Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Amodau Llwyddiant yr Eglwys.

1,TROI CAERDYDD YN GYMREIG.--1

COLOFN Y MERCHED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y MERCHED. Prydferthwch yn y Cartref. Y mae'r term cartref yn un eang, a phrydferthwch yn eangach fyth. Sylfaen pob prydferthwch yn y cartref ydyw glanweithdra. Swyna trefnusrwydd a glanweithdra y gwrthddrychau mwyaf cyffredin. Fel rheol ceidw meddyliau glan bobpeth yn lan o'n hamgylch. Brains score ydyw hi yn y car- tref fel y tuallan iddo. Dywed y Professor Herkomer, C.V.O., R.A., fod yr ymdeimlad o drefnusrwydd yn gynneddf gynnwynol yn y meddwl, nas gall y rhai ydynt yn amddifad ohono, weled pan y mae pethau o'u hamgylch yn anrhefnus, ac nad ydyw anrhefn yn achosi unrhyw anghyfleusdra iddynt. Canfyddir y diffyg hwn yn mhob dosbarth o fywyd, ond yn mhlith y dosparth tlawd yn unig yr effeithia yn ddifrifol. Y mae ty y wraig drefnus, ei natur bob amser yn lan, a gesyd bobpeth yn ei le fel yn reddfol bron. Nis gellir hebgor trefnusrwydd mewn unrhyw gar- tref pa un bynag ai palas ai bwth- yn a fyddo. Darluniau.—" Art ends where imitation begins." Flynyddoedd yn ol ymgeisiodd General Booth i gael darluniau da i bob bwthyn am geiniogau (!) yr un Yn awr gellir pwrcasu ailgynyrchion (re- productions) o'r arlunwyr goreu am brisiau hynod resymol. Hawdd canfod fel y penderfynir dewisiad y gwrthddrychau o'n hamgylch gan ein chwaeth. Er, efallai, ni allwn fforddio gwario ond ychydig y mae chwaeth dda yn sicr o ddod i'r amlwg; ac o'r ochr arall y mae chwaeth ddrwg er gwaethaf gwar io symiau mawr, yn sicr o ddifoesi (vulgariel) ein heiddo oil. Dylai pob merch sydd a gofal cartref ganddi, archwilio safonau ei chwaeth er gwneyd holl drefniad- au y cartref yn foddhaus a chyd- naws. Dinystrir y cynlluniau ardd- unol goreu trwy ddygiad i mewn iddynt bethau anghydweddol mewn ffurf o liw. Ystyriwch lili y maes. Pa ysgol fel ysgol Natur? Gwir awyrgylch y cartref yw yr -?,stir ar-- add- argrapK dderbynir o gysur ac add- asrwydd pethau. Gwasanaeiih Blodaii.—Pa add- urn rhagoraeh na'r blodau pryd- ferth ? Nis gellir canmoi gormod ar flodau ffenestr. Clywais am wraig dlawd yn gorfod gadael ei chartref. Trysorai yn fawr goeden ffenestr oedd ganddi, ond rhaid oedd ei gadael ar ol neu ei rhoddi ymaith. Aeth a hi i gymydoges, a gofynodd iddi gadw y goeden yn fyw er ei mwyn hi. Cartref esgeu- lus (neglected home),—ac o'r pathos sydd yn y geiriau—oedd gan y gymydoges, gyda gwr meddw. Dechreuodd y blodyn oedd yn tyfu ar y goeden ddyddori y wraig cyn hir. Yn fuan daeth i deimlo nad oedd yn cael digon o oleu gan fod y ffenestr mor fudr ? aeth ati i lan- hau y ffenesir, yr hyn ddangosodd fod y curtains yn fudron fel y bu raid golchi y rhai hyn hefyd. Daeth y gwr adref, ac yn y man sylwodd yntau ar y blodyn pryd- ferth, ac yna ar y ffenestr a'r cur- tains glan. Y noson ddilynol pan ddaeth adref o'r gwaith, yr oedd llawr y ty wedi ei sgwrio mor lan, nes y teimlai mai gwell iddo fydd- ai aros adref (o'r dafarn) y noson hono i drwsio coes y bwrdd. Y noson wedyn aeth ati i wneyd stand gwell i'r goeden. Boddha- wyd ef mor fawr yn y goruchwyl- ion teuluaidd hyn, nes y canfydd- odd amryw bethau eraill oedd yn llefaru a llef uchel am gael eu hadgyweirio. Cynyddodd y dydd- ordeb hwn nes goresgyn awydd y penteulu am fod allan y nos; ar- hosodd gartref gyda'i deulu ac yn fuan iawn yr oedd diwygiad can- fyddadwy yn eu hamgylchiadau— yn dymhorol a moesol. Dyma hanesyn gwir ac ynddo foeswers i bob un o honom. Pennaf addurn yw dedwydd- wch.- Y maey cyfoethogion mewn gwell mantais na'r tylawd i weled esiamplau prydferth o'r gwahanol dduliau o addurno'r cartref. Ond gyda'r dosbarth hwn ceir llawn cymaint o waelder chwaeth ac sydd ymhiith y dosbarth cydmarol ddi-gyfoeth. Y mae teimlad (sentiment) yn chwareu rhan amlwg yn addurniad y cartref-y dydd o'r blaen, yn sicr ddigon, gwelais drwydded priod- asol yn gwasanaethu fel darlun ar y pared mewn ffram hardd. Onid canmoladwy ynom ydyw hongian darluniau o enwogion yn ein tai ? Gellir dysgu ami wers i'r plant oddiwrthynt. Wedi'r cwbl pryd- ferthwch mwyaf ydyw prydferth- wch symlrwydd. Y bai mwyaf yn erbyn celfyddyd ydyw gorlawnder. Ond i goroni'r cwbl, addurn penaf pob cartref,—cyfoethog neu fel arall, ydyw dedwyddwch. Credaf y gwyr holl ddarllenwyr y GWYLIEDYDD NEWYDD, cystal a fy hunau, am ffynhonell pob gwir ddedwyddwch, y dedwyddwch hwnw a'n gwna ni, yn ol geiriau Gipsy Smith, mor brydferth a'r gwanwyn ei hun.

CYFARFOD TALAETHOL Y I DE.

CYFARFOD TALAETHOL YR I -AIL…

Advertising