Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ICYNGRAIR EGLWYSI RHYDDION…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I CYNGRAIR EGLWYSI RHYDD- ION GOGLEDD CYMRU. I (Gan Ohebydd Arbenig). Cynhaliwyd CyfarfodBlynyddol y Cyng- rair uchod ym Methesda, Ebrill 5ed a'r (ied. Agorwyd y gweithrediadau am saith o'r gloch nos Fawrth yng Nghapel yr Anni- bynwyr. Llanwyd yr addoldy eang hyd yr ymylon gan gynulleidfa luosog. Y ddau gennad apwyntiedig ydoedd y Parch. Puleston Jones, M.A., Pwllheli, a'r Parch Charles Davies, Caerdydd. Cenadwri o galondid i weithwyr Cristionogol oedd gan y Parch Puleston Jones, seiliedig ar 1 Bren., 19 benod, 4 adnod. Darluniodd y pregethwr yn darawgar Elias dan y fer- ywen: a nododd mai profedigaeth dyn selog, dyn mawr, a dyn duwiol, ydoedd eiddo'r prophwyd. Gweithiwr siomedig a lluddedig, wedi suddo i ddyfnder digalon- did a thrallod oblegid aflwyddiant gwaith yr Arglwydd. Gyda deheurwydd anghyff- redin cymwyswyd y sylwadau at weithwyr Cristionogol mewn cyffelyb amgylchiadau. Yna cyfeiriodd y pregethwr at y modd yr adferwyd Elias. Meddygiaeth up-to-date oedd hon meddai Mr Jones-gorffwys, llun- iaeth, a thro yn yr anialwch. Rest cure, diet cure, ac open-air treatment. Buddiol i ami un eto ydyw myn'd trwy yr un or- uchwyliaeth. Sylwyd yn olaf ar-Y wel- edigaeth a'i chenadwri i'r prophwyd, sef (1) Credu mwy yn y dynol. (2) Credu mwy yn y cyson, (3) credu mwy yn y distaw. Am- herffaith dros ben y syniad a rydd yr am- linelliad uchod o bregeth hynod o effeith- iol, ac eithriadol o bwrpasol ac amserol. Seiliodd y Parch Charles Davies ei gen- adwri ar 1 Tim. v. bennod, 12 adnod. Cymer afael ar y bywyd tragwyddol. Pregeth felus fel y diliau mel, a chyfoethog o efengyl ydoedd hon. Yn ddigwestiwn oedfa neilltuol ydoedd hon, a rhyw enein- iad dwys a dwfn ami o'r dechreu i'r di- wedd. Boreu Mercher am 10 30, caed Cynhad- ledd Seisnig, a llywydd y Cyngrair, Parch D. Stanley Jones, Caernarfon, yn y gadair. Darllenwyd papyr gan y Parch D. E. Jen- kins, Dinbych, ar Le arabedd mewn cref- ydd ymarferol." Gwych o destyn i'w drin mewn Cymdeithas Lenyddol a Dadleuol, ond prin y peth i Gynhadledd o'r fath. Bid a fynno am hyny, deliodd Mr Jenkins yn alluog ac arabeddus a'i bwnc. Papur cyf- oriog a sylwadau gwirioneddol dda. Braidd yn fain ydoedd y drafodaeth arno. Cwrdd digon di-ddrwg, di-dda, heb fod neb nemor gwell na gwaeth ar ei ol. Cyn ym- wahanu, awd trwy y ddefod ddyddorol o gyflwyno tlysau arian, rhoddedig gan Miss Gee, Dinbych, i bumb o bobl oedranus fuont ffyddlon ac a barhant yn ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbothol. Anfonodd odd- eutu cant eu henwau i mewn i'r Pwyllgor, ond y rhai a ganlyn a ystyrid yn haeddu'r Medals :-Richard Jones, Blaenau Ffestin- iog, 90 mlwydd oed; Richard Williams, Llangoed, Sir Fon, 90 mlwydd oed Rich- ard Bulksley, Llangoed, 88 mlwydd oed; William Williams, 86 mlwydd oed Mrs Hooson, Cilcen, 86 mlwydd oed. Cysgoded yr Arglwydd hwynt oil yn eu hen ddydd- iau. Am ddau o'r gloch y prydnawn cynhal- iwyd Cynhadledd Gymreig yng nghapel Siloam, pryd y traddododd y Parch Stanley Jones ei Anerchiad o'r gadair. Diau y ceir adroddiad llawn o honni, fel nad oes angen manylu rhyw lawer ar y pwyntiau pwysig a ddygwyd i sylw. Hawlia Mr. Jones ar i'r mudiad mawr hwn ymlith yr Anghyd- ffurfwyr gael ei farnu, nid yng ngoleu ei effeithiau, eithr yn hytrach wrth yr eg- wyddorion oedd o'r tu ol iddo. Hogyn pymtheg oed ydyw eto" meddai'r Llywydd, peidiwch disgwyl gormod oddiwrtho. Haner canrif yn ol camp fuasai uno'r en- wadau, oblegid y cweryion diwinyddol oedd yn ei gwahanu. Erbyn heddyw mae'r dadleuon wedi diflanu ac ymgiprys am swyddi a safleoedd mewn Cynghorau wedi cymmeryd eu lie. Ergyd go gas, ond nid heb wir angen am dani. Credai'r Llywydd mai nid drwg di-gymysg oedd y dadleuon gynt,—rhain a'n gwnaeth yn bobl ddarllengar, feddylgar, sefydlog ac ymlyngar wrth ein Hegwyddorion. Un o wersi y gorphenol i'r Eglwysi Rhyddion ydyw ein rhwymedigaeth r ymwneud a chwestiynau cymdeithasol. Dylem ochelyd gwleidyddiaeth plaid. Ein swyddogaeth ydyw cysegru a sancteiddio politics ein gwlad, a'i gwaredu rhag iddynt ddirywio yn party game. Dyledswydd anghydffurfiaeth ydyw rhoi ei goreu i wella amgylchiadau dyn ymhob modd. Gwrs ara.ll a ddysgir inniydyw fod yn bryd ymatal rhag gwastraffu ein had- noddau yn ofer. Pa fudd sydd mewn aml- hau addoldai mewn man-bentrefi ? Gwrth- un ydyw codi pedair o gapelau mewn pen- tref na rifa ei boblogaeth ond rhyw 200. Onid gwell gwario yr arian ar ddarpar man cyfleus i ieuengctid yr ardal gwrdcl a'u gilydd mewn awyrgylch iach a phun Mawr yr angen am sefydliadau tebyg mewn pentrefi a threfi y Dywysogaeth. Diffyg lleoedd o'r fath sy'n cyfrif am fod ami ddyn ieuangc yn myn'd ar goll. Gwers bwysig arall ydyw ein rhwymedigaeth i ddiogelu ein pethau cyssegredig—y Beibl a anwybyddir mor ddifrifol, a'r Sabboth a sarnir dan draed mor gywilyddus. Cen- adwri gref yn ddios, draddodwyd yn dra grymus. Hyderwn yr argrefnr yr anerch- iad, ac y gwasgerir hi led-led y wlad. Mawr les a wnel yn sicr ddigon. Galwyd wedyn ar y Prif-athro Silas Morris o Goleg y Bedyddwyr ym Mangor i ddarllen papur ar Berthynas yr Eglwys a Sosialaeth" Dewisodd yr Arthro dysgedig, anerch yn hytrach na darllen. Nid ydym yn sicr a'i doeth y dewisiad. Eglur ydoedd ei fod yn dra chyfarwydd a'i bwnc, ac yn ymdeim- ladol o'r anhawsderau. Cymerocld olwg eang arno, ac olreiniodd y gwahanol ffurf- iau a gymer Sosialaeth mewn gwahanol wledydd ar gyfandir Europe a'r amrywiol ystyron sydd i'r gair. Ni fynai'r Athro gyssvlltu'r Eglwys ag unrhyw gyfundrefn o Sosialiaeth, ond safai dros iddi feithrin cydymdeimlad ag anian- awd y symudiad. Dylai'r Eglwys, meddai siaradwr anog ei haelodau i ystyried pob cais a mesur a gynygir'i ddyrchafu dynion. Nid hawdd ydoedd delio'n foddhaol gyda r testyn a gwnaeth y Prif Athro yn rhag- orach nac y medrai llawer o honom ei wneud. Profodd ei fod yn meddu gwybod- aeth eang ynghylch y cwestiwn a thrin iodd ef yn deg dros ben. Hwyrach fod gwyleidd-dra a lledneisrwydd y siaradwr yn anfantais iddo, fedru gwneud argraff ddofn ar feddyliau ei wrandawyr. Ni wiw celu mai elipyn yn flat oedd pethau am ysbaid o dri chwarter awr. Nid ydys yn meddwl mai sychder y pwnc nai ddieith- rwch oedd yr achos o hynny. Ac yn sicr ddigon nid cynwys yr arawd. Gwahodd- wyd y Parch. Tecwyn Evans i agor yr ym- ddiddan, ac yn ddiymdroi daeth ef a'r gyn- ulleidfa i delerau da a'i gilydd. Gwnaeth rai sylwadau byw, pert a doniol fu'n eff- eithiol i ymlid ymaith y marweidd-dra llethol orweddai ar bawb ymron. Ond fel yr addefodd ei hun, lied ddieithr iddo ef oedd y mater dan sylw. Rhaid oedd troi i lyfr Job am Sosialiaeth iach ac ym- arferol. Druan o'r hen batriarch. Gwnaed ef o dro i dro yn awdurdod ar bopeth, seryddiaeth, gwyddoniaeth, daeareg, ac yn ddiweddaf oil ar Sosialiaeth. Beth nesaf tybed ? Siaradwyd ymhellach gan y Parchn. Rhys J. Huws, Richard Morgan, R. W. Hughes, W. R. Owen, D. E. Jenkins a Dr.. Evans. Caed ymddiddan pur fywiog a gwresog. Dichon fod yr amser yn rhy fyr i neb o'r brodyr fedru taflu llawer o oleuni ar y cwestiwn. Yn yr hwyr am saith cynhaliwyd cyfar- fod cyhoeddus yng nghapel Jerusalem. Cymerwyd y gadair gan y Parch Ish. Evans. Prin fod angen dweyd iddo ef wneud ei waith yn effeithiol a graenus. Y cyntaf i anerch y dorf ydoedd y Prif-Athro Rees o Fangor. Pur bwrpasol ei arawd ar Genadwri'r Efengyl i'r Tlodion. Anfynych y clywsom anerchiad gyfoethocach o syl- wedd, yn cael ei thraddodi gydag ynni a brwdfrydedd. Dilynwyd ef gan y Parch Puleston Jones ar yr un llinellau, er iddo fwriadu siarad ar fater arall. Gwasgodd adref y gwirioneddau gwerthfawr a gaed gan y Prif-Athro yn ei ddull gwreiddiol ei hun. Araeth fyw, lawn o arabedd iach a path- os, a chredwn iddi wneyd gwaith effeithiol ar galonau a chydwybodau y cannoedd wrandawant arno. Pwysleisiodd y Parch Charles Davies werth yr Undeb rhwng yr eglwysi; ac argymellodd gyda dwysder a difrifwch Ymneilltuaeth i lynu'n ffyddlon wrth ei nodwedd efengylaidd. Gair yn ei bryd, yn cael ei lefaru gan Was yr Ar- glwydd. Ar y terfyn cynygiwyd, eiliwyd a phas- iwyd benderfyniad yn cydnabod ymdrech- ion egniol y Weinyddiaeth bresenol ym- hlaid addysg rydd, dirwest, &c., ac anog- wyd y llywodraeth i barhau yn ddiorffwys i wneud ei goreu i symmud ymaith y rhwystrau ar ffordd deddfu yn effeithiol ar y materion hyn. Disgwylid oddeutu cant o gynrychiolwyr ond mae'n amheus iawn genym a ddaeth rhagor na chwarter hynny. Onid yw yn bryd wynebu y sefyllfa? Lol ydyw siaiad fod y Cyngrair yn gwneud gwaith, ac i wneud gwaith mawr yn y dyfodol. Na wnaiff byth, fel y mae'n bresenol. Mae'n bryd i rhywun lefaru yn groew a gonest ar y mater. Dim ond oddeutu 20 i 30 yn cynrychioli holl eglwysi Gogledd Cymru. Dyma ffaith awgrym- iadol iawn i mi. Mae penderfyniadau corff fel hwn ar faterion cyhoeddus yn dra thebyg i eiddo the three tailors of Tooley Street." Ceidw blaenion yr eglwysi, yn bregethwyr a lleygwyr, ymhell oddiwrtho. Ni ddelant iddo, oddeithr eu bod wedi eu peru i gymeryd rhan. Dyma hanes y Cyngrair ymhobman y cyferfu, a dyma'r ffaith am dano ym Methesda. Meddylier am ein Cyfundeb ni, y Parch. Ish. Evans, Richard Morgan, R. W. Jones, Gwynfryn a Tecwyn, oedd yr unig weinidogion, a wel- som yn bresenol, a dim ond un lleygwr sef Mr. John Jones, Rhyl. Dyma'r gwir am yr enwadau eraill. Na thybier ein bod ni fel enwad yn fwy difater nac eraill. 0 na synnwn ni ddim ad oeddys yn lliosocach na neb arall ar gyfartaledd. Onid ffolineb ydyw galw sefydliad fel hwn yn cynrych- ioli holl eglwysi Gogledd Cymru? Mae genym angen am symmudiad o'r fath ond yn bendant rhaid ei wneud yn rhywbeth amgenach nac a feddwn yn bresenol. Nid ydys ond yn chwareu plant ar hyn o bryd. Od i mi fod y dyrnaid bach o swyddogion a chynrychiolwyr yn lied foddhaol ar bethau. Rhaid fod rhywbath o'i le ? Beth ydyw nis gwn ? Pryd yr unionir ef ? Wel rhaid i mi derfynu.

SUDDIAD Y " KATE THqMAS."_I

CANFASIO. I

CYFOED YN MARW. I

GAIR DA I'R CYMRY.I

TRO TIRiOM.-1

ICLADDEDIGAETH Y IParch. THOMAS…

YR APOCRYPHA.

Y DIWEDDAR BAM. THOMAS MANUELo