Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

HYNODION A HELYNTION ABERNODWYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYNODION A HELYNTION ABERNODWYDD. GAX NEMO. PENNOD IX. RHAMANT GARWRIAETHOL IFOS DAVIES, "Y SGWL." Prin y creda neb fod holl drigolion Abernodwydd a'r cvfiiniau yn deilwng o sylw, er mai dyma'r bobl mwyaf dyddoro! v deuth'um i erioed ar eu traws. Medda oil ohonynt, yr hyn a eilw rhai pregethwyr yn "wahanfodedd." Bida fynno am hynny, nid wyf yn bwriadu traethu ond yn unig! am rai o'r rhai hynotaf yn eu mysg. Yr oedd Mrs Davies, neu fel ei hadnab- yddid gan yr ardalwyr Gwraig y Sgwl," ym mysg hynodion y plwyf. Daeth gyda'i gwr i Abernodwydd er's llawer bfwyddyn. Dyn tawel a dirodres oedd Mr. Davies yr Ysgolfeistr ac wedi gwasanaethu ei oes a'i genedl yn ffyddlon ac effeithiol. Daeth i Abernodwydd yn lied fuan wedi gadael y Coleg, a rhyfeddai llawer pa ham y bu iddo aros mewn lie mor ddinod,—ar rai cyfrifon, a llafurio am gyflog mor fych- an, pan y gwyddai pawb y gallasai gael llawer gwell Ysgol a chyflog pe dymunai hynny ond er gwaethaf pob cymhelliad glynnu yn Abernodwrydd a wnaeth, ac yn ol pob tebyg, yma y terfynna ei oes. Edrychid arno fel Ysgolhalg gwych, ac yr oedd yn wr tra defnyddiol at wasanaeth gwlad ato ef yr a'i y ffermwyr gyda'i hel- yntion gohebiaethol bron i gyd, efe fyddai yn llenwi y daflen anfonid bob blwyddyn oddiwrth y Bwrdd Amaethyddol er cael gwybod faint o dda corniog a gwlanog oedd ganddynt a pha sawl acer o dir oedd dau yd a gwair a thir pori, a pha faint a roddid i dyfu tobaco At yr Ysgolfeistr hefyd y deuai y rhan fwyaf ohonynt i len- wi taflen arall, a'i hanfon i'r Cyseisman i brofi nad oedd eu hincwm yn ddigon Llchel fel ag i'w gorfodi i dalu Income Tax. Yr oedd ofn myn'd i gyfraithyn gynhen- id ym mhlith yr ardalwyr, gan y bu twrne yn byw mewn hen balasdy o'r enw y Llwyn yn y plwyf yn nechreu y ganrif o'r blaen, oedd yn hynod ar gyfrif ei gyfrwys- tra a'i ddichellion, a diau fodd ei branciau anonest yn gyfnfol i fesur helaeth am yr atgasedd oedd gan bobl Abernodwydd yn erbyn ymgyfreithio, a Davies y Sgwt" a wnai waith cyfraith iddynt. Ysgrifennai eu hewyllysiau a phob peth arall a hawl- iau ofal, manyldra, ymddiriedaeth a medr. Cariai Mr. Davies fwy o cyfrinion teulu- ol Abernodwydd na neb arall, ond nid oedd berygl iddo ef byth fradychu cyf- rinach, na son gair wrth ei briod na neb arall am helyntion y plwyfolion. Sibrydid gan rai nad oedd ei fywyd teuluol mor ddedvvydd agy gellid disgwyl, ac mai rhyw siomedigaeth neu gam- clclealltwriaeth carwriaethol oedd y rhes- wm iddo lynrui wrth Abernodwydd trwy gydol ei oes, Er na fu iddo erioed ddweyd stori gudd ei galon wrth neb, ac na chafodd neb o'i gymydogion Ie i feddwl ei fod yn anghar- 'edig wrth ei wraig, mvnnai rhai ohonynt er hynny, nad oedd ei fywyd priodasol wedi bod yn llwyddiant hoLol. Y rhesvvm a roddid, oedd fod Ifor Davies pan yn y Coleg Hyfforddiadol ym Mangor wedi ei wahodd gan hen ferch garedig a fynychai yr un Capel ag yntau wedi ei wahodd i'w thy i de un prydnawn Sul ar derfyn yr Ysgol. Yr oedd nith iddi o'r un enw, yn byw gyda hi, geneth brydweddol a diwyll- iedig ychydig ieuangach na'r efrydydd. Ymddengys i Davies gael ei swyno ar un- waith gan y ferch ieuanc, ond yr oedd yn hynod o swil ac o duedd enciliol, acymad- awodd a'r Coleg heb gael cyfle i siarad a hi, ag eithrio yr ychydig amser a gafodd yn nhy ei modryb y prydnawn Sul a nod- Wyd. Yr oedd hvn tua chanol Mehefin, a thua diwedd v mis dilynol gadawodd ef y (11,?,edd v inis -adav,odd ef Coleg a chafodd le fe, athraw cynorthwy- ?1 yn Nghaerar ol gwyliau yr Haf. Nid oedd yr athraw ieuanc wedi an- ghofio yr eneth wiw-cldestl a welsai ym Mangor, a rhywbryd tua'r Nadolig dilynol Penderfynodd anfon llythyr i Fangor, Bu yn hir cyn boddhau ei hun gyda golwg ar y modd o'i eirio, a phetrusai yn fawr anfon o gwbl. Ond o'r diwedd mag- odd ddigon o wroldeb, ac anfonodd llytli- yr byr ymaith gan ei lwybreiddio i Miss G. DAVIES, Bryndedwydd, Bangor. Nid oedd ei lythyr yn un maith, ond Rofynai i'r ferch Ieuanc fod mor hynaws iL i ateb, a'i hysbysu a ydoedd yn barod i Parhau i ohebu ag ef. Disgwyliai am citebiad yn ebrwj-dd, ond ni chafodd air élrn tua phedwar mis. pn boreu daeth iddo lythvr o Iowa, Am- :nca. Pan ddaethi'wlaw gyntaf methai  deall pwy tybed allai ysgrifennu ato o'r ? ?erica Blinodd ddisgwyl am lythyr o t ??goraphenderfynoddnachlywai oddi vond dyma lythyr o Iowa, gwelodd ar 'nwaith mai llaw-ysgrifen rhyw ferch fu'n /felrio y llythyr torodd y sel, rhwygodd arnlen, a disgynodd ei lygaid yn eb- ? ?ydd ar enw Gwenie Davies. Nid oedd ,il \ythyr maith, ond dywedid ynddo i'r 11 t r anfonodd i Fan-or tua'r Nadolig, ^el ei yru ar ei hoi i'r Ameriea, 1 dy cyf- ?ther iddi, gyda yr hon oedd hi a Miss 0 fVl^s yn bwriadu aros am amser amhen-  Byddai yn bleser mawr ganddi ym- ??bu ag ef, yn Air yr oedd yn falch iawn ,Sael gwneud hynny canys yr oedd yn ? 'mygu ei rodiad addas, ei ymlyniad wrth Vr tC^OS ac yn enwedig ei ymgysegriad Sva r Ysgol Sul yn ystod ei arhosiad vn y cilcri lrnas.  nn Parodd derbvn llvthvr mor serchog <¡le\Vn t b. "J mev;n a e lad l\V lvfhyr cyntaf, a deall el d ..J J lod? ? elmladau yn cael eu croesawu mor &v ? '??enydd' mawr iddo, a rhodd- ??vd??oamcannewydd i'w fywyd. Bu Y (I'dau gohebu a'u gilydd am tua thair   y cyfamser yr oedd Ifor ?av ???? mvnd yn brif-athraw i Ysgol ry+ ?rvf. ?"? Abernodwydd, ei brif reswm tiros f, l ?? oedd, am y credai y cai well harndd Ila ?dde-,l ? astudio a pharatoi ar ?er e?S? i gradd ym Mbrif-ysgol Linndain.  P2LSioCldY ddA, arholiad gyntaf vn h 1 lauus 11 WYddl--L7LIus, ond ill wnaeth fawr o stwr a ?vnt ?? "?y?heilwvddiant, rhag ofn i ?o YV'od 1 ?ynf? draethwyr vr Ysgol feddwl ei f(-)d e"ge-uluso ?' ??th gyda'r Ysgol: ?'hynr? ???1- Yr oedd pob adroddiad a roddai yr Arolygwyr a ymwelent a'r Ysgol yn canmol y gwaith a wneid yno, a gellid canfod ol llafnr yr athraw i fesur mwy neu lai ar yr holl ysgolorion. O'r diwedd penderfynodd yr athraw bri- odi, a threfnodd i gyfarfod ei ddarpar- wraig yn Lerpwl a phriodi mor fuan ag y byddai modd. Aeth i Lerpwl pan dor- odd yr ysgol i fyny cyn gwyliau yr Haf. Cyrhaeddodd Lerpwl y noson cyn i'r llong oedd i gludo ei ddarpar-wraig gyraedd, a dranoeth ar ol boreufwyd aeth i lawr at y Landing Stage. Daeth y llong i'r afon yn y man, a haws ddychmygu na darlunio ei deimladau ef a Ilawer mewn cyffelvb gyflwr pan yn gwylio y tenders a gyrchent y teithwyr a'u celfi tua'r lan. Gan nad oedd wedi cael dariun o'i ddar- parwraig na'i gweled er pan y gadawodd y Coleg, nid oedd yn rhyw sicr iawn pa fath berson y dylai edrych allan am dani. Safai yn ymyl un o'r gangways a rhythai yn bryderuser eeisio eael golwg ar yr en- eth anwyl fu'n ysprydiaeth iddo gyda'i ef- rydiau, a llythyrau yr hon fn yn ffynhonell didrai o ddedwyddwch digymysg iddo yn ystod ei fywyd tawel ac anwronol yn Abernodwydd. Yr oedd ei bryder a'i frwd- frydedd bron wedi ei orchfygu a meddian- wyd ef gan ofn cael ei siomi ar y funud olaf, ond o'r diwedd teimlai law yn ysgafn bwyso ar ei ysgwydd, acmeddai llais cryn- edig wrtho, Ifor, ydach chi wedi colli adnabod arnaf ?" Trodd yntau yn sydyn ac edrychodd yn syn i wyneb y ferch a bar- hai i gadw ei llaw ar ei ysgwydd. Am beth amser nis gallai ddweyd yr un gair, ond dal i edrych i wyneb mor llawn o syndod a'i eiddo yntau. O'r diwedd, casglodd ddigon o nerth i feddianu ei hun ac i lywodraethu ei natur. Beth," meddai, pam yr yclw i mor araf, Gwenie yn te ?" Ie Gwenie ydoedd. a Gwenie Davies, ond nid yr eneth heinyf a phrydweddol y syrthiodd Ifor mewn cariad a hi ym Mangor, ond ei modryb a'i gwa- hoddodcl i'w thy i de. Gwelodd Ifor y sefyUfa, a'r cwestiwn nesaf iddo, oedd penderfynny pa gwrs i'w gymeryd. Nid oedd amser i'w golli a rhaid oedd syrthio ar rhyw gynllun ar un- waith. Yr oedd yn amlwg oddiwrth y llythyrau a dderbyniodd yn ystod eu gwa haniad, a'r olwg gyffrous oedd ami, pan ei daliwyd gan fudandod pan siaradodd ag ef gyntaf ar y Landing Stage, ei bod hi yn ei garu ef a chariad cyflawn. A phender- fynodd ei phriodi, er fod hynny yn tybio fod ei holl gynlluniau yn cael eu dyrysu, a bod y cestyll gorwych a gododd ei ddych- ymyg wrth freuddwydio am y dyfodol, ar hyd lethrau bryniau Abernodwydd i gyd yn cael eu dymchwel hyd lawr. Fe'u priodwyd ymhen rhyw dair wyth- nos. Cefnder i Ifor oedd yn byw yn Birkenhead oedd y gwas, a'r forwyn oedd Gwenie Davies ieuengaf, nith y briodas- ferch Ni fu fawr o siarad cydrhwng y priodfab a'r forwyn briodas, ond dywedai un oedd yno, nad anghofia byth y myneg- iant oedd yn llygaid y ddau pan gyfar- fyddasant gyntaf. Pan agorodd yr Ysgol yn Abernodwydd ar ol Gwyliau yr Haf, tua'r wythnos olaf yn Awst daeth yr ysgol-feistr yn ol gyr'a'i wraig. Ni ymddanghosai mor ddedwvdd a chynt. nid Yvv byth wedi gorphen pasio ei arholiad ac enill ei B.A. Nid yw byth yn son am edrych allan am ysgol fwy, er cael eangach cylch i'w alluoedd disglaer a'i bersonoliaeth gref. Gwnn fod rhai o'r dynion ieuainc oedd yn Mangor yr un adeg ag Ivor Davies, rhai ohonynt wedi cyraedd i safleoedd amlwg yn y wlad, yn synu ei fod ef wedi claddu ei hun ym mhentref anhygyrch Abernod- wydd, pryd y gallasai o ran ei alluoedd fod mewn llawer amgenach lie. Ond ni wyddant hwy ddim am yr helynt rhaman- tus a roes gyfeiriad mor rhyfedd i'w fywyd.. Nid colled fu yr oil. Nis gwnn am yr un ysgol o'i mamt yn y wlad, sydd wedi troi allan gymaint o ddynion a merched cryf- ion a meddylgar ag Ysgol Abernodwydd, a phwy a wyr nad yw y cleddyf drywan- odd galon Ifor Davies, "Y Sgwl," yn gyf- rifol am danynt i fesur lied helaeth.

TYBED? TYBED?__I

WEL! WEL!! I

-DATGYSYLLTiAD.____I

I ANGEN CYMRU. I

Advertising

POBL FFLSPJT YN DECHREUI DiODDEF.