Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

CLAUGHTON ROAD, BIRKENHEAD.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLAUGHTON ROAD, BIRKENHEAD. I Nos Sul diweddaf, ar ol y bregeth yn yr hwyr, croesawyd yn ol i'r eglwys yr hen frawd David Meredith. Bu yn flaenor fyddlawn iawn yma am flynyddau lawer, ond am y pedair blynedd diweddaf a fu yn ardaloedd y Wyddgrug, ac Edge Hill, Lerpwl, gyda'i ferch. Erys yn awr gyda'i fab yn y dref hon, a chawn ninau medd ef, ei wasanaeth etto am y rhan sydd yn ol.— Er ei fod dros ei 80ain oed, mae yn bur siongc ar ei droed ac yn alluog i fwynhau pregeth cystal ag undyn. Caffed hwyr- ddydd hapus yn ein plith. Yn cyfarfod arbenig yr athrawon, gof- ynwyd i Mr. Evan Hughes ymgymeryd a dysgu Cantatta i'r Cor erbyn gwyl flyn- yddol yr Ysgol Sul a gynhelir yn Mehefin. Cydsyniodd y brawd, ac os caiff ffyddlon- deb y cantorion, cawn wledd. Y gwaith dewisiedig yw, The City of Gold (Iam- oneau). Cyfansoddiad hynod o dlws a chyfaddas i'r amgylchiad. Mae Mr. Hugh Roberts wedi ei ddewis yn flaenor-cynorthwyol i Mr. Lewis Morris. Bydd y penodiad yn dderbyniol iawn gan y Rhestr, yr hwn a rifa tua 80ain o bobl ieuaingc, ac a gyferfydd am 5 o'r gloch ar y Sabboth. BWRDD Y GWARCHEIDWAID.—Bu yr eth- oliad dydd LIun diweddaf, ac mae llaw- enydd mawr trwy y dref fod Mr. Tudor Jones wedi enill sedd yn anrhydeddus iawn. Cafodd 746 o bleidleisian yr hyn sydd yn fwy na'r oil, ond un, o'i gydym- geiswyr. Mewn cyngherdd yn y dref yr wythnos o'r blaen, dywedodd un o'n Cyng- horwyr Trefol, wrth sefyll o blaid Mr. Jones, Support the honoured son, of an honoured father." Felly y-bu. Diolcham gynorthwy yr eglwys hon, a'r cylch. E. F. C. I

PENMACHNO..I

EGREMONT. I

Y WESLEY AID A'R CYRFFI CYHOEDDUS.

CYFARFODYDD CHWARTEROL.,

CYLCHDAITH PONTYPRIDD. I

ASHTON IN MAKERFIELD. I

CYLCHDAITH PWLLHELI.

CYLCHDAITH CAERGYBI. I

LLANBEDR. ,I

CYLCHDAITH FERNDALE.I

I CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL.

CYLCHDAITH LLANRWST. I

! CYLCHDAITH MACHYNLLETH.I

ABERGELE.

CYLCHDAITH TREGARTH.

LLANFYLLIN.