Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

- LLANDYSSUL.- - - I

1111.FFLINT. ',I

IMAENTWROG. I

CARNO I

LLYTHYR 0 LLUNDAIN. I

CAERSALEM, TON PENTRE.I

ABERYSTWYTH. I

.IBEAUMARIS.I

LLANRHAEADR-YM-MOCHNANT. I

HIRWAEN, RHUTHYN. I

RHUTHYN. J

DINAS MAWDDWY. I

'I . CEFN MAWR. I

NODION 0 LEYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 LEYN. TYDDYN.—Cynhaliwyd cyfarfod cystad- leuol yn y lie uchod nos Lun, Chwef. 9fed, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol. Arweiniwyd yn ddoeth a deheuig gan Mr John Thomas, Bronllwyd. Enillwyd igwobrwyon gan y rhai canlynol:—Unawd, Miss C. M. Williams, Bronllwyd Llaw- ysgrif, Master Rees Parry, Cochymoel adroddiadau gan Master Johnnie Griffith a Miss C. M. Williams, Bronllwyd deuawd, Miss Jones, Lon, a Mr R. J. Griffith, Bod- gauaf; pedwarawd, Mr R. J. Griffith. Enillwyd amryw wobrwyon eraill. Cyf- arfod da a hwyliog. RHIW.—Nos Wener, Chwefror yr 2il, yn Ysgol y Cyngor, cynhaliwyd cyfarfod Rhyddfrydol. Prif siaradwr y cyfarfod ydoedd G. Hughes Roberts, Ysw., U.H., C.S., Edeyrn, ac nid bychan oedd y croes- aw a gafodd i'n plith. Llanwyd yr adeilad gan wrandawyr astud. Cyffyrddodd Mr Roberts ag amryw faterion, ond sylwedd ei anerchiad ydoedd pwngc y tir." Fel y gwyddis, y mae yn awdurdod ar y mater hwn, a buddiol oedd gwrando arno. Cafwyd anerchiad grymus a galluog. Cadeiriwyd gan Mr John Williams, Gor- phwysfa. Rhoddwyd y diolchiadau gan Mr Richard Owen, Waen, a Mr John Wil- liams, Voel. Newid pulpud.—Sabbath, yr 22ain cyfis- ol, bu y Parch J. R. Evans (A.), Hebron, a Mr John Williams, Rhiw, yn newid pul- pudau. Garw oedd yr hin, ond deall WIol i Mr Evans gael amser hapus yn Aberdaron, a rhoddi boddhad nid bychan i'r gynull- eidfa yn Horeb a Salem. Mae newid fel hyn yn awr ac eilwaith yn foddion i enyn teimladau goreu cydrhyngom fel gwahan- ol enwadau. • W. Y Gymdeithas Lenyddol.—Nos Lun yn Ysgol y Cyngor cynhaliwyd yr uchod dan lywyddiaeth Mr Griffith Jones, Tynyfron, pryd cafwyd papur rhagorol ar Ynys Enlli gan Mr Isaac Rowlands, Penygroes, a deuawd gan Glyn Llyfnwy a Mr Tommy Williams, Talafon. Cyfarfod da. YSG.

I GORSEINION.

|TANYFRON.

RHOS, RUABON.

[No title]