Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
'rCenhadaethau gellgylaidd..1…
'r Cenhadaethau gellgylaidd..1 iL. -—— 1 iI w'c (Adgofion Cysurlawn.) I f  —— (Gan y PARCH HUGH HUGHES). I III. I PENMACHNO. I Yn nechreu Chwefror, 1868, y gwa- hoddwyd fi gan gyfeillion bywiog ac aiddgar Penmachno i gynhal Cenhad- aeth yno. Gwelais ar unwaith fod yn yr eglwys gryn aeddfedrwydd ar gyfer ymosodiad ysprydol ar deyrnas y gelyn. A chan belled ag yr oedd nerthoedd ys- gydwol yn y cwestiwn, ni theimlais ddim cyffelyb yn flaenorol er y Diwyg- iad 1859. Yr oedd y dylanwad fel gwynt nerthol yn rhuthro, a'r Saint yn neidio, dawnsio, curo dwylaw, ac yn gorfoleddu yn uchaf eu lleisiau. Dacw yr hen Sian Thomas ar ei thraed ac yn gwaeddi nerth ei phen a'i chalon, nes gyru rhyw wefr rhyfedd trwy y lie—yr hen frawd Robert Roberts, Swchyrhaf- od, yr hwn y pryd hwnnw a breswyliai yn Penmachno, fel daeargryn yn ysgwyd i graidd ei fodolaeth, ae yna dorri allan felllosg. fynydd, nes y llifai y tan odd aith i bob cyfeiriad. Yn y man dacw freichiau hirion a phreiflion Griffith Roberts yn ymsaethu i'r nefoedd a dod at eu gilydd lawer gwaith i selioyrHaleliwia ddaethai allan yn fonllef annesgrifiol o'i enau a'i galon. Dacw William Roberts a William Davies, mab Sian Thomas- dynion tawelaeh, ond angerddol o dyner a dwfn eu teimlad, yn toddi fel cwyr o flaen y tan, gan wylo ev, gorfoledd allan yn lli. A dyma nodwedd y cyfarfodydd ar ei hyd. Terfynodd y Genhadaeth y nos Sul dilynol, ac y mae rhoddi des- grifiad llawn o'r dylanwadau nerthol y diwrnod hwnnw tu hwnt i'm gallu. Bu yn fendith ac yn wroldeb ar gyfer y dyfodbl i'm henaid i fy hunan. Cafodd yr Arglwydd rhyw oruchafiaeth fawr- eddog ar y dyrfa fawr, a phawb fel pe wedi ymollwng i gael eu cludo gan y llifeiriant i'r lie y mynai Duw. Nid oedd rhif y dychweledigion mor fawr ag a welais mewn rhai lleoedd eraill, a nodweddid gan arddangosiad o'r fath nerthoedd ysgubol. Dichon fod y fath gyffro yn mysg y Saint yn arddangosiad oedd yn tynu sylw y gwrandawyr oddi- wrth genadwri arbenig y pwlpud. Pa fodd bynag, yr oedd yn ddyddiau y nef- oedd ar y ddaear. Teimlwyd nerthoedd a ymweithient o'r anweledig i'r eglwys weledig, a gryfhaodd ffydd llawer yn ngallu Duw i ddelio yn ogoneddus gydag eneidiau dynion pechadurus yn ogystal a'r Saint. Y mae yr adgofion am y nerthoedd hynny yn parbau i fod yn ffynhonell nerth i'm calon yn y cyfnod aflwyddianus hwn ar grefydd yn ei hag- weddau uwchaf, cyfnod y mae sosials a gwleddoedd yn ormod o factor i gadw pobl ieuanc rhywfodd mewn undeb a'r eglwysi. Ycbydig iawn sydd yn Pen- machno heddyw, ag sydd yn gallu ymuno a mi mewn adgofion melus fel hyn. Y maent bron oil wedi croesi y llinell i'r lie y mae ei drigolion oil yn canu can Moses a chan yr Oen." Gweddied eu holafiaid am yr un nerth oedd dwyfol. Rhaid eu cael eto, er o bosibl mewn ffurfiau gwahanol, cyn y daw y wlad dan lywodraeth y Brenin Ieiu. DINBYCH. I Yn ystod y gauaf cyntaf wedi i mi ymsefydlu yn Cefnmawr, tua diwedd y flwyddyn 1868, y gwahoddwyd fi i gyn- hal Cenhadaeth yn Ninbych. Yn Salem y cynhelid y cyfarfodydd ac eithrio nos Sul pan y bu raid symud i Pendref oherwydd y dyrfa. Cymerwyd diddordeb byw iawn yn y symudiad gan oreugwyr yr achos. Ac eithrio Mr Harrison Jones, a Mr L. W. Griffith, Llandudno, yr hwn oedd yn ddyn ieu- anc iawn, y maent bron oil wedi gadael am wlad y gwynfyd tragwyddol. Ni nodweddid y cyfarfodydd gan gyffro gweledig mawr, ond yr oedd yno ddylan- wad distaw, angerddol, a threiddiol, ag ydoedd yn llenwi y bobl ag awyddfryd i fod yn y Ty yn addoli ddydd a nos. Ymlonyddent yn hyfryd a phwyllog yn y dylanwadau dwyfol-y cyflwr medd- wl a bywyd hoffwn weled yn nodweddu eglwys Dduw bob amser ac yn mhob man. Tua. 30 a ymunasant a'r eglwysi yn ystod yr wythnos, a throdd rhai o honynt yn ddynion o ddefcyddioldeb, a dylanwad mewn gwahanol fanau. Cym- erwyd rhai o honynt gartref yn ystod y ddwy neu dair blynedd diweddaf. Cef- ais ymddiddan hyfryd a benditbiol a rhai o honynt yn nghylch y blynydd- oedd o'r blaen pan y digwyddem gyfar- fod a'n gilydd. Ac nid wyf wedi cyfar- fod a neb o honynt na ddatganent mai yr adgofion o'r cyfarfodydd hyn oedd y peth mwyaf anniieadwy yn eu boll bywyd. Ac heb adgofion o'r fath yma, fe dderfydd ein banes fel mwg wrth ein sodlau. Nid oes dim llai na'r nerthoedd ysprydol yn yr eglwys, ddeil i edrych yn ol ato oddiar Fryniau Caersalem." Fel y crybwyllwyd, yn adeg y Gen- hadaeth hon, yr oeddwn newydd symud! i Cefnmawr, Cylchdaifch Llangollen, 01 Golwyn yma. Ac yr wyf yn nodi hyn! yn y fan yma, am fod y gauaf hwn yn I Cefnmawr yn un gyfres ddifwlch o gyf- arfodydd bendithiol iawn. Yr oedd nifer yn dod i mewn bob nos Sul am fisoedd. Ac 0 nid oes dim mwy llawn o nefoedd i yspryd pregethwr na llwyddiant fel hyn, yn ei le trigianol ei hun. Pan aethum yno, yr oedd y capel presenol yn cael ei adeiladu, a ninau yn addoli mewn rhyw ystafell gerllaw ag ydoedd mewn gwirionedd yn rhy fach i'r gynulleidfa reolaidd. Yr oedd y lie bob amser yn orlawn ar nos Sul, ac yr oedd hynny fel pe yn ychwanegu y cynesrwydd ysprydol oedd yn yr eglwys. Pa fodd bynag y rboddir cyfrif meddyl- egol am dano, y mae rhyw wefr mewn tyrfa sydd yn agos at y pregethwr, ac at eu gilydd. Ac yn ddiddadl, y mae tuedd boenus i'r pregethwr, yn yr oes hon, i adael cymaint o wagle cydrhyngddynt a'r pregethwr ag a allant. Yr wyf yn credu, pe gallai Ilawer o'n pobl sylwedd- oli y dylanwad ga hyn ar feddwl y pre- gethwyr, y deuent yn nes, er peri i'r gwefr dynol droi yn fanteisiol i'r gwefr dwyfol yn ngwasanaeth y cyssegr. Caf- wyd hyn oil yn Cefnmawr yr adeg hono, ac mae yr adgofion mor fyw heddyw, nes y teimlaf fy hun yn nghanol y tan oddaith. Y mae y nifer fwyaf ddych- welwyd yn Cefnmawr yn ystod y gauaf hwnnw, i'w cael mi gredaf yn y nefoedd, wedi gadael yr anial yn lan. Cadwyd i fyny y gwres ysprydol trwy weithgar- wch ysprydol yn ystod yr haf. Cafwyd llawer odfa am 5 o'r gloch prydnawn Suliau yn nghymydogaeth Acrefair, lie y mae genym achos yn awr, a deuai llawer o esgeuluswyr yn yr orymdaith gyda ni, a sicrhawyd llawer o honynt i'r gynulleidfa reolaidd ac i'r Eglwys. Tybed nad oes mawr angen am hyn yn awr, er mwyn dod i gyffyrddiad a'r byd mawr pechadurus sydd yn gorwedd tu allan i'n cynulleidfaoedd ?' (I barhau).
-TIPYN 0 BOPETH.-II
TIPYN 0 BOPETH. I Gwella Deddfau y Tir I Yn y "Genhinen" yn ei ysgrif ar well a Deddfau y Tir, y mae Mr Llewelyn Williams, A.S., yn dywedyd gair fel hyn—" Pan eir i ddiwygio deddfau'r tir credaf y dylid cadw mewn cof y gwahaniaeth hwn rhwng y Sais a'r Cymro, os ydym am wneud ein goreu dros ein cenedl. Nid wyf yn credu y dylai neb fod yn absolute owner' ar ei dir a'i dyddyn ond os ydym yn myn'd i gael tirfeddianwyr yng Nghymru o gwbl credaf y dylai'r ffermwyr a'r gweithwyr eu hunain gael cyfle, beth bynag, i ddod yn berchenogion ar eu tai a'u tiroedd. Byddai hyn yn sicr o gadw llawer yn y wlad sydd a chwant ymfudo i'r dref a'r gweithfeydd, a chredaf y deuai llawar yn ol o'r dref i'w hen ardaloedd. 0 Lerpwl i Abergwaun. I Proffwyda rhai fod Cwmni y Cunard Line yn bwriadu ymadael a Lerpwl yn ffafr Abergwaun cyn pen dwy fiynedd eto, ac mae yr amcan ganddynt wrth wario cymaint o filoedd ar borthladd Abergwaun ydyw ei wneyd yn brif borthladd eu llongau mawrion sydd yn morio rhwng y wlad bon a, r America. Ni fuasai angen am iddynt fyn'd i gymaint costau yno er mwyn trafnid- iaeth Iwerddon yn unig, oherwydd y mae'r portibladd eisoes yn ddigon o faint a chyfieus i hynny. Teimlir mai gwastraf f ar amser ydyw morio yn mlaenilerpwl wedi i'r mwyafrif o'r teithwyr lanio yn Abergwaun. Yn sicr y mae dyfodol mawr i Abergwaun. Y Goleuad a'r Llan I Dyma air cyrhaeddgar o'r Goleu- ad Wrth gyfeirio at y ddeiseb yn erbyn Dadgysylltiad arwyddwyd gan Ymneilduwyr esgobaeth Llanelwy, cwyna'r Llan oblegid yr ymobodiadau wneir arnynt gan rywrai, ac meddai Feallai y gall y gwyr cydwybodol hyn roddasant gydwybod o flaen plaid, ac uniondeb o flaen Polictics, ymgynal hyd yn oed dan gawodydd digofaint o'r fath yma. Hugan da yw cydwybod esmwyth. Mae iddynt filoedd o gydymdeimlwyr yn mhlith Ymneillduwyr Cymru na phlygant i ddelw Golygyddol-, nac i Nebuchodonozor y set fawr." Dylai y gwyr da hyn mae'n sicr deimlo'n llawen iawn wrth gael eu benditnio gan newyddiadur yr Eglwys, ond gwelir nad yw y fendith yn un drylwyr iawn. "Feallai y gallant ymgynal ddywed y Golygydd. Paham jeallai "? Er cystal dynion ydynt, gwelir na choleddir syniad uchel iawn am eu cryfder. "Peallai." Y mae arogl gas ar y gair. Derbyn yr Her I Derbyniodd Mr John Hugh Edwards, Seneddwr, herr y -Sosialydd Hartshorn i ddadl ag ef ar bwnc y "Minimum WTage. Haydn Jones a'r Ddeiseb. Da genyf weled fod Mr. Haydn Jones, A.S., wedi cymeryd deisebau Anghyd- ffurfwyr Esgobaeth Llanelwy mewn llaw.
DETHOLION SEIAT. ,I
DETHOLION SEIAT. I Gweddi yn hanfodol i wir grefydd. Digrefydd vwlr sawl ni weddiant, pa mor gywir bynag eu credo, a pha mor drefnus. bynag eu hymarwedd- iad allanol. Rhaid i grefydd gyfan, gyfoethog, yn llawn o syniadau clir, ac o deimladau dwysion a dyfnion, ac yn helaeth mewn gweithredoedd da, ddibynu ar weddi ddibaid, gweddio mewn gweddi—hyny yw, yn daer a dif- rifol, yn grediniol ac yn galonog, yn hynaws a hyderus. Y mae gweddi yn grymuso crefydd ac fel y dywedir am yr organ ei bod yn cyfoethogi'r canu yn yr addoliad cyhoeddus, felly y mae gweddi yn cyfoethogi crefydd. Ac i, wneud defnydd pellach o'r gymhariaeth hon, da fod gweddi yn gyfeilydd pob peth crefydd mewn barn a buchedd, mewn ymarweddiad ac ymddygiad, mewn myfyrdod a moliant, yn y cartref a'r cysegr, yn mhob gwasanaeth a gwaith. Gweddi daer gyda phob dyfal bar- had a wna ein crefydd yn gyflawn ac yn llewyrchus, ac a wna ei pher- chenog yn ddedwydd a gwir ddef- nyddiol. Heb y weddi ddyfal bydd y crefyddwr yn druenus o eg wan ac eiddil, heb feddu "syniad yr ysbryd," ac heb barodrwydd i waith yr Arglwydd. Ond y mae yr hwn sydd yn rhodio gyda Duw mewn cymundeb a gweddi yn ymaflyd yn nerth yr Hollalluog; yr effaith ydyw grym a gwres yn ei grefydd, a daw ei dduwioldeb diamheuol i'r golwg-" a'th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel a dal i ti yn yr amlwg." Undeb yr Eglwys. Mae i undeb yr eglwys dair ag- wedd, sef undeb egwyddor, yr hyn yw cariad; undeb ysbryd, sef gwasanaethgarwch, ac undeb am- can, sef iachawdwriaeth eraill. Trwy feddu cariad at Grist, cariad at eu gilydd, a chariiad at y byd, cariad at ddynion yn mhob cyflwr a sefyllfa, y mae yr eglwys yn meddu ar allu i greu adnoddau yn barhaus i gario yn mlaen y gwaith. Mor ddinod oedd y disgyblion cyn- taf a ddanfonwyd allan gan Grist, ac mor ychydig, oeddynt ar gyfer gwaith mor fawr. Er hyny, y dyst- iolaeth am danynt yn fuan oedd, eu bod yn troi y byd a'i wyneb i waered." A dirgelwch eu llwydd iant-neu o leiaf un elf en bwysig yn eu llwyddiant,-oedd y ffaith fod y rhai a enillid ganddynt yn cael eu meddianu a'r un ysbryd a hwythau, ac yn troi yn genhadorj i enill eraill. 0 mor fendigedig yw gwaith yr Eglwys yn y byd, wrth edrych arni yn ngoleuni amcan ei sefydliad, sef iachawdwriaeth en eidiau: yr holl aelodau wedi eu hysbrydoli gan yr un amcan, yr aelodau gwanaf fel y rhai cryfaf, y rhai mwyaf didalent fel y rhai mwyaf talentog, sef yr amcan oedd gan Iesu yn gadael ei orsedd, ac yn myned i Galfaria i aberthu ei fywyd dros eraill. Ac er mwyn cyrhaedd y nod, rhaid i'r eglwys fod yn un. Gall dynion drwy undeb wneud gorchestion fyddai yn anmhosibl iddynt eu gwneud ar wahan i'w gilydd. Felly hefyd, undeb yw hanfod llwyddiant holl sefydliadau yr Eglwys. j Crefydd yn yr achau. Dywedir nad yw crefydd ddim yn rhedeg yn y gwaed. Credwn nad oes neb yn meddu crefydd yn unig am fod eu rhieni yn grefyddol, rhaid achub eu plant hwy fel plant pobl eraill. Ond gwirionedd a ddysgir yn bendant yn y Beibl, ac a gadarheir gan ffeithiau yw, fod Duw yn bendithio plant y rhai sydd yn ffyddlon i'w enw, a rhed crefydd yn yr achau o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid yw hyn yn cym- eryd lie heb ofal a llafur, ac heb i'r plant ddilyn esiampl1 eu rhieni yn yr hyn sydd dda. Mae yr Apostol Paul wedi symio i fyny addysg y ddau Destament mewn perthynas i ddyledswydd y plant tuagat eu rhieni yn. v geiriau hyn y plant ufuddhewch ich rhieni. yn yr Arglwydd; canys hyn sydd gyf iawn anrhydedda dy dad a'th fam (yr hwn yw y gorchymyn cyntaf mewn addewid) fel y byddo yn dda i ti, ac fel byddoch hirhoedlog ar v ddaear. Un o roddion penaf Duw i'r plant yw rhieni duwiol, ac os, diystyra plant eu rhieni drwy beidio ufuddhau iddynt, na gwr- ando ar eu haddysg, nis gellir dis- gwyl fawr o ddaioni oddiwrthynt ;w I'aivr o hwn na'r byd a ddaw. Ond cyn y gallwn ddisgwyl. i grefydd gario dylanwad parhaus ar v plant, rhaid iddi gael lie amiwgynyteulu.
FFARMIO A FFERMWYR. l
FFARMIO A FFERMWYR. l Gerddi Marchnad. I Dro vn ol yng N gbymdeithas Gyd- weithredol Gogledd Cymru, darllenodd Mr. J'ohn Owen, White Cross, Bersham, ger Gwrecsam, bapur ar Erddi March- nad.' Dangosodd pa mor broffidiol oedd yr alwedigaeth o godi ffrwythau a llys- iau ar gyfer y marchnadoedd. Gwyddai am ddyn a weithiai felllafurwr am 2s. 3c. y dydd rai blynyddoedd yn ol. Dechreu- odd godi ffrwytbau, &c., ar haner acer o dir. Yr oadd hyny ddeuddeng mlynedd yn ol. Erbyn hyn yr oedd yn ei fedd- iant saith acer, gyda thy ac adeiladau. Fel hyn y dosbarthai y cnwd-dwy acer o ffrwythau, dwy acer o bulbs, un o wenith, un o geirch, ac haner acer o glofer, ac haner acer i'r ty a'r adeiladau. Ynglyn a'r rhai hyn yr oedd ganddo ardd flodau, a gardd ffrwythau a llysiau, ynghyd a lie i fagu dofednod: Talai rent o ddeg gini y flwyddyn am y ty a'r adeiladau, pum gini yr acer a'r trethi am y tir ffrwythau, dwy bunt a chweig- ian a'r trethi am y tir arall. Holl swm ei ardreth am y saith, acer a'r tyddyn oedd 31p. 15s. 6c., neu 4p. 10s. yr acer. Beth wnai efe allan o'r tir, gofynai Mr. Owen, gan ei fod, yn nhyb rhai, yn talu crogbris am dano. Wel, yr oedd ef ei hun a'i fab (yr hwn sydd yn briod), yn cael digon o waith drwy'r 'flwyddyn, talai gyflog am gynorthwy cyfartal i gyflog dau ddyn tyfai ddigon o lysieu- fwyd ar gyfer y cartref, ac yr oedd ei ystoc bresenol o bulbs (crwnwroiddiau), rhwng 40Gp. a 500p. Dechreuodd gyda'r nesaf peth i ddim o gyfalaf; yr oedd yn mhell o'r prif farchnadoedd, a thalai gryn lawer am gludo'i gynnyrch gyda'r tren, ac etto i gyd yr oedd yn gwneyd bywoliaeth dda i ddau deulu, ac hefyd, yn cynnorthwyo eraill i fyw-y cyfan ar saith acer o dir. Yr arfer yn mysg ffermwyr mawr, oedd cyflogi deugain o weithwyr ar gyfer pob mil o aceri, a dywedai wrth y tir-feistr nas gallai gyflogi mwy am nad oedd hynny yn talu iddo. 0 herwydd hyn, ni cheid o'r tir yr hyn allasai gynnyrchu, ac yr oedd yn rhaid cael ymborth o wledydd tramor i wneyd i fyny'r diffyg, er y gallesid cynnyrchu hwn gartref., Pe cawsai y ffeim o fil o aceri ei thrin yr un modd.a'r saith acer, yn lie cyflogi deugain o lafurwyr, fe fuasai yn cadw saith ugain .0 dsuluodd, a cynnifer a hyny, hefyd, o lafurwyr eithriadol. Caed enghreifftiau eraill hynotach fyth gan Mr Owen o'r hyn ellid elwa oddi ar ardd marchnad.' Llwyddai un dyn, a gychwynodd ar y gwaith yn lied hwyr ar ei yrfa, i wneud incwm clir o 500p. y flwyddyn yn y dull hwn, a darfu i un arall cyffelyb iddo werthu gwerth 1,200p. y llynedd oddi ar ei dyddyn, ac elw rhagorol iddo ei hun. Gallai garddwr proffeswrol yn awr wneyd 200p. y flwyddyn oddi ar haner acer, ac yr oedd un arall, gyda deng acer, yn gwneyd mil o bunnau oddi wrth flodau a mefus. Gwyddai am dàynftrall ddechreuodd gydag ychydig sylltau ddeng mlynedd ar hugain yn ol a chanddo yn awr wyth mil o bunnau yn y bane. 0 Wledydd Eraill. I Dywedodd Mr Owen yn mhellach fod y wlad hon yn talu dau gan miliwn o bunau y flwyddyn am ymborth o wled- ydd tramor, pob ceiniogwerth o'r hwn ellid gynnyrchu gartref, yn cynnwys gwenith. Yr: oedd gwerth yr ymenyn, wyau, a chigmoch a ddygid i'r wlad hon o Denmarc yn unig yn ugain miliwn yn y flwyddyn. Darparai hyn gyflawnder o waith i'r llafurwr yn Denmarc, tra yr o,edd marchnad lafur y wlad hon yn farwaidd neillduol. Dygid i Lundain yn unig bob wythnos chwe mil- iwn ar hugain a banner o wyau o wledydd tramor, lliaws mawr o honynt o Morocco a'r Aipht. Pris yr wyau yn Llundain oedd 2s. 9c. i 3s. y dwsin; yn Mhwllheli ls. 3c. y dwsin. Da oedd ganddo feddwl fod yr amaethwyr yn dechreu deffro i bwysigrwydd y mater a gwnai y Gymdeithas Arpaethyddol Drefniadol gryn lawer o waith da yn y cysylltiad hwn. Cydweithrediad. I Nid oes angen esgusawd dros alw sylw ffermwyr Gogledd Gymru at yr angenrheidrwydd am gydweithrediad rhyngddynt a'u gilydd ynglyn a mater ion sydd a fynont mewn modd arbenig a'u llwyddiant fel dosbarth. Erbyn hyn y mae yn ehwe sir y Gogledd gang- en effeithiol wedi ei sefydlu o'r Gym- deithas Amaethyddol Drefniadol—' The Agricultural Organization Society'—ac y mae'n dda genym feddwl fod y gangen yn gwneud gwaith rhagorol dros amaeth- wyr Gogledd Cymru. Magwraeth Da Byw. Mae gan y Llywodraeth gynUun new ydd ynglyn a i-nagwraetli Da Byw. Yn ol y cynllun darperir swm o 23,000p. i Loegr a Chyrnru i wella rhywogaeth anifeiliaid 5,000p. L gymdeithasau yn ymwneud a liaeth, ac 8,400p. i dalu cyflogau swyddogion i arolygu y gwaith o wella ansawdd y Da Byw yn ngwahan- 01 ranau y wlad—yn gwneud cyfanswm o 37,000p. y flwyddyn. O'r swm hwn fe dderbynia Cymru 188p. i gyflenwi Baeddod; 2,586p. i ddarpar Teirw; 1,680p. i ddarpar ceffylau gwedd, a 950p. i gymdeithasau yn ymwneud a llaeth- cyfanswm o 5,404p., yn annibynol ar yr hyn a ddarperir argyfer y swyddog- ion a benodir i arolygu y gwaith o wella Da Byw. Gallai-rhai dybio fod y swm a enwyd lawer yn rhy fychan, ac fod y cynllun yn rhy gyfyng, ond yn sicr bydd y cynllun o fendith anrhaethol i Gymru trwy symbylu y gwaith o wella rhywog- aeth anifeiliaid; ond er dwyn hyn o amgylch rhaid wrth gefnogaeth galonog ffermwyr yn mhob rhan o Gymru. <
- - - -Llythyrau at y Got…
Llythyrau at y Got -;j) COFFAWDWRIAETH HUMPHREY JONES, Y DIWYGIWR. Mr Gol.Deallaf fod symudiad wedi ei gychwyn ym mhlith ein brodyr y Methodistiaid Calfinaidd i ddathlu coff- awdwriaeth y diweddar Dafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth, fel un o Arweinwyr Diwygiad '59. Gwyr pawb mai i'r diweddar Barch Humphrey Jones y perthyn yr anrhydedd fiaenaf fel cyf- rwng yn llaw Duw er dwyn y diwigiad hwnnw oddiamgylch. (Gwel bywyd y Parch Isaac, Jones gan Glanystwyth, Penod viii.). Yn awr cybed nad yw yr amser wedi dod i rhyw beth gael ei wneud i ddangos ein gwerthfawrogiad fel cenedl o un o roddion psnnaf y net- oedd i ni. Os na wneir rhywbeth yn fuan bydd yr oil o'r rhai brofasant nerthoedd y tragwyddol Ysbryd, yn gweithio arnynt yn y Diwygiad mawr hwnnw, wedi mynd at eu gwobr. Yn sicr carai y eyfryw, gyda Ilawer eraill,, gyfranu swm bychan, dyweder swllt, at roi coflech neu rhywbeth cyffelyb yng nghapel Tre'r Ddol er cof am Hum- phrey Jones. Cof gennym rai misbedd yn ol wel'd llytbyr yn y G. N., gan law fedrus a chalon gynes y tu ol iddi ar y mater hwn. Os ydyw y brawd anwyl hwnnw ar dir y byw, carem iddo ysgrifenu eto. Ond i ni weld fod awydd am i rhywbeth gael ei wneud, bydd yn bleser gennym, gan ein bod ar y tir, wneud rhywbeth allwn gyda'r mater. Gallem ei ddwyn i sylw Cyfarfod Chwarterol CyIr.bdaith Aberystwyth, a Cyfarfod Talaethol y De, ac i'r cyfarfod hwnnw ddewis pwyllgor, neu os barnent yn ddoeth ei drosglwyddo i'r Gymanfa. Hyderwn na adewir i achos cyn deil- ynged syrthio drwodd, gan y credwn nad oes eisiau ond rhoi cyfle 03. bydd llawer yn awyddus i'w gefnogi. Yr eiddoch, x R. HUGH PRITCHARD. Wesley Villa, Tre'r Ddol, Glandyfi.
- I J ISOCIAL CONNAH'S QUAY.,
I J SOCIAL CONNAH'S QUAY. Syr,-LIawenydd mawr i mi, ydoedd canfo.d trwy ddarllen yr adroddiad a ymddangosodd yn y G N., Chwefror 17eg, o'r cyfarfod uchod, fod yr eglwys fechan gynyddol yn y lie hwnw wedi rhoddi amlygiad o'i gwerthfawrogiad o lafar llwyddianus y Parch Daniel Marriott yn ystod y blynyddoedd y bu yn preswylio yn y lie. Nid oes le yn meddwl neb a wyr rywbeth am wasan- aeth ddyfal a diball Mr Marriott, i'r Achos Wesleyaidd yn Connah's Quay, i achlesu y gronyn lleiaf o amheuaeth am ei deilyrigdod i dderbyn y gydnabydd- iaeth helaetbaf yn ngallu yr eglwys i'w rhoddi iddo., Gellir dyweyd yr un peth hefyd am y gwasanaeth gwerthfawr a roddbdd Miss Marriott i'r Achos. Diolchaf i." Un o'r Eglwys" am ei adroddiud, ac wrth wneyd hyny galwaf ei sylw at y canl- gymeriad y syrthiodd iddo wrth roddi engraifft "o ffydd gref Mr Marriott mown gweddi "—nid myned at yr un a eilw ef yn hen foneddwr crintachllyd y plas i, ofyn am dir i adeiladu capel newydd a wnaeth Mr Marriott. Yr oedd tir i hyny wedi ei sicrhau yn flaenorol, ac yn wir y capel wedi ei ad- eiladu, a'i agor i wasanaeth crefyddol Cyn i Mr Marriott gael ei alw i bres- wylio i'r lie. Yn hyn o wasanaeth i'r Achos ereill a lafurasant, ond aeth Mr Marriott i mewn i'w llafur hwynt, a gwnaeth wasanaeth a erys byth mewn coffadwriaeth, yn nghyflawniad yr hwn yr enillodd enw anrhydeddus—" Con- nah's Quay's Grand Old Man." Fe wel, Un o'r Eglwys mai,rhyw bwr- pas arall oedd i ymweliad Mr Marriott a boneddwr y plas." GWR Y YOTY. [Mae y gohebydd o Connah's Quay wedi anfon gair attorn yn cywirio y carogymeriad uchod, a hyny yn 01 cais Mr Marriott ei hun. Gamgym- eryd yr banesyn am y tir a wnaetb am hanesyn arall. Yr y,*m yn|gwbl unfarn a'n dau ohebydd na thai Connah's Quay yn rhawg eu holl ddyled i Mr a Miss Marriott.GOL.]