Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

- LLANDYSSUL.- - - I

1111.FFLINT. ',I

IMAENTWROG. I

CARNO I

LLYTHYR 0 LLUNDAIN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR 0 LLUNDAIN. I Llith John Henry. I Llundain, Chwefror 23ain, 1914. Fy annwyl Ewyrth Dafydd,— Rhag ofn eich bod wedi cael braw oddi- wrth y llith diweddar o Lundain yn y Gwyliedydd Newydd, yr ydwyf yn prysuro i'ch sicrhau fy mod ar dir y byw, ac nad oedd yr afiechyd y soniai y llith hwnnw am dano yn ddim amgen nac ymosodiad ysgafn o'r Influenza, yr hwn, mae'n dda gennyf eich hysbysu, a giliodd cyn pen hemawr o ddyddiau. Prysurdeb i gyfeiriad arall sydd yn cyfrif i raddau hel- aeth am fy mod wedi esgeuluso ysgrifennu yn ddiweddar yma cyn amled ac yr arfer- wn wneud. Amser prysur yn mywyd eglwysi Cym- reig Llundain ydyw tymor y gauaf, ac nid yw Brynswic yn eithriad yn hyn o beth i eglwysi eraill. Rhwng cyfarfodydd Pwytho, y rhestrau, y Gymdeithas Ddi- wylliadol, Coffee Suppers, a phwyllgorau. mae yr amser yn Uithro heibio yn gyflym, ac oriau hamddenol yn brin. 'Rydwyf wedi son wrthycb lawer gwaith am y Coffee Suppers sydd yn nodweddiadol o fywyd eglwys Brynswic. Mae'n dda gennyf allu eich hysbysu fod y cyfarfodydd hyn yn fwy o lwyddiant eleni nag hyd yn od y llynedd. Fe welsoch eisoes yn y Gwylied- ydd Newydd hanes y Coffee Supper rodd- wyd gan wyr di-briod yr eglwys. Nos Iau, wythnos i'r diweddaf, rhoddwyd un arall gan y gwragedd priod, ac un ardderchog iawn oedd o. hefyd. Cymerwyd y gadair gan Mrs Russell, merchi Mrs Gordon, sydd yn un o aelodau ffyddlonaf a mwyaf cym- eradwy Brynswic. Ac fe ddangosodd y ferch ei bod yn deilwng o'r fath fam, y noson o'r blaen, trwy y modd deheuig a hwyliog y llywyddodd y cyfarfod, a thrwy ioddi rhodd deilwng yn y drysorfa. Bu ei phriod, Mr Russell, hefyd yn ein diddori gyda'i arabedd mewn canu ac areithio. Yr oedd y cyngherdd yn un gwir odidog, a barn gwyr profiadol ydyw mai dyma un o'r cyngherddau goreu gafwyd erioed yn nglyn a'r cyfarfodydd hyn; a choron y cwbl oedd fod yr oil o'r datganwyr yn rhoddi eu gwasanaeth am ddim-o barch i chwiorydd caredig Brynswic. Ni fyddai o ddiben yn y byd i mi roddi enwau car- edigion yr achos fu yn gwasanaethu (a'r ffaith am dani ydyw nas gwn eu henwau i gyd), ond fe fydd o ddiddordeb i chwi glywed fod Miss Hughes, merch i'r Parch Thomas Hughes, Llandudno, wedi rlioddi dwy Violin Solo yn ystod y cyfarfod. Ac am y danteithion, bobol fo'r gwarchod 1 beth pe gwelsech chi nhw f'ewyrth i ond, dyna, waeth i mi heb dynnu dwr o'ch dannedd chwi wrth enwi'r cyflawnder o bethau da ddarparwyd ar gyfer y gynull- eidfa. Fe gafwyd elw clir o [15 oddiwrth y cyfarfod. Go dda ynte ? Hwyrach y'ch bod yn synnu weithia, f'ewyrth, i.ble mae'r holl arian yma yn myn'd, ond os darllen- wch chwi adroddiad blynyddol y Gylch- daith Gymreig yn Llundain, fe gewch weled ar unwaith fod digon o le iddvnt fyned. Mae'r Gymdeithas Ddiwylliadol yn dal i fyn'd ym mlaen, er mae'n ddrwg gennyf ddweyd fod y cynulliadau yn llai nac y dylent fod yr wythnosau diweddaf yma. Chwi welsoch hanes rhai o'r cyfarfodydd diweddaf eisoes, ond 'roedd nos Wener di- weddaf yn noson arbennig gennym. Bu y Parch F. Knoyle, M.A., gweinidog y Meth-V odistiaid Calfinaidd, yn Hammersmith yn darlithio i ni ar Rai o egwyddorioh Ym neilltuaeth." Mae Mr Knoyle yn un o garedigion ein Cymdei thas ni. Nid dyma'r tro cyntaf na'r ail iddo ddod i'n gwasanaethu. Mae yn un o'r dynion tawel a meddylgajr hynny nad yw yn hoff o glywed ei swn ei hun, ond pa bryd bynnag y llefara bydd ganddo rywbeth gwerth i'w ddweyd. Felly y profodd nos Wener diweddaf. Rhoddodd mewn cylch bychan a geiriau syml grynhodeb gyn- hwysfawr o hanes cychwyniad Ymneilltu- aeth, a'r egwyddorion hynny a'i gwnaeth yn amhosibi i'r Ymheilltutvyr cyntefig aros yn nghol yr Eglwys Sefydledig. Darlith i aros uwch ei plwan, a rneddwl am ei chyn- nwys ydoedd, ac yr ydym fel Cymdeithas yn ddyledus iawn i Mr Ifnoyle am ei was- anaeth. Siaradodd y Parch J. R. Roberts, ein Llywydd, ac amryw frodyr eraill ar derfyn yr anerchiad. Mae mwy o undeb rhwng y gwahanol enwadau Cymreig yn Llundain yma, neu felly y bydda i arfer a meddwl, nag yn y wlad. Mae'n arferiad er's blynyddau bell ach i newid pwlpudau yn awr ac yn y man, a nos Sul, wythnos i'r diweddaf, fe gawsom ni ym Mrynswic y pleser o wran- daw ar y Parch T. F. Jones, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn Shirland Road. Gwr rhadlon a siriol ydyw Mr Jones, ac fe fwynheais i ei bregeth yn fawr iawn. Yr oedd y Parch J. R. Roberts, ein gweinidog ni, yn pregethu yn Hammer- smith gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yr un nos Sul, ac er mwyn cadw ei blan y Sul hwnnw bu raid iddo deithio agos i ddeu gain milldir. Dyna i chwi.ryw ychydig o syniad am faintioli Llundain yma, f'ewyrth I be soniwch chwi am gylch- deithiau celyd yn Nghymru ar ol hyn. Yr oedd cwmni yn cael ei wneud i fyny o aelodau gwahanol Gymdeithasau Cym- reig y ddinas yma yn rhoddi perfformiad o ddrama Gymreig, Beddau'r Proffwydi," mewn neuadd yn Llundain, nos Sadwrn diweddaf, a nos Iau yr wythnos hon. Miss May Jones, o Gorris, un o ferched ieuainc ffyddlon Brynswic, oedd yn cymeryd rhan un o'i cymeriadau, ac yn ol pob hanes fe wnaeth ei gwaith yn ardderchog. Chwi welwch felly, er nad ydym end eglwys fechan, ein bod yn cymeryd ein lie yn an rhydeddus ym mywyd Cymreig y Brif Ddinas. Gyda chofion serchog atoch i gyd, Ydwyf, eich nai, JOHN HENRY. I

CAERSALEM, TON PENTRE.I

ABERYSTWYTH. I

.IBEAUMARIS.I

LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I

HIRWAEN, RHUTHYN. I

RHUTHYN. J

DINAS MAWDDWY. I

'I . CEFN MAWR. I

NODION 0 LEYN.

I GORSEINION.

|TANYFRON.

RHOS, RUABON.

[No title]