Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

BETHESDA, LLANARMON. 1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BETHESDA, LLANARMON. 1 Nos Fawrth, Chwefror 9fed, cafwyd papurau rhagorol yn y Gymdeithas. Un gan Mr John Williams, IfAllt Alun, ar Ddyled Cymru i'r Ysgol Sul," ac un arall gan Mr Richard Beech ar John Evans," Eglwysbach. Danghosodd Yíddau frawd yma ol chwilio a chwaiu, er paratoi ar gyfer y cyfarfod. Yr oedd cynulliad da iawn wedi dod ynghyd, ac ni chafodd neb eu siomi. Treuliwyd noson adeiladol dros ben. Dywedwyd llawer iawn o bethau gwerth eu "cofio. Cawsom grynhodeb destlus neillduol o hanes cymeriad y Parch J. Evans, Eglwysbach. Caed treui arno fel dyn, pregethwr a bugail, mor ofalus fyddai y gweinidog hwnnw o rhai oedd o dan ei ofal, ac fel y byddai efe yn pryd era ynghylch eu cyflwr ysbrydol. Ac yn y papur arall cafwyd awgrymiadau gwerthfawr pa fodd i wneud yr Ysgol Sul yn fwy llwyddianus a phoblogaidd. Cyf- eiriwyd at yr hunanaberth, a'r sel fu yn nodweddu cymeriadau ein tadau. Y cariad a'r ffyddlondeb a ddanghosent hwy o blaid yr Vsgol, a'r gwrolgeb oedd eisiau er iddi gael ei throed i lawryng Nghymru. —y dylai meddwl am y pethau hyn ddeffro mwy o sel a brwdfrydedd ynnom ninnau i'w chario yn ei blaen. Cafwyd noson fendithiol ymhob ystyr, ac ond i'r pethau gwerthfawr gael eu lie a'u dylan- wad priodol arnom, credwn y byddai gwedd hollcl wahanol ar bethau yn fuan iawn. Chwefror 16eg. Noson y Cyfarfod Am- Tywiaethol oedd hon, a mawr fu y dis- gwyliad ac edrych ymlaen ati. Braidd yn ddrychinog oedd y noson, ond fe ddaeth tyrfa dda ynghyd er gwaethaf y tywydd. A phan gofiwn am y teithiau pell sydd gan rai o'n cyfeillion i ddod i'r capel, a fiynny ar hyd llwybrau dyrus a blin, ac yn arbenig ar noson fel hon, teimlwn yn wir ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth. Anghofiwyd y tywydd yn fuan wedi decnreu y cyfarfod, a phawb yn ynqdaflu iddi i fwynhau eu hunain, ac fe wnaed hynny heb os nac onibae. Cymerwyd rhan ynddo gan Miss Florrie Parry, Miss Williams, Gwernymynydd; Misses Char- ,!otte a Gwladys Lloyd a Miss C. Wil- liams. Adroddwyd gan Mri T. C. Wil- liams, David Lloyd, Robert Smith. Can gan Mr W. H. Hughes. Caed canu ac adrodd gwych gan yr aelodau, a chan ibai dieithr, a theimlwn yn ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth. Caed anthemau hefyd gan y Gymdeithas, dan arweiniad Mr John Parry, Rhos. Cawsom wasanaeth y Gramophone o dan ofal Mr A. Roberts, Bryn'rodyn, a hwyl anghyffredin ar wrando'r dadleuon a'r cystadleuon difyfyr. Caed cyfarfod gwir dda ymhob ystyr, myn'd iawn ar bopeth, a phawb wedi ei fodlonni tu hwnt i'w disgwyliad. Brysied yr amser pan y cawn noson ddifyr fel hon eto gyda'n gilydd. GOH.

.-SOAR, LLANRWST.'__I

TALSARNAU. I

-MANCHESTER.I

PENNAL. I

RHIWLAS.

LLANEURGAIN. I

MOSTYN. I

I COEDPOETH. I

BETHEL, CAERGYBI.

'■s''■ TREORCHY.