Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

CLAUGHTON ROAD, BIRKENHEAD.…

PENMACHNO..I

EGREMONT. I

Y WESLEY AID A'R CYRFFI CYHOEDDUS.

CYFARFODYDD CHWARTEROL.,

CYLCHDAITH PONTYPRIDD. I

ASHTON IN MAKERFIELD. I

CYLCHDAITH PWLLHELI.

CYLCHDAITH CAERGYBI. I

LLANBEDR. ,I

CYLCHDAITH FERNDALE.I

I CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL.

CYLCHDAITH LLANRWST. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH LLANRWST. I CYFARFOD CHWARTEROL.—Cynhaliwyd yr uchod prydnawn Sadwrn, Ebrill yr 2fed yn Horeb, Llanrwst, o dan lywyddiaeth y Parch. Thos. Chas. Roberts. Yr oedd yn bresenol y Parchedigion W. Lloyd Davies, Penmachno, a Thos. Gwilym Roberts, E 5- lwysbach, gyda'r ddau oruchwyliwr a chynrychiolaeth dda o'r gwahanol Eg- lwysi. Dechreuwyd trwy i'r Llywydd ddarllen, ac i'r Parch. T. G. Roberts weddio. Darllenwyd y cofnodion gan W. D. Jones a phasiwyd hwy. Derbyniwyd y cyfraniadau o'r gwahanol eglwysi, a chaf- wyd fod cynydd gweddol yn rhif yr aelod- au. Llongyfarchwyd y cyfarfod yr aelod- au newyddion sef Mri. Enoch Evans, Eg- lwysbach, David Davies, A. Morley Jones, Llanrwst, a Robert Jones, Cwm. Gwnaed sylwadau am Gyfeillion Ymadawedig sef Mr. Wynne, Llindir, Mrs. Jones, Penthryn, Mrs. Roberts, Capel Garmon, a Mr. Thos. Roberts, Penmachno. Pasiwyd i anfon llythyr o gydymdeimlad a'u teuluoedd. Cafwyd adroddiad o gasgliad at y Gen- hadaeth Dramor gan Mr. I. Roberts, y Casgliad yn [76 7 10 cynydd ar y flwyddyn o'r blaen o £ 1 1 3. Hefyd cafwyd adrodd- iad y Band of Hope a Dirwest gan Mr. Jonathan Jones Cynydd sylweddol yn y fan hon etto. Gwnaed cyfeiriad at y Gymanfa Gerddorol sydd i'w chynal Mai 2ail. Daeth yr Undeb Ysgolion dan sylw ac ail ddewisiwyd yr un rhai yn Llywydd- ion, ac yn ysgrifenwyr ac oedd y flwyddyn ddiweddaf. Diolchwyd i Dr. Owen am ei lafur yn Areithydd ynghlyn ar Cyfarfod- ydd Ysgolion, ac ail-ddewisiwyd ef. Caf- wyd adroddiad manwl o sefyllfa y Capeli gan Mr. J. Roberts. Gyda'r rhai sydd yn aelodau eisoes dewiswyd y rhai canlynol i fyned I'r Cyfarfod Talaethol i Portmadoc Mri Humphrey Roberts, a Jonathan Jones. Darllenodd Mr. Caradoc Mills adroddiad manwl a llwyr o sefyllfa yr Ysgolion Sab- bothol. Cynygiodd Mr. Mills, a chefnogodd Dr. Owen i anfon at y Parch. Owen Evans i ofyn iddo ddod i Llanrwst yn olynydd i'r Parch. Tecwyn Evans. Diolchwyd i'r Gweinidogion am eu llafur ac addawsant aros gyda ni eto. Pasiwyd i gadarnhau y gwahoddiad i'r Parch. Evan Roberts i ddod i Eglwysbach. Cafwyd gair gan Mr. R. T. Roberts yr ymgeisydd am y Weinid- ogaeth a holwyd ef gan y Llywydd, a phas- iwyd ef yn unfrydol fel ymgeisydd teilwng. Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch. W. J. Roberts, Handsworth. Rhoddwyd y te y tro hwn gan Mrs. Herbert Hughes, Dwyryd Stores cynorthwywyd hi wrth y byrddau gan Mrs Roberts, Railway Terrace a Miss Meta Thomas. Diolchwyd iddynt yn wresog gan y Parch. T. G. Roberts, a Mr. D. R. Price. D. J. I

! CYLCHDAITH MACHYNLLETH.I

ABERGELE.

CYLCHDAITH TREGARTH.

LLANFYLLIN.