Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
BETHESDA, LLANARMON. 1
BETHESDA, LLANARMON. 1 Nos Fawrth, Chwefror 9fed, cafwyd papurau rhagorol yn y Gymdeithas. Un gan Mr John Williams, IfAllt Alun, ar Ddyled Cymru i'r Ysgol Sul," ac un arall gan Mr Richard Beech ar John Evans," Eglwysbach. Danghosodd Yíddau frawd yma ol chwilio a chwaiu, er paratoi ar gyfer y cyfarfod. Yr oedd cynulliad da iawn wedi dod ynghyd, ac ni chafodd neb eu siomi. Treuliwyd noson adeiladol dros ben. Dywedwyd llawer iawn o bethau gwerth eu "cofio. Cawsom grynhodeb destlus neillduol o hanes cymeriad y Parch J. Evans, Eglwysbach. Caed treui arno fel dyn, pregethwr a bugail, mor ofalus fyddai y gweinidog hwnnw o rhai oedd o dan ei ofal, ac fel y byddai efe yn pryd era ynghylch eu cyflwr ysbrydol. Ac yn y papur arall cafwyd awgrymiadau gwerthfawr pa fodd i wneud yr Ysgol Sul yn fwy llwyddianus a phoblogaidd. Cyf- eiriwyd at yr hunanaberth, a'r sel fu yn nodweddu cymeriadau ein tadau. Y cariad a'r ffyddlondeb a ddanghosent hwy o blaid yr Vsgol, a'r gwrolgeb oedd eisiau er iddi gael ei throed i lawryng Nghymru. —y dylai meddwl am y pethau hyn ddeffro mwy o sel a brwdfrydedd ynnom ninnau i'w chario yn ei blaen. Cafwyd noson fendithiol ymhob ystyr, ac ond i'r pethau gwerthfawr gael eu lie a'u dylan- wad priodol arnom, credwn y byddai gwedd hollcl wahanol ar bethau yn fuan iawn. Chwefror 16eg. Noson y Cyfarfod Am- Tywiaethol oedd hon, a mawr fu y dis- gwyliad ac edrych ymlaen ati. Braidd yn ddrychinog oedd y noson, ond fe ddaeth tyrfa dda ynghyd er gwaethaf y tywydd. A phan gofiwn am y teithiau pell sydd gan rai o'n cyfeillion i ddod i'r capel, a fiynny ar hyd llwybrau dyrus a blin, ac yn arbenig ar noson fel hon, teimlwn yn wir ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth. Anghofiwyd y tywydd yn fuan wedi decnreu y cyfarfod, a phawb yn ynqdaflu iddi i fwynhau eu hunain, ac fe wnaed hynny heb os nac onibae. Cymerwyd rhan ynddo gan Miss Florrie Parry, Miss Williams, Gwernymynydd; Misses Char- ,!otte a Gwladys Lloyd a Miss C. Wil- liams. Adroddwyd gan Mri T. C. Wil- liams, David Lloyd, Robert Smith. Can gan Mr W. H. Hughes. Caed canu ac adrodd gwych gan yr aelodau, a chan ibai dieithr, a theimlwn yn ddiolchgar iddynt am eu gwasanaeth. Caed anthemau hefyd gan y Gymdeithas, dan arweiniad Mr John Parry, Rhos. Cawsom wasanaeth y Gramophone o dan ofal Mr A. Roberts, Bryn'rodyn, a hwyl anghyffredin ar wrando'r dadleuon a'r cystadleuon difyfyr. Caed cyfarfod gwir dda ymhob ystyr, myn'd iawn ar bopeth, a phawb wedi ei fodlonni tu hwnt i'w disgwyliad. Brysied yr amser pan y cawn noson ddifyr fel hon eto gyda'n gilydd. GOH.
.-SOAR, LLANRWST.'__I
SOAR, LLANRWST. _I DARLITH.—Yn y lie uchod nos Iau, Chwefror 19eg, 1914, traddodwyd darlith gan y Parch Daniel Williams, Penmachno. Ei destyn oedd Billy Bray." Yr oedd disgwyliadau mawr wrth y darlithydd, oherwydd yr oedd son yn flaenorol wedi myn'd ar led am y ddarlith, ac ni chafodd neb ei siomi, yr oedd pawb yn canmol. Cafwyd darlith addysgiadol a dyddorol, yr oedd ynddi ddigonedd o'r digrifol a'r difrifol, ac wedi eu gweu i'w gilydd mewn modd rhagorol. Gwnaiff y ddarlith les i ben a chalon pwy bynnag a'i clywo. Cawsom ddarluniad o "Billy Bray" yn ei waethaf ac yn ei oreu, ac yr oedd lianes ei droedigaeth yn effeithiol dros qen. Cafwyd cynulliad da i wrando. Gwelwyd yno nifer o gyfeillion Horeb, Llanrwst. Y cadeirydd oedd Isgoed Jones, Ysw., J.P., C.C., Llanrwst, a gwnaeth yntau ei waith yn y modd mwyaf deheuig, a chyfranodd swm anrhydeddus i'r Drysorfa. Gwnaed .elw sylweddol at yr achos yn y lie. UN OEDD YNO. I
TALSARNAU. I
TALSARNAU. I PREGETHWR ÐYEITHR.- Yn ddiweddar cawsom ein breintio a gwasanaeth Mr Alun Griffiths, Tanygrisiau. Pregethodd am 10 a 6 yn rhagorol iawn. Mor bell ac yr ydym yn cofio dyma y waith gyntaf i Mr Griffiths 4alu ymweliad a Soar. Yn anffcdis iawn yr oedd yn Sul ystormus, a'r ardai yn uas- garog, ac at y cwbl yr Influenza yn biino degau, fel yr oedd y cynulliadau lawer o dan y cyfartaledd. Hyderwn yn fawr y ceir gwasanaeth Mr Griffith eto, a hyny o dan amgyichiadau mwy ffafriol, fel y ca yr eglwys i gyd y fraint o'i glywed yn cy- hoeddi Crist i fvd o bechaduriaid. Ein .dymuniad yw, brysied yma eto. E. I
-MANCHESTER.I
MANCHESTER. I GORE STREET.—Ymgomwest y Chwior- ydd Ieuainc.- Cynhaliwyd yr uchod o dan rdgylchiadau hynod ffafriol nos Fercher, y 18fed cyfisol. Caed arwyddion amlwg yn gynar nad oedd ball ar sel a brwdfrydedd y rhai oeddynt gyfiifol am yr ymdrech el eni eto, oddiwrth y modd medrus, llwyr a dyheig y cyflawnwyd popeth ganddynt. Eu harwyddair yn sicr ydoedd-beth bynag sydd werth ei wneud o gwbl, sydd werth ei wneud ya iawn. Cawsant ad-daliad am eu llafur a'u hyraroddiad trwy gael cynull- iad gwir deilwng o'r amgylchiad, gan fod yr ysgoldy yn orlawn Bu rhai o'r chwior- ydd yn ddygn iawn dan dipyn o anfantais nefyd yn darparu lluniaeth i'r cwmni. Gwledd dda odiaeth ydoedddyna'r Jam gyffredin ac yn wir, pe bae pawb wedi bod yn fud ar y mater, nis gallant ;guddio o olwg sylwedydd arwynebol y boddhad oedd ar eu gwynebpryd tra yn mwynhau y danteithion blasus arlwywyd <)'u blaen. Cliriwyd y byrddau—tystiol- aeth uchel i ansawdd ac nid i brinder y ddarpariaeth. Llwyddodd Ysgrifenydd -ymrodd.ol y Gymdeithas, Mr Glyn Jones, i drefnu rhag len chwaethus er budd ac adloniant y cwmni, a theilynga glod ar gyfrif ei ddyl- anwadcymhelliadolary chwiorydd. Am- lygwyd doniau oedd hyd yn hyn wedi bod yn nghudd, a phan gofir mai dyma'r waith gyntaf iddynt ymddangos ar y llwyfan, daethant alian o'u prawf gydag anrhydedd. Profodd canu penhillion gan Mr Ellis, o Goleg Didsbury, iodyr elfen genbedlaethol yn fyw iawn yn y cyfarfod, ac ni werth- fawrogwyd dim yn ystod yr. ymgomwest yn fwy na'i wasanaeth cf. Yr oedd ganddo gyflawnder at ei alwad, neu yn hytrach at alwad ei edmygwyr lliosog, a melus, moes. mwy oedd hi gyda hwvnt, a chyf- eiliwyd iddo gan Miss Marie Roberts. Poblogaidd iawn hefyd oedd y Dialogue gan bump o oreugwyr Sion, y rhai, drwy eu naturioldeb, eu mynegiant, a'u hunan- feddianaeth, a roisant brawf digonol eu bod yn gynefin a'r gelf o ddynwarediad. Dyma gynwys y rhaglen :—Adroddiad, The Usual Way," gan Miss Sally Ed wards; can- "The Dying Child" gan Miss Davies canu penhillion, gan Mr. Ellis (Didsbury) dadl-" Eisiau Barmaid" gan Misses Roberts a Williams can, Mae y gwynt wedi troi," gan Miss Gracie Williams adroddiad gan Miss L. Roberts can, Dim ond deilen," gan Miss Sally Williams canu penillion, gan Mr Ellis (Didsbury) Dialogue—Humorous Sketch, Terrible Fix," gan Misses Blodwen Hughes. Marie Roberts ac Alice Wood a'r Meistri J.Price Jones a Glyn Jones. Diolchwyd n ddoniol a ffraeth i bawb fu yn gwasanaethu gan y Mri. R. Glyn Williams a J. Edgar Roberts, yr olaf o ba rai sydd yn Ngholeg Didsbury, ond a arfer- ai fod yn aelod cyson a defnyddiol yn Gore Street. Sicrhawyd ehv sylweddol drwy'r ymdrech. CYMRO. I
PENNAL. I
PENNAL. I YN NGHWMNI CEIRIOG." Nos Wener, Chwefror 20fed, yn addoldy y Methodist- iaid Calfinaidd, dan lywyddiaeth y Parch E. G. Jones, y gweinidog, traddodwyd an- erchiad ar y testyn uchod gan Gwilyrn Dyfi. Dilynwyd ymdaith pnf-delynegwr Cymru o'i febyd i'w fedd. Hawdd canfod ar wyneb y gynulleidfa fod y modd yr el- fenid cymeriad, ac yr adreddid darnau o weithiau Ceiriog, yn ddiddorol, ac yn dylanwadu arni. Tystiodd amryw i rag- oriaeth yr anerchiad. Er fod Gwilym Dyfi yn perthyn i Benjamin y llvvythau yn y parthau hyn, mynai Cymdeithas Ddiwyll- iadol yr eglwys hon iddo ddyfod i draethu ei len iddi ar Fab y Mynydd," chwedl Ceiriog ei hun. Canodd y Parch E. G. Jones un o emynau y bardd ar alaw gyf- addas i'r geiriau. Hefyd cafwyd pedwar- awd, Ti wyddost beth ddywed fy nghal- on," gan Mri Richard Evans Rees a Rowland Price Rees, Miss Evans a Miss 'vliss Evans a Miss Davies, y geiriau yn waith yr un awdwr. Wrth dalu diolchgarwch am yr anerchiad, dywedwyd llawer o bethau tyner a chan- moliaethus am yr anerchwr, ac yn gob— eithio y ceid ei wasanaeth eto yn eu mysg, Bu gwrandawiad astud ac effro y gynull- eidfa yn gynorthwy effeithiol iddo i gyf .lawni ei waith, er iddi lithro ym mhell dros yr awr cyn dirwyn i fyny edefyn yr arawd. UNWAITH ETO.-M-ae y cwestiwn o briod- oldeb o gael pont i groesi y Ddyfl yn Cei Ward yn cael ei ddwyn i sylw. Mae hwn wedi cael ei godi i'r gwynt droion bellach yn ystod y blynyddau diweddaf, ond yn diflanu fel ewyn y don dan ymdriniaeth ystorrnus pwyllgor ar ol pwyllgor. Er diys- byddu hyawdledd ysgubol mewn siarad a chynlluniau. nid yw cysgod y bont wedi disgyn hyd yma ar ddyfroedd llwydion y Dyfi. Nid oes neb yn ameu nad caffaeliad mawr i'r ardaloedd fyddai ei chael. Byddai yn ychwanegiad pwysig mewn cyfleusterau teithiol, gan y golygid cael gorsaf ar line.11 y Cambrian yn Cei Ward. Estynai hyn, at bethau eraill, bosiblderau am welliantau mewn llawer cyfeiriad, ac y deuai Pennal yn fyd-adnabyddus a barnu yn ol ymweliad cynyddol dieithrlaid bob haf. Wel, yn enw dyn paham na chawn ni bont ? YR Ae-i-ios.-Bydd yn llawen gan y rhai sydd oddiyma ar wasgar hyd gymoedd duon y Deheubarth a manau eraill ddeall fod yr achos yn dal yn fyw, ac yn loew- ach ei wedd nac y bu. Gwyddom fod y capel bach megis darn o'ch bywyd, yn anwyl a chysegredig genych. Dyma Fethel' eich maboed. Yma daethoch yn wyneb yn wyneb a Duw am y tro cyntaf, ac omd ydyw y pelydrau hynny yn llew- yich i'ch llwybrau heddyw, yn eich cyfeirio acyneich arwain i gyfathrach a'r pethau fejrerthfawrocaf mewn bywyd. Gwybydd- wc i iiyn hefyd, 'rai,anwyl' fod yma gofia gwastadol am danoch ger bron Duw. Closwch i gysgod Ei gadernid Ef, rhag eich goddiweddyd gan genlli maswedd, a phechod yn ei wahanol agweddau. Mae genym dri o weinidogion egniol ar y Gylchdaith eto, gwasanaethwyr Duw, a marwor sanctaidd yn llosgi yn wyn yn a thrwy eu bywyd mewn llafur dros y Meistr. Byddwn ninau yma yn cael ein cyfran o'u gweinidogaetb. Yr oedd y Parch G. Bedford Roberts gyda ni y Sab- both o'r blaen. Mae llawer ohonoch yn cofio, rxeu wedi clywed son am ei dad, Owen Roberts, Corris. ir oedd ef, fel y dywedodd y diweddar Richard Davies, Penrhos, o'r un lie, yn wyddionadur ynddo ei hun," ac felly yr oedd. Nid oedd unrhyw adran o wybodaeth na feddai Owen Roberts ddirnadaeth am dani, ac mae ei goffadwriaeth drwy y Gylchdaith lei y-gwanwyn iraidd yn blodeuo gan wasgar peraroglau ar lwybrau ei olynwyr. Mae Mr Bedford Roberts yn fab teilwng o'i dad, yn bregethwr a rhyw swyn arbenig ynddo. Mae ei bregeth yn debyg iawn i'w bersonoliaeth, yn bert a llyfn. Deallwn.ei fod wedi myn'd ym .mhell i lewys yr eglwysi sydd dan ei ofal, ac mae hyn yn gryn bluen yn ei gap. Mae y Parchn John Lloyd a J. Wesley Morgan hefyd wedi syrthio yn ddwfn i forteisiau gwaith eu cylch. Ac er mewn llafur a lludded yn fynych, mae yn amlwg fod awelon mor a mynydd yn dygymod yn iawn a hwy ill dau. Go ii. I
RHIWLAS.
RHIWLAS. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL UNDEBOL.— Nos Lun, Chwefror 9fed, cynhaliwyd yr uchod yn Ysgody Pisgah, dan lywyddiaeth Mr W, G. Jones. Cafwyd anerchiad gan Mr R. 0.. Hughes, B.A., ar Syniad y Groegiaid am Ffurfiad y Greadigaeth." Nid hawdd yw cael geiriau ddigon cryfion i fynegu'r hyn a feddyliem am yr anerch iad. Campus yn wir. Llawn newydd- deb. Gresyn fod neb wedi colli y fath wledd i'r meddwl. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL PISGAH; — Cynnaliwyd yr uchod nos Lun, Chvvelror 16eg, yn Ysgcldy Pisgah, dan lywyddiaeth Mr W. G. Jones. Cafwyd anerchiad gan y Parca Tegla Davies ar Llyfr Jonah." Afraid yw cyfeirio at rym ei sylwadau ef. Digon yw enwi y siaradwr a'r testyn. Gofid i rai ohonom oedd bod yn ahsenol oherwydd amgylchiadau. Cawsom golled oherwydd hynny. GWELLA.-Rai wythnosau yn ol gofid- iem oherwydd colli o'n plith o achos gwaeledd, y blaenor ffyddlawn Mr John Jones. Erbyn hyn, llawenychwn ei fod wedi gwella, ac yn abl i fynychu cyfarfod- ydd yr eglwys. Rhodded yr Arglwydd iddo hwyr-ddydd tangnefeddus i'w wasan- aethu. A. W. I
LLANEURGAIN. I
LLANEURGAIN. I Anfynych y bydd enw Llaneurgain i'w weled yn ngholofnau y Gwyliedydd New- ydd. Da genyf ddweyd fod yr achos yn fyw, ac yn fwy llewyrchus nag y bu e'rs blynyddau. Er mai ychydig o aelodau sydd yno, eto mae'r oil ohonynt o'r bron yn ffyddlon iawn. Gofidus yw gweled lie yr hen dad ffyddlon, John Evans, o hyd yn wag, mae pellder a gwendid yn ei atal i ddod. Cafwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys a'r Trustees yn nechreu Chwefror, o dan lywyddiaeth gweinidog Ffiint. Cafwyd fod sefyllfa arianol y Daill a'r llall yn fodd- haol iawn. Diolchwyd iMri John Hughes a Thomas Owens am eu gwasanaeth fel Trysorydd ac Ysgrifenydd yr eglwys, ac ail-etholwyd hwy. Hefyd diolchwyd i Ysgrifenydd a Thrys- orydd y Trust, Mr Thomas Owen a Mr Humphreys, am eu gwasanaeth, ac ail- etholwyd hwy. Mae y brodyr hyn yn sicr. yn teimlo diddordeb mawr yn yr achos, ac yn awyddus i'w wel'd yn llwyddo. Ar gynygiad Mr Sem Jones pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Miss Esther Hughes a Mr J. D. Hughes, Clawddoffa, am eu gwasanaeth gyda'r offeryn. 0 dan arweiniad medrus Mr Sem Jones, a thrwy eu gwasanaeth hwy, mae'r canu yn Llan- eurgain yn rhagorol. Diolchwyd hefyd i Mr a Mrs Richard Owen am eu gwasanaeth gyda'r capel.. Cafwyd cyfarfod da, pawb mewn yspryd rhagorol. GOH. I
MOSTYN. I
MOSTYN. I LLWYDDIANT. Y mae yn hyfrydwch gennym gael Ilongyfarch Miss Evelyn Roberts, merch hynaf Mr a Mrs Thomas Roberts, 10, Garden Row, ar ei llwyddiant yn arholiad y C.M.B. a gynhaliwyd yn Caxton House, Llundain, yr wythnos ddi- weddaf. Y mae Miss Roberts o dan hyff- orddiant yn y Plaistow Hospital, Llun- dain. Dymunwn iddo bob llwyddiant a bendith yn y dyfodol fel y caiff hi hir oes i wasanaethu yn y gwaith pwysig y mae hi wedi ymgymeryd ag ef. AMICUS.
I COEDPOETH. I
COEDPOETH. Perfformiad y Ddrama, "Endaf y Gwlad- garwr," gan Gwmni Glan Clywedog, Rehoboth (W.), Coedpoeth. Nos Lun, Chwefror lüeg, y cymerodd yr uchod le, a llwyddiant anghymarol fuyr ymgymeriad anturiaethus yn mhob ystyr. Ni cldychmygodd yr un dewin fod cyfun- iad o'r fath dalentau disglaer o fewn ter- fynau un gynulleidfa, a dywedir fod yna ?sc?'? etto at alwadau y dyfodol. Hyn ellir ei ddweyd yn ddibetrus fod pob un o'r cwmni yn unigol wedi mynd trwy eu gwaith gyda medr a rhwyddineb, ac fod y cwmni fel cyfangorff wedi rhagori ar ddim cyffelyb fu yn yr ardal hon er creadigaeth y byd. Edmygedd a chymeradwyaeth gyffredinol roddir iddynt, a defnyddir ansoddeiriau canmoliaeth cryfaf y gellir eu cael trwy'r gororau hyn am y per- fformiad. Yr oedd Mr J. H. Jones, Golygydd y Brython/yn bresenol, a gadawn iddo ef fel un oddiallan, ddweyd ei farn am danynt, fel yr ymddangosodd yn ei lith yn y rhifyn Chwefror 19eg, dan y penawd Gwib fach i Faelor, I weld chware Endaf, gan Gwmni Glan Clywedog." Gwaith R. D. Owen (Penmaenmawr) yw Endaf, ac yn ymgais at bortreadu un wedd ar fywyd Cymru tua 1867 i 1872, a dwyn ei gam a'i g'ledi gerbron cenhedlaeth new- ydd nas gwelodd, ond a ddylai gael ei weld a'i wybod. Dyma'r cymeriadau :— j, Harold (1 wine, Ysw., oiynyswain (lir- feddianwr)—Peter Griffiths. Wmffra Lewis, Neuadd Fawr (Ffermwr cyifredin)-Ed. J. Edwards Elin Lewis (Ei briod)-Coralie Williams David Pugh, Ysw., Llys y gwynt (Bonedd- wr)—Thomas Jones < Cajadoc (mab vVmffra ac Elin Lewis—D. H. Kelly Endaf (mabwysiedig Mr a Mrs Lewis)— Tom Carnngton Morris Dafydd (Hwsmon Neuadd Fawr)— Levi Williams Ann Evans (Morwyn Neuadd Fawr)—Mrs D. H. Kelly Parch Meredydd Hughes-Thomas Ed. Jones Gwen Hughes (ei briod)—Mair Evans Enid Huws (eu merch)—Detta Price Robert Wyn (Cardotyn)—John Hopwood Parch Hywel Roberts (periglor y phvyf)— D. W. Humphreys Llewelyn Prys (meddyg ieuanc)—Edward Jones Gruffydd Tomos (Gwas Bach Glynyswain) W. E. Parry Y Rhingyll (Swyddog)—Robert Jones Cwnstabl Huskuss-T. Price Jones Cor yr eglwys—J. Hugh Jones, Herbert Parry, Llew Thomas, William Thomas, Tecwyn Jones, Herbert Emtyn Jones, Emiyn Parry, Herbert F. Jones, John Evan Parry, Carodog Kelly. Cymeriadau Cynorthwyol—Mrs T. Car- rington a Miss Gwen Roberts Pianydd-Miss Nesta Price GoruclnvyJiwr y Llwyfan-J. P. Rogers Yn Neuadd y Plwy' y chwaraeid y lie n llawn, i'r pedwar pared, aed dyrfa astud a gweddiaidd iawn ei hymddygiad ac mor dda gan galon dyn fyddai gweld torfeydd pob llan a phentref drwy Gymru'n tyrru i weld drama Gymraeg lan a diwair yn hyt- rach na heidio ar ol bon y-gler threatraidcl lif atom o Loegr, ac a leinw'n gwlad a'u gwenwyn a'u maswedd. Mr W. Carring- ton Jones oedd y cadeirydd, ac a ddywed- odd air byr ac i bwrpas tua chanol y chwarae. Cyn codi'r lien an-i 6.30, daeth Mr Thos. Jones i'r llwyfan i adrodd y pedwar penill cynes sy'n gywair i'r ddrama, ac a'i hadroddodd yn dda—mewn llais cryf, croew, a thipyn o angerdd gwlad- garweh yn sgleinio o'i lygad. Yr oedd P.G. yn eithaf addas, o ran gwisg a throediad, i gynrychioli II arold Twine, yn ei wasgod wen a'i dorsythu boldyn ond prin yr oedd yn medru mil- einio digon ar ei drem (peth go anodd i ddyn caredig a gonest ei galon wneud, welwch chwi), ac yr oedd y dramodydd ar fai rhoi brawddegau Harold Twine mewn Cymraeg mor raenus a llydan dylesid eu lledeithio a'u rhoi yn y Cymraeg clapiog a chwerthintlyd a glywir gan ysweiniaid a mawrion tir Cymru, ac felly roi pwyth arall i'r PJas Seisnig ei sawr. Twine go fain ydyw twine y plas -o ran ei iaith, beth bynnag. Gwnaeth Caradoc ei ran yn bur dda tafled fwy fyth, os gall, o ddieifligrwydd i'w drem a'i don wrth gynrychioli gwalch a filen y ddrama. Geiriai'n groew, a chanddo lygad i ddangos v cno oedd yn ei gydwybod wrth gynllwyn a bargeinio a'r trempyn am waed a bywyd Endaf; ond yr oedd un llaw yn y llogell mewn ambell ymson—peth na fydd byth pan fo dyn mewn gwewyr a chyfwng. Y mae T.C. yn Endaf da, ac yn medru llwydo a llewygu'n bur naturiol pan ei brifir; y mae'n hirgoes a heinyf hefyd, ac yn meddu wedd wyneb cariadus a glan, fel y gweddai i arwr; y fo a'i Enid yw prif dynfa'r chwarae, ac o'u cwmpas hwy y try'r cwbl. Os yr un, mwy o angerddol- deb fuasai'n perffeithio Endaf. Enid ragorol yw Detta Price, yn medru llygeidio serch—a chas pan fo'i eisieu gwyr hi fod llygad yn medru dweyd pethau gwell a dyfnach lawer na'r tafod ac nid arni hi, ond ar y ddrama, yr oedd y bai ei bod hi'n rhy frac ei thafod i ddweyd wrth bawb am ei serch at ei Hendaf. Cil- awgrymu hyn ddylasai'r* ddrama ffordd yma, goeliaf fi; ac nid beichio popeth allan mor amlwg gerbron pawb. Camp mwyaf dramodwr, fel bardd a phawb o ran hynny, ydyw iawn-ddirnad sut y gwnai efe'i hun yn yr un lie a than yr un teimlad. Beth hyotlach na distawrwydd a beth dwyfolach na llygad merch bur pan fo hi'n fflamio purdeb i lygad ffals y bradwr cnawdol a gasheir ganddi. A chafwyd hynny'n bur dda heno. Golygfa dda a chynefin i rai ohonom oedd gwel'd y dorf o gwmpas Endaf adeg etholiad a chynffonwyr Harold Twine y Tori yn dod yno i aflonyddu, ac un ohon- ynt yn cuchio'n llechwraidd tan hobian a'i bwys ar ben ei ffon, ar odre'r dorf Ryddfrydol; ac yn codi blys ar ddyn i neidio ato a rhoi tro yn ei gorn am fod yn llipryn mor llwfr. Y fath wahaniaeth oedd rhwng llygad hwnnw a llygad Enid llygad ellyll gan un, llygad angel gan y llall. Ac y mae'r ddau ar gael yn y byd yma o hyd. Ond anghofiodd rhai o'r Twineiaid pwy oeddynt, a gwelais un ohonynt yn canu Rhyfelgyrch Gwyr Harlech mor geglydan a neb ar y divvecld i ganlyn Rhyddfrydwyr Endaf. Bai go hawdd ei faddeu, chwarae teg iddo. Ei galon aeth yn drech na'i ben. Yr oedd barf Wmffra Lewis, ffermwr y Neuadd Fawr, yn drwehus-braidd yn rhy felly, nes oedd ei frawddegau yn neidio o'i enau fel sgyfarnogod o dwmpath. Yr oedd wyneb y Parch Meredydd Hughes heb ei heneiddio ddigon, na'r locsyn ochr hwnnw oedd yn hongian o'i glust i'w gefn ddim o wneuthuriad digon hyblyg a paturiol yr olwg. Gwnaeth Elen Lewis ei rhan yn swat a chartrefol; cadwodd ei lie, ac ni cheisiodd wneud gormod o stwr gwag a theatraidd. Cofiodd mai Cymraes ydoedd, a wyneb Gymraes grefyddol, ddwys, a gadwodd ar hyd y chware. Gwen gampus oedd Gwen Hughes ac a grugwn na chawsai fwy i'w wneud yn y chware, Pwy fel y hi am godi bys a dywedyd Pwyll! wrth ei phriod rhag iddo fyn'd i baflau'r bradwr Campus o Forus Dafydd yr Hwsmon a wnaeth Levi Williams ie, wir Dyma'r cymeriad goreu'i gyflead a naturiola'i eiriau a luniodd awdur y ddrama ac y mae'r brawddegau roir yn ei enau'n rhai ffraeth a phert iawn. Go briri y gwelais cystal hwsmon gan yr un cwmni,—o dipyn chwaith, y fo a'i hone heglog, a'i lodryn clonciog, cleiog ei doriad gweledig; a'i ddyrnau a'i Gymraeg cyn lleted a charn- au'r Wyddfa. lechyd i galon dyn oedd clywed yr hwsmonaeg yn cael ei siar- ad mor hwsmonaidd ac i'r dim. I'r dim hefyd oedd ei garlad--Ann y forwyn, ac yn medru llygadu a synnu, a throi trwyn a dweyd ei geiriau mor ffrom a ffwdanus a'r un walches ar theatrau Llundain ac yn medru gwingo a gwryddu ei gruddiau i bob ffurf i ddangos direidi ac afiaeth. Gorfum ado'r Neuadd a throi ttiag adre ymhell cyn gorffen y ddrama, onite fe ddy- wedswn air am weddill y cymeriadau. Dyma ymgais gyntaf Cwmni Glan Clywedog," a hwy haeddant guro'u cefn am eu talent a'u dyfalwch. Plant Rehob oth yw pob un o'r cwmni, ,'C y mae'r drama'n berffaith ddiogel cyd ag y'i cedwir yn nwylo bechgyn a genethod glan ein hcglwysi fel hyn. Dalivvch ati i was- iaith a'ch crefydd yn y ffordd hon addfedweh a pherffeithi weh bopeth fedroch wrth fyn'd ymlaen os oes fodd yn v byd, cyfoethogwch dipyn ar ddodrefn ac amrywiaeth y golygfau a -threfiiiadauV llwyfan a phe fi chwi, fe gymerwn fy hyfdra i stwytho a gwenno tipyn ar eiriau'r ymsonau draw ac yma, ei mwyn iddynt ddisgyn yn fwy cartrefol a naturiol ar glybod y gwrandawyr. Daliwch wrth eich gilydd a pheidiwch a chwaiu bellach. Gwelais y Caenog dawnus a eharedig- cl0, a'i fam oedrannus yn gwenu fel geneth do, f'ymyl yn yr Hall ac yn batrwm i'r yn saint oedrannus i beidio ag ofni'r Drama ac a droais adref yn galonnog iawn wrth wel'd Coedpoeth a phobl oreu Maelor yn codi tani mor bybyr dros bethau da'r Hen Wlad. Bu raid i Olygydd y Brython adael fel yr awgryma eyn y terfyn. Caniataer i ni alw sylw at y gweddili o'r Cymeriadau. Robert' Wyn—y Cardotyn (J. H.). An- hawdd luasai meddwl am well personol- iad o drempyn o ran gwisg, agweddiad, ac iaith nag a gafwyd ganddo ef. Yr oedd yn gallu rnynd i yspryd ei gymeriad yn rhagorol, ac yn cario y gynulleidfa enfawr gyda get ar unwaith ac ar hyd y ffordd hob tro yr ymddafigosai. 1 David Pugh,Ysw. (T. J.) Cafwyd yma eto bersonoliad o foneddwr gwiadgarol naturiol a medrus anghyffredin Yr oedd golwg urddasol arno, ac yn gallu liefitru fel un ag awdurdod ganddo, wrth gyng- hon y Parch Meredydd Hughes, ac ar Iwyfan yr etholiad. Dr. Llewylyn Prys (E. J.). Yr oedd yn- tau o ran trwsiad a gosgiad yn naturiol hollol, ac yn llenwi safle Ustus Heddwch gyda medr mawr, wrth ddarllen y Warraat i Caradoc, &c. Gruffudd Tomos, y Gwas (W. E. P). Danghosodd W. E. P. fedrusrwydd a theimlad wrth bledio gyda ei feistr dros deulu Corsywlad, ac yr oedd yn hynod true to nature pan yn ymddiddan a Morris Dafydd cyn cychwyn o'r wlad, a theg yw hysbysu ddarod i'rrhaiyn ol adroddiadau y Brython oeddynt yn ddiffygiol mewn gwisg ac addurniadau, megis Wmffra Lewis (E. J. E.), a'r Parch Meredydd Huws (T. E. J.), ddarfod iddynt gyflwyno y cym- eriadau ymddiriedwyd iddynt yn dra deheuig. Yr oedd y naill a'r Hall yn gwbl naturiol, ac o ran goslef ac ystum, a phob- peth, yn cynrychioli i'r dim ffermwr cyff- redin, a gweinidog yr Efengyl, yn yr oes y cyfeiria y ddrama ati. Gwnaethlyr Heddgeidwaid (R. J. a T. P. J.) yn gystal a Pheriglor y Plwyf (D. W. H.), a Chor yr Eglwys a'r Cymeriadau Cynorthwyol (Mrs T. C. a Miss G. R.) eu gwaith fel rhai wedi cynefino ar hyd eu hoes a'r galwedigaethau pwysig hyn. Rhwng y gwahanol olygfeydd cafwyd Pianoforte Solos gan Misses Nesta Price, Dons Saunders, a Blodwen Kelly. Y mae clod arbenig yn ddyledus i Mr J. Percy Rogers amei feur fel Goruchwyliwr y Llwyfan. Ni chafodd y gynulleidfa fawr egwyl i anesmwytho ac i afionyddu o gwbl o 6.30 hyd 9.30 o'r gloch, fel y cafodd y Cwmni bob rhwyddineb i gadw sylw astud a threfnus y dorf yn ddifwleh o'r dechreu i'r diwedd, ac y mae medr y goruchwiliwr yh ogystal a gallu aelodau y Cwmni i gyfrif am hyn. At yr oil ynglyn a'r symudiad hwn, y mae yna nifer o weithwyr o'r golwg, a gwaith cuddiedig dyfal a diarbed i sicrhau ei lwyddiant. R'ydym yn dra dyledus i'r chwiorydd fu yn gwerthu tocynau er's wythnosau, ac i'r Pwyilgor Gweithiol am ofalu am y trefniadau. Bu Mr a Mrs Edward Davies, y Library, yn ol eu harfer yn haelionus garedig yn gofalu am lun- iaeth a phob cysur i'r Cwmni. Gweith- iodd ein pobl oil gyda brwdfrydedd ac un- frydedd, a disgwylir elw sylweddol i Drys- orfa yr Ymddiriedolwyr sydd mewn dygn angen am dano. Wedi talu pob traul, amcangyfrifir y ceir elw clir o elros [30. Bu Mr Caenog Jones o wasanaeth i'r Cwmni yn eu cwrs paratoawl. Rhoddodd iddynt er's wythnosau lawer bob mantais mewn beirniadaeth ddiduedcl, ac mewn awgrym- iadau anmhrisiadwy. UN OEDD YNO.
BETHEL, CAERGYBI.
BETHEL, CAERGYBI. Prydnawn dydd Gwener, y 12fed o Chwefror, bu farw y brawd a blaenor William Morris, ], Longford Terrace, yn 68 mlwydd oed, ar ol cystudd cydinarol fyr ond poenus. Treuliodd y brawd blynyddoedd boreu- ol ei oes ym Mhenrosfeilw ac arferai fyn- ychu capel y Methodistiaid Calfinaidd gyda'i rieni. Pan yn22 mlwydd oed, sym- udodd ei deulu i Ty'nycerrig, Rhosneigr, ac aeth gyda hwynt. Y pryd hwn dech- reuodd gyfnod newydd yn ei oes, dechreu- odd feddwl drosto ei hun, ac mae adgof ar fy meddwl i mi ei glywed yn dweyd ei fod wedi cael gafael ar lyfr neillduolion Wesleaidd, a gwelodd fod yr athrawiaeth a ddysgir ynddo yn gorwedd yn esmwyth- ach ar ei feddwl. Penderfynodd ymael- odi gyda ni yn Mhencaernistog, yn groes i 5yniadau ei deulu. Bu yn aelod ffyddlawn yn yr eglwys hon am rai blynyddoedd. Y pryd hyn oeddy Parch John Jones, Vulcan, yn gweinidogaethu ar y Gylchdaith. Wedi hyn symudodd i Gaergybi a daeth yn aelod yn Bethel. Parhai i fod yr un mor ffyddlon yn yr eglwys hon, a chèinfyddodd y brodyr gymwysderau ynddo i wneud blaenor. Pasiwyd ef yn flaenor cynorthwyol i'r diweildar frawd William Hughes, Refail Bach, ac o fod yn flaenor cynorthwyol daeth mewn ychydig amser yn flaenor cyflawn, a pharhaodd i fod felly ar hyd y daith, yn ymestyn dros 33 o flynvddoedcU Bu ei symudiad yn golled fawr i'r eglwys. Cymerai ddyddordeb mawr yn ngwaith y cysegr. Yr oedd ei ffyddlondeb i'r Cyfar- fod Gweddi, y Seiat a'i Glass yn ddiarheb- ol, pwy bynnag arall fyddai yn absenol gofalai ef am fod yno, oddigerth gwaeledd Bu yn athraw selog am fiynyddoedd meithion, ac erbyn hyn yr oedd yr athraw hynaf. Edrychai ymiaen at ein Gwyl Bregethu Blynyddol. N id oedd wedi cael y fraint erioed o glywed y Parch J. Pugh Jones, ac yr oedd yn bur awyddus o wella erbyn yr adeg y deuai yma, ond ychydig feddyliai y pryd hwnnw y buasai yr un ag oedd wedi edrych cymaint am dano yn cymeryd rhan yn ei angladd, ond felly y digwyddodd. Cymerodd yr angladd le y dydd Mawrth canlynol. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn W. Lloyd Davies a J. Pugh Jones. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llan- faelog o dan y drefn newydd a rhoddwyd caniatad gan Canon Trevor i gynal y wasanaeth yn yr Eglwys, Daeth nifer luosog ynghyd i dalu eu cymwynas olaf i'r brawd. Gadawodd i alaru ar ei ol briod a chwaer, a'n dymuniad dyfnaf yw i Dduw eu cysuro yn eu trallod mawr. CYFARFOD PREGrTll-,T.Fe gynhaliwyd ein Cyfarfod Pregethu Blynyddol yr wythnos ddiweddaf. Dechreuodd nos Lun, a pharhaodd hyd nos Fawrth. Caw- som i wasanaethu, y Parchn J. Roger Jones. B.A., a J. Pugh Jones. Cafwyd gyn- ulleidfaon mawrion drwy y cyfarfodydd, a phfegethu grymus, ac yn ddiarneu y bydd dylanwad yr wyl yn aros ar ein rneddyliau am amser maith. I E. J.
'■s''■ TREORCHY.
'■ s '■ TREORCHY. Y GYMDEITHAS—Nos Fercher, ISfed cyf- isol, o dan lywycidiaeth ein gweinidog, darllenwyd dau bapur, un gan Mr J. Lloyd Williams ar "Chwareuon yr oes," a'r llall gan Mr Eros B. Thomas, a'r Ddyl- edswydd yr Eglwys yn ngwx peb, y Chwareuon." Siarad-^vd yn gryf iawn yn erbyny pecbodaucr uchel eu pen- nau, yn enwedig Nf-heudir Cymru, ac hefyd ar gymwyr.df^ > eglwys i ymosod arnynt, ac i geisio i h llifeiriaat pecli- adurus hwnsyd" ,'11 i,-sttio cymaint o ieuenctyd Wcc]i'r diolchiadau arferol, terfynwyd ti^'y vveddi. M. M.