Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Adroddiad Pwyllgor y Tir,…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Adroddiad Pwyllgor y Tir, J. J. XIV- I Y GAME AC AMAETHYDDIAETH. Yn y bennod hon ymholir i'r cwestynau a ganlyn. It 1. A oes liawer o dir nad yw yn cael ei roddi i'r defnydd goreu am ei fod yn cael ei ddefnyddio i fagu game ? 2 A oes niwaid mawr yn cael ei achosi gan game lle mae y tir yn cael ei dnn ? 3 A oes ad-daliad llawn yn cael ei wneud am y difrod a wneir ar y cnydau gan ac o achos game ? Anfonodd y pwyllgor allan daf- len i'r diben o gasglu gwybodaeth ar y cwestiynau hyn i'r gwahanol ardaloedd yn Lloegr a Chymru. Yr oedd 46 y cant yn dweyd fod y game yn achosi colled i'r Amaeth- aethwyr, 42 y cant yn dweyd nad oes colled, 12 y cant heb atteb y gofyniadau o gwbl, 18 y cant yn dweyd fod ad-daliad yn cael ei wneyd un ai mewn arian neu mewn rhenti is. Mae tua deunaw o'r tystiolaeth au. dderbynlwydgan y pwyllgor sydd yn dywedyd nad oes cwyn o herwydd colled, wedi eu hanfon gan dir arglwyddi a'u goruchwyl- wyr, a rhai gan amaethwyr mawr- ion. Mae y rhestr hon yn ddydd orol ac awgrymiadol. Boddlonwn ar roddi dwy eng' raifft yn unig, oblegid mae yr oil i'r un cyfeiriad ac yn dra thebyg i'r 'ddwy ganlynol. Sommerset, F 336, Landowner:- Nid,oes difrod yn cael ei achosi gan game na chan y gwningod. Mae gan y daliedvdd allu i am- ddiffyn ei hun yn llawn o dan y Ground Game Act. Heblaw hyny, pan yn cymeryd ffarm, mae yn gwybod beth yw yr amodau ac yn cynyg rhenJ; yn y goleu hwnw. Pan y mae yr bawl i saethu gan y ffarmwr mae y gwningod yn llu osocach na phan nad yw yr hawl i saethu ganddo." Herefordshire, E 255, Land Agent: Ni dderbyniais gwynion oblegid colled o herwydd Game. Rai blynyddoedd pan y mae y gauaf yn galed iawn, mae y gwningod yn gwneyd ychydig ddifrod, ond pan fo y gauaf yn agored, nid oes cwyn. Mae y tirarglwyddi yn ami yn darparu wire netting i amgylchu tir llafur." Mae yn bwysig bod yn glir ar y gwahaniaeth rhwng Ground Game a Winged Game, oblegid fod y gyfraith yn dra gwahanol yn ei pherthynas a'r naill a'r Hall. 0 dan y gyfraith fel y mae yn awr, mae gan y landlord hawl i gadw iddo ei hun awdurdod lawn a hollol i gymeryd y Winged Game iddo ei hun, neu i osod yr hawl iddynt i'r neb a fyno efe. Amddif- edir y tenant yn hollol o'r hawl i gyffwrdd y Winged Game ar y tir a ddelir ganddo, a'r canlyniad yw bron yn ddieithriad fod y ffarmwr yn cael colled drom yn ei gnydau -yn benaf gan Pheasants. Mae adran lOfed Agricultural Act yn rhoddi hawl i'r tenant i ad- daliad os bydd y difrod dros swllt yr acer, o'r adran honno ar y fferm lie y gwneir y difrod. Rhaid i'r tenant roddi rhybudd i'r landlord mewn ysgrifen ynghyd a rhoddi lawr y swm a hawlia fel ad-daliad am y golled. Mewn nifer fechan o achosion, mae ffermwyr wedi cymeryd man- tais ar yr adran ac wedi cael i ryw fesur, iawn am y difrod ar y cnyd- au ond a siarad yn gyflredinol, mae yr adran yn ddifudd yn benaf am y rhesymau canlynol:— (!) Oblegid yr anhawsderau i brofi fod y difrod wedi cymeryd lie. Mae yn weddol ha wd,d profi y golled pan fyddo yn gyfyngedig i gylch bychan, megis un cae neu ddau gae ond pan fyddo y difrod yn cyrhaedd dros arwynebedd 11yd- an eang, mae yr anhawsder yn fawr iawn, i bron fod y Game yn gyfrifol am y golled yn y cnwd. (2) Ansicrwydd daliadaeth. Mae ar y ffarmwr ofn notice to quit pe y cymerai fesurau i hawlio cyf- iawnder. Mae yr anhawsder yn fwy pan y mae y Game yn eiddo Sporting Tenant, h.y., un wedi cymeryd y Sporting Right dan rent gan y landlord, oblegidrhaidi'r tenant wneud y claim ar y landlord yn erbyn y Sporting Tenant. Pe I buasai yr hawl gan y ffarmwr ill wneud y claim ar y Sporting Ten j ant yn uniongyrchoL buasai hynny I yn osgoi gwrthdarawiad gyda'r Landlord i ryw fesur, ac yn rhwyddhau y ffordd i'r tenant i fynnu cyfiawnder. Rhoddwn yma engraifft neu ddwy, o'r Schedules allan o tua deg ar hugain sydd yn yr adrodd- iad i ddangos fod difrod yn cael ei wneud ar gnydau yr amaethwyr a'r anhawsder iddynt hawlio ad- daliad am y difrod a wnaed. Buckinghamshire E. 265 Farmer. Mae achos o ffarmwr yn agos atom a wnaeth hawliad am ad- daliad am golled ar y cnydau gan y Game. Wedi i brisiwr y Land- lord brisio y golled, talwyd swm neillduol o arian i'r ffarmwr, a rhoddwyd iddo rybudd o chwe mis i adael ei ffarm. Mae pawb yn awr yn ofni hawlio ad-daliad am ddifrod wneir gan y Game." Shropshire G. 109 Farmer. Ar un stad, megir Game ar raddfa dra eang, a gwneir difrod mawr ar gnydau y tenantiaid. Nis gallaf ddod o hyd i un tenant wedi cael ei ad-dalu iddynt hwy, nid yw y Ground Game Act yn bodoli o gwbl. Ni chaniateir iddynt ddal cwningod o fewn pell- der neillduol i'r coedwigoedd lie megir pheasants. Denbighshire 6c Merionethshire N. W. 98 Farmer. "Ar diroedd yn cyffwrdd ar goed- wigoedd a pharciau lie megir ac yr amddiffynir Game, mae difrod ar y cnydau o angenrheidrwydd, weithiau difrod mawr. Weithiau telir am y difrod yn dawel. Mae eraill yn dyoddef yn ddystaw. Mae y cyttundebau oil yn cynwys yr adran, The tenant to preserve all Game, Fish, Wild Fowl, &c." Yn ymarferol, anhawdd iawn yw cael diwygiad o dan y Ground Game Act, oblegid gwyddantyn dda fod modd lladd ci heblaw trwy ei grogi." Dyna ddegwm o'r tystiolaethau gyhoeddir yn yr adroddiad, bodd loned y darllenwyr ar hyn,, mae yr oil yn debyg. Gwelir nad oes odid i ffarmwr a gymer fantais ar y Ground Game Act os na bvdd wedi gwneyd ei feddwl i fyny i adael ei ffarro. Gwelir hefyd fod y difrod a wneir gan y Winged, Game mewn modd uniongyrchol yn fawr; ond yn anrhaethol fwy mewn modd anuniongyrchol, ob legid fod diogelu pheasants yn cyfrif am ddifrod aruthrol a achosir gan y gwningod, oblegid y rhwvn-i- au tynion osodir ar y tenant i ofalu am beidio aflonyddu ar y pheasants. Ni faidd osod trap os bydd y perygl lleiaf a pheasant fvn'd a'i droed iddo. Ni faidd osod trap ond yn naiar y gwningod lie nad yw y pheasant yh myned i mewn iddo. Dywed Ceidwadwr pybyr, Fod X yn magu pheasants ar raddfa helaeth ae yn pen niwaid mawr i'r cnydau. At hyny hefyd yn achosi foa y gwningod yn heidio yr holl ardal nes bod yn bla ar y gymyd- ogaeth. Nid gorm d dweyd fod y difrod achosir gan Ground Game yn cael ei acb.osi yn anuniongyrchol gan y gofal mawr gymerir i amddiffyn bywydau a heddwch y Winged Game. Mae Ground Game Act 1880 wedi ei diwygio yn 1906 yn rhoddi hawl i'r tenant ladd a chymeryd Ground Game yn gydfynedoJ gyda'r person neu y persona u sydd t yn dal hawl ar y Wingeci Game, pa un bynnag ai y Landlord ynre I y Sporting Tenant fyddo hwnnw. Mae yr hawl hon yn hawl wirton- eddol a'r hon nis gellir bargemio allan o honni. Mae gan y ten ant hawl i ladd a chymeryd Ground Game ond nid oes ganddo hawl i ad-daliad am unri^w ddifrod achosir gan a thrwy y Ground Game oddieitlir iddo allu profi fod y nifer o wningod yn afresymol o herwydd nas gall eu cadw i lawr gan y gyfraith sydd yn amddiffyn y Winged Game, ac y mae yr antur o fyned i ymgyfreithio ar fater mor anhawdd ei benderfynu mewn llys barn—yn antur nad oes ond ychyd- ig yn meddu y gwroldeb i ymgym- eryd a hi. Mae y notice to quit' bob amser yn arf effeithiol yn Haw y Landlord. SJ- t. Sporting Tenants. Daeth nifer luosog o dystion ym mlaen i brotestio mewn iaith gref yn erbyn y Sporting Tenant o fiaen y Royal Commission on Agricul- tural Depression 1897. Mae y pwyllgor hwn yn difynu yn heiaeth o .-d roddi ad y Commissiwn hwnw, ac y mae ymchwiliadau y pwyll- gor hwn yn ategu yr oil sydd yn adroddiad Commissiwn 1897. Mae haerllugrwydd y Sporting Tenant yn ami yn myned ymheil tuhwnt i wyneb galedwch y Land- lord, er fod hwnnw yn fynych yn wrthyn. Difvnwn un yn unig. a rhoddwn yn yr iai th ymha un y mae. ger ein bron :— Gloucestershire, F. 125, Farmer. For the introduction of Shoot- ing Tenants, and drawing two rents from one farm from two conflicting interests, I have but the strongest condemnation." Yn hyn, fel ymhopeth arall, mae y ffarmwr bychan, a'r Small Holder sydd yn dyoddef ddyfnaf ac yn fwyaf diamddiffyn. Mae ei golled yn gydmarol fwy na'r ffarmwr mawr, a'i siawns am ad-daliad am y golled yn Ilawer llai. Danghoswyd mewn pennodau blaenorol fod y Small Holder a'r ffarmwr bychan yn amaethu eu tir yn wahanol i'r ffarmwr mawr, ac yn codi cnydau mwy a gwa- hanol. Mae y difrod o ganlyniad yn fwy. Mae bron yn amhosibl i lafurwr sydd yn dal Allotment neu ardd gymeryd mantais ar y Ground Game Act. Nid peth anghyffredin, ond d- gwyddiadau beunyddiol yw i ys- gyfarnogod a gwningod ddifrodi gwerth Ilawer o arian o blanigion, cauliflowers, cabbage, lettice, &c., yn nhawelwch y nos. Mae y Keeper yn gwybod pynny ac yn eu gwylio. Mae pheasants a phetris yn fynych yn difrodi pys fyddont yn tori allan o'r ddaear ac yn peri colled nas gellir ei phrisio gyda unrhyw fesur o degwch. Nid yr hyn yw pris yr hadau a'r planig- ion a'r gwrtaith a'r llafur sydd ddigon i ddigclledupe gellid sicr- hau hynny. Gwyddom fod colli pythefnos neu dair wythnos obleg- id gorfod ail hau neu all blanu yn gorfodi y gweithiwr i werthu am haner y pris fuasai yn ei gael dwy neu dair wythnos yn gynarach. Mae cwyn o holl gyrau y wlad fod Small Holders a ffermwyr o hanner cant o aceri ac o dan hyny yn cael eu cylchynu gyda magurfa pheasants, a'r ysgyfarnogod a'r gwningod yn cael eu hamddiffyn i ddifrodi eu cnydau ynghysgod y Winged Game, nas gallant na lladd y Grouad Game na chael tal am y golled chwaith. Y pwnc o Safbwynt VVladwriaeth ol. 9 Hyd yn nod pe byddai y Land- lord yn talu pob ceiniog o'r golled i'r amaethwr mae yr olwg Wlad- wria^thol ar y pwnc yn un bwysig. Mae yr amaethwr sydd yn gwr- tei thio ei dir lie y megir pheasants yn agos ato, yn canfod yn fuan iawn ei fod ar yr un pryd yn lluosogi y creaduriaid sydd yn difetha ei gnwd, ac nid efe yn unig a goiledir, ond y wlad yn gyffred inol fel y mae yn dibynu ar gyn- ) yrch v tir am ei chynhaliaeth. Mae y tir yn He cynyrchu tuag at gynaliaeth trigolica y wlad yn cael ei aduel heb ei arnaethu 'i fagu game i'r ychydig gael m cthu arnynt ac ymddifyru yn eu saethu. Profir fod Ilawer o'r tir mwyaf cynyrchiolpe trio id yn briodol yn cael ei droi yn fagurfa game. Dywed Shopshire G. 674 Farmer Yr oedd ffarmwr ychydig flyn- yddoedd yn ol a chanddo ffarm oddeutu 250 o aceri. Cymerwyd tua deugain acer oddiwrtho i fod o hyny allan yn ddaear gwningod a noddfa i pheasants," Northumberland A. 3 Farmer. Mae stad o'r tir amaethyddol goreu yn yr ardal wedi ei chymer yd i fynu yn llwyr yn fagurfa game. Mae o leiaf wy th o Small Holdings I wedi eu llyngcu i fynu ynddi Mae y rhanau goreu o'r tir wedi ei I -> | blanu a choed i fod yn gysgod i pheasants, ac y mae v tenantiaid I yn rhwyniedig trwy gyttundeb i beidio lladd nac ysgyfarnogod na I gwningod." ¡' Nid yn unig mae y tir heb gyD yrchu ond rhan fechan o'r hyn ddylai gynyrchu, ac mewn liawer achos heb gynyrchu dim; ond y mae y tir y plenir coed ynddo i fod yn lloches game yn cael ei drethu at Pyairie Falue." A'r tir a osodir am rent isel o herwydd y game yn cael ei drethu yn ol y rhent ise,l a'r Wla'Gwriaeth yn dioddef o bob tu, yn y cynyrch ac yn y trethi. At hyny hefyd, lie y mae un Keeper yn cael gwaith. I mae pedwar o wei,,hwvr yncael eu rhoi allan o waith o'r herwydd. Tra arwyddocaol yw y ffaith fod rhif y Game Keepers wedi cvn- yddu o'r flwvddyn 1881 hyd 1901 (ugain mlynedd o 12,633 i 61,677, cynydd o 4,044). Cydmaredd y darllenydd y ffigyrau hyn gyda'r Ueihad 37rnhoblogaeth yr ardaloedd gwledig yn ystod yr ugain mlyn- edd hyny. Caiff weledigaeth ryfedd. Crynodeb Casgliadan y Pwyllgor. 1. a Nid yw y golled achosir gan Game yn cael ei gyfarfod gydag ad-daliad am y golled o dan y Small Holding Act 1908, yn benaf oherwydd ansicrwydd daliadaeth." 2. Fod difrod mawr yn cael ei achosi gan y Ground Game heb tod Ground Game Act 1880 yn dar- paru meddyginiaeth, yn benaf o herwydd yr ymdeimlad o ansicr- w.ydd sydd yn meddianu y ffarmwr, ond hefyd mewn rhan o herwydd y cyfyngu sydd ar y tenant ac ar ei hawliau o dan y ddeddf hono." 3. Mae gosod y sporting right i sporting tenant yn annibynol ar y tenant sydd yn llafurio y tir yn ddrwg. 4. Mae llawer o dir yn cael ei attal oddiwrth ei wir wasanaeth i ddybenion sport, a llawer o dir yn cael ei amaethu yn wael a'i osod am rent isel i fagu Game." 5. "Nid yw y cyfryw dir yn dwyn ei ran briodol o faich y trethi." G, Mae dyogelu Game i'r gradd- au y gwneir ar hyn y bryd yn eff- eithio yn ddirywiol a'r gymdeith- as trwy yr awdurdod a roddir i bolisman i wneud search ar ddyn fyddo yn ei amheu o poaching ar y brif-ffordd, a hynny heb warrant "Heb fyned 1 mewn i'r pwnc o ddi- ddymu y Game Laws yn llwyr, awgrymir fodl gwelliantau pwysig yn anghenrheidiol yn y gyfraith er mwyn amaethyddiaeth ac er mwyn y wladwriaeth yn ei chyfanrwydd." (a) Dylai fod yn anghyfreithlon i landlord osod sporting rights i denant ar wahan fr tenant sydd yn trin y tir, i'w diogelu i'r land- lord ei hun a neb arall. Os bydd awdurdod i osod y sporting right o gwbl, i'r tenant sydd yn trin y tir yn unig dylid ei osod." (b) Dylid dileu pob attalfa roddir ar y tenant i ladd a chym- eryd y Ground Game iddo ei hun neu unrhyw berson awdurdodir ganddo i hyny. Fod ganddo hawl i arfer y moddion fyno ef i ladd Ground eithaf y tir delir ganddo." (c) "Dylai y ffarmwr feddu hawl i ad-daliad am ddifrodachosir gan game fydd yn dyfod drosodd i'w dir ef o dir gwr arall pa un bynnag ai y landlord ai rhywun arall fyddo. (d) Fod adran 2 Prevention of Poaching Act 1862 sydd yn rhoddi hawl i bolisman i wneyd search ar ddvn amheuir ei fod yn poacher ar y fiordd fawr yn cael ei dileu. (e) Diwygiadau neillduol i orethu tir ddefnyddir i sport. Ystyrir mai ycyydig fydd gwerth y di wygiadau uchod oddieithr fod sicrwydd daliadaeth yneu canlyn lie bydd amaethwriaeth da. Heb sicrwydd daliadaeth ni bydd gweU- iantau ar bapur o unrhyw werth."

[No title]

I-Bychanu -Crist.-