Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR LLUNDAIN. [Gan ein Gohebydd Arbenigl. Wrtli dremio yn ol dros dipyn seibiant y Pasg yr hyn ddaw i'n cof yn fwyaf byw o'r tu hwynt i'r Gwyliau ydyw Y CANGHELLYDD AR Y DIFFYNOL. Yr oedd y cwpl dyddiau olaf cyn tori i j fyny am Wyl y Pasg yn gwneyd i ddyn feddwl am gwdyn y saint, neu len llian Pedr gan mor amrywiol y materion ddygid ger- bron y Senedd. Dyma safle ardderchog grwgnachwyr ydynt wedi methu yn ystod y tymhor gael cyfle i arllwys eu hareithiau ar glybVedd y ty. Nid oedd derfyn ar ddi- gywilydd-dra rhai ohonynt a chawsant yn dal gurfa gan y Canghellydd y cofiiant am dani. Nid oes yn v tv well boneddwr na Mr Lloyd George; ond mae perygl i ddynion o -aed gymeryd gormod o fantais ar ei natur dda. Gwnaeth rhai hyny, a hyfryd oedd gweled y Canghellydd a'i gefn ar y mur megis yn gwahodd y giwaid yn mlaen. Mae'n llwyr feistr ar y Gyllideb, ac v mae wedi dyfeisio sefyllfa i'r gelyn sydd yn nodedig ddyddorol i'w gwylio. SEIBIAXT YXG NGHAXOL YSTORM. Mae terfyn ar Wleidyddiaeth, a hyfryd fydd cael hyd yn nod ddarn o wythnos i feddwl yn dawel am bethau trymach y Gyfraith. Rhuthrodd nifer aruthrol allan o Llundain dros y Pasg a gallem feddwl mai gwvn-eu byd. Cawsant haul i wenu ac awelon mwynion i chwythu. Yr oedd yn y Ddinas ddigonedd o honom wedi i'r rhai rhagor-freintiedig ein gadael. Caf- v/yd tywydd hyfryd dros yr wyl, a llawer i gyfarfod crefyddol bendithiol iawn. Clyw- som y gwr o Frynsiencyn yn pregethu yr hen Efengyl gyda grym mawr, a da iawn mewn argyfwng o ansefydlogrwydd oedd clywed cyfeiriad mor ddoeth ac mor gryf at y pethau nad ysgydwir." Carem pe buasai deng mil o ieuengctid ei wlad yn ei wrando. HALDAXE YR YMYRWR NIWEIDIOL. I Nid llawer- gymerasant fantais ar yr Wyl i anerch eu hetholwyr ond oherwydd an- hwyideb llygadol yn amser yr Etholiad Gyffredinol, cymerodd Ysgrifenydd Rhyfel fantais ar ddyddiau cysegredig yr Wyl i ymweled a'i bobl. Mewn rhyw ystyr cred- wn fod rhywbeth ar ei lygaid o hyd. Mae ar graft, ar feddwl cymdeithas er's tro fod rhyw ddylanwadau croes-ddynol yn y Cabinet. Dyma yn sicr un o honynt. Dyn ardderchog yn ddiau mor rhwydd ei bar- abl ac Elihu. Ond y mae amser i beidio siarad yn ogvstal ag i wneyd hyny. Mae y si ar led fod y gwr hwn wedi -peri peth anhawsder i'w arweinydd trwy ymyryd a'r brenhin tu ol i'w gefn. Ni wnaeth ei areithiau yr wythnos ddiweddaf ronyn o !es i'r sefyllfa. AGORIAD YR ARMAGGEDOX. Golwg ardderchog yn ddiau oedd yn Nhy y Cyffredin prynhawn dydd Mawrth, pan agorwyd brwydr nad oes gan neb ddychyrayg clir iawn'pa bryd y daw i ben. Yr oedd genym syniad y byddai y dyn cryf sydd wedi cael cymaint o gam yn wir feistr y sefyllfa pan ddeuai'r adeg. Ac felly yn ddiau y profodd. Nid oes ddadl pad yw y Prif Weinidog yn ddiweddar wedi gorfod yniddangos fel bwch diangol er mwyn er- aill. Beiwyd llawer arno parthed anerch- iad vr Albert Hall, neu yn hytrach ei es- poniad arm wedi hyny. Ond credem o hyd, ac yr ydym yn credu yn fwy heddyw nag o'r blaen fod yr arweinydd mawr hwn wedi gwneyd yr oil a ellid, a'i fod yn gorfod dwyn beiau eraill. Agorodcl frwydr y Cyf- ansoddiad fel gwr sicr o'i fater ac o'i ffordd, a chredir yn bur gyffredinol bellach ei fod ef yn un o'r elfenau iachusaf yn y Cabinet, ac yn bleicliol i ddinistr Veto yr Arglwyddi o'r dechreu. Yr oedd yn groew iawn ar fater dymunoldeb Ail Dy a methwn wel- ed wedi'r cyfan fod gwahaniaeth rhyngddo a Sir Edward Grey. Mae'r cldau am Ail Dy ond am i Dy v Cyffredin fod yn or- uchaf. nYFC'I"VR PI "ID' ARWEIXWYR PLEIDIAU. Wedi i'r Prif Weinidog siarad am agos awr a haner, daeth cyfle arweinwyr y pleidiau. Ac i ddechreu Balfour. Daeth- ai i fyny o Cannes, o ganol heulwen, ac oddiwrth arfau Golf a'i wyneb yn felyn ond i'n golwg ni heb wella fawr ar wahan i felyniad ei groen. Traddododd araeth nodweddiadol ohono ei hun-heb deimlad dwfn o gwbl. Ei le er mewn dadl ydyw dangos medrusrwvdd ymosodiad rhwng difrif a chwareu. Nid yw bosibl ei fod yn credu yn ei ddadl ei hun. Pa ddyn yn ei synwyr all amheu y cam dderbynia Rhydd- frydwyr beunydd a byth oddiar law yr Ar- glwyddi be eto, dyma faich ei araeth— nad oedd rhwystr neu wrthdarawiad o gvvbl. Hawdd y gallefe—codiad bys yr hwn sydd wedi bod ddigon o orchymyn i'r Arglwyddi ar hyd y blynyddoedd, fod yn foddlon ar eu gwaith. Siaradodd Redmond yn gryf dros yr Iwerddon. Nid yw wedi newid dim ar ei dir hyd y gallwn weled. Ac efe sydd yn iawn. Yn awr neu byth iddo ef. Ni thyb- i vvn fod Barnes wedi enill na cholli fel ar- weinydd Llafur. CYMRY YN Y SEXEDD. I Cawsom fel ami i dvlotyn arall fynediad i'r Ty wedi i'r round gyntaf gael ei hym- ladd a chawsom y ddysgyblaeth o wran- do ar beth dot anrhaethadwy. Ond o aros ymlaen daeth gwobr i amynedd. Wedi gwrando ar fwy nag un llef yn llefain yn y diffaetlnvch" cawsom y fraint o wrando ar ddau Gymro, a gweled ami un arall. Gyda llais hyglyw clywsom y Llefaryda yn galw ar Sir Herbert Roberts," a thra- ddododd yntau araeth fer, ond hynod gymhwys a chryf. Synem na chymerai ragor o amser. Gwrandawid arno gan bob dust yny Ty, a gosododd yntau yr achos yn erbyn yr Arglwyddi o safbwynt Cymru, yn glir a diofn. Dipyn yn nes yn mlaen galwyd ar Mr. Edgar Jones Dyma yr aelocl dros Ferthyr. Ni fuasai neb yn rneddwl mai aelod newydd ydyw dros unman. Siaradodd fel pe buasai yn y Tv- er's ugain mlynedd. Os mai eofndra sydd eisiau, gwna hwn y tro. Synem mewn rhyw ystyr at y sylw astud roddwvd i'r lleisiau dros Gymru. Ond tybiem mai parch a'i sicrhaodd i'r cyntaf, a newvdd- deb i'r ail. CAFFAELIAD I'R WEIXYDDIAETH. Anaml y siomir neb yn Nhy y Cyftredin, ond iddo aros yno yn ddigon hir. Wedi araeth hir, a galluog gan un Mr Cave ar ochr yr Wrthblaid, cyfododd Sir Rufus Isaacs ar ei draed a chlywsom ei araeth gyntaf fel aelod o'r Weinyddiaeth. Cred- wn ei bod yn nodweddiadol iawn o hono. Cymerodd ei amser os wedi trin yn fon- ecidigaidd ei flaenorydd Mr Cave, dechreu-' odd ymosod ar Mr. Balfour, ac'ar brydiau yr oedd yn bur galed arno. Colled fawr i Dy y Cyffredin fu colli Sir S. T. Evans yn ddiau. Ond tybiwn y byddai yn anhawdd cael yn ei le well dyn na Sir Rufus Isaacs. Pleser oedd edrych ar ei wyneb mynegiadol, a gwrando ar ei lais haner cwynfanus. Hawdd gweled o'r oriel mai un o feibion Abraham ydoedd. Ond uwchlaw gwedd a llais, yr oedd ei fedr i osod ei achos, ac i droi y gelyn yn ol, yn edmygol. Cafodd wrandawiad gan yr holl dy. Yr unig geg agorediawn oedd yr eiddo F. E. Smith, ac y mae yn hen gyf- arwydd a hono. GOLEU TU FIWXT I'R CWMWL. Gwyliem yn fanwl beth a ddywedai y g\vr hwn oedd yn llais cyfreithiol dros y Llywodraeth. Beth bynag ellid ddyweyd ar gwestiwn y Cyfansoddiad gallai hwn ei ddweyd, a gwnaeth. Yr oedd ei eiriau olaf yn hynod gryfion, ac i'n bryd ni yn obeithiol. Credwn yn sicr y pasia y Gyll- ideb, ac y penderfvnir Cwestiwn y Veto yn y dyfodol cydmarol agos. GWLEIDYDDWYR AR Y GORIWAERED. Yn mhlith y rhai hyn rhaid rhestru F. E. Smith, a'r Arglwydd Hugh Cecil. Am y cyntaf nis gallasom gredu rhyw lawer yn ffafriol erioed. Canmoiir ef gan yr Wrth- blaid am yr hyn 31 ceisiant ei gondemnio yn y Canghellydd. Y gwir yw nid yw gymhwys i ddal canwyll i'r olaf mewn dim. Siomir ni gan yr Arglwydd Hugh. Cymerwn ef i fod yn ddvn crefyddol a da. Ond am rhyw reswm mae wedi dechreu mabwysiadu iaith y gwter, ac y mae wedi ei niweiclio yn fawr.

Beddau Enwogion yn Mro Dinbych.

Advertising