Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

CYLCHDAITH TREORCI. I

YNYSYBWL.

ABERYSTWYTH.I

DINAS MAWDDWY. I

FERNDALE. I

ICAPEL GARMON.I

I GWRECSAM: YR EISTEDEDDFOD.

DOWLAIS.---I

CORWEN. I

IGWYDDELWERN.I

CAERAU, MAESTEG. I

CYFARFOD Y PASG TREFFYNON.…

CAERGYBI. I

EISTEDDFOD WESLEYAID CERRIG-Y-DRUIDION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD WESLEYAID CERRIG-Y- DRUIDION. Cynhaliwyd yr uchod yn Ngaer-y-Der- wyddion, dydd Llun y Pasg, o dan am- gylchiadau hynod o lwyddianus. Beirn- iad Cerddorol, Tom Price, Ysw., Merthyr. Adroddiadau, Parchn. R. J. Parry, Llanar- mon-yn-Ial. a J. R. Jones, Llanfihangel. Barddoniaeth, Parch. Hugh Evans (Cyn- for), Corwen, Cyfeiliwyd yn hynod o fed- rus gan Miss Gwladys Hughes, A.L.C.M., Cronant Miss Maggie A. Lloyd, Cerrig. Llywyddion, y Prydnawn, Master Lloyd, Maenwarning, Bwlch-y-Beudy; y Nos, Dr. W. R. Griffiths, Bala. Arweinyddion, NIl. William Williams, Leeds, a'r Parch. J. Parry Brookes, Cerig. Yn y ddau gyfarfod gwobrwywyd pobl o bell ag agos am ad- roddiadau, unawdau, deuawdau, a thri- awdau a'r cyffelyb. Y parti enillodd ar Y nant a'r blodeuyn oedd parti Cwm- pewnar, dan arweiniad Mr. J. W. Ellis. Yr oedd 5 o gorau yn cystadlu ar y brif gys tadleuaeth, sef Cor Glyn Diffwys, Corwen, Llanfor, Alwen ar aled Pentrefoelas. Glyn Diffwys tan arweiniad E. Elias Roberts oedd y goreu. Yr ail gystadleuaeth gor- awl. Yr oedd chwe' cor yn cystadlu, sef, Berweddion, Diwmael, Corwen, Tegid, Glanyrafon, Berwyn. Tegid dan arwein- iad Mr. H. R. Jones oedd y goreu. Dyma feirniadaeth y penillion ar "Adgyfodiad Crist Derbyniwyd unarddeg o gyfansoddiadau mae rhai ohonynt yn dda iawn. Nid oes dim neillduol yn eiddo Llawddog," Nid Bardd,' a Hen Negro o lan Niagra." Mae gan Ap Tomos." Brodor o Bryd- ain." Diolchgar a Phererin benillion da. Nid hapus yw focI" nos marwolaeth yn digwydd dair gwaith gan "Ap Tomos." Mae penillion Percrin yn llawn o yspryd emyn. Mae eiddo Gilda," Awen Gwyn- edd ac Ei Was yn dda iawn. Nis gallaf gymeradwyo y gair olaf sydd gan "Ei was yn y Ilinell hon A melus oedd y gan ollyngai'i big." Mae yma un a gododd y gystadleuaeth i safle uchel, sef Sacheus." Dyma bennill- ion gwir awenyddol oherwydd gwaith gwir fardd ydynt. Credaf y gall yr awdwr wella ychydig ar ran olaf y pumed pennill, nid mewn syniad ond mewn saerniaeth. Dyma'r pennillion goreu o ddigon. Maent yn wir deilwng o'r wobr. Ar air a chydwybod, CYNFOR. Haedda Pwyllgor yr Eisteddfod hon ganmoliaeth uchel iawn am ei gwaith yn ei gwneud mor llwyddianus. Gobeithio y gwnaiff y Pwyllgor ofalu am Babell eang i'w chynal y flwyddyn nesaf, gan fod can- oedd o bobl yn methu myned i'r adeilad eleni. Haedda yr Ysgrifenyddion Mri. R. E. Jones, Hafodunos, a W. Smith, Man Chester House, a'r Trysorydd Mr. Richard Evans, Wellington House, ganmoliaeth uchel iawn am eu gwaith ardderchog. hef- yd Yn gwneud trefniadau mor gyfleus gyda G. W. R. i gludo dieithriaid o'r gwahanol orseddfaoedd gyda eu cerbydau modur. DERWYDDON.

LLANGEFNI.

PORTHAETHWY.

ABERMAW. I

I --ICRICCIETH.

IEARLESTOWN.

CORRIS.

HOREB, PENYGROES.

LLANBEKIS. . T.....--T-.--,I-…

PENYGRAIG.