Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"Y Gwyliedydd Newydd." SCALE OF CHARGES FOR Small" Prepaid Advertisements IN GWYLIEDYDD NEWYDD." Situations Vacant or Wanted. Apart- ments to Let or Wanted, Miscellaneous Wants and Sales, Houses, Shops, Business, etc., to be Sold, Let, or Wanted, Partner- ships Wanted or.Of £ ered, &c. One Three Six 13 week. weeks, weeks, weeks s. d. s. d. s. d. s. d. 18 words 1 0 2 0 3 9 7 0 30 „ 1 6 3 0 5 9 11 0 40 „ 2 0 4 0 7 9 15 0 50 „ 2 6 5 0 9 9 18 0 63 „ 2 9 5 6 10 6 20 0 In future all small advts. sent for inser- tion must be prepaid. The inconven- ience of booking small amounts, and the; subsequent expense of collecting the same, renders it necessary that this rule should be strictly observed, otherwise insertion cannot be guaranteed. Prices for larger spaces on application. ALL ORDERS, ADVERTISEMENTS, P. ORDERS AND CHEQUES TO BE SENT TO- The Manager, "The New Watchman," Gelli, Flint Mountain, Flint. North Wales. C AT EIN DOSBARTHWYR. Amfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy am fiaen-dal o 1/8 dau gopi 3/3 o dri i fyny i 6 copi, Ceiniog yr un; chwe' copi ac uwchlaw hyny, 10c. y dwsin. Pan anfonir i Wledydd Tramor, bydd y prisiau uchod yn uwch, yn ol fel y byddo y tal am y cludiad. ANFONER POB ARCHEBION RRBYN BOREU SADWRN YMHOB WYTHNOS I'R— Rheolwr, (Iwyliedydd Newydd Y Geill, y Cosd-y-Flint, Flint, oogiedd Cymru. J8t'N ellir gwneud gostyngiad ar gyfrif copiau heb eu gwerthu, ac erfynir am i'r dosbarthwyr ohehu yn ddioedi a'r Rhe- olwr pan y bo'nt yn derbyn mwy o gopiau nag y gellir eu gwerthu. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter, ac oddigerth mewn amgylchiadau eithriad- 01 iawn, ni ellir rhagllaw anfon y papur am fwy na mis ar ol terfyn y chwarter i unrhyw ddosbarthwr a fo heb dalu ei gyfrif. ti v <' TO OUR AGENTS. TERMS. One copy of Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid—1/8; Two Copies of Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid- 3/3 Three, and up to G Copies, will be sent at the rate of One Penny per Copy Upwards of 6 Copies—lOd. per Dozen. No allowance can be made for returns; 1 and the Agent is earnestly requested to communicate with the Manager when he is in receipt of more copies than he can sell. When copies are sent to Foreign Countries, the above prices will vary according to postal charges. ES^No Parcels will be sent to any Agent whose Account is more than One Month overdue. ALL ORDERS TO BE SENT FOR SATURDAY MORNING EACH WEEK TO- The Manager, "New Watchman," Flint Mountain, Flint, North Wales. AT EIN GOHEBWYR. CI'FELRIER POB GOHEBIAETH— y Golygydd, "OwyJiedydd Newydd y, Gellip Coed-y-Fliat, Flint, Gogledd Cymru. Anfoner Newyddion erbyn boreu lau neu byddant yn rhy hwyr. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser, a phob item ar ddalen wahanol. Rhodder I'r IVa sg neu Press News ar yr amlen. Os yn anfon gair cyfrinachol rhoddwch stamp ceiniog. Os na wneir hyn rhaid ini dalu yn ddwbl. haid i bob Gohebydd—hen yn ogystal a newydd—anfon ei enw a'i gyfeiriad bob tro. < v 1. BWRDD Y GOL. J.K.—Rhy hwyr y tro yma. Diolch lawer. Y TRO NESAF.—T. J. W., Talsarnau, Llan- rwst, Coedpoeth. i
INODION GOLYGYDDOL,
I NODION GOLYGYDDOL, Mae yr Eglwyswyr' Budrwaith. yn crochlefain fod rhai miloedd o Ang- hydffurfwyr wedi arwyddo y ddei- seb yn erbyn Datgysylltiad, neu o leiaf Dadwaddoliad. Mae'r ddeiseb bron yn ddarn o fudrwaith. Yn y Tyst" diweddaf yr oedd y budr- waith hwn yn cael ei ddadlenu yn rhagorol o glira chryno. Dywed fod y ddeiseb mor gamarweiniol nad yw papur a'r enwau sydd wrtho vn dda i ddim ond i dan. Nl saif funud o ymchwil ger bron y Senedd. Wrth geisio bod yn smart yn taenu eu rhwyd, maent wedi bod mor! ffol a rhoi eu traed trwyddi, a'i thyllu a'i rhwygo fel na ddeil gym- aint ag un aderyn, ac nid oes ddewin clerigol fedr bytli mwy ei chlytio a'i thrwsio. Yn canlyn wele rai o'r pwyntiau a bwysleisir. Y mae y ddeiseb Y Fynwent, yn gamaweiniol iawn ynghylch y Fynwent. Dyma rai o eiriau yr ysgrifenydd:—" Cymer yn ganiata- ol mai'r Eglwys bia'r mynwentydd yn awr. Anwir noeth yw hynny y plwyf a'r cyhoedd bia'r fynwent, ond ei bod yng ngofal yr offeiriad plwyfol fel trustee'r cyhoedd. Mae gan bob un o'r plwyfolion hawl bedd ynddi, beth bynag fo'i enwad neu ei ddiffyg enwad. Nis gall y clerig na neb arall ei rwystro. Y cyhoedd a'i pia. Yr oil wna'r Mesur yw newid yr ymddiriedolwr. a rhoi'r fynwent yng ngofal y Cyngor Sir yn He yng ngofal yr offeiriad. Ac ai nid yw hyn yn ganmilrhagorach, ac yn fwy cydweddol a dyhead yr oes werinol hon ? Pam y dylai myn- went y plwyf fod dan iiwdurdod unbeniaethol un clerig yn unig ? A ydyw ef yn fwy cymwys i ofalu am dani na'r Cyngor Sir ? A ydyw yn garedicach a mwy haelionus ? Atebed yr amrywiol scandals sydd wedi cymeryd lie yn ein mynwent- ydd, lle'r hawliai'r clerig allu i rwystro i'r marw gael ei gladdu ym taedd y teulu, yn unig am fod y perthynasau yn dewis gweinidog Ymneilltuol yr ymadawedig i was- anaethu, yn unol a deddf gwlad, yn lie offeiriad y plwyf. Fel ymddir iedolwr dan y drefn bresenol, y mae ganddo hawl gyfreithiol i reol- eiddio'r beddau fel y myn, a rhoddi cyfle mynych i glerig bychan, cul, i ddangos ei speit ac i dalu'r pwyth yn ol; ac mae llawer un wedi dal arno-ie, yng Nghymru. Ai nid canmil gwell yw rhoi'r awdurdod yn llaw cynrychiolwyr y bobl bia'r fynwent, yn lie bod yn llaw despot anghyfrifol ? Paham y gwinga'r Esgob a'i glerigwyr yn erbyn y cyfnewidiad cyfiawn hwn ? Yn unig am y bydd y drefn newydd yn mynd a'r fees bocedir yn awf gan yr offeiriad a'r Eglwys, a'u trosglwyddo i'r awdur- dod a'i pia. Gall y Cyngor Sir wneud llawn cystal defnydd ohon- ynt er budd y fynwent a'r cyhoedd a'r offeiriad-os nad cryn dipyn gwell. Llygad y geiniog sydd wrth wraidd y cwbl. Bydd gan eglwyswyr yr un fraint yn union o hawl i gael eu claddu, &c., yn y fynwent ag sydd gan- ddynt yn awr. Yr unig un y cwt- ogir ei hawl yw'r offe'iriad plwyfol. Cant wasanaeth eu Heglwys a'i ffurf-Weddi a'r gloch a'r offeiriad heb neb i ymyryd a hwv, tra na bydd gan Ymneiiltuwr hawl i'r un ohon- ynt. Yr unig fantais ga'r Ymrieill- rtuwr iydd rwystro i'r offeiriad I ddefnyddio'i le a'i swydd i wthio arno wasanaeth yr Eglwys yn hytrach nag un ei weinidog ei hun dan boen colli H- dewisedigei fedd A thybed a oes rhywun yn ei syn- hwyrau a'i hamrldifada o hynny ?   Dyna beth camarweiniol e a iawn eto ydyw yr hyn gyll yr a ddywed y ddeiseb am Eglwys. y swm a gyll yr Eglwys. Dywed y ddeiseb fod y Mesur yn mynd a [157,000 y flwyddyn o waddoliadau hynafol yr Eglwys oddiarni. Ond ni sonnia air fod pob clerig, deon, prebendari, arch- ddiacon ac esgob i barhau i dder- byn eu cyflogau hyd eu bedd. Cant os dymunant, droi yr eiddo mawr eddog hwn. yn incwm blynyddol- nid am oes, ond tra bo dwr yn rhedeg. A phe gwnaent hynny, byddai gan yr Eglwys [15,000 o incwm parhaol blynyddol yn ychwanegol t y [102,000 adewir iddi gan y Mesbr yn awr. Ni byddai eisieu i'r Eglwys wedyn gasglu ond swm cymharol fychan yn flynyddol i wneud i fyny yr holl incwm a fwynha yn awr. A dyma'r bobl a haerant fod y Mesur yn eu gadael heb ddim, ac a, amgylchynant for a mynydd i hud-ddenu Ymneilltu- wyr difeddwla diniwed i arwydd- o'u deiseb. Heblaw hyn oil, haera'r ddeiseb mai'r Eglwys fel enwad bia'r [157,000 gymerit oddiarni dan y Mesur. Nid yw hynny yn wir: y genedl a'u pia, ac ni wna'r Mesur ddim mwy nag adfer i'r genedl yr eiddo drawsfeddianwyd oddiarni gan breladiaid a chlerigiaid y Canol Oesau. Yn wyneb hyn oil, a llawer mwy ellid ddywedyd trueni fod unrhyw Ymneilltuwr wedi bod mor gibdall a chymeryd ei hudo: ond i'r bobl a'i lluniodd yn unig y perthyn cywilydd. Llawenhawn mai nid a ffwlbri fel hyn y gellir dylanwadu ar y Senedd. ————— t» »
[No title]
Uno yr enwadau yw Un deb. pwngc y dydd yn mysg llawer o Gristionogion yn y byd Cristionogol yn bresenol. Gwaith hawdd yw son, nid oes dim yn hawddach na son am wneud yr holl sectau yn un; ond pan ofynir pa fodd y cyflawnir yr orchest ceir amrywiaeth braidd diderfyn yn mysg yr atebion. Gofynwyd i Spurgeon, Pa fodd y gellid gwneud yr holl sectau yn un ? Wn i ddim, ebai y pregethwr bydenwog, oher- wydd pa fwyaf o ymdrech wneir i'w cael at eu gilydd pellaf i gyd y maent yn myned oddiwrth eu gilydd. Nid ywpob un o honom yn ddigon gonest fel Spurgeon i gyfaddef anwybodaeth. Bydd gan bob un yn gyffredin ei ffordd ei hun i wneud pob enwad yn un, ac y mae y gwahanol ffyrdd wrth eu symio i fyny yn ymddangos yn gan mil mwy gwahanol na'r gwa- anol enwadau. Helynt Kikuyu yn Affrica sydd wedi codi y cwestiwn i sylw mor gyffredinol yn Lloegr yn bresenol. Nid yw pawb yn Eglwys Lloegr,' heb son am Eglwys Rufain ac en- wadau ereill yn perthyn i'r un blaid. Rhenir Eglwvswyr yn am lwg i bedair plaid: Yr Uchel a'r Isel, y llydan a'r cul (high, low, broad and narrow). Camp a gor- chest fawr fyddai gwneyd y pedair hyn yn un heb son am yr hol 14 en- wadau. Rhenir Eglwyswyr gan rai yn ddwy blaid bwysig. Yr Uchel-Eglwyswyr a'r Isel-Eglwys- wyr neu y blaid efengylaidd, gan anwybyddu y cul a'r llydan. Mae pellder mawr rhwng y ddwy blaid hyn. Diamheu fod yr Uchel-Eg- lwyswyr yn nes o lawer i Rufain nag i'r Isei-Eglwyswyr. Cadwyn auraidd y gwaddol, a chyffion y Llywodraeth wladol yn unig sydd yn eu cadw yn aelod^u yn yr un sect, ac y mae yn ddigon tebyg nas gall y gadwyn na'r cyfhon eu cadw tu fewn i gylch yr un eglwys am byth. Dysgir hyn yn amlwg gan helynt Kikuyu. Os na ellir trin yr achos pwysig hwn, a phenderfynu y pwngc a'r pyngciau mewn dadl trwy y Testament Newydd bydd y paganiaid yn gwrthod ein crefydd, ac yn derbyn ein gwareiddiad. Hyn yw yr achos fod yr helynt yn cyffroi meddyliau y miloedd. Y son diweddaf am Undeb ydyw yr Undeb rhwng yr Annibynwyr a'r Methodistiaid yng Nghymru. Mae y Parch Jones Owen, M.A., Cricc- ieth, yn awgrymu galw cynhad- ledd o wyr blaenaf y ddau enwad i ystyried y mater. Rhwydd hynt i'r mudiad. Ond paham y ddau enwad yma ? Paham nad elwir: ynghyd yr enwadau eraill hefyd. Onid oes rywbeth quixotic iawn yn hyn?
PAMPHLEDAU DIRWESTOL YR 'ALLIANCE.'
PAMPHLEDAU DIRWESTOL YR 'ALLIANCE.' DYLENT FOD YN MHOB TY DRWY OGLEDD CYMRU. Mae y gymdeithas ragorol uchod, drwy ei dirpwywyr dihafal Plenydd, newydd ddwyn drwy'r wasg gyfres o bamphledau cynwysfawr a tharawiadol ynglyn a'r pwngc dirwestol. Ceir wyth pamphledyn, wedi eu dwyn allan mewn diwyg Gymreig goeth a diM- yn; darllenant yn rhwydd, a gadawant argraph briodol ar feddyliau y sawl a'u darllenant am werth sobrwydd, a drygedd echrydus y ddiod feddwol. Prawf y pamphledau hyn mai nid agwedd- au gwleidyddol a chyfreithiol y fasnach gaiff sylw yn unig gan yr 'Alliance.' end ei bod yr un mor ymdrechgar i gludo ar- gyhoeddiad i feddwl yr unigolyn ar ddrwg meddwdod yn bersonol a chymdeithasol. Dyma rai o'r pen&wdau :Y Ddiod a Llafur,' Diod ynte Dodrefn ? Esgob Lin- coln ar Ddiwygiadau Dirwestol, Beth yw y lies o honi ?' gan Mr Philip Snowden, A.S. Awr ginio dydd Sadwrn-yn y Cartref ac yn y Dafarn. Beth y mae llai o gwrw yn ei olygu ?' Y fath Resyn Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara ? a'ch Ilafur am yr hyn nid yw yn digoni ? Oddi wrth y testynau uchod fe welir fod yna appel uniongyrchol at synwyrau meddyliol a moesol dynion, ac y mae y traethiad ar y materion yn syml, union- gyrchol, ac argyhoeddiadol. Carwn bwysleisio y priodoldeb ar i bob cymdeithas ddirwestol yn Ngogledd Cymru, wrth wneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd neullduol, i anfon at Plenydd, Four Crosses, Chwilog, R.S.O., am barsel o honynt. Credwnyn ddibetrus y gwnai rhoddi un o'r pamphledau hyn yn mhob ty drwy Ogledd Cymru les dirfawr i'r bobl, ac y gallai, hefyd, brofi yn foddion effeithiol i sicrhau adfywiad yn y gwaith dirwestol. Gan mai yn rhad eu rhoddir, anfoner ar unwaith at Plenydd am nifer o honynt. Rhaid arloesi y tir gogyfer a symudiad mawr sydd eto heb fod yn mhell. Dis- gwyliwn bethau mawr dddi wrth y senedd yn y dyfodol agos. Angenrhaid yw parot- oad nid yn unig i dderbyn gwelliantau, ond, hefyd, i'w gwerthfawrogi, a'u def- nyddio i'r fantais oreu. Yr eiddoch yn bur, Caergybi. W. LLOYD DAVIES. I
[No title]
( Y Gymanfa. J Y mae y Gymanfa Gyffredinol am I 1915 i gael ei chynal yn Llundain. Rheithior Penyrnynydd. I Bu y Parch Morris Griffith, B.A., rheithor Penymynydd, farw wedi ych- ydig ddyddiau o waeledd. Brodor o Llanllechid ydoedd, a bu yn dal byw- oliaeth Llangoed cyn cael ei ddyrchafu i'r plwyf hwn. Gwr distaw a chym- wynasgar ydoedd. Curad Porthaethwy. I Y mae y Parch J. S. Parry, B.A., curad Porthaethwy, wedi cael cynnyg ar fywoliaeth Tedburn, yr hon sydd yn werth 350p. y flwyddyn, ac y mae wedi ei derbyn. Yr Esgob yn Sal. I 1, Y mae esgob Llanelwy wedi ei I gyfyngu i'w balas, yn dioddef oddi I wrth bronchitis.' I
I MARCHNADOEDD.
I MARCHNADOEDD. I Marchnad Yd Liverpool. 11 I Dydd Mawrth. Yr oedd tua'r nifer cyffredin o felinwyr a masnachwyr yn bresenol. Gwenith agos at law a ddelid am godiad o -2I c i lc y can- pwys ar brisiau dydd Gwener, a gwnaed masnach gymedrol. Yr oedd gwenith c i ic drutach wrth ddelio yn mlaen hefyd. Indrawn melyn Afon Plate agos at law yn go brin dydd Mawrth eto, ac o l £ c i lc y canpwys drutach na dydd Gwener. Ind- rawn Americanaidd cymysgedig a mathau Ewropaidd a ddelid am lawn brisiau di- weddar. Blawd, ceirch a blawd ceirch, haidd, pys, a ffa yn cadw at o ddeutu prisiau yr wythnos ddiweddar. I Marcimadoedd Cymru. Builth Wells, Chwef. 16eg.- Yr oedd yn ffair yn ogystol a marchnad. Prisiau cynnyrcnion oeddynt:—Ymenyn, o Is lc i Is 3c y pwys wyau, lc yr un; cwningod, 9c yr un; ffowls ieuaingc, 7c y pwys hen ieir, 3s i 4s y cwpl; a phytatw, 4 pwys am 3c. Caerfyrddin, Chwef. Meg.—Yr oedd ych- ydig gynnydd yn y cyflenwad o ymenya casgiau dydd Sadwrn, gyda'r prisiau yn gadarn ar ddechreu y farchnad; ond ter- fynodd yn fflat, gyda gostyngiad o lc y pwys; sef, Is lc i Is 2c y pwys. Ymenyn ffres, yn batiau, Is 3c i Is 4s y pwys. Wyau, 12s 6c y 120. Dim caws. Rhaiadr, Chwef. Ileg.-Cyflenwad lied dda, a chafodd ei werthu yn gynnar am brisiau boddhaus. Wyau, Ic yr un; ym- enyn, Is 2c a Is 3c y pwys ysgyfarnogod, 2s 6c yr un cwningod, 9c yr un; pytatw yn Ilawn 5s 6c y 112 pwys; cvwion, 10c i 10c y pwys; ffowls byw, 4s i 5s y cwpl; a hwyaid, 10c y pwys. Castellnewydd Emlyn, Chwefror 6ed.— Y cynulliadau yn fychan dydd Gwener, ond y galw yn dda. Swm bychan o ymenyn Ymenyn di-halen yn lympiau at flendio, Is O}.c; etto, yn hallt, mewn casgiau ac wedi ei flendio, Is i Is Oie, yn ol ei ansawdd etto, yn rholiau Is 2c y pwys. Y ffowls yn brin-ffowl ieuainc, 6c y pwys- neu 4s 6c i 5s 3c y cwpl hen ffowls, 2s 6c i 3s. 3c y cwpl hwyaid tewion, 6|c i 7c y pwys, neu o 4s 2c i 5s 6c y cwpl. Cwning- od, 5Je i 7c yr-un ac ysgyfarnogod, 2s 6c yr un. Yr oedd wyau yn weddol lawn, yn ol 10s y 220. Dinbych, Chwefror lSfed.^—Ffowls, o 5 i 6s y cwpl wyau, deg ac lleg am swllt ymenyn ffres, Is 3c y pwys tybiau bach, o Is 3c i Is 31cy pwys; biff, 7c i 11c y pwys myton, 8c i 10c y pwys much tewion (ya fyw), o 5c i 5ic y pwys cwningod, Is 6c y cwpl; gwlan V-aesnig, o Is i Is lc; a. gwlan Cymreig, o lOc i 10Jc y pwys. GWlaR. Bradford, Chwef. ICeg.—'Does fawr gyf- newidiad wedi digwydd yn y farchnad, er- fod pobpeth yn dal yn gadarn, ac mae galw gweddol am tops,' symiau mawrion o ba rai sydd yn myned i'r America.. Hefyd, y mae y galw sydd am wlan y Trefedigaethau a 'tops' yn effeithio ya dda ar wlanau Prydeinig, er nad yw y prisiau wedi codi braidd ddim. Canterbury, Chwefror 16eg. -Cneifiau Kent, Is i Is Ole cneifiau half bred, Is Oc; a Downs, Is lc i Is 2-ic y pwys. Caws. Nantwich, Chwefror 12fed.-Y cyflen- wad caws yn ",lain tynelL Gwnai y caws gpreu o 80s i 85s y cwt. (un lot neillduol yn -gwneud 87) canolig 75s i 79s ac i lawr i 60s. Wem, Chwef. lleg.—Naw tynell o gaws oedd yn y ff air hon, ac fe'i gwerthwyd oil. Y caws goreu yn cyrhaedd o 80s i 85s; etto canolig, 75s i 79s ac i lawr i 70s y cwt. Gwair, Gwellt, Maip, a Phytatw. Liverpool, Chwef. lfeg.—Hen wair, 3s 6c i 4s 4|c gwellt gwenith, hir, Is Sc i Is 9c eto, bailed, Is 7c i Is 8c gwellt ceirch, bailed, Is 7ci Is 8c y 112 pwys. Pytatw- Main crop, 4s i 4s 6c King Edward, 2s-8c i 3s; uptodates, 2s 2c i 2s Gc y 112 pwys. Maip yswedaidd, o Is 3c i Is 4c y 112 pwys: carrots, 4s i 5s y 112 pwys. Wynwyn. tramor o 9s 6c i 10s ík y bag.
FFEIRIAU CYMRU.
FFEIRIAU CYMRU. Y rhai a gynelir yr wythnos nesaf. Y GOGLEDD. Chwef. 24—Eglwysbach, Llangollen, Caer- wys, Trefnewyda, Amvvythig, Birkenhead. „ 25—Llandrilio (Meirionydd), Croes- oswallt. „ 26- Caerlleon. Cann Office, Llan- fyllin. „ 27—Meifod, Rhiwabon, Treffyn- non. v Y DEHEUDIR. Chwef. 2,A-Pont Senny (anifeiliaid). „ 25—Caerwent. 26—Caerphili. „ 2-1-Pont Senny (adar a defaid)-