Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

CLAUGHTON ROAD, BIRKENHEAD.…

PENMACHNO..I

EGREMONT. I

Y WESLEY AID A'R CYRFFI CYHOEDDUS.

CYFARFODYDD CHWARTEROL.,

CYLCHDAITH PONTYPRIDD. I

ASHTON IN MAKERFIELD. I

CYLCHDAITH PWLLHELI.

CYLCHDAITH CAERGYBI. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH CAERGYBI. I Yn Bethel Caergybi y cynhaliwyd y cyf- arfod Chwarterol y tro hwn. Daeth nifer dda ynghyd. Dechreuwyd trwy i'r Arol- ygwr roddi emyn i'w ganu, a darllen rhan o air Duw, ac i'r brawd Curry Hughes ar- wain mewn gweddi. Croesawodd yr Ar- olygwr y brodyr canlynol i'r cyfarfod Chwarterol y tro cyntaf:—Wm. Owen, Aberffraw, Curry Hughes, a John Wil- liams, Caergybi. Cafwyd adroddiad y Genhadaeth Dramor, yr Ysgol Sul, Dir- west, a'r Capelau. LIawenydd mawr i'r cyfarfod ydoedd deall am y cynydd sylweddol yng nghas- gliad y Genhadaeth Dramor ym mhob eglwys drwy y gylchdaith. Y cyfanswm eleni oedd dros [103. Calonogol iawn hefyd ydoedd adroddiad yr Ysgol Sul. Yn ychwanegol at y Circuit Stewards, ethol wyd Mri. Wm. Davies, Aberffraw, a Fair- hurst, Caergybi, i fyned i'r Cyfarfod Tal- aethol. Cadarnhawyd yn unfrydol y gwahodd- iad i'r Parchn. John Kelly a J. Maelor Hughes i ddod i walanaethu'r gylchdaith yn Awst nesaf y naill i Gaergybi a'r llall i Aberffraw. Diolchwyd i'r Parch. W. P. Roberts am ei wasanaeth yn ystod y flwyddyn, a gwa- hoddwyd ef yn unfrydol i aros blwyddyn arall. Cydsyniodd yntau. Holwyd y brawd Curry Hughes gan yr Arolygwr, a phenderfynodd y Cyfarfod yn unfrydol fod ei enw i ymddangos ar y Plan nesaf fel cyflawn bregethwr. Terfynwyd Cyfarfod da trwy weddi gan yr Arolygwr. Darparwyd lluniaeth o'r fath oreu trwy haelioni y Parch. a Mrs. Meirion Davies, a gvreinyddwyd wrth y bwrdd yn ddeheuig a siriol gan Mrs. R. Beard a Mrs. John Rowlands. Diolchwyd yn gynnes iddynt am eu haelioni a'u gwasanaeth. YSG. I

LLANBEDR. ,I

CYLCHDAITH FERNDALE.I

I CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL.

CYLCHDAITH LLANRWST. I

! CYLCHDAITH MACHYNLLETH.I

ABERGELE.

CYLCHDAITH TREGARTH.

LLANFYLLIN.