Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

PURO'R GYMRAEG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PURO'R GYMRAEG. I Dyma ni heddyw yn nghymor puro'r ymraeg, ac yr oedd ei wir eisiau ar yr laith, canys hi a ddug yn ei chorff ei DUll arwyddion amlwg marwolaeth, gyfnod can mlynedd. Bu farw llu o eiriau mirain cyfareddol o eisiau eu harieru aeth naddu brawddeg hylithr phersain yn ddawn goll, collodd id- tornau'r iaith, a'i chystrawen edwinodd. Gwadoèld yr orgraff y ffos y'i cloddiwyd ohoni, a ehymerth ddelw mympwyon a'r llall. Ni phetrusai nemor i leiaor a oedd wrth riwliad gramadeg a'i Peidio, ac o'r braidd y trwsiai neb ei en yng ngwisg y clasuron. I)her?'hyn imi'r awr hon fanwl  pe mc1rwn, am ddirywiad y G?im?ilrIteg, ond effaith y Saesneg ami yw y rheswm penna. Y mae Cymru fel e^ai yn harffed Lloegr, a llenyddia?b yY, llfo beunydd ic^i, a ninnau'n cYfieithu gan 9urno'n hymadroddion yn o] n Y Saeson. Pa beth arall ellsid e1 ^aeson- Pa beth arall ellsid ei Y yn ystod y ganrif ddiwedd- ?fn 1 r iairh ddod yn bwnc o astud- jae \y b f  ?  ? ein Colegau, a chyn i ne b ofyn i'ji n? en°r^on a'n gwyr cyhoeddus ddysgu e1 Q""a 1 b. ei g'a aO' Yn ystod y deng mlyn- 6Ü 1 ,"), l,dd '?'?'? ?iweddaf, bu rhai o llraWOIl l' l' 1 ^br^ aw °? a'?sgyblion ein colegau yn dyg h"Vllioll L, a.wduron, ac yn prif -wduron, ac yp- ,,Yot at wreiddiau'r iaith. L l e"r genedl heddyw ydyw bod yn esgud i wrando ar eu lleferydd hwynt, canys pwy gymhwysach i lefaru ar bwnc yr iaith ac yn enw pob doethineb peidied edlychod anwybodus a thaeru'r du yn wyn dan belydr y goleuni newydd. Cred amryw hyd heddyw, ac ni fyn- nant yn amgen y dylsid bwrw o'r Gymraeg i'w phuro, bob gair estronol ae anghyfiaith. Cashant eiriau fel ffansi, spweier. lwc, pardwn, etc., ac nis defnyddiant, am y gwyddant eu dyfod o'r Saesneg. Buasai raid alltudio gras, plas, festiffol, sidan, rhaff a llawer eraill o'r iaith pe gwybuasent mai o'r Saesneg y daethant. Ond odid nad ymaith a gwydr, ffenestr, eybydd, plwyf, pwys, a channoedd tebyg o eiriau Lladin, ond gwybod. Nid puro peth fel hyn, ond tlodi. Y mae pob iaith fyw yn benthyca geiriau o ieithoedd eraill. Buom ni'r Cymry yn benthyca ar hyd y cenhed- laethau oddiar y Rhufeiniaid, Daniaid, Normaniaid a'r Saeson, a phaham y rhaid cau'r pyrth heddyw rhag i ychwaneg o eiriau benthyg ddyfod i mewn. Bu drysau'r iaith yn agored drwy'r oesoedd, a phe caeid hwynt heddyw collasai un o nodweddion goreu ei chymeriad, peidiasai a bod yn wir Gymraeg. Nid oes fawr o rym mewn dal nad oes eisiau gair arnom os oes gennym un wna'r tro, oblegyd goreu po fwya. Nid oes lenor leinw'r enw nad wyr werth geiriau cyfystyr, oherwydd beth sydd mor ddrygsain ac afrwydd mewn ysgrif neu araith nag iwsio yr un geiriau droiau ? Ond ni thai mo'r geiriau hynny sydd eto heb angori yn yr iaith, ychwaith, fel yr "instinct" hwnnw oedd mewn cyfansoddiad di- weddar. Gellir cyfri gair anghyfiaith darddiad yn un cyfiaeth pan fo yn ddealladwy i'r Cymro uniaith, ac ar arfer cyffredinol. Er engraifft dyna beisicl," er nad yw wedi hir drigo yn ein hymadroddion, gallwn bellach ed- rych arno gyda pharch fel darn o'n hiaith, a'i ddefnyddio-petai alw am enw'r ddwy olwyn-yng nghlasuron y dyfodol. Ein busnes wrth geisio puro'r Gym- raeg ydyw chwynnu idiomau a chyst- rawen y Saesneg ohoni, ac nid dad- wreiddio geiriau, Dyma rai idiomau o iaith tras Hengist sydd i'n gadael:— "mewn trefn i" sef yw hynny "in order to air am air ar y cyfan sef on the whole trwodd a thrwodd sef "through and through," drosodd a throsodd drachefn sef over and over again pron'n llwyddiant sef prove a success." Y ffordd oreu i wybod beth i'w chwynnu ydyw gwrando ar y neb a wyr, ac astudio gwaith awduron Cymru cyn i'r cyfieithwyr diraen ym- yraeth a'n gramadeg. Dylem hefyd atgyfodi a dechreu defnyddio eto ambell i hen air gafodd fedd cynamserol. Ym mlynyddoedd y dirywiad, a chodi'r rhwd oddiar idiom- au annwyl ein hynafiaid, megys nid allaf aros," yn Saesneg I cannot bear." At hynny dylai rhyw gyngor o wyr cyf- arwydd, tebyg i Urdd Graddolion, Prifysgol Cymru, fathu geiriau newydd ini, gogyfer a changhennau newydd gwybodaeth a'u taenu dros y wlad, a ninnau oil ymostwng a'i harfer, rhag i Gymro o Sir Fon fod a thermau gwa- hanol i'w gymrawd o Sir Fynwy. Yn y byd sydd arni hi, aiff pob prentis i naddu term, a chan mai go brin y caiff un o'r termau hynny ei draed dano gan eu hamled, defnyddir y Saesneg. Os na cheir diwygiad buan yn hyn o beth, bydd y Gymraeg foddi yn llifddyfroedd yr iaith fain. Un peth eto, rhaid wrth orgraff gyson a chyffredinol unol a deddfau a theithi'r iaith. Y mae orgraff frycheulyd, ang- hyson yn friw llygad i'r sawl fo'n berchen chwaeth dda. Y rhai fu'n olrhain ei gwraidd a'i thwrf wyr ym mha Ie i osod cymalau'r geiriau wrth eu gilydd ar bapur, ac ni wyr ond a wrandarwo. Y mae'r Gymraeg i'r Cymro yn werth ei chadw'n fyw a'i phuro. Ffrwyth meddwl ac anianawd y Cymro ydyw hi. Efe ei hun a'i ffurfiodd i'w bwrpas ei hun. Y mae ol ei waed ar hyd-ddi, a swn ei helyntion drwyddi. Ynddi ceir seiniau ei lawenydd a dolef ei gwyn. Y mae delw mynyddoedd, bryniau a chymoedd ein tir arni. Nid oes iaith all gynwys teimlad a meddwl y Cymro cystal a hi. Trwyddi hi yn ddiau y gall fynegu oreu yr hyn sydd ynddo a pho lawna y mynegir syniadau, cryfa yn y byd yr aiff y meddwl. Fe ddadblyga'r Cymro ei ddealltwriaeth yn well drwy'r Gymraeg na thrwy unrhyw iaith arall. Gan hyny m.eithrinwn ein hiaith ac eiddunwn iddi oes y byd. Penn111chno. Habei Edwards, II Penmachno. I

Advertising

I-FY ADGOFION.-

[No title]

l ! GWiLf YN PREGETHU YR !…

GLYN WRTH DDARLLEN.

CYBYDD-DRA CREFYDDOL.

:POBL LLYDAN PWLLHELI.

CYRHAEDD Y LLUAWS.