Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

CYLCHDAITH TREORCI. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH TREORCI. I GYMANFA GANii.-Dydd Llun y-Pasg di- weddaf cynhaliwyd ein Cymanfa Ganu flynyddol, dan nawdd Eglwysi y Gylch- daith. Cafwyd canu bendigedig ar hyd y dydd. Yr oedd y Capel yn orlawn, ni welodd neb yn y gylchdaith olwg mor lewyrchus ar un Cymanfa o'r blaen. Yr Arweinydd eleni ydoedd Mr Gwilym Evans, G. & L.TS.C., Pembrey. Gwr dieithr ydoedd Mr Evans i Gylchdaith Treorci. Ond profodd ei hun yn un o'r arweinwyr mwyaf addawol. Yn Nghyf arfod y Boreu, canwyd y tonau canlynol, Clychau'n Canu," Mi ganaf gan Dir- west," Dymuniad Plentyn," Ymdeithio gyda'r Iesu." Yn ystod y cyfarfod hwn rhanwyd Tystysgrifau Cerddorol i'r plant, y rhai a rifant hanner cant. Yr oedd y dosbarthiadau Sol-fa yn perthyn i wahan- ol eglwysi y Gylchdaith, o dan ofal y personau canlynol,—Mri Sam Davies, Ystrad Rhondda, Dd. Jones a Evan Mor- gan, Ton-Pentre, Dd. W. Beynon a E. Morris (Ap Maldwyn), Treorci, yna canwyd "Dim ond Iesu," ar Anthem Yr Ardal Hyfryd (Ap Maldwyn.) Cafwyd anerch- iad y Llvwydd, a chan Mr Noah Jones, Pen ygraig. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn am 2 o'r gloch, dan lywyddiaeth y Parch R. Emrys Jones, Penygraig. Gweddiwyd gan y Parch John Hopkin Morgans o Goleg Richmond, Llundain. Canwyd y tonau canlynol yn hwylus iawn, Glan- ceri"" Minnesota," Caney," "Author of Lostwithiel," Llangoedmor," Life, Hougton," Islwyn ar Anthem Pwy welaf o Edom (T. Gabriel, F.T.S.C., Bar- goed), hefyd cafwyd anerchiad gan 'Mr Daniel H. Miles, Trysorydd y Gymanfa, Penygraig. Cyfarfod yr hwyr am 6 o'r gloch, dan lywyddiaeth y Parch Hugh Curry, Ystrad Rhondda. Canwyd yn eff- eithiol iawn y tonau Maryland," Per- yddon," Cambria," Pwllglas," Blaen- hafnen," Maelor," St. Michael," Eir- ianwg," a'r Anthem Pwy welaf o Edom." Hefyd cafwyd anerchiad gan Mr John Ed- wards, Circuit Stewart y Gylchdaith. Dyna glywir gan bawb fod y Gymanfa eleni wedi bod yn llwyddiant mawr. Y canu gyda'r puraf a'r glanaf a'r dwysaf gafwyd yma erioed. Cymanfa ardd- erchog. YSG. CALFARIA- Y Gymdeithas Ddiwylliadol. —Nos Fawrth diweddaf cafwyd hwyl go dda mewn cyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth John Morgan. Canwyd ac adroddwyd darnau chwaethus, ac areith- iwyd yn frwdfrydig gan amryw o'r brodyr, nid af i'ch blino anwyl' Olyg. a rhes o'u henwau, canys gwnn y byddai y Siswrn ar eu gwarthaf, ac na welid mo honynt mwy. Ond goddefer i mi grybwyll i'r hen frawd W Edwards (yr hwn sydd wedi cael llawer o selni yn ystod y gauaf) roi araeth bwr- pasol a llawn gwres, ac er fod y pren almon yn blodeuo er's blynyddau bellach, tystiai ei fod yn teimlo cyn ieuenged a neb o honom. Pasiwyd ar y terfyn fod y Gym- deithas i gael ei chadw ymlaen hyd ddi- wedd Ebrill. EDMYGYDD.

YNYSYBWL.

ABERYSTWYTH.I

DINAS MAWDDWY. I

FERNDALE. I

ICAPEL GARMON.I

I GWRECSAM: YR EISTEDEDDFOD.

DOWLAIS.---I

CORWEN. I

IGWYDDELWERN.I

CAERAU, MAESTEG. I

CYFARFOD Y PASG TREFFYNON.…

CAERGYBI. I

EISTEDDFOD WESLEYAID CERRIG-Y-DRUIDION.

LLANGEFNI.

PORTHAETHWY.

ABERMAW. I

I --ICRICCIETH.

IEARLESTOWN.

CORRIS.

HOREB, PENYGROES.

LLANBEKIS. . T.....--T-.--,I-…

PENYGRAIG.