Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
\- Y -Senedd. -I
Y Senedd. I L !■ I i I ;'< Mesur Dadgysylltiad. 'I iiWl-4 DEISEB ESGOBAETH LLAN- I ELWY. Aed ym mlaen gyda'r ddadl ar yr An- erchiad mewn ateb i Araeth y Brenin. Yr Anrhyd. W. Ormsby-Gore (C.), Bwrdeisdrefi Dinbych, a gynnygiodd welliant Yn gofidio fod y Llywodraeth yn bwriadu myned yn mlaen gyda Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru, gan nad oedd yn aael ei gefnogi gan y wlad, a'i fod yn a.cbosi gwrthwynebiad cynyddol oddi wrth aelodau yr holl enwadau yn Lloegr a Chymru.' Aeth Mr Ormsby-Gore yn mlaen i ddweyd nad oedd neb erioed wedi gwneud unrhyw ymgais i ddangos lod yna gefnogaeth boblogaidd y tu ol i'r Llywodraeth i'r mesur hwn ar ei rinweddau ei hun. Y cyfan oedd y Llywodraeth yn ei wneud ydoedd def- nyddio enw y bobl er cario allan opin- iynau a dymuniadau y glymblaid (' caucus '). Nid oedd yna unrhyw frwdfrydedd dros y mesur yn y Ty. Trwy gynorthwy y blaid Wyddelig, yr oedd y glymblaid wedi cario dau o brif bwyrtiau y mesur, ac oni bae ei fod yn rhan a chyfran o gynllun y glymblaid, ni buasai y mesur wedi cael siawDs o basio trwy y Ty. Aeth Mr Ormsby- Gore yn mlaen i gyfeirio at y protest gyhoeddwyd y boreu hwnw, wedi ei arwyddo gan 15,000 o Ymneillduwyr yn N ghy mru- protest, fe ddywedai, oedd wedi ei godi gan bwyllgor o'r Rhydd- frydwyr mwyaf cadarn. Nid gwehilion Ymneillduaeth oeddynt, ond dynion blaenllaw, pa rai ddaethant allan i'r cyhoedd yn erbyn y cynnygion. Yr oedd dros 700 yn dyfod o blwyf Rlios- llanerchrugog, yn nwyreinbarth sir Ddinbych, yr hwn le a gydnabyddid fel un o brif gadarnfeydd Rhyddfrydiaeth yn Ngogledd Cymru, os nad yn y Dy- wysogaeth. Wedi hynny aeth yn mlaen i ddyfynu o'r 'Faner.' Nis gellid dirmygu y 15,000 Ymneillduwyr hynny. Yr oedd y protest wedi ei arwyddo gan 29 o weinidogion, a 158 o ddiaconiaid o'r gwahanol enwadau Ymneillduol. Yr oedd y protest wedi ei harwyddo ar waethaf y ffaith fod yr aelod anrhyd eddus dros sir Fflint wedi argymhell pobl i beidio ei harwyddo, ac ar waethaf pob ffurf o ysgriw y capel. Mr Herbert Lewis a ddywedodd mai yn yr unig gyfeiriad a wnaeth ef at y ddeiseb dywedai ei fod yn gobeithio na byddai i unrhyw landlord ofyn i'w den- antiaid, na byddai i unrhyw gwsmer ofyn i'w fasnachwr, ac na byddai i un- rhyw gyflogydd ofyn i'w weithiwr ar- wyddo y ddeiseb. Tynodd Mr Ormsby-Gore ei sylw yn 01 o berthynas i'r aelod anrhydeddus. Nid oeda y bobl ddarfu arwyddo y ddeiseb yn ildio i unrhyw ysgriw o gwbl (cym. yr Wrthblaid). Yr oedd y mesur yn cael ei basio fel y lever' goreu i gael swyddi, gwobr, a gwaith (cym. yr Wrthblaid). Yr oedd y Lly- wodraeth yn dwyn i mewn y Goron er gor-drechu barn y bobl (gwaeddiadau o Trefn Trefn !'). Y Llefarydd:—' Nid wyf yn meddwl ei bod yn angenrheidiol i ddwyn y Goron i mewn i'r mater hwn' (cym. y Rhyddfrydwyr). Tynodd Mr Ormsby-Gore ei sylw yn ol. Ei safle ef ydoedd fod y Llywod- raeth wedi defnyddio rhagorfraint y Goron er dwyn y cyfansoddiad gwladol i gyflwr o bediad, ac yn ystod yr oediad yr oeddynt yn ceisio gwthio yn mlaen yn erbyn cydsyniad cyhoeddus Fesur Ymreolaeth a Mesur Dadgysylltiad er eu pasio yn gyfreithiau (cym. yr Wrth- blaid). Eiliwyd y gwelliant gan Syr A. Griff- ith Boscawen (C.). Mr McKenna a ddywedai mai yr unig gasgliad ellid dynu oddi wrth areithiau y cynnygydd a'r eilydd ydoedd fod y Llywodraeth, er mwyn egwyddor, yn barod i aberthu eu poblogrwydd (cym. y Rhyddfrydwyr). Cytunai nad oedd y mesur yn cael ei hoffi gan adran o'r bobl, ond yr oedd hynny bob amser wedi bod, ond yr oedd yna ddigon o dystiolaeth fod barn gyhoeddus wirioneddol Lloegr a Chymru yn ffafr y mesur. 0 berth- ynas i'r honiad fod y mesur yn myned yn amhoblogaidd, dywedodd Mr McKenna fod yna dair o etholiadau achlysurol wedi cymeryd lie yn y Dywysogaeth er pan gyflwynwyd y mesur, ac yr oedd y mwyafrif unol yn ffafr y mepur dros 4,000 o bleidleisiau, tra nad oedd mwyaf- rifau unol yr aelodau Ceidwadol eis- teddent dros dair etholaeth Gymreig yn rhifo mwy na 300 (cym. y Rhyddfryd- wyr). Nid oedd ond un etholiad ach- lysurol wedi bod yn Lloegr ar ba un yr oedd y cwestiwn Cymreig yn troi-a honno oedd Bolton-ac enillodd yr ym- geisydd Rhyddfrydig y frwydr gyda mwyafrif o 1,200, yr hyn a brofai fod y mesur mor boblogaidd yn Lloegr hedd- yw ag erioed (chwertbin yr Wrthblaid). Trwy ddyfyniadau o areithiau etholiad- ol aelcdau yr Wrthblaid dadleuai Mr McKenna fod y bobl yn gwybod am fwriad y Llywodraeth i basio y mesur hwn dan y Ddeddf Seneddol, ac nid oedd yina arwydd o gwbl ei fod yn myned yn amhoblogaidd (cym. y Rhyddfrydwyr). Yn mhellach, o berth- ynas i Gymru, yr oedd y lleiafrif o gynrychiolwyr seneddol oeddynt yn wrthwynebol i ddadgysylltiad wedi disgyn o naw i dri yn ystod y 19og mlynedd diweddaf. Nid oedd y ffaith yna yn dangos unrhyw ostyngiad yn mhoblogrwydd y mesur (cym. y Rhydd- frydwyr). Nid oedd cysgod o amheu- aeth nad oedd cryfder y teimlad yn ffafr dadgysylltiad a dadwaddoliad heddyw mor gryf ag erioed (cym. y Rhyddfrydwyr). 0 berthynas i'r ddeis- eb a nodwyd, yr oedd y pwyllgor wedi dewis esgobaeth fel canolfan neu gylch eu cyfundrefn. Hysbysid ef (Mr McKenna), hefyd, fod cadeirydd y pwyllgor a gododd y ddeiseb i fyny yn Geidwadwr selog, ac os oedd efe yn aelod o'r eglwys Ymneilltuot yn y lie nad oedd mwyach yn byw ynddo, nad oedd efe wedi ymuno ag eglwys Ymneillduol yn y lie yr oedd efe yn awr yn byw (chwerthin). Yn sicr, yr oedd yn Geid- wadwr selog. Pa dystiolaeth oedd yna fod y teimlad wedi newid pan oedd Ceidwadwr yn arwyddo y ddeiseb ? Gofynai i'r aelod anrhydeddus gyfeir- iodd at y ddeiseb os oedd efe yn gwneud ei hun yn gyfrifol am ddwy ffaith hon- edig ganddofod y 15,000 oeddynt wedi arwyddo y ddeiseb yn Ymneilldu- wyr, ac fod yna 29 o weinidogion a 158 o ddiaconiaid yn mysg yr enwau. Mr Ormsby Gore a ddywedodd nad oedd efe yn gyfrifol am y ddeisdeb. Nid oedd ef na'r Ceidwadwyr yn gyfrif- ol am dano. Mr McKenna a ddywedodd fod y boneddwr anrhydeddus yn cydnabod mai ychydig iawn a wyddai am y ddeiseb. Hysbysid ef fod Mr Williams, cadeirydd y pwyllgor, yn Geidwadwr cryf. Gofynai Mr McKenna i'r Ty attal barn ar y ddeiseb hyd nes y dygid hi ger bron Pwyllgor y Deisebau. Yr oedd eisoea. wedi cael allan fod nifer o'r enwau yn yr un llawysgrifen. Yn ab- senoldeb y. ddeiseb hono nid oedd yna ddim tystiolaeth o unrhyw gyfnewidiad yn yffarn gyhoeddus (cym y Rhyddfryd wyr). Mr Hoare (C.), a siaradodd dros y gwelliant. Syr D. Brynmor Jones (R.), cadeir- ydd y Blaid Gymreig, a ofynai i'r Wrthblaid pa dystiolaeth fuasai eu hargyhoeddi fod y mesur hwn yn der- byn y cyfryw gefnogaeth fel ag i gyf iawnhau y Llywodraeth mewn myned yn mlaen gydag ef? A fuasent yn foddlawn pe mabwysiadai y Cymry yr un polisi milwriaethus a'r suffragets, neu fabwysiadu polisi rhwysfawr Ulster, ac arwyddo cyfamod er gwneud llywod raeth yn Nghymru yn amhosibl? Ai dyna'r dystiolaeth dderbynid ganddynt ? Nid oedd yr un symudiad er diwygio y Cyfansoddiad—naill ai yn yr Eglwys neu yn y Wladwriaeth-wedi derbyn y fath gefnogaeth gysson, eang a pharhaus, ag oedd yr un er dadgysylltu a dad- waddoli yr Eglwys Seisnig yn Nghymru (cym. y Rhyddfrydwyr). Mr Balfour (C.), a siaradodd dros y gwelliant, gan wadu nad oedd Cymru yn adran ar wahan yn ystyr y mesur hwn. Yr oedd hi yn rhan hanfodol o Lloegr, ac yr oedd y mesur yn effeithio ar yr Eglwys Saesnig. Mr W. Llewelyn Williams (R.), Caer- fyrddin, a wadai fod yna unrhyw dyst- iolaeth fod y mesur wedi myned yn ammhoblogaidd yn ystod y ddwy flynedd diweddaf. Yr oedd rhywbeth wedi ei ddyweyd o berthynas i ddeiseb yn erbyn y mesur a arwyddwyd gan 15.000 o Ymneillduwyr. Gyda gwyb- odaeth o nodwedd deisebau blaenorol, yr oedd yn ammheus o'r deisebwyr presennol, ond gallai fod yna amrryw Ymneillduwyr oeddynt yn anfoddlawn ar y mesur. Ar y Haw arall, camgym- meriad ydoedd meddwl fod pob Eglwys- wr yn erbyn y, mesur. Yr oedd yna fwy o Eglwyswyr os Gymru yn eistedd ar feingciau y Llywodraeth nag a eis- teddai gyda'r Wrthblaid. Gofynai a oedd yna Ymneillduwyr wedi troi eu lliwiau er yr etholiad diweddaf ? Yr oedd Cymru wedi hawlio y mesur hwn er's can mlynedd, ac yr oedd yn hollol sicr nad oedd Lloegr yn myned i osod rhwystr ar ffordd sylweddoliad o'i gob- eithion. Deuent yno mewn modd cyf- ansoddiadol-heb fygythiad ar eu gwefusau (cym. y Rhyddfrydwyr)—yn hyderus na byddai iddynt gael eu hamddifadu o'r weithred fechan hon o gyfiawnder. Ymranodd y Ty ar welliant Mr. Ormsby- Gore:— Dros y gwelliant 217 Yn erbyn 279 Mwyafrif i'r Llywodraeth 62 LlangacSwaSadr. Bu y Parch. W- O. Jones, Aber, yn clysgu trigolion Liangadwaladr, r»os Lun, peth mor angenrheidiol oedd Common Sense,
TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL. i
TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL. i Y Tollau a'r Gymunroddion. I Gadawodd y diweddar W. Langham Christe, cyn-aelod Seneddol Toriaidd eiddo gwerth miliwn o bunau ar ei oL Bydd y death duties ar ei ol dros £ 140,000. Mr Roch, A.S. I Cafodd un o'r aelodau Cymreig—yr aelod ieuanc dros sir Benfro—yr an- rhydedd o gynnyg yr Anerchiad Bren- hinol eleni. Siaradwr ffein yw Mr Roch. Nid oes nerth a grym yn yr areithiau a draddoda, ond y mae yn ennill clust y Ty am ei fod mor swynol a rhesymol. Y mae yp deall cwestiwn yr Eglwys yng Nghymru cystal a neb pwy bynnag, ag ystyried mai Eglwyswr ydyw. Mae y llyfryn bychan a gyhoeddwyd ganddo 6 swyddfa y Daily Chronicle" yn taflu golwg newydd ar y pwnc o lawer cyfeiriad. Wel, prydnawn dydd Mawrth, diweddaf, siaradodd yn reit dda, ac ar ei 01 pregethwr newydd arall, fsef Mr Gordon Hewart, gwr sydd, osca fywyd a dyfodol pwysig o'i flaen yn y rheng- oedd Rhyddfrydig. Siaradodd yn gamp- us dros ben. Mewn gair, y mae y rhengoedd Rhyddfrydig ar hyn o bryd yn orlawn o dalent, a'r Pen Cadfridog Asquith fel Saul ymhiith y proffwydi. i Diwygiad Dirwestol, Yn y ddadl ar araith y Brenin, Mr. Leif Jones (R.), a gododd i gynnyg gwelliant o berthynas i Ddeddfwriaeth ddirwestol. Gofidiai nad oedd Araeth y Brenin yn cynnwys addewid bendant am y mesur hir-addawedig agwir angen- rheidiol ar ddirwest i Loegr a Chymru. Appeliai Mr. Jones ar gael tymor hydrefol y fiwyddyn hon i basio Mesur Trwyddedol. Yr oedd diwygwyr dirwest ol wedi aros yn biram byn. Attebodd Mr Asquith i'r sylwadau, gan gyfeirio at Fesur Trwyddedol 1908. Nid bai y Llywodraeth oedd na chafodd y mesur hwnw ei roddi ar ddeddf lyfr y wlad. Oddi wrth ddyfyniadau wnaed gan Mr Leif Jones, da oedd ganddo ef (y Prifweinidog) ei fod wedi cadw yn fanwl at bob ymrwymiad a roddodd. Yr oedd yn glynu wrth yr hyn a ddywed- odd wrth y ddirprwyaeth ddwy flynedd yn ol, sef mai gobaith a bwriad y Llyw- odraeth o fewn oes y Senedd bresennol, ydoedd myned yn mlaen gyda deddfwr- iaeth o'r nodwedd yma (cym. y Rhydd- frydwyr). Nid oedd y ffaith fod y Llywodraeth wedi peidio nodi y mesur yn Araeth y Brenin yn golygu o gwbl fod eu sel wedi lleihau, ond gwnaed hyny mewn rbag-ochelwch o berthynas i bwysigrwydd y mater, a dyledswydd ac ymrwymiad y Llywodraeth a'r blaid Ryddfrydig i ddelio ag ef yn fuan ac effeithiol (cym. y Rhyddfrydwyr). Gohiriwyd y ddadl, a chododd y Ty am bump o'r gloch. Dadl Fawr I Yr wythnos hon trefnid i ddadl gym- eryd lie yn Undeb Efrydwyr Rhydychain ar gwestiwn Dadgyssylltiad rhwng Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., ac esgob Ty Ddewi. Ysgol Feddygol i Gymru. I Yr wythnos o'r blaen ymwelodd Dirprwyaeth fawr a dylanwadol o Gymru a Mr Lloyd George i osod ger ei fron gais am gymorth o'r Trysorlys at sefydlu Ysgol Feddygol i Gymru. Yr oedd y ddirprwyaeth yn un eithriadol o gref, ac yn cynwys gwyr fel Syr D. Brynmor Jones, Ormsby-Gore, David Davies, Syr Henry Lewis, tri phrifath- raw'r Colegau Cenedlaethol, Mr T. H. Parry, Mr T. J. Hughes, Mr Tom Jones, &c. Cyflwynwyd y ddirprwyaeth gan Mr David Davies, A.S., a siaradwyd yn mhellach gan Arglwydd Keynon, Arglwydd Merthyr, Cyrnol Bruce Vaughan, Syr Amroth Wright, Prof- essor Hepburn, a Dr. Maclean. Yr oedd Syr W. J. "Thomas, Ynyshir, eisoes wedi addaw C30,000 ar gyfer ad- eiladau, ac yn awr yr oedd y ddirprwy- aeth yn gallu gyda llawenydd hysbysu 'fod rhoddwr anhysbys yn rhoi'r swm tywysogaidd o £ 60,000 at yr un- amcan. Dadi fawr y ddirprwyaeth i'r Canghell- or oedd fod y ffaith fod gandd ynt C90,000 at yr adeiladau yn eu cyfiawnhau yn gofyn am grant o'r wladwriaeth at gyn- al Ysgol Feddygol Genedlaethol. Ni taid dweyd fod y Canghellor yn ffafriol i symudiad mor bwysig a bendithiol i'w wlad; ond gall ei bod yn rhy gynar i ddisgwyl am unrhyw addewid bendant. Yn y drafodaeth gymer le, arwelniodd pethau i son am i gronfa gael ei chodi gan Brifysgol Cymru. Yn y diwedd penderfynwyd cyflwyno'r holl fater i Is Bwyllgor, i'w gymeryd i ystyriaeth yn ei holl agweddau, ac i gyflwyno ad- rod di ad eto. Costau Teithio. I Mewn cyfarfod o Bwyllgor Yswiriol sir Fflint, dydd Mercber, penderfynwyd gwneud cais at y dirprwywyr Cymreig am awdurdod i dalu costa,u teithio yr j l aeloda up an yn mynychu y pwyiigorau • a'r is bwyllgorau. v (J
Advertising
I Argraffwyd "Hanes Wesleyaeth Gymreig" yn y Swyddfa eang uchod. Danfonwch chwithau eich Gwaith Printio yno. ———— EVAN THOMAS, BANGOR. Total Assets exceed £11,500,000. ,39538SBHB FIRE, LIFE, ACCIDENT, MAR)?? Annuities, Personal Accident, Burglary, Workmen's Compen sation (including Domestic Servants), Sickness, Fidelity Guarantee, Plate Glass, Motor Car, Loss of Profits, Driving Accidents, &c. LIFE.-For the Quinquennium ended 31st December, ]OR. the LARGE REVERSIONARY BONUS of S8 15s. per cent. was, again declared on Sums Assured under the Participating Tables o the Prospectuses. v PrSf Swyddfeydd  Chie'f Office  Head O?ice: ) London Chief OfHco ? Dale Street, LiverpooL  1, Cornhm, E.C. Cardiff Office: 10, Windsor Place. North Wales Office: 202, High Street, Bangor. Applications for Agencies Invited. CWMNI YSWIRIOL CYFYNGEDIG Lerpwl a'r Llundain a'r Glob. Cyfanswm Cyfalaf dros lIt Miliwn o Bunau. Tan, jfywyd, Damweiniau, Morwrio, Blwydd-Daliadau Damweiniau Personol, Tori Ty, lawn i Weith- wyr (yn cyrawys Qweision a Morwynion), Afiecliyd, Diog- ( eliad Cytundeb, Gwydr (Plate Glass), Modur, Coiled Enillions Damweiniau Cerbydau ac felly yn y blaen. BYWYI).—Am y Pum' Mlynedd yn terfynu Rhagfyr, 1908 dychwel wyd yn ol Y RHODD FAWR o S8 15s. y calit Symla Yswiriwyd yn yr Adran Gyfranogol. -,øm w- ¡7'" :L" Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfa'r "Gwyliedyda Newydd," Blaenau Ffestiniog,s