien ar ddalennau y "Gwyliedydd Newydd," ac os yn dderbyniol fe anfonwn yn amlach, hwyracl-i y bydd darllenem hanes yn fodd- ion i enill rhai o'r newydd i dderbyn eich newyddiadur er diwrnod angladd yr Hen Wyliedydd." Y mae y Band of Hope o dan ofal brodyr sydd a'u calon yn y gwaith, ar gwaith yn eu calon, ac mewn canlyniad i'w hymdrechion y mae r gobeithlu yn gwisgo gwedd lewyrchus. Yr ydym yn cynal cyfarfodydd adlon- iadol yn wythnosol, i gadw ein plant a'n pobl ieuainc rhag myned ar gyfeiliorn. I gyfarfod ag angen ysbryd nwyfus yr ieuainc rhaid iddo gael mesur o adloniant, ac os na ddarpar yr eglwys ar ei gyfer, fe a i chwilio am dano i rywle arall. Credaf fod gwirionedd yng ngeiriau "John Storm," If the Church will not give en- joyment to the people, the devil will give it," a'n gwaith ni ydyw ceisio cadw hwnw allan o wraith. Da genym allu dwyn tystiolaeth i lwyddiant y cyfarfod- ydd hyn ymhob ystyr. Hefyd yn ddiweddar fe benderfynwyd ar symud ymaith swm o ddyled arbenig oedd yn gorffwys arnom fel eglwys, ac i'r am- can hwnnw fe gynhaliwyd Conee Supper," mawreddog. Gwnaeth pawb ei oreu gyda'r symudiad, trwy weithio a chyf- ranu, a throdd allan yn llwyddiant di- gyffelyb, tu hwnt i ddisgwyliadau y rhai mwyaf gobeithiol o hononi. Yn ol ein harfer bob mis Mawrth, fe gynhaliwyd ein gwyl bregethu flynyddol. Y gweision fu yn ein gwasanaethu ni eleni oedd y Parchn. Philip Price, R. Garret Roberts, Daniel Williams, W. R. Roberts, a William Thomas, Deganwy. Cafwyd gwyl fendithiol, fe deimlwyd y gwlith yn disgyn ar y cyfarfodydd. Hyd- erwn y bydd i'r had a hauwyd, dori allan yn ftrwyth toreithiog ac y bydd yr Eglwys yn gryfach yn ei chymeriad i wynebu ar ei chaseion. J. W. Cynhaliwyd cyfarfod Ysgol yn Ebenezer, Mawrth yr 20fed. Llywyddwyd v cyfar- fodydd gan y Parch. W. R. Roberts. Ad- roddwyd nifer o bennodau o'r Ysgrythyr gan amryw o'r ysgolorion. Canwyd gan y plant dan arweiniad Mr. Issac Williams. Darllenwycl papur gwir feistrolgar gan Mr. William Davies, Caersalem, Holwyd pen- nod o'r Actau gan Parch. W. R. Roberts, a chafwyd atebion parod. Gwnaeth pawb ei ran yn bur ganmoladwy. Cafwyd pwyllgor ar ol a phasiwyd amryw o ben- derfyniadau. Ysc. COLWYN. Erbyn hyn y mae'r brawd hoffus a ffydd- Ion Mr. Isaac Evans (brawd y Parch. Ish- mael Evans) ar ei daith i Awstralia bell, a gweddiau ugeiniau o'i gyfeillion yn. ei ddilyn. Y nos Sul cyn ei ymadawiad anr- hegwd ef a cheque am swm sylweddoi o aur ar ran yr Eglwys yn Hen Golwyn a'r nos Fawrth dilynol cafwvcl Seiat Ymad- awol, pryd y daeth nifer dda ynghyd i fwynhau cymdeithas ysbrydol gyda'r brawd am y tro diweddaf am rai blynydd- au. Dygwyd tystiolaeth i gywirdeb calon. a ffyddlondeb gwasanaeth Mr. Evans fel pregethwr a blaenor. Daeth gair oddiwrtho ddechreu'r wythnos hon yn dyweyd ei fod yn iach a siriol, ac yn mwynhau y fordaith yn gampus.