Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Canmlwyddiant yr Achos yn…

GAIR 0 MARMATO, DE AMERICA.,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR 0 MARMATO, DE AMERICA. Mri. Gol.—Wedi im gyraedd y rhan bell- enig yma o'r byd, a dechreu ar fy ym- chwyliadau o dan y Colombian Mining & Explorating Co., Cwmni o Lundain. Meddyliais mae priodol fyddai anfon gair i'r Gwyliedydd 1 hysbysu'r cyfeillion fy mod wedi cyraedd yn ddiogel. Ond cyn rhoddi ysgrifbin ar bapur fe'm hysbyswyd fod y papur clodwiw hwnw wedi marw, er fod yn brudd genyf glywed, nid oedd ryf- edd, canys yr oedd yn clafychu er's llawer dydd. Ond yn awr llawenydd genyf ddeall fod trindod o bersonau wedi uno i'w ad- gyfodi. Wel, hir oes i'r Gwyliedydd Newydd' i gario'r Cenhadwriaethau a chroniclo'r helyntion i'r oesau a ddel, ac yn wir does neb yn teimlo mwy o'r angen na'r plant sydd wedi crwydro tros ffiniau'r hen wlad. Yn gyntaf y mae genyf i ddiolch yn gynes i'r amryw gyfeillion am y llythyrau dderbyniais ar ddyddiau fy ymadawiad. Addawaf eu hateb i gyd o dro i dro. Anaml ydyw'r cyfleustra i ys- grifenu am fod yn agos i .100 milldir rhyngof a dim llun off ordd neu lythyrdy, ond a gludir gan rhywun a all ddigwydd fod yn croesi i'r Andies, ac nid yw hynny'n digwydd yn ami. Ni wnaf ond nodi y lleoedd y gelwais ynddynt ar y ffordd allan, ac os yn dder- byniol addawaf ymhelaethu y tro nesaf. Byrddiais yr Argerlong Texanebrian yn Lerpwl ar yr ail o Fedi. Ar ol mordaith o agos i dair wythnos heb weled tir cyr- haeddasom Barbados ar yr ugainfed, un o Ynysoedd yr India, Orllewinol, wedi aros am un dydd a nos, gadawyd am Trinidad ynys arall. Cyrhaeddasom yno ar 22ain codwyd angor boreu'r 23ain, a gadawyd am La-quira yn Veninzula; eyrhaeddwyd yno ar 2Uain; gada wyd am yr un dydd Ynys arall yn v West Indies o'r enw Car- aco. Cyrhaeddwyd yno ar yr 28ain, gad- awyd yr un dydd am Port o gabello yn y Carebian Sea; cyrhaeddwyd yno boreu 30ain, wedi treulio noson yn Port o gabello, gadawyd am Santa Marta, hen loches y mor-leidr Morgans yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a lloches llawer o ladron hyd heddyw. Erbyn hyn rydym ynganol dieithrwch y pellehon Insawdd-barth, laith ddieithr, arferion, dulliau, lliwiau, a chrefydd dynion yn hollol wahanol. Gadawyd Santa Marta ar y cyntaf o Tach- wedd. cyrhaeddwyd Cartagene yn Colom- bia ar y 3ydd. Dyma fi o'r diwedd am traed ar dir Deheudir America, wedi bod mis a diwrnod ar fwrdd yr Alexandrian, ac nid yw'r daith ond dechreu. Wedi aros yn Cartagene am dridiau tan wres y dydd, ac yn fwyd i'r Mosquetoes y nos, trafaeliais mewn rhywbeth tebyg i drain am rhyw gan milldir nes dod at lanau y Magdalena fawr. Wedi aros noson ar fin yr afon I cychwynwyd ei mordwyo, mordwyasom yr afon am 000 o filldiroedd ar bob llaw mae'r Jungle yn fyw o bob math o ym- lusgiaid a Bwysthlod, ac nid yw'n ddiogel mynd yn mhell o gyraedd y cwch, am fod yno fodau syn beryclaeh lawer na Bwyst, lilod, sef yr Indiaid cochion. Bvdclwn yn arfer meddwl fod yr Indiaid cochion wedi darfod bron o'r tir, ond nid felly mae, does dim digon o allu yn Columbia i orchfygu yr Indiaid cochion mae ganddynt gan- oedd o filoedd o filldiroedd ysgwar na fu troed dyn gwvn erioed yno a lie gwael neb a i'w plith ddychwelyd, gan nad oes am- heuaeth eu bod yn Ganibaliaid. Yn ychwanegol at y peryglcn sydd ar hyd y gJanau mae afcn Magdalena yn llawn o Grocodiliaid, gwyliant yn wancus bob symudiad gan obeithio i anffawd ein gosod yn eu plith. Gadawyd yr Afon, a'i Halligators ar y 11 o Dachwedd, ac nid oedd ddrwg genyf. Yr unig foddion bellach ydyw marchogaeth trwy goedwig- oedd a llynoedd afiach (Lagoons), ac i orphen y daith croeswn Andies am wyth diwrnod, yma cefais golled o rai o'm dillad trwy i un o'r asynod oedd yn cario cargo lithro tros glogwyn dri chant o droedfeddi ac nid oedd modd mynd ato heb beryglu bywyd. Digon yw dwedyd, cefais daith flinderus a pheryglus o'r Magdalena hyd Marmato i'r hwn le y cyrhaeddais ar y seithfed ar hugain, 27ain o DacLiwedd. Nid wyf am feiddio gofyn am ofod i fanylu ar fy nhaith. Os Duw a'i myn i'm ddych- welyd, caf eto ddweyd yr hanes. Rhaid im addef fod tipvn o hiraeth wedi bod arnaf am y Gylchdaith, yn enwedig yr hen Eglwys fach Bezer. Yn awr, cyn i'm orphen hyn o linellau dyma globyn o Indian yn gwaeddi wrth y drws, Venga Paca un 'papel decnglaterra por wstay Senior (Dewch yma dyma bapur newydd i chwi o Loegr.) Ac fel rwyn fyw, y Gwyliedydd Newydd, Ionawr 11." Rhaid ei agor heb golli amser. Gwilym Ardudwy wedi cipio'r gadair yn Eisteddfod Ardud- wy Well done, 'rhen frawd Gwynfryn a Thy'r Arglwyddi,—chwareu teg iddo, mae wrthi er's llawer dydd yn tynu hudd- igl i'w potes ond aetn Lloyd George a rhoddodd y Budget o'u blaen, ac rwyn deall fod y Ty ar dan. Newydd da. Rwyn gweld hefyd fod Sir R. W. Perks wedi mynd yn fwy na llond ei dresi. Gresyn na fuasai yn cadw ei enw da i fyny. Rwyn deall oddi wrth y Gwyliedydd Newydd eich bod yn mhoethder y frwydr fydd fyth yn gofiadwy. Duw a'ch cyn- orthwyo. GORONWY VYCHAN. Rep. of Colombia, South America. [Ie. dyddorol fydd clywed o Marmato.— GOL.]

NODION LLENYDDOL.

CRONFA GWRTHRYFEL LLOYD GEORGE.