Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

ISEION, GORE STREET, MANCEINION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SEION, GORE STREET, MANCEINION. CYFARFOD BLYNYDDOL Y TRUST. Cyn- haliwyd hwn nos Sadwrn a dydd Sabboth, Chwefror 7 a'r 8fed, pryd y cawsom ein breintio a gwasanaeth gwerthfawr y Parch Charles Jones, Bangor. Dyma mi gredaf .oedd y waith gyntaf iddo ein gwasanaethu mi ar ol ei ymadawiad o'r Coleg, ac ar ol y gyfres godidog o bregethau gawsom .ganddo, gobeithiwn cawn ei wel'd dipyn ya amlach yn ein plith. Traddododd bregethau grymus a dylanwadol dros ben, ..efengyl hynod o amserol, yn enwedig i'r bobl ieuainc, gyda galwad ynddi i fyw Crist, ac i roi ein cwbl iddo Ef. Roeddwn wedi clywed llawer iawn am ei lwyddiant fel bugail, hefyd fel pregethwr poblog- aidd, ond dyma oedd y tro cyntaf i ni gael y fraint o'i groesawu i Gore St. Diolchwn iddo am ei gyngor buddiol. a'i eiriau doeth, a gobeiihiwn eu bod wedi syrthio ar dir da. Y MYNEGYDD. Mae chwarterolyn y GyIchdaith am y chwarter presenol eisoes wedi dod i law ac yn cynnwys adroddiad ,cyflawn o'r oll o'r aelodau am y flwyddyn diweddaf. Heblaw hynny ceir conantau am amryw o'n cyfeillion ymadawedig, hefyd cofnodion y Cyfarfod Chwarter, ■Cyfarfod y Pregethwyr ac ym mlaen, gyda'r plan am y Chwarter. Yr oil am ddwy geiniog. Gan fod amryw wedi hys- bysu y buasent yn caru cael copi o'r Mynegydd yn rheolaidd, bydd yr Ysgrif- envdd, Mr R. M. Williams, Chapel House, Hardman Street, yn barod iawn i'w danfon i unrhyw gyfeiriad am 10c. y flwyddyn, neu 2-ic yr un (inland postage). Mae'r cylchgrawn hwn o dan olygiaeth ein parchus Arolygwr, y Parch Aneurin Lloyd Hughes, yn llawn werth ei bris, ac yn cynwys fel arfer Newyddion Lleol, bywgraffiadau o Enwogion Cylchdaith Cymreig Manceinion, ac yn mlaen. Mae yn hynod o dyddorol i'r rhai sydd wedi bod yn dal perthynas a'r Gylchdaith. CLEIFION. Mae'n dda genym gofnodi fod Mr Rees yn dal i wella er yn araf, araf iawn, eto mae ychydig o welliant yn gal- ondidmawr. Mae yn chwith iawn golli ei wasanaeth yn Gore Street. Dymunem hefyd datgan ein llawenydd at ddychwel- iad gartref May, sef eneth fach Mr a Mrs John Thomas. Mae May wedi bod yn yr Infirmary am wythnosau lawer, 'rydym wedi ei cholli yn y Gobeithlu a'r Ysgol Sul. Dymunwn adferiad llwyr a buan iddi. YMDRECH YR ADGYWEIRIO.—Gan fod y Cyfarfod Blynyddol wedi myn'd heibio, rydym am droi y 'screw' dipyn gyda'r ,drysorfa uchod. Fe] yr ydychyn gwybod Thaid ei chau i fyny erbyn yr wythnos gyn- taf ym Mawrth, a hyderwn y gwna pawb ei oreu gyda'r ymdrech er mwyn ei gwneud yn un llwyddianus. Ni charwn ddod ar ol eich addewidion gyda pistol" mewn un Haw i ymofyn am eich ewyilys da," ond carwn yn hytrach i boced Mr Jenkins fod yndebygi rhyw "fagnet" fawr yn tynu -eiela pres i mewn. PRYNES. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Er nad oes crybwylliad wedi bod er's peth amser yn y G. N. am y Gymdeithas uchod, yr ydym wedi cael cyfarfodydd rhagorol mewn ffordd o bapurau, dadleuon, ac anerchiad- au, gan frodyr a chwiorydd yr eglwys. Nos Fercher, Chwefror lleg, oedd noson planty Band of Hope. Cafwyd cynulliad gweddol, ond fe allasai fod yn well. Yn ystody cyfarfod cafwyd caneuon, adrodd- iadau, a 'dialogues,' gap y plant. Fe waaethant eu gwaith yn rhagorol iawn, ac yr wyf yn sicr fod pawb wedi mwynhau eu hunain wrth wrandaw arnynt. Wrth ddiolch i'r plant carwn ddiolch hefyd i Mr Jenkins a Miss Marie Roberts am ddysgu y plant eu rhanau mor dda. Y mae y cyng- herdd yma yn dangos ol llafur ac ymdrech ,mawr ar ran y brawd a'r chwaer a nodwyd eisoes, ac mae hefyd yn dangos fod y Band of Hope yn llwyddo dan ofal Mr Jenkins. Gobeithiwn bydd y Band of Hope yn ciore Street yn parhau i lwyddo yn y dyf- odol. Yr ydym hefyd yn diolch i Miss Sally Williams am ganu. Cymerwch nodiad o'r dyddiad Mawrth 25ain, noson fawr y tymor, Social y Ilanciaiu." YSG. I

SALEM, CYLCHDAITH ABERGELE.

ICOLWYN BAY. ,I

I BRONYNANT.'.I

1- iABERDAR. II

I TREORCHY.Ij

TRE'R DDOL.

PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.

HARLECH.

I GRAIGFECHAN, RIlUTHYN.

IDINBYCH.--I

I HIRWAEN, RHUTHYN. I

I RHUTHYN.

ABERDYFI. ,\,I

TABERNACL, TREGARTH. I!

I-MYNYDD SEION, LEEPWL.

CARNO.

PONTARDULAIS.

IGYFFIN, CYLCHDAITH CONWY.\