Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

23 erthygl ar y dudalen hon

CYLCHDAITH TREORCI. I

YNYSYBWL.

ABERYSTWYTH.I

DINAS MAWDDWY. I

FERNDALE. I

ICAPEL GARMON.I

I GWRECSAM: YR EISTEDEDDFOD.

DOWLAIS.---I

CORWEN. I

IGWYDDELWERN.I

CAERAU, MAESTEG. I

CYFARFOD Y PASG TREFFYNON.…

CAERGYBI. I

EISTEDDFOD WESLEYAID CERRIG-Y-DRUIDION.

LLANGEFNI.

PORTHAETHWY.

ABERMAW. I

I --ICRICCIETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CRICCIETH. Dydd Gwener y Groglith ydyw dydd mawr gwyl y Band of Hope, Salem, Criccieth, edrychid ymlaen ato nid yn unig gan Wesleyaid ond gan bobl y dre yn gyff- redinol, ac nid oedd eleni yn eithriad, cyr- chodd llawer i gyfarfod yr hwyr, a chafwyd cyfarfod da rhagorol. Gwasanaethwyd gan y cor, a chafwyd adroddiadau a dadl- euon hapus a dyddorol iawn. Yr oedd ol gwaith da yn ystod tymhor y gauaf yn amlwg wrth fyned trwy y rhaglen faith oedd wedi ei darparu ar gyfer y cyfarfod, yr oedd y brawd Rhys M. Williams wedi dangus ei sel a'i fedusrwydd yn y training a gawsai y plant. Llywyddwyd y cyfarfod mewn modd deheuig iawn gan Mr, Row- land Hughes. Yr oedd cyfeillion yr Eg- lwys wedi paratoi treat o de a bara brith ac amryw felusion eraill i'r plant fel arfer, a gwnaeth y plant gyfiawnder hollol a hwynt, nid oes neb debygwn i fedar barotoi gwell gwledd na chwiorydd yr Eglwys yn Criccieth wedi i'r plant gael ei digoni, eisteddodd amryw o'r cyfeillion o amgylch y byrddau, a thystiolaeth pawb oedd eu bod wedi cael gwledd ragorol. Cynhaliwyd cyfarfod Chwarterol Ath- rawon yr Ysgol Sul, Sabboth diweddaf, cawsom gyfrifon yr ysgol am y chwarter yr oedd y nifer mor fawr o adnodau a ad- roddwyd yn ystod y chwarter gan amryw o'r rhestrau, yn hyfrydwch mawr. Yr oedd pob athraw yn parhau yn eu rhestrau, a phenodwyd Robert Jones yn athraw ar rhestr newydd o fysg y plant. Trefn- wyd fod tymor blynyddol yr ysgol yn terfynu y Sul ola yn Mawrth yn y dyfodol yn lie diwedd Medi er mwyn i'r ysgol gael dechreu ar y maes llafur ar ddechreu ei blwyddyn o hyn allan. Derbyniwyd saith o'r bobl ieuangc oedd wedi bod ar brawf, yn gyflawn aelodau yn y society nos Sul diweddaf, a phregethodd Parch. R. Jones bregeth bwrpasol at yr achlysur, a gobeithio y bydd i'r bobl ieuangc gofio y gwirionedda pwysig a gwerthfawr a dradododd iddynt, I Gon.

IEARLESTOWN.

CORRIS.

HOREB, PENYGROES.

LLANBEKIS. . T.....--T-.--,I-…

PENYGRAIG.