Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Amodau Llwyddiant yr Eglwys.
Amodau Llwyddiant yr Eglwys. (Gan y PARCH J. WESLEY HUGHES.) (parhad). Cyn symud ymlaen, nodwn un peth arall sydd yn hanfodol i wir lwyddiant yr Eglwys, sef meithriniad helaeth o'r Ysbryd Cenhadol. Dyma un o nodweddion am- lyccaf yr Eglwys foreol. Nid ymfoddlonai ar ddyogelu ei chysur crefyddol ei hun, yn wir ychwanegai yn feunyddiol at ei nerth, a chyfoeth ei bywyd, trwy estyn ei therfyn a chludo allan i'r byd y bendithion a cldeu- ent i'w rhan trwy weddl a myfyrdod vs- brydol. Eglwys ymosodol ydoedd yr eglwys gynt- efig. Meddianu'r byd i Grist ydoedd ei harwyddair. Darostwng pob tywysogaeth a gallu oedd ar ffordd crefydd y Groes i lywoaraethu bywyd y ddynoliaeth, ydoedd nod mawr ei bodolaeth. Erys y gwirion- edd hwn yr un ar hyd yr oesaii,mai yr eglwys fwyaf cenhadol ei hysbryd ydyw yr eglwys sydd yn llwyddo fwyaf ac yn cyn- yddu gyflymaf. The torch we hold up for the help and redemption of others, illuminates our own path of progress and prosperity." Yn nghyfrol y Parch Andrew Murray," The key to the Missionary Prob- lem ceir y difyniad canlynol Andrew Fuller, when alarmed at the spiritual lethargy of this church, preached a sermon on the duty of the Church to give the gospel to the world and as he broadened their intellectual life, and quickened their zeal, and stirred their purpose, he followed it up the following Sabbath with another sermon on the duty of the Church to give the gospel to the world. The third Sabbath, the same theme was presented from the pulpit, and then men began to enquire; Then, if the gospel can save the world, can it not save our own children, and own community? "and from that missionary sermon, there sprang one of the most mem- orable revivals in the history of any church." Cwestiwn mawr ambell i eglwys yn y dyddiau hyn ydyw, beth ellir eu wneud i wella sefyllfa ein heglwys ? Pe gofynid. Beth allai yr eglwys hon ei wneud er eangu terfynau Teyrnas y Gwaredwr, a gweila cyflwr dynoiiaeth? buan y delai'r eglwys hono i deimlo ei hangen am y grasusau hynny a'i cymhwysai i sylweddoli e'i chen- hadaeth ac ar yr un pryd i berffeithio ei chyflwr a gloe wi ei chymeriad ei hun. Gwnelai les anrhaethol i'n heglwys pe darllenid Llyfr yr Actau o'i gwr yn ein cyfeillachau wythnosol. Eglwys Genhadol ydyw.Eglwys Crist i fod i ddiwedd amser, oblegid hi ydyw cyfrwng ordemiedig y Nef i ddwyn y byd i'w le, ac nis gall fforddio ymddiried y gwaith hwn i'r un sefydliad arall. Prif amod llwyddiant yr Eglwys, modd bynag, ydyw trigiad gwastadol Ysbryd Duw o'i mewn. Dyma'r Ager Dwyfol sydd i roddi symudiad yn y peirianwaith. dyma'r nerth Dwyfol sydd i roddi bywyd yn ei geiriau, a grym yn ei gweithredoedd. Beth bynnag all fod yr athrylith sydd yn gorphoredig yn ei chylch swyddogol, y cyfoeth a gyfrennir gan ei haelodau tuagat gario ymlaen ei rhaglen o wa*n- aeth, y dylanwad cyhoeddus a wasgerir gan ei harweinwyr, a'r wybodaeth a'r hvawdledd a nodweddai'r pwlpud, heb hwn nis gall yr Eglwys wneuthur dim, a fydd o werth gwirioneddol yng ngolwg y Xefoedd. Tybed nad un o ddiffygion arnlyccafyr Eglwys, a chymeryd golwg gyffredinol ar bethau, ydyw diffyg gwir ysbrydolrwydd, diffyg cyfathrach agos a chyson a'r ysbrydol ? Priodol ac angen- rheidiol ydyw pob ymdrech i godi safon y pwlpud i gyfarfod a chynnydd diwylliant yr oes pob cais i wneud ein haddoldai yn fwy cysurus, ac yn fwy o atdyniad i'r rhai sydd o'r tu allan pob ymdrech i berffeith- io caniadaeth y cyssegr, ac i wneuthnr y gwasanaeth cyhoeddus yn fwy defosiynol a pharchus. Ond tybed nad yw yr hyn a nodweddoi grefydd yr hen bobl," yr ysbrydolrwydd dwfn hwnnw; yr agosrwydd yn wir familiarity prydferth hwnnw a nodweddai eu gweddiau a'u profiadau, a'r nerth ofnadwy hwnnw a nodweddai eu pregethau yn absennol i fesur mawr o'n crefydd ni yn y dyddiau hyn, ac mai hyn sydd yn cyfrif am nad yw ein bywyd cre- ddol yn fwy o ddylanwad yn y byd ? Ai tybed fod gweddi yn cael digon o le yn ein pwyllgorau, a'n cvfarfodvdd swyddog- ol? Ai tybed nad oes yn ein plith ormod o ddibynnu ar adnoddau dynol. a rhy ych- ydig o ymddiried yn y Nef ?- Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, eithr trwy fy Ysbryd I medd yr Arglwydd." Fel yr awgrymwyd eisoes, nid ydym am ddirmygu yr ymdrech- Jon a wneir i wneud y wasanaeth gy- hoeddus yn fwy atdyniadol, nac ychwaith y sefydliacIau sydd ar waith i wasanaethu Cymdeithas trwy yr Eglwys ond i roddi vstyr i'r naill, a grym i'r llall, rhaid cael Ysbryd yr Arglwydd yn factor a'r factor amlycaf yn y cyfryw. Gall yr Eglwys vvneud heb v blaenaf am gyfnod beth bynnag, fel y prawf y Diwygiad, ond nis gall ffordclio bod am foment heb yr olaf. Rhaid i'r Brenin gael Ei le osyw y Deyrnas i lwyddo. "The Kingdom is much" ebai rhywun y dydd o'r blaen—" but the King is more. A sight of the King, a vision of Christ, is our great need. In the year that King Uzziah died I saw the Lord" said Isaiah, and we know what happened. ff only we could see Him, and receive the aspiration, the commission, the power, the purity the vision would bring, the tide of battle would turn." Dyma ein hangen gweledigaetn o'r Arglwydd yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a'i odre yn llenwi y deml." Anadl bywiol ein Duw, i doddi ein hoerfelgarwch. i godi gradd ?o.? yn ei Saint, a wna i Ardd yr Ar- glwydd flodeuo yn harddach nag erioed. ymweliad o'rnewydd o Ysbryd Crist a'i ddysgyblion a wnelai'r Eglwys yn fwy o :lllu nag erioed yn erbyn y drwg, ac yn ^mddiffynfa gadarnach nag erioed i eg- vyddorion y Deyrnas dragwyddol, oblegid ■p.py^hwysterau eraill nid ydynt brinion. loIeh i Dduw am hynny Disgyn lor a rhwyga'r nefoedd, Tywallt Ysbryd gras i lawr DIsyn fel y toddo'r bryniau, Diosg fraich dy allu mawr O na rwygit y nefoedd, a disgyn."
1,TROI CAERDYDD YN GYMREIG.--1
1, TROI CAERDYDD YN GYMREIG. -1 y rnae ? blant vn ysgolion Caer- (lydd yn dys,ucymraeg. Ymaevgwrth- Vdd  ??? Cymrag: Y mae y gwrth ^vVnebiah 1 ddysgu yr hiith yh mron wedi ^arfod
COLOFN Y MERCHED.
COLOFN Y MERCHED. Prydferthwch yn y Cartref. Y mae'r term cartref yn un eang, a phrydferthwch yn eangach fyth. Sylfaen pob prydferthwch yn y cartref ydyw glanweithdra. Swyna trefnusrwydd a glanweithdra y gwrthddrychau mwyaf cyffredin. Fel rheol ceidw meddyliau glan bobpeth yn lan o'n hamgylch. Brains score ydyw hi yn y car- tref fel y tuallan iddo. Dywed y Professor Herkomer, C.V.O., R.A., fod yr ymdeimlad o drefnusrwydd yn gynneddf gynnwynol yn y meddwl, nas gall y rhai ydynt yn amddifad ohono, weled pan y mae pethau o'u hamgylch yn anrhefnus, ac nad ydyw anrhefn yn achosi unrhyw anghyfleusdra iddynt. Canfyddir y diffyg hwn yn mhob dosbarth o fywyd, ond yn mhlith y dosparth tlawd yn unig yr effeithia yn ddifrifol. Y mae ty y wraig drefnus, ei natur bob amser yn lan, a gesyd bobpeth yn ei le fel yn reddfol bron. Nis gellir hebgor trefnusrwydd mewn unrhyw gar- tref pa un bynag ai palas ai bwth- yn a fyddo. Darluniau.—" Art ends where imitation begins." Flynyddoedd yn ol ymgeisiodd General Booth i gael darluniau da i bob bwthyn am geiniogau (!) yr un Yn awr gellir pwrcasu ailgynyrchion (re- productions) o'r arlunwyr goreu am brisiau hynod resymol. Hawdd canfod fel y penderfynir dewisiad y gwrthddrychau o'n hamgylch gan ein chwaeth. Er, efallai, ni allwn fforddio gwario ond ychydig y mae chwaeth dda yn sicr o ddod i'r amlwg; ac o'r ochr arall y mae chwaeth ddrwg er gwaethaf gwar io symiau mawr, yn sicr o ddifoesi (vulgariel) ein heiddo oil. Dylai pob merch sydd a gofal cartref ganddi, archwilio safonau ei chwaeth er gwneyd holl drefniad- au y cartref yn foddhaus a chyd- naws. Dinystrir y cynlluniau ardd- unol goreu trwy ddygiad i mewn iddynt bethau anghydweddol mewn ffurf o liw. Ystyriwch lili y maes. Pa ysgol fel ysgol Natur? Gwir awyrgylch y cartref yw yr -?,stir ar-- add- argrapK dderbynir o gysur ac add- asrwydd pethau. Gwasanaeiih Blodaii.—Pa add- urn rhagoraeh na'r blodau pryd- ferth ? Nis gellir canmoi gormod ar flodau ffenestr. Clywais am wraig dlawd yn gorfod gadael ei chartref. Trysorai yn fawr goeden ffenestr oedd ganddi, ond rhaid oedd ei gadael ar ol neu ei rhoddi ymaith. Aeth a hi i gymydoges, a gofynodd iddi gadw y goeden yn fyw er ei mwyn hi. Cartref esgeu- lus (neglected home),—ac o'r pathos sydd yn y geiriau—oedd gan y gymydoges, gyda gwr meddw. Dechreuodd y blodyn oedd yn tyfu ar y goeden ddyddori y wraig cyn hir. Yn fuan daeth i deimlo nad oedd yn cael digon o oleu gan fod y ffenestr mor fudr ? aeth ati i lan- hau y ffenesir, yr hyn ddangosodd fod y curtains yn fudron fel y bu raid golchi y rhai hyn hefyd. Daeth y gwr adref, ac yn y man sylwodd yntau ar y blodyn pryd- ferth, ac yna ar y ffenestr a'r cur- tains glan. Y noson ddilynol pan ddaeth adref o'r gwaith, yr oedd llawr y ty wedi ei sgwrio mor lan, nes y teimlai mai gwell iddo fydd- ai aros adref (o'r dafarn) y noson hono i drwsio coes y bwrdd. Y noson wedyn aeth ati i wneyd stand gwell i'r goeden. Boddha- wyd ef mor fawr yn y goruchwyl- ion teuluaidd hyn, nes y canfydd- odd amryw bethau eraill oedd yn llefaru a llef uchel am gael eu hadgyweirio. Cynyddodd y dydd- ordeb hwn nes goresgyn awydd y penteulu am fod allan y nos; ar- hosodd gartref gyda'i deulu ac yn fuan iawn yr oedd diwygiad can- fyddadwy yn eu hamgylchiadau— yn dymhorol a moesol. Dyma hanesyn gwir ac ynddo foeswers i bob un o honom. Pennaf addurn yw dedwydd- wch.- Y maey cyfoethogion mewn gwell mantais na'r tylawd i weled esiamplau prydferth o'r gwahanol dduliau o addurno'r cartref. Ond gyda'r dosbarth hwn ceir llawn cymaint o waelder chwaeth ac sydd ymhiith y dosbarth cydmarol ddi-gyfoeth. Y mae teimlad (sentiment) yn chwareu rhan amlwg yn addurniad y cartref-y dydd o'r blaen, yn sicr ddigon, gwelais drwydded priod- asol yn gwasanaethu fel darlun ar y pared mewn ffram hardd. Onid canmoladwy ynom ydyw hongian darluniau o enwogion yn ein tai ? Gellir dysgu ami wers i'r plant oddiwrthynt. Wedi'r cwbl pryd- ferthwch mwyaf ydyw prydferth- wch symlrwydd. Y bai mwyaf yn erbyn celfyddyd ydyw gorlawnder. Ond i goroni'r cwbl, addurn penaf pob cartref,—cyfoethog neu fel arall, ydyw dedwyddwch. Credaf y gwyr holl ddarllenwyr y GWYLIEDYDD NEWYDD, cystal a fy hunau, am ffynhonell pob gwir ddedwyddwch, y dedwyddwch hwnw a'n gwna ni, yn ol geiriau Gipsy Smith, mor brydferth a'r gwanwyn ei hun.
CYFARFOD TALAETHOL Y I DE.
CYFARFOD TALAETHOL Y I DE. Cynhelir yr uchod yn Aberdare, dechreu Mai 8—12. Diolchaf am i bob Arolygwr anfon enwau y Cyn yrchiolwyr yn ddioed er mwyn cwblhau y trefniadau yn brydlon. Edrychir yn mlaen am gyfarfod- ydd bendithiol. LL. ALF. JONES, Bryn Seion House, Aberdare.
CYFARFOD TALAETHOL YR I -AIL…
CYFARFOD TALAETHOL YR I AIL DALAETH. Yr hwn gynhelir ym Mhorth- madog. lVlai laf—5ed, 1910. Teimlir yn ddiolchgar os bydd i Arolygwyr y Cylchdeithiau anfon i mi restr o enwau y Cynrychiol- wyr yn ddioed ar ol i'r Cyfarfod- ydd Chwarterol gael eu cynal. Byddai cael gwybod hyn mor ddi- ymdroi ag y gellir yn rhwyddhau llawer ar ein ffordd gyd a'r trefn- iadau. Yr ydym ni yma am wneyd popeth yn ein gallu er gwneyd y Cyfarfod Talaethol yn un bendith- iol a llwyddianus. Credaf fod y Cylchdeithiau oil yr un mor aw- yddus, a'r un mor barod i gynorth- wyo er cyraedd yr amcan. Yr eiddoch yn bur, R. MON HUGHES, Rockcliffe, Porthmadog.
Advertising
Eurgrawn Canmlwyddiant. Mae y Gyfrol hon yn aros wrthi ei hun—yn gyfrol unique. Bob can' mlyn- edd y gall cyfrol o'r fath yrnddangos. Nid oes modd ei gorbrisio yn ei Gwasanaeth Hanesydd- ol. Mae ei Darluniau yn derbyn cymeradwy- aeth gyffredinol. Ceir ynddi Gynyrchion ein Llenorion goreu. Ond yn fwy na'r oil y mae Yn Gofgolofn i Athrylith, Ymgysegriad a Llwydd- iant y Tadau Wesleyaidd. Mae llawer o'n prif gy- feilion yn awyddus i ni ei Rhwymo, modd y gall Rhieni gyflwyno y Gyfrol i bob un o'u Plant fel trysor o werth parhaol; Athrawon i'w Hysgolor- ion Blaenoriaid i Ael odau eu Rhestrau; a phobl glyd arnynt i rai tlodion. Mae y Pwyllgor wedi penderfynu cydsyn- io a'r cais; ond mae yn bwysig ini gael syniad pa nifer i'w Rhwymo. Erfyniwn am Archebion yn fuan. Gwneir hyn er cyfleustra i'n pobl, ac nid er mwyn elw. Pris mewn Llian, 4s. 6c Haner Rhwymiad, 5s. 6c. Archebion i'w hanfon i'r- WESLEYAN BOOKROOM, BANGOR. Y Gobaith Cristionogol." Crown 8vo., mewn Llian hardd, Llythyrenau Aur. Wedi ei argraffu mewn llythyren fras, ar "An- tique Paper." Pris 3s. 6c. Cyrfol 0 Bregethau GAN Y PARCH. HUGH JONES, D.D., Bangor. Gofyniadau y Maes Llafur am 1910-11. Pris Ceiniog yr un. Rhoddir cant am 5s., a haner cant am 3s., ond anfon Blaendal. Nis gall Dos- barthwvr, na neb arall, eu cael ond ar y telerau uchod. D.S.-O'r Bookroom yn unig y gellir cael adgyflenwad i'r tail" Talaeth. Dyma i 'chi! (Gair i gall). A oes arnoch EtSIAU RHYWBETH ? Lie, Gwas, Hysbysebir Morwyn, hyny ond i Clerk, chwi anfon Draper, (Postal Order Grocer, Chwecheiniog Baker, I A ddymunech Werthu Ty, Anifeillaid, Postal Order \T< l- SwUt A?? ?"? ???"? yn P? e?? ? All= hysbys. law ? J A garech sicrhau TY AR OSOD, neu OSODTY AR RENT? Cewch gyfie rhagorol yn y GWYLIEDYDD NEWYDD am Swllt y tro i hysbysebu. Gall- wch ofyn am i'r attebion ddod yn syth i chwi neu trwy Swyddfa y GWYLIEDYDD N E w Y D D, Aberdovey. Dywedodd masnachwr wrthym y dydd o'r blaen, Cefais golled fawr na fuasai y Gwyliedydd New- ydd" allan yn gynt. Nid oedd ffrindiau fy nhad yn gwybod am yr Auction oedd gennyf; 'nawn i byth Auction arall heb roi Adver- tisment yn y 'Gwyliedydd New- ydd'. Rhaghysbysir Darlithoedd, Cyf- arfodydd Pregethu, a Chyngherdd- au, am 6 cheiniog y tro Eistedd- fodau a Bazaars, am swllt y tro. Hysbysir Genedigaeth a Phriod- asau am Chwecheiniog. Rhaid anfon Blaendal gyda phob Advertisement i'r MANAGER, "Gwyliedydd Newyddg" Aberdovey. Programme or EISTEDDFOD To celebrate ths Centenary of the Manchester Unity of Odci-feliows by 'the Ystrad Rhcndda District, on YSTRADFECHAN FIELD, TREORCHY, TUESDAY, MAY 17th, 1910. Conductor- Alderman E- H. Davies, J.P., Pentre Adjudicators- Music—E. T. Davies, Esq., Merthyr, and J. Price, Esq., Rhymney. Poetry—Rev. J. J. Williams, Pentre Literature, &c.—W. P. Thomas, Esq., D.C. Treorchy, and D. James, Esq., Dyfynog, Treherhert. Accompanists-Prof. J. T. Jones, Treorchy, and W. J. Davies, Esq., Treorchy. MUSIC. 1. Chief Choral—To the choir of not less than 80 that will render, We never will bow down." JE25, and a silver cup to the Conductor, value £4 4s. If 5 choirs will compete, a Second Prize of £5 will be given, and a gold medal to the Conductor. 2. Children's Choir—To the choir of not less than 40 in number, nor over 16 years of age, that will best render a piece of their own selection. -05 5s., and a Baton to conductor. 3. Children's Choir—To the choir of not less than 25 in number, nor over 12 years of age, that will best render" Y dryw bach." £ 1 Is., and a Baton to the conductor. Copies to be had of Air H. Howells, Schools, Treorchy. 4. Soprano Solo—With vendure clad." £ 1 Is. Contralto Solo—Within the gates- of light." ti Is. Published by Mr. S. Jones, Newport, at Is. 6d. 6. Tenor Solo-" Y Llong a'r Goley- dy (M. O. Jones). ztl Is. 7. Bass Solo-" Bannerman" (W. Davies). P.1 Is. 8. Boys' Solo- Yr hogyn drwg.' 5s., and a silver medal. 9. Girls' Solo—"Guiding Star," for girls under 16 years. 5s., and a silver medal. Published by Mr. S. Jones, Newport. 10. Duett-" Excelsior." Cl 10s. 11. Novice Solo—"What I love" (T. D. Edwards), for females that have not previously won £ 1 Is. 10s. 6d. 12. Novice Solo — Lead, kindly light" (Pughe Evans), for males that have not previously won -C'l Is. 10s. 6d. 13. Violin Solo—Carnival (Devince). 14. Pianoforte "Danse Valague" (Leonard Ganteer) for children under 16. 1st prize, Music value. 10s. 2nd do., 5s. 15. Pianoforte-" Danse des Fakirs (Leonard Ganteer). 1st prize, value 7s. 6d. 2nd do., 3s. 6d. 14 and 15 prizes are given by the Publisher, Mr S. Jones, Newport. 16. Pianoforte—'Moorland Rambles' (Newell), for children under 13. Prize, Volume of Music, bound in cloth, gold- lettering, given by the Publisher, Mi E. Donajowski, 26 Castle Street, Bemess Street, London, W. LITERATURE. 1. Essay-" Odd Fellowship. £ 2 2a. 2. Poetry—Pennillion coffadwriaeth- ol i'r diweddar William Evans, C.L.D., yr hwn fu yn Ymddiriedolwr y Bps- barth am dros 18 mlynedd, ac hefyd yn Ysg. Rhosyn Rhondda a Neuadd Baglaa am lawer iawn o flynyddau Manylion gan yr Ysgrifenydd. £ 2 2s. 3. Adroddiad-I rai dros 15 mlwydd oed The Women of Mumbles 10s. 6c. 4. Adroddiad—I blant dan 15 mlwydd oed Saif i fyny dros dy Wlad (Dyfed). 7s. 6c, a medal arian. 5. Adroddiad—I rai na enillasant 7s. 6c. o'r blaen, Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd.' 5s. MUSICAL SECRETARY: E. Lewis, 4, Windsor St., Pentre. GENERAL SECRETARY: W. Powell, C.S., Cemetery Lodge, Treorchy. Programme for the day will be ready later on.