Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

- LLANDYSSUL.- - - I

1111.FFLINT. ',I

IMAENTWROG. I

CARNO I

LLYTHYR 0 LLUNDAIN. I

CAERSALEM, TON PENTRE.I

ABERYSTWYTH. I

.IBEAUMARIS.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEAUMARIS. I Nid oes dim wedi ymddangos yn y Gwyliedydd Newydd er's amser maith. Y mae y tri gweinidog ag sydd ar y Gylchdaith yn hynod fel pregethwyr a gweithwyr. Y mae y Gymdeithas yn cael lie amlwg ac yn cael ei mynychu gan gynulliad da bob wythnos yn y lie hwn. I agor y Gymdeithas, Tachwedd 24ain, cawsom ddarlith gan y Parch. David Thomas ar y testyn Y pwlpud a'r bobl." Rhagfyr laf, adolygu pregethau y Sul blaenorol. Cyfarfod da iawn. Rhagfyr 8, noson i ddarllen darnau deth- oledig. Rhagfyr 15, Atgofion am Enwogion. Rhagfyr 21, Seiat—Gwersi'r Ymgnawd- oliad. Ionawr 5, adolygu y flwyddyn gan Mr Jones Owen. Ionawr 12, anerchiad gan y Parch R. W. Davies ar Gristionogaeth." Ei apel yn wir dda, a chynulhad da. Ionawr 19, anerchiad gan Mr John Parry. Chwefror 2, dadl; Pa un ai Brenhin- iaeth ai Gweriniaeth ydyw oreu i'r wlad." Agprwyd o blaid Brenhiniaeth gan Mr John Roberts; Gweriniaeth, Mr Griffith Roberts. Chwefror 9, anerchiad gan Mr Cyril Davies, B.A., ar Cymry yn y canol. oes- au." Cafwyd sylwadau da, a phawb yn mwynhau y cyfarfod. Chwefror 24, Ffug-etholiad. Rhyddfryd- wr, Mr John Jones, Baker Ceidwadwr, Mr James Owen; Llafur, Mr John Owen, Tailor. Yr oedd y gwahanol ymgeiswyr yn dadleu yn gryf o blaid eu hochr. Yr oedd y Ty yn llawri, a'r ymgQ;sydd Lfafur awl a gariodd y dydd, fel mae efe ydyw yr Aelod Seneddol. Mawrth 6, disgwyliwn am anerchiad gan y Parch Maelor Hughes. Mawrth 25, 'fe fydd cyfarfod cyhoeddus i ddiweddu y tymor. Nos Fercher, Chwefror 18, cawsom ddar- lith gan Mr W. O. Jones ar y testyn Com- mon Sens," yn y Town Hall. Yr oedd W. O. yn ei hwvliau goreu, cvnulliad da, a phawb yn canmol mai hon oedd y ddarlith oreu a gafwyd gan W. O. Y mae yn arfer a dod yma bob blwyddyn. Y mae symudiad yn y Gylchdaith i gael Cyfarfod Ysgol Gylchdeithiol, ac y mae i gael ei chynal yn Menai Bridge, Mai 27ain Y mae y rhaglen allan, a disgwyliwn am gyfarfodydd da--y cyfarfod cyntaf am 1.30 a'r ail am 5 o'r gloch. Deallwn hefyd fod ein heglwys yn Llan. goed wedi cael cyfarfod llenyddol llwydd ianus Chwefror i9eg. UN O'R DREF. I

LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I

HIRWAEN, RHUTHYN. I

RHUTHYN. J

DINAS MAWDDWY. I

'I . CEFN MAWR. I

NODION 0 LEYN.

I GORSEINION.

|TANYFRON.

RHOS, RUABON.

[No title]